Canllaw i’r teulu ar siarad am feithrin perthynas iach a’r rhyngrwyd
Cyflwyniad
Mae’r cyfryngau cymdeithasol a’r rhyngrwyd yn cynnig llawer o gyfleoedd i blant a phobl ifanc gyfathrebu a meithrin perthynas ar-lein. Drwy gadw cysylltiad rheolaidd â hen ffrindiau, neu wneud rhai newydd, mae gallu ymuno â chymunedau ar-lein yn helpu i roi ymdeimlad o berthyn. Maen nhw’n cynnig lle i fynegi barn, a chael syniadau, a chyfle i ddysgu sgiliau newydd hefyd.
Mae’r canllaw hwn yn edrych yn fanylach ar rai o’r problemau, y syniadau a’r risgiau sy’n gysylltiedig â pherthynas ar-lein. Mae hefyd yn cynnwys awgrymiadau ynglŷn â sut i siarad gyda’ch plentyn ynglŷn â datblygu a chynnal perthynas iach.
Beth yw perthynas ar-lein sydd ddim yn iach?
Fel unrhyw berthynas mewn bywyd go iawn, dylai perthynas ar-lein fod yn seiliedig ar nodweddion fel cyfeillgarwch, caredigrwydd, parch, ymddiriedaeth, cefnogaeth, teyrngarwch, cydraddoldeb, empathi, cyfaddawd ac ystyriaeth o deimladau pobl eraill.
Mae nifer o arwyddion sy’n gallu awgrymu nad yw perthynas ar-lein yn un iach ac maen nhw’n gallu amrywio yn ôl y sefyllfa. Mae’r arwyddion yn gallu cynnwys pan fydd rhywun yn angharedig, ddim yn malio, yn amharchus, yn amheus neu’n ddifater. Mae dicter, hwyliau cyfnewidiol yn aml, dweud celwydd, bygwth a bod eisiau rheoli, ynghyd ag ymddygiad anodd i’w ragweld sy’n achosi gofid, hefyd yn arwyddion rhybudd cyffredin. Mae blacmelio a gorfodi hefyd yn arwyddion clir nad yw’r berthynas yn un iach.
Beth yw risgiau perthynas ar-lein?
Er bod nifer o fanteision i gyfathrebu ar-lein, mae rhai risgiau penodol oherwydd cyd‑destun ar-lein y berthynas. Er enghraifft, gallai’r risgiau gynnwys bod dan bwysau gan gyfoedion neu fwlio drwy’r cyfryngau cymdeithasol, a hynny’n aml gan bobl y mae’r person yn eu hadnabod. Neu gymryd mwy o risgiau neu ymddwyn yn amhriodol oherwydd bod hynny’n haws pan ydych chi’n ‘ddienw’ ar-lein. Mae’n ddefnyddiol trafod problemau posibl perthynas ar-lein a’r hyn maen nhw neu eu ffrindiau wedi’i brofi.
Dyma rai syniadau i helpu i ddechrau’r drafodaeth.
- Defnyddio byrfoddau, slang ac emojis. Ydy’r rhain byth yn achosi i wybodaeth gael ei chamgyfleu a’i chamddeall?
- Gall ymddiried mewn ffrind ar-lein fod yn beryglus. Ydy hi’n bosibl i rywun fod yn cymryd arnyn nhw i fod yn rhywun arall ar-lein?
- Gall pwysau gan ffrind neu grŵp ar-lein achosi i rywun gymryd mwy o risg neu i bobl eraill fanteisio ar y ffaith ei fod yn agored i niwed – er enghraifft, rhywun yn cael ei dynnu i mewn i derfysgaeth ac eithafiaeth, neu’n cael ei annog i anfon lluniau anweddus o’i hun. Beth allwch chi ei wneud os ydych chi’n dioddef pwysau ar-lein?
- Gall canolbwyntio gormod ar berthynas ar-lein arwain at esgeuluso perthynas all-lein yn y ‘byd go iawn’.
- Gallai rhannu gwybodaeth bersonol neu wybodaeth sy’n datgelu manylion adnabod gynyddu’r risg o feithrin perthynas amhriodol ar-lein a cham-drin neu seiberdroseddu. Pa fanylion ddylech chi byth eu datgelu ar‑lein?
