Cyfweliad gydag aelod o'n grwp ieuenctid
Mae Carys yn rhoi cipolwg ar sesiwn gyntaf y grwp ieuenctid Cadw'n ddiogel ar-lein, a gynhaliwyd ym mis Ionawr 2023.
- Rhan o
Mae Llywodraeth Cymru yn ymgysylltu â phlant a phobl ifanc ar draws Cymru er mwyn cael gwell dealltwriaeth o'u profiadau ar-lein. Mae'r grwp ieuenctid 'Cadw'n ddiogel ar-lein' newydd yn cynnwys dysgwyr ysgol uwchradd rhwng 13-16 oed, sydd wedi cael eu gwahodd i rannu eu barn a'u safbwyntiau ar y ffordd orau o gefnogi plant a phobl ifanc gyda diogelwch ar-lein.
Dyma gyfweliad gyda Carys-Megan James, un o aelodau'r grwp, yn dilyn y sesiwn gyntaf, a gynhaliwyd ym mis Ionawr 2023.
Soniwch am y sesiwn gyntaf.
Dyma'n cyfle cyntaf fel aelodau'r grwp i gwrdd â'n gilydd a chael trafodaeth wyneb yn wyneb am nodau'r grwp. Ar ôl y cyflwyniadau, fe gymeron ni ran mewn gweithgaredd torri'r iâ lle y cyflwynwyd stori yn y cyfryngau i'r aelodau a bu'n rhaid i ni benderfynu ai newyddion go iawn neu newyddion ffug oedd e, gan godi ymwybyddiaeth o bwnc camwybodaeth ar-lein. Yna fe wnaethon ni god ymddygiad er mwyn sefydlu amgylchedd cyfforddus i rannu a thrafod ein meddyliau a'n syniadau.
Roedd y gweithgaredd nesaf yn cynnwys gwneud map meddwl o beth mae diogelwch ar-lein yn ei olygu i bob un ohonon ni, a sbardunodd hyn sgyrsiau manwl a chraff am bob math o bynciau dan haul. Ar ôl egwyl cinio, fe wnaethon ni ailddechrau gyda gweithgaredd lle'r oedd pob cyfrannwr yn dewis pwnc penodol yn gysylltiedig â bod ar-lein, cyn trafod a oedd hyn yn fuddiol neu'n beryglus. I gloi'r sesiwn, fe gawson ni drafodaeth am ddyfodol y panel cadw'n ddiogel ar-lein a sut olwg fydd ar sesiynau'r dyfodol.
Mae gan aelodau'r grwp resymau gwahanol dros fod yn rhan o'r broses. Sut ydych chi’n gobeithio elwa fel aelod?
Rwy'n gobeithio gweld rhywfaint o gynnydd yn cael ei wneud i gadw pobl yn ddiogel ar-lein a bod rhannu fy mhrofiadau o fod ar-lein fel person ifanc yn gallu helpu'r panel. Mae diogelwch ar-lein yn rhywbeth dwi'n teimlo'n gwbl angerddol amdano ac mewn oes sydd wedi'i rheoli gan dechnoleg a'r rhyngrwyd yn rhan mor annatod o fywydau llawer ohonon ni, mae'n hollbwysig bod pobl yn gwybod sut i fod yn ddiogel, lle i gael cymorth, a bod yna weithdrefnau ar waith i'w gwarchod nhw.
Dyfyniadau gan aelodau eraill
“I fod yn onest, mae'r rhyngrwyd yn lle dwfn a braidd yn dywyll. O'n i'n meddwl y byswn i'n rhoi cynnig ar daflu ychydig mwy o oleuni arno. Dwi wrth fy modd bod pobl eraill fel petaen nhw wedi meddwl yr un peth!"
“Byddwn wrth fy modd yn rhan o rywbeth sy'n ceisio cadw plant yn ddiogel ar-lein a darparu dyfodol gwell i bobl ifanc yng Nghymru.”
“Byddwn wir yn gwerthfawrogi'r cyfle i fod yn rhan o'r grwp ieuenctid yma, i weithio gyda phobl ifanc o ysgolion eraill ar fater pwysig.”
“Hoffwn helpu llywodraeth Cymru i wneud newidiadau sy'n gwella bywydau holl blant Cymru.”
“Dwi eisiau ymuno â'r grwp yn y gobaith y gallwn ni sicrhau bod rhywbeth fel y cyfryngau cymdeithasol, sydd mor ddylanwadol a phoblogaidd, yn gwneud mwy o les na drwg i'n gwlad, a’u bod yn llai dinistriol i'n bywoliaeth ni."
“Hoffwn ddysgu pethau i bobl ifanc am y we na ches i erioed fy nysgu amdanyn nhw.”
