English

Platfform cyfryngau cymdeithasol a newyddion yw Reddit, lle gall defnyddwyr bostio am eu diddordebau ac ymuno â chymunedau (‘subreddits’) o bobl sydd â diddordebau tebyg. Caiff defnyddwyr eu hannog i:

  • greu a rhannu eu cynnwys eu hunain
  • ymateb, gwobrwyo a phleidleisio ar y cynnwys sy’n cael ei wneud gan bobl eraill

Mae postiadau sydd â’r mwyaf o ‘upvotes’ (pobl yn eu hoffi) yn dod yn fwy gweladwy ar y platfform. Mae ‘subreddits’ yn amrywio o hobïau arbenigol i bynciau ehangach fel ‘chwaraeon’ neu ‘newyddion’ a helpu defnyddwyr i ddod o hyd i unigolion o’r un anian.

Rhaid i ddefnyddwyr fod yn 13 oed o leiaf i ddefnyddio Reddit. Fodd bynnag, nid yw oedran yn cael ei wirio wrth i rywun greu cyfrif.

Er gwaethaf yr oedran isaf hwn, mae Apple App Store yn ystyried bod yr ap yn addas i ddefnyddwyr 18 oed neu’n hŷn yn unig. Mae Google Play yn argymell arweiniad gan rieni oherwydd y cynnwys a’r iaith amhriodol sydd ar gael ar y platfform.

Er bod rhaid i ddefnyddwyr gadarnhau eu bod dros 18 oed cyn iddyn nhw allu gweld cynnwys ‘Ddim yn Ddiogel ar gyfer Gwaith’ (‘Not Safe For Work’) ar y platfform, gall defnyddwyr sydd â phroffiliau sydd heb gadarnhau hynny weld iaith aeddfed a delweddau rhywiol awgrymog neu dreisgar o hyd.

Awards

Os yw defnyddiwr yn hoffi postiad neu sylw’n fawr, gall wobrwyo’r postiwr gwreiddiol (‘OP’) am ei gynnwys. Er mwyn gwobrwyo defnyddiwr, mae angen defnyddio ‘Reddit Gold’.

Chats

Mae’r cyfleuster hwn yn caniatáu i ddefnyddwyr sgwrsio’n breifat.

Community muting

Mae hyn yn galluogi defnyddwyr i roi’r gorau i gael hysbysiadau neu awgrymiadau ar gyfer cymunedau eraill ar sail eu dewisiadau. Gall hyn helpu i gyfyngu ar gysylltiad â rhai ‘subreddits’ a all fod â chynnwys niweidiol.

Flair

Tag cynnwys yw hwn, sydd fel arfer yn cael ei osod gan y defnyddiwr a bostiodd y cynnwys. Bydd y tagiau hyn yn amrywio yn ôl ‘subreddits’, gyda rhai ohonyn nhw yn gofyn am ‘flairs’ cyn y gall defnyddwyr gymryd rhan.

Front page

Dyma’r brif dudalen sy’n cynnwys postiadau o’r gwahanol gymunedau y mae defnyddiwr yn eu dilyn.

Karma

Pwyntiau yn yr ap yw’r rhain, y mae defnyddwyr yn eu hennill trwy wneud sylwadau neu bostio cynnwys y mae defnyddwyr eraill yn rhoi pleidleisiau cadarnhaol (‘upvote’) iddyn nhw pan maen nhw’n hoffi’r sylwadau neu’r cynnwys. Gall defnyddwyr ennill ‘karma negyddol’ hefyd am gael pleidleisiau negyddol (‘downvotes’).

Not safe for work (NSFW)

Mae hyn yn dweud wrth ddefnyddwyr pa gynnwys y dylid edrych arno’n breifat. Nid yw cynnwys sydd wedi’i labelu NSFW yn addas i ddefnyddwyr dan 18 oed.

r/all

Tudalen bori sy’n cynnwys postiadau poblogaidd o bob rhan o Reddit. Gall postiadau gael eu didoli yn ôl categorïau, gan gynnwys ‘Hot’, ‘New’, ‘Top’, ‘Controversial’ a ‘Rising’.

Reddit Gold

Gall defnyddwyr brynu’r rhain gan ddefnyddio arian go iawn. Yna, gallan nhw ddyfarnu ‘Reddit Gold’ i bostiadau a sylwadau.

Reddit premium

Gwasanaethau tanysgrifio y mae’n rhaid talu amdano yw hwn sy’n galluogi defnyddwyr i ddefnyddio’r ap heb hysbysebion.

Subreddit

Math o gymuned ar y platfform sy’n canolbwyntio ar bwnc penodol.

Cymunedau

Mae Reddit yn galluogi defnyddwyr i gysylltu â phobl eraill sy’n rhannu eu diddordebau. Mae’r adran sylwadau yn galluogi defnyddwyr i sgwrsio a rhannu eu meddyliau. Mae system bleidleisio sy’n helpu i dynnu sylw at sylwadau poblogaidd wrth wthio rhai llai defnyddiol neu amhriodol ymhellach i lawr yr edefyn sylwadau.

Meithrin sgiliau

Gall Reddit gael ei ddefnyddio i ddysgu am weithgareddau a diddordebau. Mae llawer o ‘subreddits’ yn ymwneud â sgiliau penodol ac yn darparu cyfrwng i ddefnyddwyr rannu cyngor, tiwtorialau ac enghreifftiau o’u gwaith.

