English

Mae Diwrnod Defnyddio'r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel yn cael ei ddathlu’n fyd-eang ym mis Chwefror bob blwyddyn, i hyrwyddo defnydd diogel a chadarnhaol o dechnoleg ddigidol gan blant a phobl ifanc ac i ysbrydoli trafodaeth yn genedlaethol.

Yn y Deyrnas Unedig, caiff y diwrnod ei gydlynu gan UK Safer Internet Centre (Saesneg yn unig) ac yn ystod y dathliad mae cannoedd o sefydliadau yn uno i godi ymwybyddiaeth o faterion diogelwch ar-lein a chynnal digwyddiadau a gweithgareddau ledled y Deyrnas Unedig. Mae’r diwrnod yn rhoi’r cyfle i ni edrych ar y rôl sydd gan bob un ohonom i ddod at ein gilydd i greu rhyngrwyd gwell.

Mae gan ysgolion rôl bwysig i’w chwarae er mwyn ceisio ennyn diddordeb am Ddiwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel yn eu cymunedau; fel ymarferwyr addysg, rydyn ni’n gwybod bod cefnogi dysgwyr, hyd eithaf eich gallu, i wneud dewisiadau doeth yn eu bywydau ar-lein eisoes yn un o’ch blaenoriaethau pennaf.

Diwrnod Defnyddio'r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel: Dydd Mawrth 11 Chwefror 2025

Thema'r DU eleni yw 'Rhy dda i fod yn wir? Diogelu eich hun ac eraill rhag sgamiau ar-lein'. Mae hyn yn cynnig cyfle gwych i ganolbwyntio ar sgamiau ar-lein ac, i bobl ifanc, sut i ddiogelu eu hunain ac eraill, yn ogystal â pha gymorth sydd ar gael iddynt.

Digwyddiad Cynllunio Diwrnod Defnyddio'r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel 

Ddydd Iau 14 Tachwedd, lansiwyd ein cynlluniau ar gyfer Diwrnod Defnyddio'r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel gyda digwyddiad rhithwir ddaeth â rhanddeiliaid y byd addysg o bob rhan o Gymru at ei gilydd i drafod y cynlluniau cydweithredol ar gyfer Diwrnod Defnyddio'r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel 2025.

Rhag ofn eich bod wedi ei golli

Gallwch wylio recordiad o'r digwyddiad ar wefan Canolfan Rhyngrwyd Mwy Diogel y DU (Saesneg yn unig), ac mae'r sleidiau o'r digwyddiad ar gael ar Hwb.

Sleidiau digwyddiad lansio Diwrnod Defnyddio'r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel

Cymryd rhan

Rydym yn cynnig amrywiaeth o weithgareddau a digwyddiadau i ysgolion gymryd rhan ynddynt.

Crewyr cynnwys ymgyrch Cadw'n ddiogel ar-lein

Yn gynharach eleni fe wnaethom wahodd dysgwyr i gyfrannu cynnwys i'r ardal Cadw'n ddiogel ar-lein ar Hwb, gan ganolbwyntio ar thema Diwrnod Defnyddio'r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel eleni, sef sgamiau ar-lein. Rydym bellach yn gweithio gyda'r ysgolion sy'n cymryd rhan i sicrhau bod y cynnwys newydd yn barod i'w lansio ar gyfer Diwrnod Defnyddio'r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel 2025.

Gwasanaeth

Ar gyfer Diwrnod Defnyddio'r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel 2025 rydym wedi partneru gydag e-sgol i ddatblygu gwasanaethau pwrpasol i'ch helpu i gychwyn sgyrsiau am sgamiau ar-lein a hyrwyddo arferion mwy diogel wrth ddefnyddio’r rhyngrwyd. Byddant hefyd yn hyrwyddo adnoddau a chanllawiau gwerthfawr i sicrhau profiad ar-lein mwy diogel i bawb yng Nghymru.

I gofrestru eich ysgol neu ddosbarth ar gyfer gwasanaeth Diwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel llenwch y ffurflen gofrestru fer, gan sicrhau eich bod yn cofrestru gyda'ch cyfeiriad e-bost Hwb ac yn dewis eich iaith.

Pecynnau Addysg Diwrnod Defnyddio'r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel

Buom yn gweithio gyda Chanolfan Rhyngrwyd Mwy Diogel y DU eto eleni i gyhoeddi pecynnau addysg dwyieithog.

Mae'r pecynnau hyn yn llawn gweithgareddau hwyliog ar gyfer pob oedran a gallant eich helpu i archwilio gyda'ch dysgwyr:

  • Beth sy'n dylanwadu ac yn newid y ffordd y mae plant yn meddwl, yn teimlo ac yn ymddwyn ar-lein ac oddi ar lein?
  • Sut allwn ni ddefnyddio'r rhyngrwyd i newid pethau?
  • Beth ydyn ni'n ei feddwl o dechnoleg newydd a thechnoleg sy’n datblygu?

