English

Mae TikTok yn ap rhannu fideo ar y cyfryngau cymdeithasol sy’n caniatáu i ddefnyddwyr bostio a rhannu fideos byr, sy’n amrywio o ran hyd o 15 eiliad i 3 munud. Mae’n blatfform hynod boblogaidd, gyda mwy na biliwn o ddefnyddwyr gweithredol ledled y byd. Unwaith mae defnyddwyr yn cofrestru, mae’r ap yn cynnig cynnwys sy’n trendio a chynnwys poblogaidd i ddefnyddwyr heb iddyn nhw orfod chwilio amdano. Mae’r algorithm yn ceisio adnabod y mathau o gynnwys mae defnyddiwr yn eu hoffi yn seiliedig ar ddewisiadau gwylio blaenorol. Mae cyflymder cynnig cynnwys newydd i ddefnyddwyr yn golygu ei fod yn apelio’n fawr at ddefnyddwyr iau, gan fod yna rywbeth newydd i edrych arno ac ymddiddori ynddo bob amser. Mae’r ap yn annog plant a phobl ifanc i greu a rhannu eu cynnwys eu hunain hefyd, a hynny wedi’i sbarduno gan adnoddau creu cynnwys hawdd eu defnyddio a’r gynulleidfa enfawr sydd ar gael ar y platfform.


Rhaid bod defnyddwyr TikTok yn 13 oed o leiaf. Fodd bynnag nid oes unrhyw ddulliau dilysu oedran trwyadl.

Bydd pob cyfrif sy’n cael ei sefydlu gan ddefnyddwyr 13-15 oed yn breifat, a hynny’n awtomatig a diofyn. Mae’r gosodiad diofyn hwn yn dibynnu ar ddefnyddwyr yn darparu eu dyddiad geni cywir, gan eu dangos fel defnyddwyr dan 16, felly mae’n bwysig bod rhieni’n sicrhau bod eu plant yn defnyddio eu dyddiad geni cywir i elwa ar y nodwedd ddiogelwch hon. Mae gosodiad pob cyfrif arall yn gyhoeddus yn ddiofyn.

Dysgwch fwy am sgoriau oedran yn ein ‘Canllaw i rieni a gofalwyr ar sgoriau oedran mewn apiau a gemau‘.


Mae TikTok yn ap hynod boblogaidd sy’n seiliedig ar fideo, yn bennaf oherwydd yr amrywiaeth o gynnwys mae’n ei ddarparu – o ddawnsiau sy’n boblogaidd ar y pryd ac achlysuron doniol i fideos wedi’u curadu gan hoff grewyr cynnwys pobl ifanc. Defnyddir y platfform gan enwogion a dylanwadwyr yn aml ac mae llawer o bobl wedi dod yn enwog drwy’r ap yn unig, gan beri iddo apelio’n arbennig at bobl ifanc sydd eisiau dod yn boblogaidd ar-lein. Fe’i defnyddir fel man creadigol i bobl ifanc ond hefyd fel lle i ymgysylltu a chysylltu ag eraill ledled y byd drwy ffrydiau byw a sylwadau. Gyda chynllun hawdd ei ddefnyddio a ffrwd wedi’i phersonoli yn seiliedig ar eich gweithgarwch a’ch diddordebau ar-lein ar y pryd, gall fod yn ap atyniadol iawn i bobl ifanc dreulio cryn dipyn o amser arno.


  • Mae’r dudalen ‘For You’ yn ffrwd gyda fideos sy’n cael eu hargymell i ddefnyddwyr yn seiliedig ar eu harferion gwylio presennol a thueddiadau poblogaidd ar y platfform. Dim ond os yw deiliad y cyfrif dros 16 oed y gall defnyddwyr a’u cynnwys ymddangos ar y dudalen ‘For You’.

  • Pan fydd defnyddwyr yn ‘dilyn’ cyfrifon eraill ar y platfform, mae tudalen ‘following’ yn cael ei chreu. Dim ond fideos o gyfrifon mae’r defnyddiwr wedi dewis eu dilyn sy’n cael eu dangos yn yr adran hon.