“Dwi eisiau cyfrannu cymaint ag y galla i er mwyn helpu pobl ifanc i gael mynediad at addysg a chefnogaeth am ddiogelwch ar-lein, gan fod bod ar-lein yn ifanc yn gallu amlygu pobl i gymaint o bethau peryglus ac fe all gael llawer o effeithiau negyddol, fel rydw i'n bersonol, a llawer o rai eraill wedi'u profi.”
“Byddai'r grwp hwn yn gyfle i mi leisio fy marn fy hun (ac yn gyfle i eraill wneud yr un fath) gan ehangu hefyd ar agweddau cadarnhaol y cymorth a'r gefnogaeth a gynigir gan Lywodraeth Cymru.”
Yn y sesiwn bu'r grwp yn trin a thrafod rhai o'r heriau i bobl ifanc ar-lein. Soniwch fwy am hyn a’r pynciau trafod sy'n sefyll allan.
Gyda chymaint o wybodaeth ar flaenau ein bysedd, mae cymedroli faint o amser rydyn ni’n ei dreulio ar y cyfryngau cymdeithasol yn her aruthrol i lawer o bobl ifanc. Mae defnyddwyr yn gweld cymaint o gynnwys sydd wedi'i anelu atyn nhw'n seiliedig ar ddadansoddeg, felly mae'n hawdd colli trac o amser sy'n gallu arwain at fynd yn gaeth i'r we mewn rhai achosion. Mwya’n byd o gynnwys welwn ni, mwya’n byd yw’r siawns y byddwn ni’n dod ar draws rhywbeth a allai fod yn niweidiol neu'n gamarweiniol, felly mae'n her i lawer wahaniaethu rhwng yr hyn sy'n gywir a'r hyn sydd ddim. Mae hyn yn berthnasol i farchnata a hyrwyddo gan ddylanwadwyr hefyd. Hefyd, dangoswyd bod y cyfryngau cymdeithasol yn cael effaith negyddol ar hyder llawer o bobl ifanc - dim ond yr elfennau gorau o fywyd rhywun y mae llawer o'r negeseuon hyn yn eu dangos, gan wneud i lawer o bobl ifanc feddwl bod eu bywydau nhw'n ddiflas mewn cymhariaeth.
Mynegodd y grwp bryder am blant iau sy’n tyfu i fyny gyda thechnoleg a'r rhyngrwyd hollbresennol, o gymharu â’ch amser chi. Beth yw'r prif broblemau?
Mae plant yn cael mynediad i'r we o oedran ifanc, sy'n gallu bod yn beryglus wrth ystyried eu bod yn dod i gysylltiad â llond gwlad o gynnwys sy'n gallu bod o natur sensitif weithiau. Pan fydd plant yn treulio cymaint o'u hamser ar-lein, gall gyfyngu ar eu rhyngweithio cymdeithasol a chael mwy o effaith ar eu datblygiad a chyfyngu ar eu profiadau plentyndod go iawn. Mae llawer o blant yn dechrau defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol oherwydd hebddo, fe allan nhw deimlo eu bod nhw ar ei hôl hi neu'n colli mas ar bethau. Wrth ystyried effeithiau posib bod ar-lein ar lefelau canolbwyntio rhywun, eu hiechyd meddwl a'u hunanhyder, mae'n bryderus meddwl sut gall hyn effeithio ar blant o oedran cynnar iawn.
Hoffai'r grwp archwilio sut gallan nhw gyfrannu'n uniongyrchol at weithgareddau'r dyfodol. Beth oedd rhai o'r syniadau a drafodwyd, neu beth allai gael effaith gadarnhaol yn eich barn chi? Beth ydych chi'n edrych ymlaen ato’n bennaf?
Yn ystod y grwp, buom yn trafod y syniad o gynnal sesiynau holi ac ateb a chyfweliadau gydag arbenigwyr. Rwy'n credu bod gweithio ochr yn ochr ag arbenigwyr ar y pwnc hwn a sicrhau bod pobl ifanc yn rhan o'r broses o wneud penderfyniadau yn hanfodol er mwyn gwneud camau cadarnhaol i wella diogelwch ar-lein. Dwi'n edrych ymlaen yn bennaf at weithio fel grwp a gyda gwahanol bobl a gweld y newidiadau y gallwn ni eu cyflwyno.
Carys-Megan James
Rydw i'n aelod o grwp ieuenctid ‘Cadw'n ddiogel ar-lein’ Llywodraeth Cymru. Rwy'n angerddol am lais ieuenctid a diogelwch ar-lein ac mae hyn wedi arwain at fy aelodaeth yn y grwp. Ar hyn o bryd dwi ym mlwyddyn 12 yn astudio Safon Uwch mewn Cemeg, Bioleg, Mathemateg a Llenyddiaeth Saesneg. Y tu allan i'r panel, rydw i wedi gwneud gwaith llais ieuenctid gyda gwahanol sefydliadau, ac rydw i hefyd yn Aelod Senedd Ieuenctid y DU ar gyfer Rhondda Cynon Taf.