English

Mae’r rhyngrwyd yn lle gwych ar gyfer sgwrsio a rhannu â phobl eraill. Mae hyn yn esbonio, efallai, pam bod ffurfiau gweledol – lluniau, fideos, ffrydiau byw, memes ac emojis – yn rhan fawr o’r ffordd rydym yn cyfathrebu erbyn hyn.

Gall rhannu delweddau fod yn hawdd, yn gyflym ac yn llawn hwyl. Ond, mae’n bwysig meddwl beth rydym yn dewis ei rannu, sut mae’n adlewyrchu arnom ni a sut gall effeithio ar ein cynulleidfa.

Mae plant a phobl ifanc yn defnyddio delweddau i ddatblygu eu henw da ar-lein mewn ffordd sydd, yn aml iawn, yn gadarnhaol ac yn dangos parch at eraill. Ond, gall yr hyn maen nhw’n ei weld a’i brofi ar-lein effeithio arnyn nhw mewn ffordd negyddol hefyd.

Mae’r canllaw hwn:

  • yn edrych ar rai o’r risgiau sy’n wynebu plant a phobl ifanc
  • yn darparu gwybodaeth i’ch helpu i gefnogi a diogelu eich dysgwyr
  • yn eich cefnogi i reoli datgeliadau a risgiau
  • yn codi ymwybyddiaeth ynghylch pwysigrwydd arferion a threfn dda ar ddiogelwch ar-lein
  • yn eich helpu i gyflawni eich dyletswyddau llywodraethu fel ‘ffrind beirniadol’.

Mae llawer o fuddion gan gynnwys:

  • grym llun mae delweddau’n ffordd fuddiol o gyfleu rhywbeth y gall fod yn anodd ei roi mewn geiriau, e.e. rhannu eich doniau, llefydd rydych wedi ymweld â nhw neu esbonio sgil newydd.
  • symleiddio rhywbeth cymhleth – yn aml iawn, gall delwedd wneud syniadau yn gliriach i bobl eraill eu deall, e.e. graffeg gwybodaeth
  • adloniant amrywiol – mae’r rhyngrwyd yn llawn pobl greadigol a dawnus sydd wrth eu bodd yn creu gwaith celf neu’n tynnu lluniau i’n gwneud ni i chwerthin neu feddwl
  • mynediad at gynulleidfa fyd-eang – mae rhwydweithiau cymdeithasol yn ein galluogi i rannu ein delweddau a’n negeseuon gyda miliynau o ddefnyddwyr ym mhob cwr o’r byd, yn ogystal â grwpiau llai o ffrindiau a theulu.

Pam mae pobl yn rhannu delweddau?

Dyma rai o’r rhesymau dros bostio delweddau ohonyn nhw eu hunain neu o bobl eraill ar-lein:

  • rhannu atgofion neu brofiadau
  • mynegi eu hunain
  • cael sylw (i gael pobl i’w ‘hoffi’ neu dilyn)
  • codi ymwybyddiaeth (o achos neu stori newyddion)
  • hysbysebu cynnyrch, gwasanaeth neu frand
  • rhoi hwb i’w hyder.

Mae rheswm bob amser pam mae pobl yn rhannu delweddau. Wrth gofio hyn, gall ein helpu i ddeall beth mae pobl eraill wedi’u rhannu. Gall fod yn fan cychwyn i esbonio pam mae plant a phobl ifanc yn dymuno rhannu delweddau o natur rywiol amlwg ar-lein hefyd.

Er bod eich rôl fel llywodraethwr yn golygu eich bod yn dod i gysylltiad â dysgwyr, efallai na fydd hyn yn digwydd yn rheolaidd. Dyma rai nodweddion cyffredin a welir ymysg dysgwyr. Gall dysgwyr:

  • Fabwysiadu technolegau newydd yn gyflym– yn aml iawn, ni fydd dyfeisiau, apiau a ffyrdd newydd o weithio gyda thechnoleg yn poeni dim arnyn nhw. Ond, mae’n bosib y bydden nhw’n defnyddio technoleg yn wahanol i’r ffordd y mae oedolion yn ei wneud neu mewn ffyrdd eraill sy’n wahanol i fwriad y person sydd wedi creu’r dechnoleg.
  • Dangos lefel uchel o allu technegol– mae rhai plant a phobl ifanc yn gallu deall nodweddion a phrosesau sy’n hynod dechnegol.

