English

Mae Ask.fm yn blatfform cyfryngau cymdeithasol am ddim sy'n caniatáu i ddefnyddwyr bostio sylwadau a chwestiynau dienw.  Gall pobl ymateb i'r cwestiynau hyn yn gyhoeddus, sgwrsio'n ddienw a dilyn proffiliau eraill yn ddienw neu'n gyhoeddus. Gall defnyddwyr gysylltu eu proffil Ask.fm â'u platfformau cyfryngau cymdeithasol eraill hefyd. Mae hyn yn rhoi'r opsiwn i ddefnyddwyr ddefnyddio'r platfformau hynny i bostio cwestiynau ac atebion ar eu platfformau cyfryngau cymdeithasol eraill. Mae Ask.fm, a lansiwyd yn 2010, yn dal i fod yn boblogaidd gyda chynulleidfa fyd-eang o 215 miliwn o ddefnyddwyr cofrestredig sy’n cyfnewid dros 10,000 o gwestiynau bob munud. Mae'r ap ar gael ar ddyfeisiau Android ac iOS.


Y sgôr oedran isaf ar gyfer defnyddwyr Ask.fm yw 13, ond nid oes gan yr ap unrhyw ddulliau gwirio oedran trylwyr.

Mae wedi cael sgôr oedran o 17+ ar yr Apple App Store a 'Teen' ar Google Play Store.

Mae ein 'Canllaw i rieni a gofalwyr ar sgoriau oedran mewn apiau a gemau’ yn cynnwys rhagor o fanylion am hyn.


Mae plant a phobl ifanc yn gallu teimlo bod apiau dienw’n gyffrous gan eu bod yn caniatáu iddyn nhw rannu a rhyngweithio ag eraill heb ddatgelu pwy ydyn nhw. Mae rhai pobl ifanc yn teimlo bod y profiad hwn o'r cyfryngau cymdeithasol yn wahanol i rai o'r platfformau mwy poblogaidd gan nad oes yr un lefel o bwysau - mae defnyddwyr yn gallu postio cwestiynau heb fod ofn cael eu barnu gan gyfoedion. Mae natur ddienw’r platfform yn annog defnyddwyr i bostio cwestiynau na fydden nhw'n eu rhannu ar blatfformau eraill fel arall. Canlyniad hyn yw cynnwys sy'n gallu cyfeirio at feddyliau a theimladau cudd am deulu, ffrindiau, perthynas ag eraill a sefyllfaoedd a allai fod yn frawychus neu'n ddadleuol.


  • Dyma lle gall defnyddwyr ofyn beth bynnag maen nhw eisiau ei wybod i bobl gerllaw.

  • Gall defnyddwyr ofyn cwestiynau’n uniongyrchol i ddefnyddiwr arall ar y platfform.

  • Mae'r nodwedd hon yn caniatáu i ddefnyddwyr greu pôl i gyd-fynd â'u postiad.

  • Yma, gall defnyddwyr sgwrsio'n breifat gyda defnyddwyr ar eu rhestr ffrindiau. Mae defnyddwyr yn dal i allu aros yn ddienw mewn sgyrsiau.

  • Datgelir pwy yw defnyddiwr mewn sgyrsiau agored.

  • Dyma lle gall defnyddwyr ddod o hyd i bob cwestiwn a sgwrs.

  • Rhestr o'ch ffrindiau ar yr ap.

  • Lle gall defnyddwyr weld beth mae eu ffrindiau wedi bod yn ei ateb a'i ofyn.

  • Lansiodd Ask.fm gyfrifon wedi'u dilysu fel ffordd o ddilysu enwogion a brandiau adnabyddus eraill ar y platfform. Gellir rhoi statws VIP hefyd i ddefnyddwyr sy'n bodloni meini prawf penodol, fel defnydd dyddiol uchel a lledaenu positifrwydd ar y platfform.