  • Dim ond i ddefnyddwyr dros 16 oed sydd ag o leiaf 1,000 o ddilynwyr mae’r nodwedd ‘Live’ ar gael. Mae’n caniatáu i ddefnyddwyr recordio fideo byw sy’n cael ei ffrydio ar y platfform mewn amser real. Gall defnyddwyr dros 18 oed anfon a derbyn anrhegion yn ystod eu ffrydiau byw.

  • Dyma sut mae’r platfform yn grwpio’i fideos mwyaf poblogaidd gyda’i gilydd ar un adeg. Pan fydd defnyddwyr yn lanlwytho eu cynnwys, mae modd iddyn nhw ychwanegu hashnod (#) i’w fideo. Mae hyn yn caniatáu i ddefnyddwyr eraill chwilio am gynnwys a allai apelio atyn nhw.

  • Mae hyn yn cyfeirio at ddefnyddwyr yn recordio eu hunain yn gwneud ‘her’, rhywbeth sy’n anodd neu’n risg gan amlaf maen nhw’n ei rannu i annog eraill i’w ailadrodd. Maen nhw’n gallu bod yn ganeuon, gweithgareddau neu ddawnsiau sy’n dechrau dod yn boblogaidd ac yna’n cael eu copïo gan ddefnyddwyr eraill. Mae rhai yn ddigymell tra bod eraill yn cael eu cynllunio gan frandiau, enwogion neu ddylanwadwyr at ddibenion marchnata.

  • Mae nodweddion ‘Duet’ yr ap yn caniatáu i ddefnyddwyr recordio eu hymatebion i fideo penodol neu sylwebaeth ar fideo sydd eisoes wedi’i bostio ar TikTok. Mae’r nodwedd hon yn golygu y gall defnyddwyr ffilmio fideo byr wrth ymyl y fideo gwreiddiol maen nhw’n ymateb iddo. Dim ond i ddeiliaid cyfrif dros 16 oed mae hyn ar gael.

  • Mae’n caniatáu i ddefnyddwyr ddefnyddio golygfeydd a phytiau o fideos eraill yn eu fideos eu hunain. Dim ond defnyddwyr 16 oed a throsodd sy’n cael gwneud hyn.

  • Gall defnyddwyr gadw fideos, hashnodau, synau a chynhyrchion i’w ffefrynnau i’w gwylio a’u defnyddio rywbryd eto.

  • Gall defnyddwyr anfon fideos at ddefnyddwyr eraill, naill ai drwy’r nodwedd ‘Inbox’ neu drwy rannu’r fideo ar blatfformau eraill fel Snapchat, WhatsApp ac Instagram.

  • Gall defnyddwyr ddewis o amrywiaeth o wahanol hidlyddion ac effeithiau i wella fideos maen nhw’n eu creu, megis hidlyddion harddwch neu gefndir sgrin werdd.

  • Mae’r nodwedd hon yn galluogi cwmnïau a chrewyr i hysbysebu a gwerthu cynnyrch ar blatfform TikTok drwy fideos, ffrydiau byw a’r tab arddangos cynnyrch. Mae defnyddwyr yn gallu defnyddio ‘cwponau’ hefyd i arbed arian wrth brynu cynnyrch drwy’r ap.

  • Mae’n caniatáu i ddefnyddwyr lanlwytho fideos ar yr ap a fydd i’w gweld am 24 awr ar ôl cael eu postio. Mae modd golygu’r rhain yn yr un ffordd ag unrhyw fideo arall sy’n cael ei rannu ar TikTok.

  • Mae’r nodwedd hon yn annog defnyddwyr i bostio fideo neu lun o gamera blaen a chamera cefn eu ffôn ar yr un pryd. Bydd defnyddwyr yn cael eu hatgoffa bob dydd ar yr un amser â’u ffrindiau i wneud fideo 10 eiliad neu dynnu llun i’w rannu ar y platfform.

  • Mae’r swyddogaeth hon yn caniatáu i blant a phobl ifanc baru eu cyfrif â chyfrif eu rhieni neu ofalwyr. Bydd rhieni a gofalwyr yn gallu gweld faint o amser mae eu plentyn yn ei dreulio ar TikTok, ymhlith nodweddion eraill fel y gallu i gyfyngu ar gynnwys penodol. Gweler adran ‘Family Pairing’ y canllawiau hyn am wybodaeth fanylach.