Rhannwch eich gweithgareddau Diwrnod Defnyddio'r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel

Mae cyfle i bawb drwy Gymru, gan gynnwys ysgolion, grwpiau ieuenctid a theuluoedd, gymryd rhan yn nathliadau Diwrnod Defnyddio'r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel ddydd Mawrth 11 Chwefror. Gwahoddir ysgolion i rannu eu gweithgareddau diogelwch ar-lein trwy uwchlwytho i'n Microsoft Sway.

Bydd y cyfraniadau yn cael eu cymedroli ac yna'n cael eu cyhoeddi ar Hwb.

I gyfrannu at y Sway cwblhewch ein ffurflen uwchlwytho.


Ffyrdd eraill y gallwch chi ddangos cefnogaeth i'r ymgyrch Diwrnod Defnyddio'r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel

Cefnogwch yr ymgyrch ar y cyfryngau cymdeithasol

I weld beth mae sefydliadau eraill yng Nghymru yn ei wneud ar gyfer Diwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel, chwiliwch am #SIDCymru ar y cyfryngau cymdeithasol. 

Gallwch hefyd ymuno â’r sgwrs fyd-eang drwy ddefnyddio #DiwrnodDefnyddiorRhyngrwydynFwyDiogel #SaferInternetDay

 

Cofrestru fel cefnogwr

Dangoswch gefnogaeth ac ymrwymiad eich sefydliad tuag at ryngrwyd well drwy gofrestru fel cefnogwr Diwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel.

 

Mae’r dudalen hon yn cael ei diweddaru'n rheolaidd gyda newyddion Diwrnod Defnyddio'r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel, felly cadwch olwg.


Ymgyrchoedd blaenorol

  • Dyddiad: Dydd Mawrth 6 Chwefror 2024

    Thema: Ysbrydoli newid? Gwneud gwahaniaeth, rheoli dylanwad a llywio newid ar-lein

    Gweithgareddau: Ar gyfer Diwrnod Defnyddio'r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel 2024 fe wnaethom ddatblygu gwasanaeth pwrpasol i’ch helpu i gychwyn sgyrsiau am ddefnydd diogel, cadarnhaol a chyfrifol o dechnoleg yn eich ysgol. Drwy gydol wythnos Diwrnod Defnyddio'r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel, cynhaliwyd cyfres o ddigwyddiadau rhithwir rhyngweithiol i ysgolion gyda'n partneriaid arbenigol, gan gynnwys Estyn, Childnet, SWGfL, Heddlu Gogledd Cymru ac Adobe.

  • Dyddiad: Dydd Mawrth 7 Chwefror 2023

    Thema: Gwneud lle i sgyrsiau am fywyd ar-lein

    Gweithgareddau: Cynhaliodd Llywodraeth Cymru, mewn cydweithrediad ag Undeb Rygbi Cymru, gystadleuaeth ffilm a oedd yn gwahodd plant a phobl ifanc i greu ffilm fer sy’n cyflwyno eu safbwyntiau, eu barn a’u storïau ynghylch defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol, gemau neu apiau. Roeddem am glywed ganddyn nhw yn eu geiriau ei hunain am fanteision yr apiau hyn a’r pryderon sydd ganddynt wrth eu defnyddio. Cyhoeddwyd yr enillwyr mewn digwyddiad i ddathlu pawb a gyrhaeddodd y rownd derfynol yn Stadiwm Principality ar Ddiwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel:

     

  • Dyddiad: Dydd Mawrth 8 Chwefror 2022

    Thema: Hwyl a sbri i bawb? Archwilio parch a pherthynas ar-lein

    Gweithgareddau: Cynhaliodd Llywodraeth Cymru, mewn partneriaeth â Bwrdd Dosbarthu Ffilmiau Prydain (BBFC), gystadleuaeth ffilm gyda’r nod o annog plant a phobl ifanc i fynegi eu creadigrwydd a rhannu eu dealltwriaeth o ddangos parch ar-lein. Cyhoeddwyd enillwyr y gystadleuaeth gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles AS, ar Ddiwrnod Defnyddio'r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel:

     

  • Dyddiad: Dydd Mawrth 9 Chwefror 2021

    Thema: Rhyngrwyd yr ydym yn ymddiried ynddo: archwilio dibynadwyedd yn y byd ar-lein

    Gweithgareddau: Gweithiodd Llywodraeth Cymru a Chanolfan Rhyngrwyd Mwy Diogel y DU ar y cyd i gynnal cystadleuaeth ‘Straeon digidol: Mynd i'r afael â Chamwybodaeth’. Roedd y gystadleuaeth hon yn galw ar blant a phobl ifanc arfer eu hawen greadigol drwy greu ffilm, ysgrifennu stori neu recordio darn sain i egluro beth yw camwybodaeth, pam y gallai achosi problemau, sut y gallwn adnabod camwybodaeth a beth y gallwn ei wneud i amddiffyn ein hunain a sicrhau nad yw'n lledaenu. Cyhoeddwyd enwau enillwyr y gystadleuaeth fel rhan o ddigwyddiad rhithwir ar Ddiwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel.

