English

Gêm chwarae rôl rad ac am ddim yw Gacha Life, lle mae chwaraewyr yn creu ac yn addasu eu cymeriadau eu hunain. Ar gyfer pob cymeriad mae chwaraewr yn ei greu, mae ystod o opsiynau y gellir eu haddasu. Mae’r rhain yn cynnwys gwisgoedd ac ategolion, yn ogystal â golwg pob cymeriad.

Mae chwaraewyr yn defnyddio’r cymeriadau y maen nhw’n eu creu i greu golygfeydd y gellir eu defnyddio i greu stori fer. Mae ystod o gemau ar gael i ddefnyddwyr eu chwarae yn yr ap, yn ogystal ag eitemau y gellir eu prynu yn yr ap.

Mae llawer o gemau eraill ar gael o fewn masnachfraint Gacha a Gacha Life. Mae gan is setiau Gacha nifer fawr o ddilynwyr ar blatfformau cyfryngau cymdeithasol, fel YouTube a TikTok. Ar y platfformau trydydd parti hyn, gall chwaraewyr lanlwytho’r storïau y maen nhw’n eu creu yng ngêm Gacha Life. Un is-set Gacha Life sydd ar gael ar blatfformau eraill yw Gacha Heat, sy’n cynnwys cymeriadau Gacha Life mewn fideos hynod amhriodol o natur rywiol.

Mae gan Gacha Life sgôr oedran o 9+ ar Apple App Store a gradd PEGI 3 ar Google Play Store. Fodd bynnag, mae polisi preifatrwydd Gacha Life yn nodi nad yw’r gêm wedi’i bwriadu ar gyfer plant dan 13 oed.

Anime

Mae hyn yn cyfeirio at arddull animeiddio ffilm a theledu Japaneaidd. 

Gacha

Gair Japaneg sy’n cyfeirio at deganau bach y gellir eu prynu o beiriannau gwerthu. 

Gemau Gacha

Ar y platfform, mae gemau bach y gall defnyddwyr eu chwarae lle gallan nhw ennill ‘gems’ am ddim yn wobr. Gellir defnyddio ‘gems’ i brynu ‘Stamina’ neu i brynu anrhegion rhithwyr i’w rhoi i ‘NPCs’ eraill yn y gêm.

Gacha Heat

Cynnwys rhywiol eglur sydd wedi’i greu gan ddefnyddwyr Gacha Life, sy’n lanlwytho eu fideos i blatfformau eraill fel TikTok neu YouTube. Yn aml, mae’r cynnwys yn dreisgar, yn cynnwys elfennau rhywiol iawn ac yn anaddas i wylwyr iau.

Gems

Y prif arian cyfred yn y gêm. Gellir eu cael trwy chwarae’r gêm neu drwy eu prynu ag arian go iawn.

Idling

Mae hyn yn cyfeirio at eistedd yn llonydd er mwyn cynyddu stamina.

Life mode

Yma, gall chwaraewyr archwilio gwahanol ardaloedd a golygfeydd yn y gêm â’u cymeriadau a chyfarfod a sgwrsio â ‘NPCs’ newydd.

NPC

Fersiwn gryno o gymeriadau nad ydynt yn chwaraewyr (non-player characters) yw NPC. Cymeriadau sy’n cael eu gweithredu gan gyfrifiadur yw’r rhain, yn hytrach na rhai sy’n cael eu rheoli gan ddefnyddwyr. Gall chwaraewyr Gacha Life ryngweithio a sgwrsio â’r cymeriadau hyn.

Skit Makers

Gall chwaraewyr gyfuno hyd at 100 o olygfeydd gwahanol i greu sgetshis neu storïau â hyd at 2 gymeriad.

Stamina

Gall cymeriadau redeg allan o stamina ar ôl gweithgareddau penodol. I’w adennill, gall chwaraewyr gael eu cymeriadau i eistedd yn llonydd neu gallan nhw ddefnyddio ‘gems’ i brynu mwy o stamina.

Studio mode

Dyma ble gall chwaraewyr greu eu golygfeydd eu hunain yn y gêm ac ychwanegu testun at eu cymeriadau. Gall chwaraewyr gynnwys hyd at 8 o gymeriadau yn eu golygfa.