  • Gall defnyddwyr ysgrifennu negeseuon testun ar TikTok, hyd at 1,000 o nodau. Fel neges llun neu fideo arferol, gall defnyddwyr ychwanegu deuawd, sain, neu alluogi sylwadau ar negeseuon testun.

  • Dyma raglen Beta TikTok sydd â’r nod o helpu crewyr i ddysgu sut i greu effeithiau realiti estynedig, cymhleth, ar gyfer eu fideos.

  • Gan chwarae ar eiriau ‘faux pas’, mae hwn yn cyfeirio at her feiral TikTok lle mae crewyr yn fflachio delweddau noeth ohonyn nhw eu hunain mewn ffordd nad yw dull cymedroli awtomatig TikTok yn gallu ei olrhain. Fel arfer, mae crewyr yn defnyddio drychau, sgriniau neu arwynebau adlewyrchol eraill i osgoi’r broses gymedroli.


Mae nifer o risgiau cynnwys yn gysylltiedig â phlatfform TikTok, gan gynnwys y risg o weld cynnwys rhywiol a threisgar, iaith casineb, hunanladdiad a hunan-niweidio, a chamwybodaeth. Cynlluniwyd y platfform i gynnig y mathau o gynnwys sydd o ddiddordeb iddynt i ddefnyddwyr, felly oni bai eu bod yn chwilio’n fwriadol am gynnwys niweidiol, mae’n debygol y bydd y rhan fwyaf o ddefnyddwyr TikTok ifanc yn cael cynnig cynnwys nad yw’n niweidiol yn gyffredinol, sydd o ddiddordeb iddyn nhw ac sy’n hwyliog a difyr (er enghraifft ffasiwn, dawnsio a chomedi). Fodd bynnag, oherwydd bod y cynnwys yn cael ei gynhyrchu gan ddefnyddwyr a’i ddiweddaru’n barhaus gan ddefnyddwyr mae’r risg o ddod i gysylltiad â chynnwys addas i oedolion neu gynnwys niweidiol a ddisgrifir uchod, er enghraifft drwy fideo sy’n mynd yn feirol a allai gynnwys trais neu niwed. Mae risg hefyd, os oes gan blentyn ddiddordeb mewn cynnwys niweidiol (efallai oherwydd bod yn agored i niwed mewn ffyrdd eraill) ac yn chwilio amdano ar TikTok, prin yw’r mesurau diogelu i’w atal rhag dod o hyd iddo. Fel rhiant neu ofalwr, mae’n werth bod yn gyfarwydd â’r nodweddion diogelwch (gan gynnwys modd cyfyngedig) sydd ar gael ar y platfform ac a ddisgrifir isod.

Mae’n werth cofio hefyd bod TikTok, yn yr un modd â phlatfformau eraill o’r math hwn, yn cynnwys llawer o grewyr a dylanwadwyr gyda’r hyn y gellid ei ystyried yn fywydau (tai/ffordd o fyw) a phryd a gwedd ‘delfrydol’, sy’n gallu effeithio ar les plant a phobl ifanc a sut maen nhw’n teimlo amdanyn nhw eu hunain a’u lles. Gallwch gefnogi’ch plant drwy aros yn gysylltiedig â’r hyn maen nhw’n edrych arno ar-lein a’u helpu i ddehongli’r cynnwys hwn – gan eu hatgoffa ei fod yn cael ei greu’n ofalus yn aml a’i wneud i edrych yn berffaith/dibryder, a hynny’n aml er mwyn gwerthu cynnyrch.

