English

Cynhelir Diwrnod Defnyddio'r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel 2025 ar 11 Chwefror 2025, gyda dathliadau a sesiynau dysgu yn seiliedig ar y thema 'Rhy dda i fod yn wir? Diogelu eich hun ac eraill rhag sgamiau ar-lein.’

Diwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel yw dathliad mwyaf y DU o ddiogelwch ar-lein. Bob blwyddyn rydym yn ymdrin â mater neu thema ar-lein sy'n sôn am y pethau y mae pobl ifanc yn eu gweld ac yn eu profi ar-lein. Er mwyn penderfynu ar ein thema ar gyfer Diwrnod Defnyddio'r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel 2025 (Saesneg yn unig), buom yn siarad â phobl ifanc ledled y DU am y materion a’r pynciau ar-lein yr oeddent am gael mwy o gymorth gyda nhw. Dyma ddysgu mai’r prif fater a nodwyd gan ddisgyblion oed uwchradd oedd sgamiau, ac i ddisgyblion cynradd mai chwarae gemau fideo oedd y prif bryder, gyda sgamiau’n dilyn yn ail agos.

Eleni ar Ddiwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel, rydym am osod pwysigrwydd amddiffyn plant rhag sgamiau ar-lein ar yr agenda. Ers gormod o amser, mae pobl ifanc wedi cael eu hanwybyddu, ac eto mae ein hymchwil yn dangos yn glir faint o effaith mae sgamiau ar-lein yn gallu eu cael arnynt.

Rydym wedi rhannu ambell gyngor ar gyfer osgoi sgamiau i blant a phobl ifanc a'u teuluoedd. Mae'r cyngor hwn yn fan cychwyn gwych i ddechrau sgyrsiau am fywyd ar-lein ac yn rhoi rhywfaint o'r wybodaeth sydd ei hangen ar rieni a gofalwyr i gefnogi eu plant. 

Ymchwil Canolfan Rhyngrwyd Mwy Diogel y DU (UKSIC) i sgamiau ar-lein

Yng Nghymru, fe wnaethom (UKSIC) ganfod fod 83% o bobl ifanc yn dod ar draws sgamiau ar-lein o leiaf bob mis, gyda 24%, gan gynnwys plant mor ifanc ag 8 oed, yn gweld sgamiau ar-lein bob dydd.

Yn anffodus, mae pobl ifanc yng Nghymru nid yn unig yn gweld sgamiau ar-lein ond yn eu profi eu hunain. Fe wnaethom ganfod fod 15% o blant 8 i 17 oed yn adnabod rhywun o’r un oedran â nhw sydd wedi colli arian i sgam ar-lein. Mae cael eu sgamio ar-lein yn cael effaith emosiynol negyddol ar bobl ifanc yng Nghymru mewn amryw o wahanol ffyrdd: roedd 37% o'r rhai sydd wedi cael eu sgamio yn teimlo'n ddig ac yn flin, ac roedd llawer yn teimlo’n drist neu’n ofidus (33%), yn poeni neu'n teimlo dan straen (30%), yn teimlo cywilydd (26%), neu mewn sioc (19%). Yn anffodus, mae 21% o'r rhai sydd wedi dioddef yn dweud eu bod yn beio eu hunain, ac mae hyn yn cynyddu tipyn mwy i 33% ar gyfer pobl ifanc 17 oed.

Nawr, yn fwy nag erioed, mae angen i ni ymateb i hyn oherwydd i blant a'u rhieni a'u gofalwyr mae'n ymddangos bod y sefyllfa'n gwaethygu. Yng Nghymru, canfu ein hymchwil fod 86% o rieni a gofalwyr yn teimlo bod mwy o sgamiau nag erioed o'r blaen, barn a rennir gan bron i hanner y plant (47%). Yn ogystal, mae 82% o rieni a gofalwyr a 43% o bobl ifanc yn teimlo bod sgamiau ar-lein yn dod yn fwy credadwy, ac mae tua thraean o bobl ifanc (29%) yn poeni y bydd defnyddio technoleg newydd, megis AI cynhyrchiol, yn ei gwneud yn llawer anoddach i adnabod sgamiau.