Ond mae dysgwyr yn datblygu ac:

  • efallai byddan nhw’n gwneud camgymeriadau
  • maen nhw’n chwilfrydig
  • maen nhw'n gweld bod tyfu a datblygu yn gallu effeithio ar eu hwyliau, eu ffordd o wneud penderfyniadau a chymryd risgiau
  • nid ydynt bob amser yn gwerthfawrogi canlyniadau tymor hir yr hyn maen nhw neu eraill yn ei wneud.

Er bod llawer o blant a phobl ifanc yn fedrus iawn wrth ddefnyddio technoleg – nid yw hyn yn golygu eu bod yn cael eu gwarchod yn well ar-lein.

Dyma’r prif beth i chi eu hystyried:

Gwybodaeth bersonol

Gall delwedd o ddysgwr mewn gwisg ysgol ddatgelu cyfeiriad eu hysgol, eu pryd a gwedd, eu rhyw, a’u hoedran yn fras. Gall y ddelwedd yn y cefndir roi cliwiau hefyd ynghylch llefydd y mae’r dysgwr yn ymweld â nhw.

Data lleoliad

Bydd delweddau a dynnir ar y rhan fwyaf o ddyfeisiau symudol yn cipio gwybodaeth, yn ddiofyn, ynghylch ‘ble a phryd’. Gall meddalwedd echdynnu'r data hwn a datgelu cyfesurynnau’r union leoliad.

Cyswllt gan eraill

Mae postio delwedd yn annog pobl eraill i roi adborth – ‘hoffi’, ‘rhannu’ neu ‘sylw’. Efallai y bydd rhai delweddau’n cael eu postio i brocio ymateb neu heb feddwl am y canlyniadau posib. Mae modd rhannu delweddau gyda grwp bach o ffrindiau y gellir ymddiried ynddyn nhw ar-lein neu’n gyhoeddus, a bydd hyn o bosib yn denu sylwadau a chyswllt diangen gan bobl ddieithr.

I le mae’r ddelwedd yn mynd ac am ba hyd?

Ar ôl rhannu delwedd, mae’n hawdd i bobl eraill ei chopïo a’i hail-rannu. Mae hyn yn ei gwneud yn anodd iawn i dynnu delwedd oddi ar y rhyngrwyd am byth, gan fod y cyfle i ddefnyddiwr arall ail-bostio'r ddelwedd wastad yno.

Enw da ar-lein

Gall defnyddwyr eraill weld: ymddygiad y dysgwyr, sylwadau mae dysgwyr yn eu gwneud am ddelweddau eraill ar y cyfryngau cymdeithasol. Mae’n bosib y byddan nhw’n gweld y sylwadau hyn fel rhai cadarnhaol neu negyddol yn dibynnu ar y ddelwedd, y cyd-destun a’r sylw.

Camddeall negeseuon

Mae modd i bobl eraill gamddeall neu herio delweddau ar-lein. Efallai na fydd pobl eraill yn gwerthfawrogi delwedd neu meme sy’n cael ei ystyried yn ‘ddoniol’ gan y person sydd wedi'i greu neu ei rannu.

Effaith golygu

Mae’n hawdd iawn tocio neu addasu delweddau cyn eu rhannu – gall y fersiwn derfynol ddangos (a golygu) rhywbeth eithaf gwahanol i’r fersiwn wreiddiol. Gall hyn awgrymu digwyddiad na wnaeth ddigwydd go iawn, neu gyfleu rhywbeth sy’n amhosib neu’n sarhaus.

Rhannu delweddau noeth (‘secstio’)

Mae hyn yn golygu creu a rhannu delweddau neu fideos ohonoch chi’ch hun neu eraill yn noeth neu’n rhannol noeth. Mae goblygiadau cyfreithiol o ran hyn i ddysgwyr ac mae’n fater difrifol sy’n ymwneud â diogelwch. Mae rhagor o wybodaeth am rannu delweddau noeth yn ddiweddarach yn y canllaw hwn.

Cefnogi a diogelu dysgwyr

Dyma rai cwestiynau i’w hystyried gyda thîm arwain eich ysgol/coleg.

  • Oes gan eich ysgol/coleg bolisïau defnydd derbyniol a pholisïau ar ddiogelwch ar-lein?
  • Oes polisïau ar gyfer casglu a defnyddio delweddau dysgwyr?
  • Sut rydych chi’n asesu eu bod yn glir a bod pob dysgwr a phob aelod staff yn eu deall a’u parchu?

