English

Google yw’r peiriant chwilio a ddefnyddir fwyaf yn y byd a gall defnyddwyr deipio gair, mynegiad, ymadrodd, neu frawddeg mewn dros 100 o ieithoedd a derbyn canlyniadau ar unwaith ar ffurf testun, delweddau neu fideos.  YouTube yw’r ail beiriant chwilio mwyaf yn y byd, gyda thros 1 biliwn o ddefnyddwyr bob dydd yn gwylio biliwn awr o fideos.

Gyda ffyrdd cyfyngedig o reoli cynnwys, gall llwyfannau Google a YouTube fod yn her i rieni a gofalwyr oherwydd mae cannoedd o filoedd o fideos, delweddau a chynnwys arall a allai gael eu hystyried yn amhriodol ar gyfer plant neu bobl ifanc.

Mae’r erthygl hon yn esbonio pam y gallai fod yn ddefnyddiol i hidlo canlyniadau chwilio ar Google a YouTube a sut y gall rhieni a gofalwyr ddefnyddio gosodiadau diogelwch ar y ddau lwyfan hyn.


Mae ymholiad ar Google yn para llai na hanner eiliad, ond mae sawl cam arall cyn y darperir ateb terfynol. Mae’r fideo gan Google yn dangos yn union sut y mae chwilio ar Google yn gweithio.

Pan sylweddolodd Google bod canlyniadau chwiliad heb ei hidlo ar Google yn cynnwys deunydd nad yw bob amser yn briodol ar gyfer plant, yna aeth Google ati i ddatblygu SafeSearch fel y gallai plant ganfod dogfennau, delweddau a fideos yn ddiogel  o fewn cronfa ddata Google.


Prynwyd YouTube gan Google yn 2006 gyda’r syniad y byddai YouTube yn darparu canolbwynt marchnata wrth i fwy o wylwyr a hysbysebwyr ddewis y Rhyngrwyd yn hytrach na theledu. Mae'r cynnwys ar YouTube yn ymestyn o fideos, sioeau a chartwnau, i ragflas o ffilmiau, fideos addysgol, rhaglenni dogfennol a mwy.

Fodd bynnag, gallai chwiliad heb ei hidlo ar YouTube gynnwys deunydd sy’n amhriodol i blant a lluniodd Google Fodd Diogelwch YouTube am yr un rhesymau ag y lluniwyd Google SafeSearch ganddynt: i warchod plant rhag cynnwys amhriodol.


Mae Google SafeSearch yn osodiad a ddyluniwyd i hidlo canlyniadau chwilio fel y gallwch eithrio cynnwys amhriodol megis pornograffi neu noethni. Ewch i edrych ar 'Google Safety Center' ac ymgyfarwyddo ag elfennau sylfaenol diogelwch teulu. Mae'r daflen fer hon gan Heddlu Gogledd Cymru yn rhoi cyfarwyddiadau gam wrth gam ar gyfer cyfyngu ar ganlyniadau chwilio amhriodol a chynnwys amhriodol. Dylech hefyd fod yn ymwybodol efallai na fydd Google SafeSearch yn gweithio ar bob peiriant neu bob porwr.


Mae Modd Diogelwch YouTube yn osodiad a luniwyd i hidlo cynnwys aeddfed a/neu amhriodol, gan gynnwys deunydd aeddfed neu fideos sydd â chyfyngiadau oedran. Gallwch wylio’r fideo cam-wrth-gam hwn a ddarparwyd gan y Sefydliad Diogelwch Teulu Ar-lein i ddysgu sut i osod Modd Diogelwch a sut i roi gwybod am broblemau. Cynghorir rhieni neu ofalwyr plant iau i roi’r gosodiad hwn ar waith a darllen mwy o ganllawiau yng Nghanolfan Diogelwch YouTube.


Yn anffodus, nid yw SafeSearch na’r Modd Diogelwch yn ddibynadwy 100% a gall plant a phobl ifanc ddarganfod yn hawdd sut i analluogi SafeSearch neu’r Modd Diogelwch.  Rhaid i rieni barhau i warchod eu plant drwy gael sgyrsiau am ddiogelwch ar-lein.

Pan fyddant yn cael eu defnyddio’n gywir a chyfrifol, gall Google a YouTube ddarparu cyfoeth o gyfleoedd i blant ddysgu, cael eu diddanu, bod yn greadigol a chwarae.