  • Lle gall defnyddwyr hoffi cwestiynau neu atebion sydd wedi'u postio.

  • Lle gall defnyddwyr rannu'r hyn maen nhw'n ei bostio ar Facebook neu Twitter.


Er bod y wefan yn dweud ei bod yn addas i ddefnyddwyr 13+ oed, mae perygl o weld cynnwys amhriodol amrywiol drwy'r ap.  Mae natur ddienw'r platfform yn peri risg, gan y gallai defnyddwyr deimlo bod ganddyn nhw ryddid i rannu cynnwys maen nhw'n tybio na ellir ei gysylltu â nhw. Gall hyn arwain at gynnwys sy'n awgrymog ac a fyddai'n amhriodol i ddefnyddwyr iau. Nid yw Ask.fm yn monitro'r cynnwys a rennir ar y platfform; yn hytrach, mae'n dibynnu ar ddefnyddwyr i riportio cynnwys amhriodol sy'n torri'r 'Community guidelines’. Pan fydd defnyddwyr yn cytuno i'r telerau ac amodau, maen nhw'n cytuno mai nhw sy’n gyfrifol am unrhyw risg sy’n deillio o ddefnyddio'r ap. Os yw eich plentyn yn defnyddio Ask.fm, argymhellir eich bod chi’n archwilio'r ap gydag ef, i fonitro'r mathau o gynnwys mae'n ei weld. Yna, gallwch benderfynu a yw'r platfform yn addas ar gyfer eich plentyn.  Er mwyn lleihau'r risg y bydd eich plentyn yn gweld cynnwys amhriodol, argymhellir ei fod yn gofyn cwestiynau i ffrindiau mae'n eu hadnabod, yn hytrach na defnyddio 'Asking people’. Fodd bynnag, dylid cydnabod y gallai eich plentyn weld cynnwys amhriodol o hyd gan gysylltiadau y mae'n eu hadnabod. Anogwch eich plentyn i siarad â chi os yw'n gweld unrhyw gynnwys sy'n peri gofid neu bryder iddo.   

Gyda thros 300 miliwn o ddefnyddwyr byd-eang ar y platfform, mae'n bosib y bydd eich plentyn yn rhyngweithio â phobl nad yw'n eu hadnabod. Mae'r gallu i weithredu ar y platfform yn ddienw’n peri risg i ddefnyddwyr iau. Yn anffodus, gall y rhai sy'n ceisio camfanteisio ar blant a phobl ifanc fanteisio ar apiau dienw fel Ask.fm i gysylltu'n uniongyrchol â nhw drwy ofyn cwestiynau iddyn nhw neu eu dilyn yn ddienw. I gael gwybodaeth am sut i ddiffodd rhai o'r nodweddion hyn, ewch i'r adran 'Rheoli rhyngweithio a chynnwys' yn y canllaw hwn. Mae Ask.fm wedi cynnwys nodwedd 'Chat privately’ hefyd, lle nad oes angen i ddefnyddwyr fod yn 'Friends’. Gallai hyn gymell eich plentyn i gael sgyrsiau preifat gyda dieithriaid. Siaradwch â'ch plentyn am y risgiau o gysylltu â dieithriaid ac esboniwch bwysigrwydd peidio â rhannu unrhyw wybodaeth bersonol neu adnabyddadwy mewn sgyrsiau. Atgoffwch eich plentyn i ddweud wrthych chi os oes rhywun wedi gofyn cwestiynau mwy personol iddo ac i riportio unrhyw un sy'n gwneud iddo deimlo'n anghyfforddus.  

Mae opsiwn hefyd i gysylltu cyfrif Ask.fm defnyddiwr â'i gyfrifon cyfryngau cymdeithasol eraill. Mae hyn yn peri risg bellach, gan y gallai defnyddwyr anhysbys ar Ask.fm anfon ceisiadau ffrind ato ar y platfformau eraill hyn. Argymhellir na ddylai eich plentyn gysylltu ei gyfrif Ask.fm ag unrhyw broffiliau cyfryngau cymdeithasol eraill. I gael gwybodaeth am sut i ddiffodd dolenni cyfryngau cymdeithasol eraill, ewch i'r adran 'Rheoli rhyngweithio a chynnwys' yn y canllaw hwn.