- Gall gwneud cymariaethau â’r ffordd y mae pobl eraill yn cyflwyno eu hunain ar-lein, nad yw o reidrwydd yn ddidwyll, neu sy’n cynnwys gormodiaith, gael effaith niweidiol ar les. Ydy proffiliau ar gyfryngau cymdeithasol yn adlewyrchiad cywir o fywydau go iawn pobl?
Sut i drafod a chwalu camsyniadau ynglŷn â pherthynas ar-lein
Gan nad yw’r rhan fwyaf o blant a phobl ifanc wedi cael llawer o brofiad o berthynas yn y byd go iawn eto, maen nhw’n agored iawn i niwed os ydyn nhw’n canfod eu hunain mewn perthynas ar-lein amhriodol. Bydd siarad gyda nhw ynglŷn â beth sy’n wir (a beth sydd ddim yn wir) o ran beth maen nhw’n ei weld a’i ddarllen ar-lein yn helpu i dawelu eu meddyliau a datblygu sgiliau meddwl beirniadol.
Mae’r problemau sy’n aml yn achosi’r pryder mwyaf – ac atebion y gallwch eu rhoi er mwyn chwalu’r camsyniadau hyn – yn cynnwys y canlynol.
- Rydych chi’n gweld bod rhywun wedi darllen eich neges, ond rydych yn pryderu gan nad yw wedi ateb. Peidiwch â phoeni os nad yw rhywun wedi ymateb ar unwaith – efallai fod y person yn brysur ar y pryd, neu’n aros am amser i roi mwy o sylw i’ch neges.
- Mae gan bobl eraill well cyfeillgarwch na chi os ydyn nhw bob amser yn hoffi postiadau ei gilydd ac yn gwneud sylwadau arnyn nhw. Nid yw’r ffaith fod dim llawer o bobl yn hoffi eich postiadau, neu’n gwneud sylwadau, na’r ffaith fod gennych ddim llawer o ddilynwyr yn golygu nad ydych yn cael eich gwerthfawrogi neu nad oes gennych lawer o ffrindiau – mae cyfeillgarwch yn bodoli y tu allan i’r rhyngrwyd hefyd.
- Pan fyddwch mewn perthynas newydd, rhaid i chi ddiweddaru eich statws ar-lein i wneud eich cariad yn hapus. Does dim angen i chi ddiweddaru eich statws ar-lein i blesio neb.
- Os ydych chi’n gorffen gyda rhywun, gallwch ddweud unrhyw beth amdano ef neu hi ar-lein. Dydy hyn ddim yn wir – mae’n dal yn ofynnol i chi ddangos parch os ydych yn siarad gyda’r person ar-lein, neu’n siarad am y person ar-lein.
- Mae’n iawn i chi dynnu sgrinlun o sgwrs breifat, fideo neu lun, a’i rannu gyda phobl eraill, os ydych yn ffrindiau da ac os yw’r person arall wedi rhoi caniatâd. Ond, hyd yn oed os ydych wedi gofyn am ganiatâd, mae’n dal yn bosibl bod eich ffrind yn teimlo’n anghyfforddus ynglŷn â hyn a gallai olygu bod y cynnwys yn cael ei rannu ymhellach eto â phobl nad ydych chi efallai’n ymddiried ynddyn nhw.
- Os bydd rhywun yn flin oherwydd eich bod chi’n gwrthod gwneud rhywbeth mae ef neu hi yn gofyn i chi ei wneud, bydd yn rhaid i chi ei wneud yn y pen draw i’w wneud ef neu hi yn hapus. Na, does dim rhaid i chi – bydd ffrind da yn parchu eich penderfyniadau ac ni fydd yn rhoi pwysau arnoch i wneud rhywbeth sy’n gwneud i chi deimlo’n anghyfforddus neu’n bryderus.
Sut alla i siarad gyda fy mhlentyn am ei berthynas ar-lein?
Hyd yn oed os nad ydych yn siŵr sut i drafod y pwnc hwn gyda’ch plentyn, neu os nad ydych yn meddwl ei fod yn broblem, mae’n bwysig eich bod yn cael y sgwrs.
Efallai y bydd yr awgrymiadau hyn o ddefnydd wrth ddechrau sgwrs.
