English

Nod Prosiect DRAGON-S (Developing Resistance Against Grooming Online – Spot and Shield) yw mynd i'r afael â'r heriau a wynebir gan asiantaethau atal ac erlyn mewn perthynas ag iaith, swm a soffistigeiddrwydd y cyfathrebu a ddefnyddir gan y rhai sy'n meithrin perthynas amhriodol ar-lein.

Arweinir y prosiect arloesol hwn gan yr Athro Nuria Lorenzo-Dus ac mae'n dwyn ynghyd arbenigwyr rhyngwladol mewn ieithyddiaeth, deallusrwydd artiffisial (AI), troseddeg, polisi cyhoeddus a seicoleg i ddatblygu dau offeryn rhyng-gysylltiedig, moesegol o'r radd flaenaf ar gyfer gweithwyr proffesiynol sy'n ceisio canfod ac atal ymddygiad o’r fath ar-lein – Spotter a Shield. 

Spotter

Bydd y teclyn Spotter yn cyfuno ieithyddiaeth a deallusrwydd artiffisial i alluogi timau fforensig yr heddlu i ganfod cynnwys sy’n meithrin perthynas rhywiol amhriodol ar-lein, gan dynnu sylw at dactegau iaith ystrywus y mae troseddwyr yn eu defnyddio: o wneud i blant deimlo'n ynysig yn emosiynol i gyfathrebu bwriad rhywiol iddynt yn glir. Bydd hyn yn helpu timau gorfodi’r gyfraith i ganfod ac asesu sgyrsiau sy’n meithrin perthynas rhywiol amhriodol ar-lein ac yn cynnig potensial sylweddol i gasglu tystiolaeth ac erlyn y troseddwyr.

Shield

Bydd y teclyn Shield yn darparu hyfforddiant wedi'i deilwra ar sail ymchwil ar gyfer gweithwyr proffesiynol diogelu plant i'w helpu i ddeall ymddygiad y rhai sy’n meithrin perthynas amhriodol ar-lein wrth gyfathrebu gyda'r plant. Mae'r gallu i adnabod y dangosyddion hyn yn cynyddu gallu a hyder gweithwyr proffesiynol i helpu plant a phobl ifanc sydd mewn perygl o ddioddef cam-drin a chamfanteisio rhywiol ar-lein, i adnabod yr arwyddion a'u harwain at gymorth a chefnogaeth briodol.

Ceir rhagor o wybodaeth am y Prosiect DRAGON-S ar Developing Resistance Against Grooming Online – Spot and Shield (DRAGON-S) - Prifysgol Abertawe

Mae'r Athro Lorenzo-Dus hefyd wedi ysgrifennu erthygl 'Barn yr arbenigwyr' a gomisiynwyd yn arbennig ar gyfer 'Cadw'n ddiogel ar-lein' ar Hwb.


Atal cam-drin plant yn rhywiol ar-lein - ein gwaith gyda Sefydliad Gwylio'r Rhyngrwyd (IWF)

Darllenwch yr erthygl hon i gael gwybod mwy gan Susie Hargreaves OBE, Prif Weithredwr Sefydliad Gwylio'r Rhyngrwyd (IWF) am ei rôl o ran gwneud y rhyngrwyd yn lle mwy diogel i blant ledled y byd a'r ymchwil y tu ôl i'w hymgyrchoedd codi ymwybyddiaeth.