English

Mae'r wybodaeth hon a gynhyrchir gan yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol (NCA) yn rhybudd sy'n berthnasol i bob ysgol a lleoliad addysg yng Nghymru.

Yn fyd-eang, bu cynnydd mawr mewn adroddiadau bod plant a phobl ifanc yn cael eu gorfodi i dalu arian neu i wneud rhywbeth ariannol arall (fel prynu cerdyn rhodd rhagdaledig) ar ôl i droseddwr fygwth rhyddhau delweddau noeth neu hanner noeth ohonynt. Blacmel rhywiol ag ysgogiad ariannol yw hyn, sef math o flacmel ar-lein y cyfeirir ato'n aml yn y cyfryngau fel 'blacmel rhywiol' neu’n ‘sextortion’. Mae'n fath o gam-drin plant yn rhywiol.

Fel arfer, mae blacmel rhywiol ag ysgogiad ariannol yn cael ei gyflawni gan grwpiau troseddu cyfundrefnol tramor sydd fel arfer yn cael eu hysgogi gan arian. Mae'r grwpiau hyn yn targedu pob oedran a rhywedd, fodd bynnag, mae cyfran fawr o achosion wedi cynnwys dioddefwyr gwrywaidd 14 i 18 oed. 

Dyma beth sydd angen i chi ei wybod fel gweithwyr addysg proffesiynol fel y gallwch adnabod arwyddion y math hwn o gam-drin, deall sut i ymateb, gan gynyddu ymwybyddiaeth a helpu i ddod o hyd i ymddygiadau o’r fath ymhlith plant a phobl ifanc.

Gwybodaeth

Yr hyn yr hoffem i chi ei wneud

  • Datblygu’ch dealltwriaeth o flacmel rhywiol ag ysgogiad ariannol gan ddefnyddio'r rhybudd hwn a darllen y canllawiau 'Rhannu delweddau noeth a hanner noeth’ sydd wedi’u diweddaru’n ddiweddar
  • Cyfeirio’ch pryderon, os cânt eu datgelu neu eu darganfod, at wasanaethau plant yr heddlu lleol neu awdurdodau lleol drwy’ch gweithdrefnau diogelu
  • Osgoi defnyddio iaith sy'n beio’r dioddefwr a chefnogi plant a phobl ifanc i gael y delweddau wedi’u tynnu
  • Er nad yw'r cyfrifoldeb ar y plentyn, gwybod sut y gallwch gefnogi plant a phobl ifanc i ddeall sut y gallan nhw ymateb yn ddiogel i geisiadau neu bwysau i ddarparu delweddau neu fideos noeth neu hanner noeth

Gall dioddefwyr sy’n blant roi gwybod:

  • bod rhywun nad ydyn nhw'n ei adnabod, ond sy’n ymddangos fel pe bai’n blentyn neu’n berson ifanc arall, wedi cysylltu â nhw drwy gyfrif ar-lein. Efallai y bydd rhywun o gyfrif plentyn neu berson ifanc y maen nhw’n ei adnabod, ond sydd wedi’i hacio, hefyd yn cysylltu â nhw a bod y cyfathrebu'n teimlo'n anghyfarwydd.
  • eu bod wedi dechrau cyfathrebu’n rhywiol gignoeth mewn dim o dro, a all gynnwys y troseddwr yn rhannu delwedd anweddus yn gyntaf
  • eu bod wedi symud o sgwrs ar y cyfryngau cymdeithasol, ar blatfform ar-lein neu o fewn gêm i ap negeseuon preifat sy'n blatfform sgwrsio amgryptio o'r dechrau i'r diwedd
  • eu bod wedi’u manipwleiddio neu eu rhoi dan bwysau i gymryd lluniau neu fideos noeth neu hanner noeth
  • eu bod wedi cael gwybod eu bod wedi cael eu hacio a bod gan y troseddwr fynediad at eu delweddau, gwybodaeth bersonol a'u cysylltiadau (p'un a yw hyn yn wir ai peidio)
  • eu bod wedi cael eu blacmelio i anfon arian neu wedi eu gorfodi i wneud rhywbeth ariannol arall (fel prynu cerdyn rhodd rhagdaledig) ar ôl rhannu delwedd neu fideo, neu fod y troseddwr wedi rhannu delweddau wedi’u hacio neu wedi'u trin neu ddelweddau wedi’u cynhyrchu drwy ddeallusrwydd artiffisial yn ddigidol o'r plentyn neu'r person ifanc i'w ddychryn ac wedi awgrymu y bydd y bygythiad yn gwaethygu