Er nad yw proses gymedroli TikTok yn caniatáu noethni, bu adroddiadau diweddar am dueddiad o’r enw ‘foopah’ lle mae crewyr yn ceisio fflachio noethni mewn ffordd nad yw’n cael ei olrhain gan ddull cymedroli TikTok. Dylai rhieni a gofalwyr fod yn wyliadwrus o’r fideos hyn yn ymddangos ar ffrwd eu plentyn. Efallai y bydd eich plentyn yn derbyn mwy o’r heriau fideos hyn os yw’n ymateb i fideo, gan y byddai’r algorithm yn argymell y math hwn o gynnwys fwyfwy. Cofiwch am nodwedd ‘Not interested’ TikTok er mwyn helpu i atal rhagor o’r awgrymiadau hyn os yw’ch plentyn yn dod ar draws fideo. Gofalwch bod eich plentyn yn gwybod ac yn deall y gall siarad â chi os yw’n dod ar draws unrhyw gynnwys sy’n peri gofid neu ddryswch, fel fideo foopah. Darllenwch am nodwedd ‘Not interested’ TikTok yn adran ‘Rheoli rhyngweithio a chynnwys’ y canllawiau hyn.

Mae miliynau o ddefnyddwyr TikTok ledled y byd felly mae’n bwysig bod eich plentyn yn defnyddio’r gosodiadau i reoli ei gysylltiadau a’i breifatrwydd. Yn ddiweddar, mae TikTok wedi cyflwyno cyfres o osodiadau diofyn i wella diogelwch rhyngweithio ar gyfer defnyddwyr iau, megis gosodiad preifat diofyn i gyfrifon plant dan 16 oed. I ddefnyddwyr o dan 18 oed, mae’r gosodiad ‘Suggest your account to others’ wedi’i ddiffodd. Mae hyn yn golygu na fydd eu cyfrif yn cael ei awgrymu i ddefnyddwyr eraill ar y platfform. Fel yr eglurwyd yn flaenorol, mae angen i blant gofrestru gyda’u hoedran cywir er mwyn elwa o’r mesurau diogelu hyn.

Er bod y mesurau diogelu hyn yn cael eu rhoi ar waith gan y platfform, mae’n bwysig o hyd bod defnyddwyr o dan 16 oed yn gwybod sut i ddefnyddio’r gosodiadau i gyfyngu eu cysylltiadau i ffrindiau hysbys a cheisio sicrhau nad ydyn nhw’n newid y gosodiadau hyn heb sylweddoli beth yw’r canlyniadau, er enghraifft oherwydd eu bod eisiau sylw ehangach i gael mwy o ddilynwyr. Os yw’ch plentyn yn defnyddio TikTok gyda’r gosodiad ‘Cyhoeddus’, siaradwch â nhw am y risgiau o gysylltu â dieithriaid. Atgoffwch eich plentyn i sôn wrthych os oes rhywun wedi gofyn cwestiynau personol iddo, gofyn iddo rannu gwybodaeth bersonol, i sgwrsio’n breifat neu unrhyw beth sydd wedi gwneud iddo deimlo’n anghyfforddus.

Mae nodwedd ffrydio byw TikTok yn boblogaidd iawn ac efallai y bydd llawer o ddeiliaid cyfrifon dros 16 oed eisiau ffrydio eu cynnwys byw eu hunain. Mae ffrydio byw yn gallu teimlo’n gyffrous ac yn hwyl ar y pryd. Fodd bynnag, gall defnyddwyr eraill geisio pwyso, perswadio neu gymell defnyddwyr iau i wneud rhywbeth amhriodol y byddan nhw’n ei ddifaru’n ddiweddarach. Mynnwch sgwrs gyda’ch plentyn i’w atgoffa i fod yn ofalus ynghylch ymwneud â phobl wrth ffrydio byw ac i ddod â’r sesiwn i ben a siarad ag oedolyn os yw’n teimlo’n anghyfforddus ar unrhyw adeg.