Ffordd wych o werthuso ymarfer a darpariaeth diogelwch ar-lein eich ysgol yw cofrestru ar gyfer 360 degree Safe Cymru ar ardal Cadw’n ddiogel ar-lein o wefan Hwb.

Cefnogi a diogelu eich lleoliad

  • Pa ddulliau sydd ar waith i reoli ac ymateb i faterion yn ymwneud â diogelwch ar-lein?
  • Ydy'r gweithdrefnau a’r sianeli adrodd yn gadarn, yn briodol ac yn gyson?
  • Oes polisïau monitro a hidlo priodol ar waith i sicrhau bod dysgwyr a staff yn cael eu gwarchod wrth ddefnyddio gwasanaethau a thechnoleg ysgol?

Dyma gyngor ar Safonau a argymhellir ar gyfer hidlo’r we yn ysgolion Cymru. Mae cyngor pellach ar fonitro a hidlo ar gael ar safle Canolfan Rhyngrwyd Mwy Diogel y DU (Saesneg yn unig).

Cefnogi a diogelu staff

  • Ydy staff wedi cael hyfforddiant ynghylch ymdrin â materion ar-lein sy’n cynnwys rhannu delweddau?
  • Ydy uwch berson dynodedig yr ysgol neu coleg wedi cael hyfforddiant ychwanegol, ee a yw wedi cwblhau modiwl hyfforddi ar-lein Ymateb i achosion o rannu delweddau noeth a hanner noeth?
  • Oes cynlluniau wrth gefn a chynlluniau olyniaeth ar waith os nad yw’r uwch berson dynodedig ar y safle neu fod y person hwnnw wedi symud ymlaen?

Addysg

  • Oes rhaglen addysg wedi'i chynllunio ar ddiogelwch ar-lein sy’n rhoi sylw i’r risgiau wrth rannu delweddau? Ydy’r rhaglen hon yn datblygu ar ei hyd wrth i’r dysgwyr fynd yn eu blaenau o flwyddyn i flwyddyn yn yr ysgol?
  • Oes darpariaeth ar gael i sicrhau bod plant sydd fwy agored i niwed yn gallu cael mynediad at y rhaglen ddysgu hon?
  • Pa gyfleoedd sydd ar gael i ehangu'r rhaglen ddysgu hon i gymuned yr ysgol e.e. rhieni neu gofalwyr, gwirfoddolwyr?

Mae adnoddau ar gael ar gyfer ysgolion i ddatblygu darpariaeth addysg gytbwys ac eang ar ddiogelwch ar-lein ar ardal Cadw’n ddiogel ar-lein o wefan Hwb.

Mae’n anghyfreithlon creu neu rannu delwedd neu fideo o blentyn o dan 18 oed sy’n noeth, hanner noeth, yn anweddus neu o natur rywiol amlwg. Ystyrir pob achos yn ymwneud â phlant o dan 18 oed yn unig yn unigol, ac ymdrinnir â rhai achosion mewn cyd-destun diogelu a/neu droseddol.

Gall yr adnoddau canlynol ysgogi sgyrsiau pwysig â dysgwyr am y mater sensitif hwn, gan sicrhau eu bod yn ymwybodol o’r risgiau a’u bod yn gwybod ble i gael cymorth os byddant wedi colli rheolaeth ar ddelwedd.

‘Just Send It’ gan Childnet – stori am yr effaith y gall rhannu delweddau noeth ei chael ar les pobl ifanc a’u perthynas â phobl eraill.

‘I Saw Your Willy’ gan yr NSPCC – enghraifft o sut gall plant iau greu’r delweddau hyn wrth fod yn chwilfrydig.

‘Fe fuost ti’n noeth ar-lein, felly…’ gan SWGfL – cymorth a chyngor i bobl ifanc sy’n eu cael eu hunain mewn sefyllfa lle maen nhw neu ffrind iddynt wedi rhoi delwedd neu fideo noeth ar-lein ac wedi colli rheolaeth ar bwy sy’n gallu ei weld.

Anfon lun ata i? gan CEOP Education – yn cynnwys cyfres o dair sesiwn i helpu pobl ifanc i drafod materion sy’n ymwneud â rhannu delweddau noeth, a deall beth yw perthynas sy’n iach a pherthynas nad yw’n iach.