     

  • Dyddiad: 11 Chwefror 2020

    Thema: Rhyngrwyd gwell gyda'n gilydd

    Gweithgareddau: Nod cystadleuaeth Diwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel 2020 yng Nghymru oedd herio plant a phobl ifanc i greu hysbyseb ar ffurf datganiad cyhoeddus wedi'i hanelu at eu teuluoedd a'u ffrindiau ar y thema 'Gwella'r we: sut i ofalu amdanoch eich hun ac eraill'. Kirsty Williams, Y Gweinidog Addysg, gyhoeddodd enwau enillwyr y gystadleuaeth fel rhan o ddigwyddiad dangos y ffilmiau a gyrhaeddodd y rhestr fer.

     

  • Dyddiad: 5 Chwefror 2019

    Thema: Ein rhyngrwyd, ein dewis: Deall cydsyniad mewn byd digidol

    Gweithgareddau: Bu Diwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel 2019 yn canolbwyntio ar beth mae cydsynio yn ei olygu mewn cyd-destun ar-lein. Gwnaeth Llywodraeth Cymru, ar y cyd â Chanolfan Rhyngrwyd Mwy Diogel y DU, gyhoeddi pecynnau addysg ar Hwb yn cynnwys gweithgareddau i ysgolion yng Nghymru eu defnyddio. Roedd y gweithgareddau hyn yn annog pobl ifanc i feddwl am sut maent yn gofyn am gydsyniad ar-lein, sut maent yn ei rhoi a sut maent yn ei dderbyn.

     

  • Dyddiad: 6 Chwefror 2018

    Thema: Creu, Cysylltu a Rhannu Parch

    Gweithgareddau: Cynhaliodd Llywodraeth Cymru ddigwyddiad yn adeilad y Pierhead, Caerdydd, i ddathlu Diwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel, gyda Kirsty Williams AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, yn cyhoeddi enwau enillwyr cystadleuaeth Diwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel 2018. Fel rhan o'r gystadleuaeth, gofynnwyd i blant a phobl ifanc ddisgrifio sut maent yn teimlo pan fyddant ar-lein gan ddefnyddio geiriau, ffilm, celf neu gerddoriaeth.

     

  • Dyddiad: 7 Chwefror 2017

    Thema: Ewch ati i newid pethau: dewch ynghyd er mwyn cael rhyngrwyd gwell

    Gweithgareddau: Aeth Ysgol Wirfoddol Eglwysig y Model ac Ysgol Portfield ati i greu arddangosfa ffotograffiaeth er mwyn dangos sut mae delweddau ar-lein yn effeithio ar eu bywydau fel rhan o brosiect ffotograffiaeth ‘Pwer Delweddau’.

    Cynhaliwyd digwyddiad Diwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel yn y Senedd, a bu mwy na 150 o blant, pobl ifanc ac oedolion o bob cwr o Gymru yn bresennol. Gwnaeth Kirsty Williams, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, lansio'r Parth Diogelwch Ar-lein ar Hwb yn ffurfiol, gan gyhoeddi enw enillydd cystadleuaeth cynllunio logo y Parth Diogelwch Ar-lein.

     

  • Dyddiad: 9 Chwefror 2016

    Thema: Chwarae eich rhan i gael rhyngrwyd gwell

    Gweithgareddau: Cynhaliwyd cystadleuaeth gan Ganolfan Rhyngrwyd Mwy Diogel y DU ar y cyd â Llywodraeth Cymru, yn gofyn i ysgolion Cymru gynllunio ap er mwyn helpu i wneud y rhyngrwyd yn le mwy dymunol.

    Ysgol Gynradd Parc Cornist ddaeth i'r brig gyda'r ap ‘Safe eExplorers’ sy'n cynnwys casgliad o wybodaeth, dolenni a chyngor am gadw'n ddiogel ar-lein. Bu Ysgol y Preseli hefyd yn fuddugol gyda'r ap My Username Generator. Nod yr ap hwn yw rhoi cyfle i blant ifanc (rhwng 5 a 11 oed) gynhyrchu enw defnyddiwr Cymraeg neu Saesneg sy'n hawdd ei gofio ac nad yw'n datgelu unrhyw wybodaeth sensitif amdanynt.

     

  • Dyddiad: 10 Chwefror 2015

    Thema: Beth am greu rhyngrwyd gwell gyda'n gilydd?

    Gweithgareddau: Aeth nifer o bobl ifanc ledled Cymru ati i rannu gwên drwy'r cyfryngau cymdeithasol mewn modd creadigol er mwyn hyrwyddo thema creu rhyngrwyd gwell.

    Cynhaliwyd digwyddiadau Diwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel ledled Cymru, gan gynnwys digwyddiad yn Ysgol Gynradd yr Holl Saint yr Eglwys yng Nghymru lle roedd Julie James, y Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg, yn bresennol, yn ogystal â digwyddiad yn Ysgol Gyfun Bro Morgannwg yng nghwmni Dirprwy Gomisiynydd Plant Cymru.