Un o risgiau allweddol Ask.fm yw y gall defnyddwyr deimlo'n llai atebol am y pethau maen nhw'n eu gofyn a'u postio. Mae natur ddienw'r platfform yn golygu y gall rhai defnyddwyr ifanc gael eu denu i ryngweithiadau niweidiol, gan gredu na fydd cwestiynau a phostiadau'n cael eu holrhain iddyn nhw ac na fyddan nhw'n atebol. Gall y cynnig agored i fod yn ddienw wneud pobl yn llai tebygol o ystyried eu hymddygiad a meddwl am yr effaith maen nhw'n ei chael ar eraill. Gall roi ymdeimlad ffug o sicrwydd i bobl ifanc ynghylch rhannu hefyd. Dylai defnyddwyr fod yn ymwybodol bod unrhyw atebion maen nhw'n eu rhoi i gwestiynau pobl eraill yn dod yn gyhoeddus yn awtomatig ac yn gysylltiedig â'u proffil. Mae'n bwysig esbonio wrth eich plentyn bod modd i'r holl gynnwys gael ei gadw fel ciplun a'i rannu'n eang. Mae angen iddyn nhw ystyried y cynnwys maen nhw'n ei greu a'i rannu bob amser drwy feddwl yn ofalus a fydden nhw'n hapus i bawb maen nhw'n ei adnabod ei weld pe bai pwy ydyn nhw'n cael ei ddatgelu.

Mae dyluniad syml y platfform yn golygu ei bod hi'n hawdd i ddefnyddwyr dreulio llawer iawn o amser yn sgrolio drwy gwestiynau pobl eraill, eu hateb a gweld y gwahanol ymatebion. Siaradwch â'ch plentyn am y risg o sgrolio diddiwedd ac anogwch ef i gymryd amser i ffwrdd o'r ap. Mae gormodedd o hysbysiadau ar gael ar yr ap hefyd. Gellir defnyddio'r gosodiadau hysbysiadau i helpu i reoli amser ar y platfform ac mae cyfarwyddiadau llawn ar sut i ddiffodd hysbysiadau yn adran 'Rheoli amser a phrynu pethau' y canllaw hwn.

Mae gan yr ap ei arian ei hun o'r enw 'Coins' y gall defnyddwyr ei ennill, ei brynu a'i ddefnyddio yn yr ap.  Gall defnyddwyr ennill 'Coins' drwy eu hatebion i gwestiynau, drwy wylio hysbysebion fideo a thrwy wahodd ffrindiau. Yna, gellir defnyddio 'Coins' i addasu postiadau a rhoi 'tip' i'r atebion gorau gan ddefnyddwyr eraill. Siaradwch â'ch plentyn am brynu pethau yn yr ap i gadarnhau ei fod yn deall bod arian go iawn yn cael ei ddefnyddio i brynu pethau yn yr ap. Gallwch chi osod y gosodiadau prynu pethau yn yr ap perthnasol ar eich dyfais hefyd (mae'r cyfarwyddiadau yn adran 'Rheoli amser a phrynu pethau' y canllaw hwn.)

Mae gan Ask.fm opsiwn i uwchraddio am dâl hefyd, sy'n caniatáu i ddefnyddwyr greu cynnwys cudd ac yn cael gwared ar hysbysebion. Mae llawer o nodweddion yn yr ap yn ceisio annog defnyddwyr i uwchraddio.  Gall hyn apelio’n fawr at ddefnyddwyr sydd am brofi'r nodweddion ychwanegol. Atgoffwch eich plentyn bod opsiynau uwchraddio a thanysgrifiadau’n ddim mwy na ffordd arall mae cwmnïau'n ceisio cadw defnyddwyr ar y platfform a gwneud arian.