- Parch: helpwch eich plentyn i ddeall bod parch yn rhan bwysig o berthynas iach, ac nad yw’n dod i ben pan fo’r berthynas yn dod i ben. Boed yn gyfeillgarwch neu’n garwriaeth, beth yw perthynas ar-lein gadarnhaol sy’n seiliedig ar barch? Ac os bydd y berthynas honno’n dod i ben, oes gennych chi hawl i ddweud a gwneud beth bynnag a fynnwch mewn cysylltiad â’r person arall?
- Bwlio ar-lein: peidiwch byth â dial; ceisiwch flocio/distewi ar-lein os yw’n bosibl. Cadwch dystiolaeth drwy dynnu sgrinlun o’r negeseuon/delweddau/fideos bygythiol a niweidiol, a dywedwch wrth oedolyn cyfrifol a all gael cymorth i helpu i ddatrys y broblem. Ond cofiwch y bydd rhai platfformau yn dweud wrth y sawl sydd wedi anfon y neges ‘fwlio’ bod rhywun wedi tynnu sgrinlun o’i negeseuon.
- Cydsyniad: mae cydsyniad yn bwysig mewn perthynas â phobl eraill a gyda chwmnïau a sefydliadau. Mae’n bwysig eich bod chi’n wastad yn gwneud yn siŵr bod gennych chi gydsyniad rhywun cyn gwneud rhywbeth sy’n effeithio arnyn nhw. Os ydych mewn perthynas lle mae disgwyl i chi wneud rhywbeth mae rhywun arall yn gofyn i chi ei wneud, ydy hynny’n gwneud i chi deimlo’n anghyfforddus? Gall dysgu’r geiriau a’r ymadroddion i ddangos a ydych wedi derbyn neu wrthod rhoi caniatâd eich helpu i reoli sefyllfaoedd anodd ar-lein.
- Cydberthnasau eraill: sut ydych chi’n teimlo pan fyddwch chi’n gweld ffrindiau eraill yn rhannu manylion am eu perthynas nhw ar-lein? Sut fyddech chi’n gallu dweud bod eich ffrind mewn perthynas sydd ddim yn un iach (a chynnig cefnogaeth)?
Sut alla i helpu fy mhlentyn i ddatblygu perthynas iach ar-lein?
Mae gan yr elusen Mind (Saesneg yn unig) gyngor da ynglŷn â chynnal perthynas ar-lein iach – a beth y gallwch ei ddweud er mwyn helpu eich plentyn, fel:
- Ystyriwch effaith bosibl eich geiriau ar-lein a cheisiwch sylweddoli y gall camddealltwriaeth ddigwydd.
- Parchwch farn a safbwyntiau pobl eraill, hyd yn oed os nad ydych yn eu rhannu.
- Meddyliwch am fwriadau pobl eraill – nid yw pawb yn chwilio am gymorth neu gyfeillgarwch, ac mae rhai pobl yn ceisio manteisio ar bobl eraill.
- Cymerwch egwyl – os yw perthynas yn gwneud i chi deimlo’n waeth yn hytrach na gwell, efallai y byddai’n syniad i chi gymryd cam yn ôl.
- Gall gwasanaethau ar-lein ganiatáu i chi flocio neu atal rhywun rhag cysylltu â chi, neu ei dynnu oddi ar eich rhestr ffrindiau. Mae gwasanaeth dwyieithog Riportio Cynnwys Niweidiol yn cynnig cyngor a chefnogaeth.
- Dysgwch am y gwasanaethau cymorth sydd ar gael, er enghraifft Meic, Childline (Saesneg yn unig) a’r NSPCC (Saesneg yn unig). A chofiwch, nid yw cam-drin yn rhywbeth sy’n digwydd ar-lein yn unig. Mae’n bwysig bod yn ymwybodol bod y rhan fwyaf o’r achosion o gam-drin plant yn rhywiol yn digwydd mewn bywyd go iawn – yng nghyd-destun y teulu.
Rhagor o gymorth a chefnogaeth
I gael rhagor o gymorth, cyngor a chefnogaeth, ac i roi gwybod am gynnwys a phryderon, ewch i’r Gwasanaethau cymorth ar Cadw’n ddiogel ar-lein.
Mae mwy o gymorth a chanllawiau ar gadernid digidol ar gael ar wefannau’r sefydliadau a’r partneriaid dibynadwy canlynol.