Creadigrwydd

Mae Gacha Life yn caniatáu i ddefnyddwyr:

  • ddylunio cymeriadau
  • creu lleoliadau
  • creu eu storïau byrion eu hunain

Mae hyn yn cynnig ffordd iddyn nhw droi eu dychymyg yn storïau go iawn y gall pobl eraill eu darllen. Gall hefyd eu cymell i greu mwy o storïau yn y dyfodol.

Cynnwys amhriodol

Mae gan Gacha Life nifer fawr o ddilynwyr ar blatfformau eraill fel YouTube a TikTok, lle mae chwaraewyr yn lanlwytho’r storïau y maen nhw wedi’u creu yn y gêm. Mae’r cynnwys ar blatfformau trydydd parti yn eang ac yn amrywiol. Nid yw’n anodd dod o hyd i gynnwys a grëwyd gan chwaraewyr sy’n cynnwys storïau treisgar a rhywiol gan ddefnyddio cymeriadau Gacha Life. Gallai’r math hwn o gynnwys beri gofid i’ch plentyn. 

Gallwch gymryd camau i leihau’r risg o ddod i gysylltiad â chynnwys amhriodol.

Eu hannog i aros yn yr ap

Bydd gofyn i’ch plentyn osgoi chwilio am Gacha ar YouTube a TikTok yn ei atal rhag gweld cynnwys amhriodol, fel Gacha Heat. Bydd ei annog i beidio â chlicio ar hysbysebion hefyd yn ei hatal rhag cael ei dynnu o’r ap i gemau eraill sydd wedi’u bwriadu ar gyfer defnyddwyr hŷn.

Siarad am gynnwys amhriodol

Dywedwch wrth eich plentyn y gall ddod atoch chi am gymorth os bydd yn gweld unrhyw gynnwys Gacha Life sy’n peri gofid neu ddryswch. Ategwch nad yw’r cymeriadau anime hyn yn adlewyrchu realiti. 

Ystyried offer goruchwylio

Gall apiau monitro eich helpu i fod yn ymwybodol o ba gynnwys y mae’ch plentyn yn ceisio mynd ato ar ei ddyfais. Bydd yr apiau yn eich rhybuddio chi os bydd eich plentyn yn gwylio fideos Gacha Life amhriodol. Bydd hyn yn eich galluogi i ymateb i unrhyw gysylltiad pellach a’i atal.

Gorwario

Gall defnyddwyr brynu ‘gems’ gan ddefnyddio arian go iawn. Efallai y bydd pobl ifanc yn cael trafferth cydnabod bod gan y pryniannau digidol hyn gost go iawn, gan arwain at orwario. Mae hysbysebion ar y gêm, hefyd, a allai annog pobl ifanc i brynu cynhyrchion na fydden nhw’n eu gweld fel arall.

Gall y camau hyn helpu i leihau’r siawns o orwario.

Gosod cyfyngiadau gwario

Yng ngosodiadau dyfais eich plentyn, gallwch osod cyfyngiadau gwario fel bod angen eich caniatâd chi i brynu unrhyw eitemau.

Siarad am wario

Addysgwch eich plentyn i gydnabod bod arian sy’n cael ei wario ar y gêm yn arian go iawn o hyd. Gall cymharu cost ‘gems’ â phethau y gallan nhw eu prynu y tu allan i’r gêm am yr un pris eu helpu i ddeall gwerth eu gwariant yn y gêm.

Gall y gosodiadau hyn helpu i gadw’ch plentyn yn ddiogel wrth chwarae Gacha Life.

Analluogi prynu eitemau

Analluogi prynu eitemau yn yr ap (ar iOS)

  • Gyda ‘Screen Time’ wedi’i alluogi, ewch i ‘Settings’.
  • Agorwch ‘Screen Time’ a dewiswch ‘Content & Privacy Restrictions’.
  • Trowch y togl ymlaen wrth ochr ‘Content & Privacy Restrictions’.
  • Dewiswch ‘iTunes & App Store Purchases’.
  • Dewiswch ‘In-app Purchases’ a dewiswch ‘Don't Allow’.

Analluogi prynu eitemau yn yr ap (ar Android)

  • Ewch i’r ap ‘Google Play Store’.
  • Dewiswch eicon y proffil.
  • Dewiswch ‘Payments and subscriptions’.
  • Dewiswch ‘Purchase verification’.
  • Dewsiwch ‘Verification frequency’.
  • Dewiswch ‘Always’ a phwyswch ‘OK’.