Cynnwys amhriodol

Mae miliynau o ‘subreddits’ ac nid yw rhai ohonyn nhw’n addas i bobl ifanc, fel y rhai sydd wedi’u seilio ar bornograffi neu drais. Mae rhai ‘subreddits’ a phostiadau wedi’u nodi’n ‘NSFW’. Fodd bynnag, mae’n bosibl y gallai cynnwys amhriodol gael ei bostio o hyd heb gael ei nodi’n ‘NSFW’, ac mae’r rhan fwyaf o gymunedau’n fodlon caniatáu i iaith aeddfed gael ei defnyddio mewn sylwadau a phostiadau.

Gall y camau hyn helpu i leihau cysylltiad â chynnwys amhriodol. 

Rheoli (curadu) y porthiant

Gall annog eich plentyn i ddilyn ‘subreddits’ sy’n briodol i’w hoedran sicrhau bod ei brofiad yn fwy cadarnhaol. Addysgwch ef sut i ddewis ‘Show fewer posts like this’ ar bostiadau sy’n peri gofid iddyn nhw neu sy’n amhriodol. Hefyd, osgowch ddefnyddio porthiannau fel r/all, sy’n gallu dangos cynnwys o unrhyw ‘subreddit’.

Defnyddio’r offer blocio, riportio a chuddio

Addysgwch eich plentyn i flocio postiadau a sylwadau defnyddwyr penodol sy’n amhriodol neu sy’n peri gofid. Anogwch eich plentyn i riportio cynnwys sy’n torri rheolau’r safle i gadw’r platfform yn fwy diogel. Gallwch hefyd ddangos iddyn nhw sut i dewi ‘subreddits’ cyfan oddi ar ei borthiant.

Cycloid niweidiol â defnyddwyr eraill

Pan fydd defnyddwyr yn ymuno â ‘subreddits’ ar y platfform, maen nhw’n cyfarfod â phobl eraill sydd â’r un diddordebau. Gall y diddordeb cyffredin hwn ei gwneud hi’n haws i bobl ddieithr gysylltu â’i gilydd a ffurfio cydberthnasau â’i gilydd trwy’r cyfleusterau sylwadau a sgwrsio. Gall pobl ddieithr niweidiol ddefnyddio hyn er eu mantais a thargedu gwendidau pobl ifanc. Gall y camau canlynol helpu’ch plentyn i gadw’n ddiogel.

Siarad â nhw

Siaradwch â’ch plentyn am risgiau cael cysylltiad â phobl ddieithr ac esboniwch bwysigrwydd peidio â rhannu unrhyw wybodaeth adnabyddadwy ar ei broffil neu mewn sgyrsiau. Atgoffwch eich plentyn i roi gwybod i chi os bydd rhywun yn gofyn cwestiynau personol neu’n gwneud iddo deimlo’n anghyfforddus.

Dangos sut i flocio a riportio

Anogwch eich plentyn i flocio unrhyw un sy’n gwneud iddo deimlo’n anghyfforddus a riportio defnyddwyr sy’n torri canllawiau Reddit.

Addasu’r gosodiadau

Yng ngosodiadau’r cyfrif, cyfyngwch ddefnyddwyr eraill rhag anfon negeseuon at eich plentyn, gan leihau’r siawns y bydd rhywun yn cysylltu â’ch plentyn.

Cysylltwch â’r heddlu

Os ydych chi’n amau bod defnyddiwr arall yn ceisio meithrin perthynas amhriodol â’ch plentyn, dylech roi gwybod i’r heddlu amdano.

Os yw’ch plentyn yn defnyddio Reddit, gall y gosodiadau hyn helpu i sicrhau bod ei brofiad ar y platfform yn fwy diogel. 

Analluogi’r cyfleuster sgwrsio

  • Yn yr ap, dewiswch lun y proffil yn y gornel dde uchaf.
  • O’r ddewislen ochr, dewiswch ‘Settings’.
  • Dewiswch ‘Account settings for (enw defnyddiwr)’.
  • Dewiswch ‘Chat permissions’.
  • Dewiswch ‘Allow chat request from’ a dewiswch ‘Nobody’.

Adolygu’r offer blocio, riportio a thewi

Blocio neu riportio defnyddiwr

  • Ewch i broffil defnyddiwr trwy ddewis ei enw defnyddiwr ar bostiad neu drwy deipio ei enw defnyddiwr yn y bar chwilio.
  • Ar ei broffil, dewiswch y 3 smotyn fertigol yn y gornel dde uchaf.
  • I flocio, dewiswch ‘Block’ ac yna ‘Block account’.
  • I riportio, dewiswch ‘Report profile’, yna dewiswch y rheswm dros wneud hynny a dewiswch ‘Submit’.

Tewi ‘subreddit’

  • Ewch i ‘subreddit’ trwy ddewis ei enw ar bostiad neu drwy deipio enw’r ‘subreddit’ yn y bar chwilio.
  • Yn y ‘subreddit’, dewiswch y 3 smotyn fertigol yn y gornel dde uchaf.
  • Dewiswch ‘Mute (enw’r ‘subreddit’)’.
  • Cadarnhewch drwy ddewis ‘Yes, Mute’.