Canllaw i deuluoedd sydd â gwybodaeth allweddol am 'Facebook', gan gynnwys y dosbarthiad oedran, terminoleg allweddol, risgiau a chyfarwyddiadau ar gyfer galluogi rheolaethau rhieni a gosodiadau diogelwch.
- Rhan o
Sut mae Facebook yn gweithio
Ap rhwydweithio cymdeithasol dan berchnogaeth Meta yw Facebook, sy’n caniatáu i ddefnyddwyr gysylltu trwy rannu lluniau, diweddariadau statws, sylwadau a fideos. Mae gan lawer o fusnesau eu tudalennau Facebook eu hunain hefyd i hyrwyddo eu brand.
Oedran isaf gofynnol
Rhaid i ddefnyddwyr fod yn 13 oed i ddefnyddio Facebook. Fodd bynnag, nid oes ganddo unrhyw ddulliau gwirio oedran trylwyr.
I ddeiliaid cyfrifon dan 16 oed, y gosodiad diofyn yw ‘Preifat’ Dylech oruchwylio eich plentyn wrth iddo greu ei gyfrif er mwyn sicrhau ei fod yn rhoi’r oedran cywir a bod gosodiadau diogelwch yn cael eu gosod ar ei gyfrif.
Nodweddion
Check in
Mae Facebook yn caniatáu i ddefnyddwyr fewngofnodi ar-lein trwy dagio eu hunain mewn lleoliadau penodol.
Facebook Live
Dyma’r nodwedd ffrydio byw sy’n rhan o Facebook. Gall defnyddwyr wneud a rhannu fideos mewn amser real. Bydd gosodiadau preifatrwydd cyfrif yn penderfynu pwy all weld cynnwys byw defnyddiwr.
Facebook Marketplace
Gall defnyddwyr cofrestredig greu hysbysebion i brynu a gwerthu eitemau ar draws y platfform, yn lleol ac yn genedlaethol.
Family Centre
Set o reolaethau i rieni sy’n caniatáu i chi fonitro a rheoli defnydd eich plentyn o Facebook.
Groups
Gall defnyddwyr unigol ddod at ei gilydd i ffurfio grŵp Facebook. Gall grwpiau fod yn gyhoeddus, yn breifat neu’n gyfrinachol.
Messenger
Ap sgwrsio annibynnol yw hwn sy’n rhan o Facebook. Am fwy o wybodaeth am ap Messenger, edrychwch ar ganllaw ap Messenger.
Reels
Fideos byr yw’r rhain sy’n cynnwys cerddoriaeth, sain a throshaenau testun. Maen nhw’n cael eu rhannu’n uniongyrchol â ffrindiau yn eu porthiant newyddion neu â defnyddwyr eraill mewn adran ‘Reels’ bwrpasol ar yr ap.
Rooms
Mae hyn yn galluogi ‘gweinyddwyr’ Grwpiau a Digwyddiadau i greu i hyd at 50 o bobl gael sgwrs fideo gyda’i gilydd.
Stories
Nodwedd sy’n caniatáu i ddefnyddwyr rannu cynnwys ar eu proffiliau. Mae storïau’n diflannu ar ôl 24 awr.
Tag
Pan fydd defnyddiwr yn tagio rhywun ar Facebook, mae’n creu dolen i’w broffil. Gall defnyddiwr dagio rhywun mewn llun neu mewn diweddariad statws.
Timeline
Dyma hanes defnyddiwr ar Facebook. Mae’n cadw ei holl weithgarwch, gan gynnwys diweddariadau, lluniau a negeseuon cyhoeddus, mewn un lle.
Beth mae Facebook yn ei gynnig
Mae Facebook yn caniatáu i ddefnyddwyr gysylltu â’u ffrindiau a theulu, hyd yn oed pan nad ydyn nhw yn yr un lleoliad yn gorfforol. Gall defnyddwyr ddod o hyd i gymuned ar-lein hefyd trwy ddilyn tudalennau Facebook sydd wedi’u seilio ar eu diddordebau ac yna cymryd rhan mewn trafodaeth yn ymwneud â’r hobïau hyn.
Rheoli risgiau
Gor-rannu
Gall defnyddwyr rannu lluniau, diweddariadau statws, lleoliadau byw a thagio eu ffrindiau a’u teulu yn y lluniau. Er y gall hyn helpu i gynnal cysylltiadau â ffrindiau a theulu a allai fyw ymhell i ffwrdd, gallai arwain at rai pobl ifanc yn gor-rannu gwybodaeth bersonol ac yn dogfennu pob agwedd ar eu bywydau ar-lein.
Siaradwch â’ch plentyn am ba wybodaeth y bydd yn ei rhannu gyda ffrindiau a phobl ddieithr all-lein a chymharu hynny â’r hyn efallai y bydd yn ei rannu ar Facebook. Trafodwch ba wybodaeth y mae’n iawn i’w rhannu ar-lein a pha wybodaeth nad yw’n iawn i’w rhannu ar-lein.
