Canllaw i rieni a gofalwyr am effaith bosibl y rhyngrwyd ar les eu plentyn
Sut mae’r rhyngrwyd yn effeithio ar lesiant ein plant?
Mae datblygiad technoleg wedi trawsnewid cymdeithas fodern a gellir gweld yn eang yr effeithiau o batrymau cyfathrebu a rhyngweithiadau personol, at gyflawniadau addysgol a gwyddonol.
Wrth i bobl ddefnyddio’r rhyngrwyd ar gyfer cyfathrebu drwy ffonau symudol, cyfryngau cymdeithasol, anfon negeseuon gwib a dangos lluniau/fideos, mae tystiolaeth ymchwil gan Gymdeithas Frenhinol Iechyd y Cyhoedd (Saesneg yn unig) yn dangos effaith hyn ar ein bywydau cymdeithasol a’n llesiant.
Effeithiau cadarnhaol rhyngweithiadau ar-lein
Mae safleoedd cyfryngau cymdeithasol yn caniatáu plant a phobl ifanc i gwrdd â chadw mewn cysylltiad â ffrindiau, a chael mynediad haws at wybodaeth berthnasol i’w bywydau cymdeithasol. Mae technolegau rhyngrwyd yn caniatáu mynediad yn syth at addysg, gwybodaeth ac adloniant, a gall hyn greu effeithiau cadarnhaol fel:
- mynediad gwib at fathau newydd o adloniant
- mwy o addysg drwy ymchwil, tiwtorialau ar-lein, fideos a sgyrsiau
- dod i gysylltiad â darganfyddiadau newydd, yn cynnwys cymunedau, diwylliannau ac ieithoedd
- llai o deimladau o unigrwydd a mwy o gynhwysiad cymdeithasol
- hwyluso rhyngweithiadau cymdeithasol yn y byd go iawn
- ymestyn cylchoedd cymdeithasol a synnwyr o gymuned
- creu gwir berthnasau a theimladau o hunan-barch
- mwy o sgiliau mewn gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg
- mwy o sgiliau mewn creadigedd, datrys problemau a rhesymu
Effeithiau negyddol rhyngweithiadau ar-lein
Yn anffodus, nid yw’r defnydd o dechnolegau rhyngrwyd bob amser yn gadarnhaol, ac felly mae’n bwysig cydnabod y risgiau a’r effeithiau negyddol er mwyn eu hosgoi.
Mae rhai effeithiau negyddol y gall technolegau rhyngrwyd eu cael ar blant a phobl ifanc yn cynnwys:
- mwy o deimladau o unigrwydd ac arwahanrwydd
- mwy o hunanaddoliad
- pryderon gyda hunanddelwedd a hunaniaeth
- mwy o straen
- creu perthnasau arwynebol
- dod i gysylltiad â bwlio, pornograffi, hiliaeth, meithrin perthynas amhriodol ac iaith casineb ar-lein
- defnydd cymhellol o dechnolegau rhyngrwyd a’r anallu i hunanreoli
- ofn colli allan (OCA)
- dod i gysylltiad â thwyll ar-lein a gweithgaredd anghyfreithlon ar-lein
- problemau iechyd yn gysylltiedig â defnydd estynedig o sgriniau a dyfeisiau (er enghraifft cur pen, poen gwddf, gordewdra, straen llygad)
Beth mae hyn yn ei olygu i lesiant eich plentyn
Mae effeithiau cadarnhaol a negyddol y technolegau rhyngrwyd yn ymddangos eu bod yn adlewyrchu ei gilydd a gall eu heffeithiau amrywio, yn dibynnu ar nodweddion unigol y plentyn neu’r unigolyn ifanc.
Gall y cyfuniad o nodweddion personol, oed, gwydnwch ac aeddfedrwydd esbonio pam y gall technolegau rhyngrwyd gael effeithiau cadarnhaol cryfach ar rai plant a phobl ifanc na rhai eraill.
Er mwyn lleihau effeithiau negyddol y technolegau rhyngrwyd, gall rhieni a gofalwyr gymryd camau i sicrhau bod llesiant eu plentyn ar-lein yn cael ei wella.
Awgrymiadau ar gyfer rhieni/gofalwyr i reoli llesiant eu plentyn ar-lein
- Edrychwch ar sut mae eich plentyn yn rhyngweithio â’i ddyfeisiau, a yw’n drist, yn bryderus, yn siriol neu’n hapus ar ôl bod ar-lein?
- Penderfynwch sut i gydbwyso gweithgareddau ar-lein gyda gweithgareddau‘r byd go iawn.
- Ceisiwch ddeall bod pobl ifanc yn gallu rheoli rhwydweithiau cymdeithasol ar-lein, ond rhowch gefnogaeth iddyn nhw gyda hyn.
- Gofynnwch i’ch plentyn beth mae’n hoffi ynglyn â bod ar lein a beth nad yw’n hoffi.
- Dylech gynnal sgyrsiau rheolaidd gyda’ch plentyn ynglyn â sut mae’n teimlo, beth mae’n ei wneud a chynigiwch eich cefnogaeth. Er mwyn cael
canllawiau ynglyn â sut i ddechrau sgwrs, gweler yr adnodd Childnet yma (Saesneg yn unig).
Gall rhieni a gofalwyr ddarganfod mwy gan Pew Internet Research, sy’n darparu’r wybodaeth ddiweddaraf ynglyn â llesiant mewn byd sy’n llawn technoleg (Saesneg yn unig).
Er mwyn cael gwybodaeth bellach ynglŷn â llesiant plant a phobl ifanc ar lein, ewch i dudalen Cadw'n ddiogel ar-lein.