English

Fel athro, gall yr hyn rydych chi’n ei ddweud ac yn ei wneud ar-lein a’r hyn y mae pobl eraill yn ei ddweud amdanoch chi, gael effaith fawr ar eich enw da proffesiynol. Gall hefyd ddylanwadu ar benderfyniadau y bydd pobl yn eu gwneud amdanoch chi, y da a’r drwg. Dyma pam bod yr hyn rydych chi’n ei roi ar-lein a sut rydych chi’n ymateb i beth mae pobl eraill yn ei roi ar-lein amdanoch chi yn bwysig iawn.

Mae’r canllaw hwn yn cynnig awgrymiadau ynghylch sut mae rheoli eich enw da ar-lein, gan gynnwys sut mae cael cyngor a chymorth os a phan fyddwch chi angen hynny.


Eich enw da ar-lein ydy barn ac argraffiadau pobl amdanoch chi pan fyddan nhw’n dod ar eich traws ar-lein. Gallai hyn fod drwy rywbeth rydych chi wedi’i roi ar-lein, fel blog ar wefan eich ysgol/coleg, llun, neu unrhyw sylwadau rydych chi’n eu gwneud. Neu, gallai fod drwy rywbeth mae rhywun wedi’i ddweud neu wedi’i roi ar-lein amdanoch chi. Gallai hyn fod gan ddysgwr, cydweithiwr, rhiant/gofalwr neu hyd yn oed rywun nad ydych chi’n ei adnabod yn broffesiynol, fel ffrind neu aelod o'r teulu. Hefyd, gallai fod ar eich proffiliau personol ar y cyfryngau cymdeithasol neu ar eich gwefan os oes gennych chi un.

Mae pob cyfeiriad atoch neu enghraifft ohonoch chi ar-lein yn cyfrannu at yr hyn sy’n cael ei alw’n ôl troed digidol.


Mae rheoli eich enw da ar-lein yn golygu bod yn ofalus ynghylch beth rydych chi’n ei roi ar-lein a sut rydych chi’n ymateb i bethau sydd wedi’u rhoi ar-lein amdanoch chi, yn arbennig unrhyw sylwadau negyddol. Mae deall pa wybodaeth sydd ar gael amdanoch chi’n barod yn lle da i ddechrau.


Gallwch ddod o hyd i’ch ôl troed digidol drwy roi eich enw yn Google neu unrhyw beiriant chwilio arall ar y rhyngrwyd. Dyma’r wybodaeth y bydd unrhyw ddarpar gyflogwr, cydweithiwr, rhiant/gofalwr neu ddysgwr yn ei gweld os byddan nhw’n gwneud yr un fath.

Pan fyddwch chi wedi gwneud hynny, mae amryw o adnoddau ar gael i’ch helpu chi i gadw llygad ar eich enw da ar-lein, gan gynnwys Google Alerts (saesneg yn unig) a fydd yn rhoi gwybod i chi am unrhyw weithgaredd newydd ar-lein sy’n ymwneud â’ch gwybodaeth bersonol, fel eich enw.


Gallwch gael rhywfaint o reolaeth dros ba wybodaeth sydd ar gael amdanoch chi ar-lein a beth sy’n codi wrth i rywun chwilio ar y rhyngrwyd. Bydd y camau ymarferol canlynol yn gwneud cryn wahaniaeth o ran rhoi ffiniau clir ar waith ynghylch beth rydych chi’n ei wneud yn gyhoeddus a beth rydych chi’n ei gadw’n breifat.

  • Gwiriwch eich gosodiadau preifatrwydd ar y cyfryngau cymdeithasol. Byddwch yn glir ynghylch pwy all weld eich proffiliau ar y cyfryngau cymdeithasol (fel Facebook neu Instagram, er enghraifft). Mae cwmnïau cyfryngau cymdeithasol yn dda iawn am gysylltu pobl. Yn aml iawn, mae’r cysylltiadau yn eich ffôn yn cael eu rhannu â’r cwmnïau hyn, ac maen nhw wedyn yn ceisio eich cysylltu chi â’r bobl hyn. 
  • Ydy’ch cyfrif yn un proffesiynol neu bersonol? Penderfynwch a ydy’ch cyfrif yn un personol, yn un proffesiynol, neu’r ddau? Byddwch yn glir, yn agored ac yn onest yn eich bywgraffiad neu ar eich proffil. Cofiwch, gallech chi ddefnyddio LinkedIn i ddatblygu eich rhwydwaith proffesiynol.
  • Peidiwch ag anghofio am eich llun proffil. Dydy lluniau proffil ar draws yr holl rwydweithiau cymdeithasol fyth yn breifat. Gwnewch yn siwr bod eich llun proffil yn eich dangos chi mewn ffordd gadarnhaol. Gwnewch yn siwr nad oes gwybodaeth bersonol na chynnwys amhriodol.
  • Cadwch eich cyfrineiriau yn ddiogel. Peidiwch byth â rhannu manylion eich cyfrineiriau. Fel hyn, chi ydy’r unig un a all fynd ar eich proffiliau ar y cyfryngau cymdeithasol.
  • Rheolwch eich rhestr ffrindiau. Ystyriwch adolygu gyda phwy rydych chi’n gysylltiedig â nhw ar-lein, a gwnewch hyn yn rheolaidd.
  • Siaradwch â'ch ffrindiau a'ch teulu. Dywedwch wrthyn nhw beth rydych chi’n fodlon iddyn nhw ei rannu amdanoch chi ar-lein. Er enghraifft, ydych chi’n fodlon cael eich tagio mewn llun.
  • Cyfyngwch ar eich gwybodaeth ar-lein sy’n codi drwy chwiliadau Google. Os byddwch yn canfod gwybodaeth bersonol sensitif ar-lein nad oes modd i chi ei dileu eich hun (fel llun sensitif sydd wedi cael ei rannu heb eich caniatâd), gallwch ofyn i Google gael gwared ar y llun. Gallwch wirio beth mae Google yn fodlon cael gwared arno (Saesneg yn unig).