Byddwch yn ymwybodol y gall grwpiau troseddu cyfundrefnol dargedu plant a phobl ifanc niferus mewn lleoliad addysg neu leoliad cymdeithasol ehangach, gan ei bod yn fwy tebygol y bydd plentyn neu berson ifanc yn derbyn cais ffrind neu'n cyfathrebu â rhywun nad yw'n ei adnabod os yw’n credu ei fod yn 'gyfaill cyffredin'.

Os yw plentyn neu berson ifanc wedi datgelu digwyddiad o’r fath, dylai eich swyddog diogelu dynodedig ei gyfeirio ar unwaith at wasanaethau plant yr heddlu a/neu awdurdodau lleol drwy eich gweithdrefnau diogelu.

Gofalwch fod yr addysg y mae’ch lleoliad yn ei darparu yn helpu plant a phobl ifanc i:

  • adnabod sut olwg allai fod ar flacmel rhywiol ag ysgogiad ariannol
  • deall ymddygiadau iach ac afiach o fewn perthnasoedd, gan gynnwys cydnabod bod unrhyw bwysau a roddir arnyn nhw i anfon delweddau yn fath o gamdriniaeth
  • nodi sut i ofyn am gymorth gan oedolion dibynadwy os oes unrhyw un yn rhoi pwysau arnyn nhw i rannu delweddau, gan gynnwys rhoi gwybod am lwybrau o fewn eich lleoliad addysg a thu hwnt

Cofrestrwch ar gyfer cyfrif CEOP Education am ddim i gael arweiniad, adnoddau a hyfforddiant i'ch helpu i wneud hyn. Gall adnoddau fel y wefan 11 i 18 oed a phecyn cymorth ategol eich helpu i gyflwyno sesiynau sy'n datblygu'r sgiliau allweddol hyn.

Defnyddiwch y llythyr templed sydd ynghlwm wrth y rhybudd hwn i gefnogi rhieni a gofalwyr i siarad â'u plentyn am flacmel rhywiol ag ysgogiad ariannol ac i ddeall sut y gallan nhw eu helpu os byddan nhw’n dioddef.

Os ydych chi'n bwriadu codi ymwybyddiaeth o flacmel rhywiol ag ysgogiad ariannol drwy sianeli cyfryngau cymdeithasol eich lleoliad addysg, defnyddiwch y llythyr templed i nodi'r negeseuon craidd i’w cyfleu yn y neges a chyfeiriwch at y llythyr ei hun.

Ewch i’r UK Safer Internet Centre i gael rhestr o’r adnoddau y gallwch eu lawrlwytho gan ddiwydiant, sefydliadau gorfodi'r gyfraith a sefydliadau anllywodraethol i'w defnyddio gyda phlant, pobl ifanc, rhieni a gofalwyr, a gweithwyr proffesiynol.

Dylid cefnogi plentyn neu berson ifanc sy'n ddioddefwr yn yr un modd ag y byddech gydag unrhyw fath arall o gam-drin plant yn rhywiol.