Cysylltiad â phobl ddieithr niweidiol
Mae Facebook yn enfawr, felly gall eich plentyn ddod i gysylltiad â defnyddwyr nad yw’n eu hadnabod os nad yw’r gosodiadau diogelwch wedi’u haddasu. Gallai’r defnyddwyr hyn ddefnyddio iaith amhriodol neu anfon negeseuon at eich plentyn â bwriadau niweidiol.
Gall y camau hyn helpu i amddiffyn eich plentyn rhag defnyddwyr eraill.
Addasu’r gosodiadau
Yng ngosodiadau Facebook, gwnewch broffil eich plentyn yn breifat i gyfyngu ar bwy sy’n gallu cysylltu â nhw neu weld eu postiadau.
Edrych ar y rhestr ffrindiau gyda’ch gilydd
Edrychwch ar restr ffrindiau eich plentyn yn rheolaidd i nodi unrhyw un y gall ei adnabod ar-lein yn unig.
Addysgu’ch plentyn i flocio a riportio
Addysgwch eich plentyn sut i flocio a riportio i’w helpu i ddod â chysylltiad ag unrhyw un sy’n gwneud iddyo deimlo’n anghyfforddus i ben.
Cynnwys sy’n peri gofid
Efallai y bydd eich plentyn yn gweld postiadau a thudalennau sydd wedi’u bwriadu ar gyfer oedolion, gan gynnwys postiadau sydd wedi’u seilio ar faterion sensitif. Gall y cyngor canlynol helpu.
Addasu ei osodiadau
Mae Facebook yn caniatáu i chi newid dewisiadau cynnwys i gyfyngu ar gynnwys sensitif ym mhorthiant eich plentyn.
Newid sut mae’i algorithm yn gweithio
Anogwch eich plentyn i ddilyn tudalennau a grwpiau cadarnhaol, fel bod iu ffrwd yn cynnwys postiadau calonogol yn hytrach na rhai negyddol. Gall clicio ‘Dim diddordeb’ ar bostiadau sy’n peri gofid helpu i greu ffrwd gadarnhaol, hefyd.
Addysgwch nhw i flocio a riportio
Addysgwch eich plentyn i flocio a riportio tudalennau neu ddefnyddwyr sy’n rhannu cynnwys sy’n peri gofid er mwyn helpu i wneud y platfform yn fwy diogel.
Siarad â’ch plentyn
Rhowch wybod i’ch plentyn y gallant ddod atoch chi am gymorth os byddant yn gweld unrhyw beth sy’n peri gofid neu’n gwneud iddynt deimlo’n ddig ar-lein. Addysgwch nhw nad yw popeth y maent yn ei weld ar-lein yn wir. Helpwch nhw i nodi camwybodaeth neu gyfryngau sydd wedi’u creu gan AI.
Gosodiadau i ddiogelu’ch plentyn
Os yw’ch plentyn yn defnyddio Facebook, gall y gosodiadau hyn eu helpu i gadw’n fwy diogel.
Gosod Family Centre
Ar Facebook, dewiswch eicon y proffil ac ewch i ‘Settings & Privacy’.
- Dewiswch ‘Settings’.
- Dewiswch ‘Family Centre’.
- Dewiswch ‘Supervision’ ac yna ‘Create invitation’.
- Gofynnwch i’ch plentyn dderbyn y gwahoddiad.
Rheolwch y gosodiadau goruchwylio trwy ddangosfwrdd y Family Centre.
Gwneud y cyfrif yn breifat
Ar Facebook, dewiswch eicon y proffil ac ewch i ‘Settings & Privacy’.
- Dewiswch ‘Settings’.
- Dewiswch ‘Default audience settings’.
- Dewiswch ‘Friends’ neu dewiswch ‘Custom’ os hoffech addasu pwy sy’n gallu gweld proffil eich plentyn.
Adolygu’r offer riportio a blocio
Riportio defnyddiwr neu grŵp
- Ewch i broffil y cyfrif neu’r grŵp.
- Dewiswch y 3 smotyn o dan y llun clawr a dewiswch ‘Report profile’.
- Dewiswch eich rheswm dros riportio o’r rhestr o resymau a roddir a dewiswch ‘Submit’.
Riportio cynnwys
- Dewch o hyd i’r cynnwys yr hoffech ei riportio a dewiswch eicon y 3 smotyn.
- Dewiswch ‘Report post/photo’.
- Dewiswch y rheswm dros riportio.
- Dewiswch ‘Done’ i orffen y riportio.
Riportio neu guddio sylw
- Ewch at y sylw yr hoffech ei riportio a dewiswch eicon y 3 smotyn.
- Dewiswch ‘Report comment’ neu ‘Hide comment’, fel y bo’n briodol.
- Dewiswch eich rheswm dros riportio o’r opsiynau sydd wedi’u rhestru a dewiswch ‘Submit’.
Blocio defnyddiwr
- Ewch i broffil y cyfrif yr hoffech ei flocio.
- Dewiswch eicon y 3 smotyn o dan y llun clawr a dewiswch ‘Block’.
- Dewiswch ‘Confirm’ i’w gyflwyno.