  • Nid oes unrhyw osodiadau penodol i wneud cyfrif yn breifat. Mae gan ddefnyddwyr Ask.fm yr opsiwn i bostio cwestiynau’n ddienw neu'n gyhoeddus, a fydd wedyn yn rhannu eu henw defnyddiwr gyda phob postiad/cwestiwn.

    I alluogi'r opsiwn dienw:

    • Pwyswch y ‘+’ ar waelod y dudalen.
    • Symudwch y togl 'Anonymous' i'r safle ymlaen i guddio eich enw defnyddiwr.
  • Mae ychydig o opsiynau ar gael i helpu i reoli rhyngweithio a chynnwys ar y platfform.

    I ofyn i ffrindiau’n unig:

    • Yn yr ap, dewiswch y '+' ar waelod y sgrin.
    • Dewiswch 'Ask friend' o'r opsiynau sydd wedi'u rhestru ar y top.
    • Bydd naidlen yn ymddangos lle gallwch chi ddewis pa ffrindiau i ofyn iddyn nhw.
    • Dewiswch 'Done' i gwblhau.

    I ddiffodd dolenni i gyfrifon cyfryngau cymdeithasol eraill:

    • Ewch i'ch proffil a dewiswch y ddewislen 'Settings'.
    • Sgroliwch i lawr i 'Social' a symudwch y togl ar gyfer yr opsiwn i gysylltu â chyfrifon cyfryngau cymdeithasol eraill i'r safle i ffwrdd.

    I ddileu cwestiwn/post:

    • Chwiliwch am y cwestiwn/postiad rydych chi am ei ddileu yn eich mewnflwch.
    • Daliwch y cwestiwn/postiad nes bod y rhestr o ddewisiadau'n ymddangos.
    • Dewiswch yr opsiwn 'Delete'.

    I ddiffodd rhannu postiadau gan ddefnyddwyr eraill:

    • Ewch i'ch proffil a dewiswch y ddewislen 'Settings'.
    • Chwiliwch am 'Account' a diffoddwch yr opsiwn 'Allow other users to share my posts’.

    I beidio â chaniatáu i eraill danysgrifio i'ch gweithgareddau:

    • Ewch i'ch proffil a dewiswch y ddewislen 'Settings'.
    • Chwiliwch am 'Account' a diffoddwch yr opsiwn 'Allow others to subscribe to my activities'.

    I ddiffodd atebion ar y ffrwd 'Discovery':

    • Ewch i'ch proffil a dewiswch y ddewislen 'Settings'.
    • Chwiliwch am 'Account' a diffoddwch yr opsiwn 'Allow showing my answers on discover feed'.

    I ddiffodd cwestiynau dienw:

    • Ewch i'ch proffil a dewiswch y ddewislen 'Settings'.
    • Chwiliwch am 'Account' a diffoddwch yr opsiwn 'Allow anonymous questions’.
  • Gall defnyddwyr riportio a blocio defnyddwyr eraill a all fod yn eu poeni nhw neu'n ymddwyn yn amhriodol ar y platfform.

    I flocio defnyddiwr:

    • Chwiliwch am y defnyddiwr rydych chi am ei flocio a phwyswch ar ei lun proffil.
    • Ar ei dudalen, dewiswch y tri dot wrth ymyl ei enw a dewiswch 'Block’.
    • Noder: Os yw ei gyfrif yn ddienw, ni allwch chi wneud hyn.

    I flocio defnyddiwr dienw:

    • Chwiliwch am y cwestiwn/postiad gan ddeiliad y cyfrif rydych chi am ei flocio.
    • Daliwch y sylw i lawr nes bod rhestr o ddewisiadau'n ymddangos a dewiswch 'Block’.