Dylech:

  • eu sicrhau nad ydyn nhw ar eu pen eu hunain ac y bydd yr oedolion o'u cwmpas yn gwneud popeth o fewn eu gallu i'w helpu a'u cefnogi
  • parhau i ganolbwyntio ar atebion ac osgoi iaith sy'n beio’r dioddefwr. Pan fo plentyn neu berson ifanc wedi rhannu delwedd, cofiwch ei fod wedi cael ei fanipwleiddio a bod wedi rhywun wedi meithrin perthynas amhriodol â’r plentyn i’w gael i wneud hynny, ac nad yw’r plentyn neu’r person ifanc byth yn gyfrifol am gael eu cam-drin
  • gweithio gyda'r plentyn neu'r person ifanc i benderfynu sut y bydden nhw’n hoffi i chi neu weithiwr proffesiynol priodol arall roi gwybod i’w rhieni a’u gofalwyr
  • cynorthwyo rhieni a gofalwyr i ddod o hyd i gymorth pellach iddyn nhw a’u plentyn – mae llythyr ar gyfer rhieni a gofalwyr wedi cael ei atodi gyda’r rhybudd hwn i'ch cefnogi i wneud hyn
  • helpu'r plentyn i dynnu neu atal delweddau rhag cael eu rhannu ar-lein drwy ddilyn y tri cham canlynol:
Gwybodaeth
  1. Defnyddio Report Remove, adnodd yr Internet Watch Foundation a Childline, i riportio delweddau sydd wedi'u rhannu a delweddau y bygythiwyd eu rhannu ar-lein.
  2. Defnyddio Take It Down, adnodd gan y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Plant Coll a Phlant sydd wedi dioddef Camfanteisio, i'w helpu i dynnu delweddau sydd ar-lein ac i atal delweddau rhag ymddangos ar-lein, ar draws y platfformau ar-lein sy'n cymryd rhan.
  3. Rhoi gwybod yn uniongyrchol i'r platfform neu'r ap perthnasol. Gweler Internet Matters neu Cadw'n ddiogel ar-lein i gael cyngor ar ble i adrodd problemau ar-lein ar y platfformau cyfryngau cymdeithasol mawr.

Mewn achosion prin, mae blacmel rhywiol ag ysgogiad ariannol wedi'i gysylltu â hunan-niweidio a hunanladdiad. Byddwch yn ymwybodol o newidiadau mewn ymddygiad a allai awgrymu bod plentyn neu berson ifanc mewn perygl o ddatblygu neu brofi iechyd meddwl gwael.

Os oes gennych chi bryder iechyd meddwl am blentyn sydd hefyd yn bryder diogelu, dilynwch bolisi amddiffyn plant eich lleoliad a siaradwch â'ch swyddog diogelu dynodedig. Dim ond gweithwyr proffesiynol sydd wedi'u hyfforddi'n briodol ddylai geisio gwneud diagnosis o broblem iechyd meddwl. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yng nghanllawiau diogelu statudol Llywodraeth Cymru Cadw dysgwyr yn ddiogel.

Gofalwch fod plant a phobl ifanc yn ymwybodol o ba wasanaethau cymorth iechyd meddwl lleol a chenedlaethol sydd ar gael iddyn nhw. Gall gwasanaethau cymorth i blant fel Childline fod yn borth i gymorth ehangach.

Gwybodaeth

Dioddefwyr sy'n oedolion

Gall oedolion sydd wedi profi blacmel rhywiol ag ysgogiad ariannol ddefnyddio'r adnodd Stop Non-Consensual Intimate Image Abuse tool i atal eu cynnwys rhag cael ei rannu ar-lein ar unwaith ar draws Partneriaid Diwydiant StopNCCI.org. Dylent hefyd riportio’r digwyddiad i'r heddlu a'r platfform neu'r ap perthnasol


  • Llythyr rhieni a gofalwyr pdf 104 Kb Efallai na fydd y ffeil hon yn hygyrch. Os oes angen fersiwn mwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, anfonwch ebost os gwelwch yn dda. digital@gov.wales. Dywedwch wrthym y fformat sydd ei angen arnoch. Os ydych yn ddefnyddio technoleg gynorthwyol dywedwch wrthym pa fath