Fel platfform sy’n annog sylwadau ac ymgysylltu, weithiau gall defnyddwyr TikTok fod yn agored i sylwadau neu ymatebion angharedig i’r cynnwys maen nhw’n ei bostio a’i rannu. Mae gan nodweddion fel ‘Duet’ botensial gwirioneddol i ganiatáu i blant a phobl ifanc wneud sylwadau yn angharedig neu fod yn destun sylwadau o’r fath. Rydyn ni’n gwybod y gall yr amgylchedd ar-lein yn gyffredinol leihau'r empathi a geir wrth ryngweithio wyneb yn wyneb a dod â phlant i gysylltiad â byd lle gellir gwneud ymateb, hoffi neu wneud sylwadau cas yn gyflym heb i’r rhai sy’n eu postio weld nac ystyried eu heffaith. Mae risg y bydd plant yn cael eu dadsensiteiddio i fwlio drwy weld cynnwys yn y modd hwn. Mae’n bwysig siarad â’ch plentyn am sut mae’n ymddwyn tuag at eraill ar-lein a sut maen nhw’n ymateb ac yn ymateb i gynnwys. Gallwch eu hannog i feddwl sut y byddai sylw neu bostiad yn gwneud iddyn nhw deimlo pe bydden nhw’n ei dderbyn cyn iddyn nhw ei rannu.

Mae TikTok yn blatfform hynod apelgar ac weithiau mae plant a phobl ifanc yn treulio oriau lawer ar y tro yn sgrolio drwy’r holl gynnwys amrywiol sy’n newid yn barhaus. Mae’r platfform wedi’i gynllunio i gadw diddordeb a sylw defnyddwyr ac yn aml nid oes gan blant a phobl ifanc y sgiliau i hunanreoleiddio’n llwyddiannus a chymryd egwyl. Er mwyn helpu pobl ifanc i reoli eu hamser ar y platfform, mae TikTok wedi cyflwyno nodwedd a fydd yn atal defnyddwyr o dan 16 oed rhag derbyn hysbysiadau gwthio ar ôl 9pm a defnyddwyr o dan 18 oed ar ôl 10pm. Mae TikTok wedi gosod terfyn amser dyddiol o 60 munud ar gyfer defnyddwyr dan 18 oed hefyd. Os yw’r defnyddiwr am barhau i ddefnyddio TikTok ar ôl y terfyn 60 munud, bydd rhaid iddo deipio cod mynediad amser-cyfyngedig sydd wedi’i osod ar ei ddyfais. Os yw’ch plentyn yn treulio llawer o amser ar TikTok, ystyriwch gytuno ar derfynau amser a ffiniau sy’n caniatáu iddo gydbwyso ei fwynhad o’r platfform â gweithgareddau eraill. Efallai yr hoffech chi ddefnyddio’r nodwedd ‘Digital wellbeing’ yn y gosodiadau sy’n galluogi defnyddwyr i gyfyngu ar amser sgrin. I ddysgu mwy am ddefnyddio’r nodwedd ‘Digital wellbeing’ i osod terfyn amser ar TikTok, gweler adran ‘Rheoli amser a phrynu pethau’ y canllawiau hyn.

Mae cyflwyno siop TikTok wedi cynyddu presenoldeb arian ar y platfform ymhellach, gan ganiatáu i ddylanwadwyr a chrewyr fynd ati i werthu’r cynhyrchion maen nhw’n eu cynnwys yn eu fideos. Gall y crewyr ddylanwadu ar rai pobl ifanc sy’n eu dilyn i brynu eitemau, felly dylai rhieni a gofalwyr wirio nad yw’r ap wedi’i gysylltu â’u cerdyn banc na manylion ariannol. Siaradwch â’ch plentyn am brynu eitemau yn yr ap a sicrhau ei fod yn deall bod arian go iawn yn cael ei ddefnyddio i brynu eitemau yn yr ap. Mae’r rhan fwyaf o ddyfeisiau clyfar a chyfrifiaduron yn caniatáu i ddefnyddwyr sefydlu gosodiadau prynu mewn ap yn eu prif ddewislen gosodiadau.


  • Dylai defnyddwyr o dan 16 oed fod yn elwa eisoes o’r gosodiad diogelwch diofyn preifat, ond mae’n werth gwirio gosodiadau’r cyfrif.