Pontio’r cenedlaethau

Er nad yw hyn bob amser yn amlwg, canfu ein hymchwil mai’r lle cyntaf y mae pobl ifanc yn mynd am gymorth os ydynt yn profi sgam, neu’n poeni y gallai rhywbeth fod yn sgam, yw at eu rhieni a’u gofalwyr. 

Rydym yn cydnabod bod angen mwy o gefnogaeth i helpu rhieni a gofalwyr i chwarae rhan gadarn wrth addysgu a chynghori eu plant ar y mater hwn, yn ogystal â rhoi'r sgiliau iddynt gadw eu hunain a'u plant yn ddiogel.

Mae sgamiau'n broblem sy’n gyffredin i bobl ifanc a'u rhieni a'u gofalwyr fel ei gilydd, ac mae’r ymchwil gan UKSIC yn dangos fod pobl ifanc yn cael cefnogaeth a chyngor gan rieni a gofalwyr, ond hefyd ei bod nhw'n cefnogi eu rhieni a'u gofalwyr i gadw'n ddiogel rhag sgamiau eu hunain, gyda 32% o rieni a gofalwyr yng Nghymru yn dweud bod eu plentyn wedi eu dysgu nhw sut i adnabod sgamiau ar-lein.

Mae’r cyfnewid a’r cymorth hwn rhwng cenedlaethau’n hanfodol, ac yn rhywbeth y gall Diwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel ei annog, wrth inni geisio ysgogi sgyrsiau allweddol am sgamiau mewn cartrefi ac ysgolion ledled y wlad. 

Adnoddau Diwrnod Defnyddio'r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel

Gyda 73% o blant 8 i 17 oed eisiau dysgu mwy am sut i adnabod sgamiau ar-lein, mae adnoddau Diwrnod Defnyddio'r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel yn arf hanfodol i addysgwyr yn y maes hwn. Mae'r adnoddau difyr hyn ar gael am ddim yn y Gymraeg ac yn Saesneg, a gellir eu lawrlwytho o wefan Canolfan Rhyngrwyd Mwy Diogel y DU, ac o Hwb.

Mae’r adnoddau’n ffordd wych o addysgu am sgamiau ar-lein sy’n fater y mae angen dybryd i’w daclo. Maent yn rhoi’r arfau sydd eu hangen ar bobl ifanc i adnabod sgam, yn ogystal ag adrodd, blocio neu ofyn am gymorth os ydynt yn gweld neu’n cael profiad o sgam ar-lein.

Will Gardner OBE

Prif Swyddog Gweithredol Childnet International

Will Gardner yw Prif Swyddog Gweithredol yr elusen plant Childnet International. Ymunodd Will â Childnet yn 2000 ac fe’i penodwyd yn Brif Swyddog Gweithredol yn 2009. Mae’n Gyfarwyddwr yr UK Safer Internet Centre (UKSIC), partneriaeth rhwng Childnet, yr Internet Watch Foundation a South West Grid for Learning (SWGfL), a rhan o waith UKSIC yw trefnu Diwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel yn y DU. Mae hefyd yn aelod o Fwrdd Gweithredol Cyngor y DU ar Ddiogelwch Plant ar y Rhyngrwyd ac yn cadeirio’r Gweithgor Rhybudd Cynnar o linellau cymorth, llinellau ffôn a gorfodi’r gyfraith. Bydd hefyd yn aelod o Fwrdd Cynghori ar Ddiogelwch Facebook a Chyngor Ymddiriedaeth a Diogelwch Twitter.

Yn ystod ei gyfnod gyda Childnet, mae Will wedi arwain prosiectau cenedlaethol a rhyngwladol, ac wedi arwain y gwaith o ddatblygu amrywiaeth Childnet o raglenni ac adnoddau diogelwch rhyngrwyd arobryn sydd wedi’u hanelu at blant, rhieni a gofalwyr, ac athrawon ac ysgolion.

Dyfarnwyd OBE i Will yn Rhestr Anrhydedd Blwyddyn Newydd y Frenhines 2018 am ei waith ym maes diogelwch plant ar-lein.