Problemau a phryderon ar-lein: rhannu delweddau noeth – cyngor a grëwyd yn benodol ar gyfer plant a phobl ifanc i’w helpu i ddeall y gyfraith, beth sy’n gallu mynd o’i le a ble i droi am gymorth.

Pam mae hyn yn digwydd?

Dyma rai o’r rhesymau pam y gallai dysgwr dynnu lluniau a’u rhannu:

  • Pwysau neu her gan gyfoediongyda ffrindiau neu bobl eraill ar-lein yn herio dysgwr i dynnu a rhannu llun.
  • Pwysau gan bartner – gan gariad a all anfon llun a disgwyl un yn ôl wedyn.
  • Chwilfrydeddmae dysgwyr yn aml yn chwilfrydig am gyrff a pherthynas rywiol – ac mae creu neu rhannu delweddau yn ffordd o archwilio a chael atebion i’w cwestiynau.
  • Naïfrwyddweithiau, nid yw dysgwyr iau yn ymwybodol o’r risgiau a’r canlyniadau wrth dynnu lluniau o’r cyrff a’u rhannu.

Canlyniadau posib

  • Y gyfraithrhaid i ddysgwyr fod yn ymwybodol o'r gyfraith ynghylch creu a rhannu'r delweddau hyn.
  • Trallod emosiynol neu seicolegolunwaith y bydd delwedd wedi'i rhannu, efallai y bydd dysgwr yn pryderu neu’n gofidio am hynny.
  • Drwg i’ch enw daefallai y bydd pobl yn siarad am y ddelwedd ac yn meddwl am y dysgwr mewn ffordd wahanol. Gall hyn effeithio hefyd ar eu perthynas gyda ffrindiau a phartneriaid.
  • Ile bydd y ddelwedd yn mynd neu pwy fydd yn ei gweld mae’n anodd gwybod pwy sydd gan gopi o’r ddelwedd a pham ei bod yn eu meddiant. Gallai hyn achosi poen meddwl mawr i’r dysgwr.
  • Camddefnyddio neu cam-fanteisiounwaith y bydd y ddelwedd ym meddiant rhywun, efallai y byddan nhw’n ceisio blacmelio neu gam-fanteisio ar y dysgwr i gymryd rhan mewn rhagor o weithgarwch sy’n peri risg, a hyd yn oed yn mynnu cael arian ganddo.

Rhannu delweddau: rhestr wirio

Ydy gweithdrefnau diogelu eich ysgolion yn arwain at broses effeithiol o logio a chofnodi digwyddiadau yn ymwneud â diogelwch ar-lein?

Ydy polisi diogelu eich ysgol yn ymdrin yn ddigonol â materion yn ymwneud â rhannu delweddau noeth ac a yw Rhannu delweddau noeth a hanner noeth: Ymateb i ddigwyddiadau a diogelu plant a phobl ifanc yn cael ei ddefnyddio i helpu i ddatblygu polisïau a gweithdrefnau?

Ydy’r uwch berson dynodedig yn teimlo ei fod wedi cael digon o hyfforddiant i reoli’r digwyddiadau hyn?

Pa gysylltiadau sydd gan yr ysgol â chefnogaeth o’r tu allan gan yr heddlu/gwasanaethau cymdeithasol a sefydliadau eraill sydd yno i helpu i ddiogelu dysgwyr?

Ydy'r Corff Llywodraethu yn cael gwybod am effaith digwyddiadau sy’n ymwneud â diogelwch ar-lein a pha mor aml mae'r rhain yn digwydd fel rhan o’r broses gofnodi?

Ydy eich ysgol yn datblygu diwylliant o ddefnydd ar-lein diogel a chyfrifol?

Er bod angen riportio pob pryder yn ymwneud â diogelwch i uwch berson dynodedig eich ysgol, mae canllawiau penodol ar gael i gefnogi lleoliadau addysg i ddatblygu gweithdrefnau i ymateb i achosion sy’n ymwneud â rhannu delweddau noeth neu hanner noeth. Gweler tudalen ‘Rhannu delweddau noeth’.

Llinell Gymorth i Weithwyr Proffesiynol ar Ddiogelwch Ar-lein (POSH), mae'r llinell gymorth yn cael ei darparu drwy Ganolfan Rhyngrwyd Mwy Diogel y DU, ac mae ar gael i bawb sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc yn y DU. Mae’n rhoi sylw i faterion yn ymwneud â diogelwch ar-lein maen nhw’n eu hwynebu eu hunain neu’n ymwneud â phlant yn eu gofal.