    I osod cyfrif fel un preifat:

    • Ewch i’ch proffil yn y gornel dde waelod.
    • Dewiswch yr eicon tair llinell i fynd i’ch gosodiadau.
    • Dewiswch ‘Settings and privacy’ ac yna ‘Privacy’.
    • Toglwch yr opsiwn ‘Private account’ ar frig y dudalen.
  • Caiff cynnwys ar TikTok ei gymedroli ac mae cynnwys nad yw’n bodloni eu canllawiau cymunedol yn cael ei dynnu oddi ar y platfform. Er mwyn lleihau’r risg y bydd defnyddwyr iau yn cyrchu cynnwys aeddfed, mae’n werth galluogi ‘Restricted mode’ ar yr ap. Os yw cynnwys yn ymddangos ar dudalen ‘For You’ defnyddiwr nad oes ganddyn nhw ddiddordeb ynddo ac nad ydyn nhw am weld mwy ohono, mae nodwedd dim diddordeb ar gael. Mae ychydig o nodweddion ar waith i helpu i ddiogelu pobl ifanc ar y platfform, fel atal defnyddwyr eraill rhag gallu lawrlwytho ac yna arbed fideos sy’n cael eu postio gan bobl o dan 16 oed. Mae modd galluogi ‘Filtered requests’ hefyd, sy’n hidlo negeseuon a allai fod wedi dod o ffynhonnell anniogel. Er bod y gosodiadau diogelwch yno i’w ddiogelu, atgoffwch eich plentyn y dylai feddwl yn ofalus o hyd am y cynnwys mae’n dewis ei rannu bob amser.

    I alluogi ‘Restricted mode’:

    • Ewch i’ch proffil yn y gornel dde waelod.
    • Dewiswch yr eicon tair llinell i fynd i’ch gosodiadau.
    • Dewiswch ‘Settings and privacy’ ac yna ‘Digital wellbeing’.
    • Ewch ymlaen i’r adran ‘Restricted mode’ a dewis ‘Turn on restricted mode’. Byddwch yn cael cais i greu cyfrinair, a bydd angen ei fewnbynnu er mwy analluogi’r nodwedd hon.

    I alluogi ‘Not Interested’:

    • Pwyswch yn gadarn ar y fideo nad oes gennych ddiddordeb ynddo a’i ddal nes bod detholiad o nodweddion gwahanol yn ymddangos.
    • Dewiswch yr opsiwn ‘Not interested’. Bydd y fideo yn diflannu ac ni fydd y math yna o gynnwys yn ymddangos ar dudalen ‘For You’ y defnyddiwr. Sylwer: dim ond ar dudalen ‘For You’ defnyddiwr mae’r nodwedd hon yn gweithio, nid tudalen ddilyn na phroffiliau penodol.

    I weld hanes proffil:

    • Ewch i’ch proffil yn y gornel dde waelod.
    • Dewiswch yr eicon tair llinell i fynd i’ch gosodiadau.
    • Dewiswch ‘Settings and privacy’ ac yna ‘Privacy’.
    • Sgroliwch i’r gwaelod a dewis ‘Profile views’.
    • Yna toglwch ‘Profile view history’.

    I newid pwy sy’n gallu gweld ‘Stories’:

    • Pan fydd defnyddwyr eisiau lanlwytho stori, mae dewislen gosodiadau preifatrwydd yn ymddangos.
    • Dewiswch eich cynulleidfa o ‘Everyone’, ‘Friends’ neu ‘Only me’.
    • Sylwer: gallwch alluogi ac analluogi sylwadau ar ‘Stories’ o fewn yr un ddewislen gosodiadau hefyd.

    I newid gosodiadau lawrlwytho fideo:

    • Ewch i’ch proffil yn y gornel dde waelod.
    • Dewiswch yr eicon tair llinell i fynd i’ch gosodiadau.
    • Dewiswch ‘Settings and privacy’ ac yna ‘Privacy’.
    • Dewiswch ‘Downloads’ a thapio ‘Video downloads’ nesaf i’w ddiffodd.

    I reoli sylwadau ar fideos:

    • Ewch i’ch proffil yn y gornel dde waelod.
    • Dewiswch yr eicon tair llinell i fynd i’ch gosodiadau.
    • Dewiswch ‘Settings and privacy’ ac yna ‘Privacy’.
    • Dewiswch yr opsiwn ‘Comments’ a dewis ‘Friends’.

    I hidlo sbam a sylwadau sarhaus:

    • Ewch i’ch proffil yn y gornel dde waelod.
    • Dewiswch yr eicon tair llinell i fynd i’ch gosodiadau.
    • Dewiswch ‘Settings and privacy’ ac yna ‘Privacy’.
    • Dewiswch y togl ‘Comments’ ar ‘Filter spam and offensive comments’.