    I riportio defnyddiwr:

    • Dewiswch y defnyddiwr rydych chi am ei riportio a phwyswch ar ei lun proffil.
    • Ar ei dudalen, dewiswch y tri dot wrth ymyl ei enw.
    • Dewiswch 'Report' a dewiswch reswm o'r rhestr.

     I riportio cwestiwn/postiad:

    • Chwiliwch am y cwestiwn/postiad yn eich mewnflwch.
    • Daliwch y postiad i lawr nes bod rhestr o ddewisiadau'n ymddangos.
    • Dewiswch 'Report' a dewiswch y rheswm pam.

    I riportio sgwrs breifat:

    • Yn y sgwrs, dewiswch yr eicon tri dot a dewiswch 'Report’.
  • Nid oes gan Ask.fm unrhyw osodiadau penodol i reoli amser a phrynu pethau ar y platfform. Fodd bynnag, gellir rheoli'r rhain o'r ddyfais ei hun.

    I reoli hysbysiadau yn yr ap:

    • Ewch i'ch proffil a dewiswch y ddewislen 'Settings'.
    • Dewiswch 'Notifications' a gweithiwch drwy'r opsiynau sydd wedi'u rhestru:
      • New questions
      • New shoutout
      • New like
      • New photo poll vote
      • New reward
      • Secret unlocked
      • New answer
      • New mention
      • New follower
      • Friend created a photo poll
    • Symudwch doglau'r hysbysiadau rydych chi am eu diffodd i'r safle i ffwrdd.

    I ddiffodd hysbysiadau ar iOS:

    • Ewch i osodiadau'r ffôn a sgroliwch i 'Notifications’.
    • Chwiliwch am Ask.fm a symudwch dogl yr opsiwn 'Notifications' i'r safle i ffwrdd.

    I ddiffodd hysbysiadau ar Android:

    • Ewch i osodiadau'r ffôn a sgroliwch i 'Notifications’.
    • Dad-ddewiswch Ask.fm o'r dewisiadau hysbysu.

    I ddiffodd yr opsiwn i brynu pethau yn yr ap ar iOS:

    • Ewch i'r ddewislen gosodiadau > 'Screen time' a sgroliwch i lawr i 'Content and privacy restrictions’.
    • Dewiswch 'iTunes & App Store purchases' a gosodwch yr opsiwn i 'Don't allow’.

    I ddiffodd yr opsiwn i brynu pethau yn yr ap ar Android:

    • Ewch i'ch ap 'Google Play Store'.
    • Dewiswch 'Menu' > 'Settings' > ‘Require authentication for purchases’.
  • Pan mae’ch cyfrif wedi’i ddadactifadu, mae’ch holl wybodaeth fel defnyddiwr yn cael ei chadw ond nid yw’n weladwy ar y platfform na pheiriannau chwilio. Gallwch ailactifadu eich cyfrif unrhyw bryd er mwyn adfer eich holl wybodaeth. Mae dileu cyfrif yn golygu y bydd eich holl wybodaeth yn cael ei dileu yn barhaol ac ni fydd modd ei hadfer. Gall defnyddwyr Ask.fm naill ai ddileu neu ddadactifadu eu cyfrifon.

    I ddadactifadu neu ddileu eich cyfrif:

    • Ewch i’ch proffil a dewis yr eicon ‘Setting’.
    • Dewiswch ‘Account’ a naill ai ‘Deactivate account’ neu ‘Leave ASKfm’.
    • Teipiwch eich cyfrinair yn y blwch a dewis naill ai ‘Deactivate account’ neu ‘Leave ASKfm’ i gadarnhau.

Mae gan Ask.fm ganolfan ddiogelwch bwrpasol, sy'n cynnwys cyngor i bobl ifanc yn eu harddegau a rhieni/gofalwyr.

Mae Ask.fm wedi creu llwybr byr i’w gwybodaeth am ddiogelwch er mwyn helpu defnyddwyr i reoli eu gosodiadau diogelwch.