    I reoli gosodiadau preifatrwydd ar gyfer negeseuon uniongyrchol:

    • Ewch i’ch proffil yn y gornel dde waelod.
    • Dewiswch yr eicon tair llinell i fynd i’ch gosodiadau.
    • Dewiswch ‘Settings and privacy’ ac yna ‘Privacy’.
    • Dewiswch ‘Direct messages’ ac yna ‘Mutual friends’.
    • Noder: Mae dewisiadau DM yn cynnwys ‘Everyone’, ‘Suggested friends’, ‘Mutual and friends’ a ‘No one’.
    • Sylwer: ni all deiliaid cyfrif o dan 16 dderbyn negeseuon uniongyrchol. I ddefnyddwyr o dan 18 oed, y gosodiad diofyn yw ‘No one’.

    I alluogi ‘Filtered requests’:

    • Ewch i’ch proffil yn y gornel dde ar y gwaelod.
    • Dewiswch yr eicon tair llinell i fynd i’ch gosodiadau.
    • Dewiswch ‘Settings and privacy’ a dewiswch ‘Privacy’.
    • Dewiswch ‘Direct messages’ a throwch y dewis ‘Filtered requests’ ymlaen.
  • Gall defnyddwyr flocio a chwyno am ddefnyddwyr eraill a allai fod yn ymddwyn yn amhriodol ar y platfform. Tra bod cynnwys ar TikTok yn cael ei fonitro i sicrhau ei fod yn bodloni’r canllawiau cymunedol, mae’n bosib y byddwch chi’n dod ar draws fideos amhriodol. Dylid rhoi gwybod i TikTok amdanyn nhw.

    I gwyno am ddefnyddwyr, neu i’w blocio:

    • Ewch i broffil y defnyddiwr yr hoffech ei flocio a thapio’r tri dot yn y gornel dde uchaf.
    • Dewiswch yr opsiwn ‘Report’ neu ‘Block’ o’r ddewislen.
    • Ar gyfer y ddau opsiwn, gofynnir i chi roi disgrifiad byr o’r broblem a chwblhau ychydig mwy o gamau i gwblhau’r broses.

    I gwyno am gynnwys:

    • Dewiswch y fideo rydych am gwyno amdano, naill ai yn eich ffrwd neu ym mhroffil y defnyddiwr.
    • Pwyswch a daliwch ar y fideo a dewis ‘Report’.
    • Gofynnir i chi roi disgrifiad byr o’r broblem a chwblhau ychydig mwy o gamau i gwblhau’r broses.
  • Mae TikTok yn cynnig y gallu i osod terfynau amser sgrin dyddiol yn nodwedd ‘Digital wellbeing’ yr ap.

    I osod terfynau amser:

    • Ewch i’ch proffil yn y gornel dde waelod.
    • Dewiswch yr eicon tair llinell i fynd i’ch gosodiadau.
    • Dewiswch ‘Settings and privacy’ ac yna ‘Digital wellbeing’.
    • Ewch i’r adran ‘Screen time management’ a thapio ‘Turn on screen time management’.
    • Gosodwch y terfyn amser dyddiol yn y blwch a ddarperir.
    • Gofynnir i chi osod cyfrinair, a bydd angen ei fewnbynnu er mwyn analluogi’r nodwedd hon. Os ydych chi wedi galluogi ‘Restricted mode’, yr un cyfrinair fydd ar waith.
    • Sylwer: os yw defnyddwyr yn cyrraedd eu terfyn amser, maen nhw’n gallu mewnbynnu’r cyfrinair hwn er mwyn parhau i ddefnyddio’r ap.

    I osod ‘Screen time breaks’:

    • Ewch i’ch proffil yn y gornel dde waelod.
    • Dewiswch yr eicon tair llinell i fynd i’ch gosodiadau.
    • Dewiswch ‘Settings and privacy’ ac yna ‘Digital wellbeing’.
    • Dewiswch ‘Screen time breaks’ a dilynwch y camau ar y sgrin i drefnu seibiannau. Byddwch yn cael gwybod pryd i ystyried cymryd seibiant.
    • Sylwer: gall defnyddwyr ddiystyru neu oedi’r hysbysiad.

    I ddiffodd hysbysebion wedi’u personoli:

    • Ewch i’ch proffil yn y gornel dde waelod.
    • Dewiswch yr eicon tair llinell i fynd i’ch gosodiadau.
    • Dewiswch ‘Settings and privacy’ ac yna ‘Privacy’.
    • Dewiswch ‘Ads personalisation’ a thoglo ‘Personalised ads’ i’w ddiffodd.
    • Sylwer: gallwch addasu rhai o’ch dewisiadau hysbysebion gan ddefnyddio ‘Your ad interests’ hefyd.
  • Mae’r nodwedd hon yn caniatáu i rieni osod cyfyngiadau amrywiol ar ddyfais eu plentyn. Mae’r rhain yn cynnwys amser sgrin dyddiol, modd cyfyngedig, y gallu i ganfod, negeseuon uniongyrchol a llawer mwy. Bydd angen cyfrif TikTok ar y rhiant a’r plentyn i ddefnyddio’r nodwedd hon.

    I sefydlu ‘Family pairing’:

    • Ewch i’ch proffil yn y gornel dde waelod.
    • Dewiswch yr eicon tair llinell i fynd i’ch gosodiadau.
    • Dewiswch ‘Settings and privacy’ ac yna ‘Family pairing’.
    • Dewiswch ddyfais ‘Parent’ neu ‘Teen’ a dilyn y camau sydd yn yr ap i gysylltu cyfrifon.

    I reoli ‘Family pairing’:

    • Ewch i’ch proffil yn y gornel dde waelod.
    • Dewiswch yr eicon tair llinell i fynd i’ch gosodiadau.
    • Dewiswch ‘Settings and privacy’ ac yna ‘Family pairing’.
    • Dewiswch y cyfrif rydych chi am ei reoli a diweddaru’r gosodiadau yn ôl yr angen.
  • Gall defnyddwyr naill ai ddileu neu ddadactifadu eu cyfrifon TikTok. Mae dadactifadu cyfrif yn golygu na fydd yn cael ei restru fel proffil ar-lein, a bydd yn cuddio clipiau byrion TikTok a lanlwythwyd gan y cyfrif hefyd. Ni fydd data’n cael ei ddileu, ac mae modd gwyrdroi’r broses unrhyw bryd. Mae’n cymryd 30 diwrnod i ddileu cyfrif, ac mae’n broses ddi-droi’n-ôl sy’n cychwyn gyda 30 diwrnod o ddadactifadu. Unwaith mae’r broses ddadactifadu wedi’i chwblhau, mae’r cyfrif yn cael ei ddileu.

    I ddileu neu ddadactifadu cyfrif TikTok:

    • Dewiswch ‘Profile’ yn y gornel dde isaf.
    • Dewiswch y tair llinell ar draws ’☰‘ yn y gornel dde uchaf.
    • Dewiswch yr eicon gêr wedi’i labelu ‘Settings and privacy’.
    • Dewiswch ‘Account’.
    • Dewiswch ‘Deactivate or Delete your account’:
      • I ddadactifadu: Dewiswch ‘Deactivate account’.
      • I ddileu: Dewiswch ‘Delete account’ a dilyn y cyfarwyddiadau i gadarnhau hyn.

Mae gan TikTok ‘Ganllaw Gwarcheidwaid‘ pwrpasol sy’n werth ei ddarllen i ddarganfod mwy am yr ap ac argymhellion ar gyfer rhieni. Yma, bydd rhieni a gofalwyr yn gallu gweld gwybodaeth a fideos manwl am y platfform gan gynnwys deall gosodiadau preifatrwydd, canllawiau cymunedol, hanfodion TikTok a chanllaw manwl i ‘Family pairing’.

Yn ddiweddar mae TikTok wedi lansio casgliad o osodiadau preifatrwydd a diogelwch er mwyn diogelu defnyddwyr iau ar y platfform. Mae trosolwg llawn o’r gosodiadau hyn i’w weld yn y canllaw preifatrwydd.