Weithiau, gall fod yn anodd peidio â bod yn ffrindiau â rhai pobl. Mewn ysgolion/colegau llai mewn ardaloedd gwledig, mae yna nifer o rieni/gofalwyr sy’n ffrindiau ag athrawon yn barod cyn i’w plant ymuno â’r ysgol/coleg. Mewn ysgolion/colegau mwy mewn dinasoedd, gall hyn fod yn llai tebygol.

Dylai fod gan eich ysgol bolisi cyfryngau cymdeithasol, a byddai’n werth i chi daro golwg ar hwnnw i ddechrau. Os ydy’r defnydd rydych chi’n bwriadu ei wneud yn unol â pholisïau’r ysgol/coleg ac os ydych chi’n fodlon i’r rheini/gofalwyr weld beth rydych chi’n ei rannu ar-lein, eich dewis personol chi ydy hynny. Mae Llywodraeth Cymru yn ymwybodol o rai heriau y mae cyfryngau cymdeithasol yn ei gyflwyno i ymarferwyr. Fel rhan o’i gontract gyda Llywodraeth Cymru, mae SWGfL wedi paratoi amrywiaeth o bolisïau templed, sydd ar gael i bawb ar 360 Safe Cymru.

Mae bod yn ffrindiau â dysgwyr ar y cyfryngau cymdeithasol yn sefyllfa wahanol. Mae angen cadw pellter proffesiynol penodol rhwng athrawon a dysgwyr. Gallai bod yn ffrindiau â phlentyn neu berson ifanc gymylu’r ffiniau hyn.

Mae’n werth ystyried pa fath o broblemau y gallai godi petai un o’ch dysgwyr yn dechrau anfon negeseuon atoch chi neu eich tagio chi mewn negeseuon/lluniau ar y cyfryngau cymdeithasol. Byddai hyn yn gwneud i rieni/gofalwyr eraill ac athrawon ddechrau pryderu a gwneud eich bywyd yn yr ysgol/coleg yn eithaf heriol.

Os ydych chi’n chwilio am ffordd o gydweithio â dysgwyr ar brosiect ysgol/coleg, mae rhith-amgylcheddau dysgu eraill, mwy addas sy’n benodol i addysg.


Chi sydd piau eich cyfrifon cyfryngau cymdeithasol, a’ch dewis chi ydy beth rydych chi’n eu gwneud â nhw. Ond, os byddwch chi’n cysylltu ag unrhyw un o gymuned yr ysgol gan ddefnyddio eich sianeli cyfryngau cymdeithasol personol, cofiwch eich bod chi, yn y cyd-destun hwn, yn cynrychioli’r ysgol hefyd. Felly, dyma rai pwyntiau i chi eu hystyried.

  • Beth mae’r hyn sydd wedi’i roi ar-lein yn ei ddweud amdanoch chi?
  • Os oes testun, a ydy’r testun yn ramadegol gywir ac a ydy’r sillafu’n gywir?
  • Ydych chi’n defnyddio iaith ac ymddygiad priodol?
  • Os oes llun, a ydy’r llun yn eich portreadu chi mewn ffordd gadarnhaol yn broffesiynol?
  • Os oes cyfeiriad at rywun arall, e.e. cydweithiwr, ydy hynny’n gadarnhaol?
  • A ydy hyn yn cydymffurfio â pholisïau a gweithdrefnau eich ysgol/coleg?

Allwch chi ddim rheoli beth mae pobl yn ei ddweud nac yn ei roi ar-lein amdanoch chi. Ond, gallwch chi reoli sut rydych chi’n ymateb. Yn wir, gall ymateb proffesiynol ddweud mwy amdanoch chi na’r hyn sydd wedi cael ei roi ar-lein yn wreiddiol. Os ydych chi’n mynd i ymateb i sylw, cofiwch fod yn gwrtais ac yn broffesiynol bob amser.


Dylech bob amser fod yn ofalus iawn wrth asesu sylwadau negyddol ar-lein. Rheol syml i’w chofio ydy peidiwch byth ag ymateb ar-lein ar unwaith. Yn hytrach, cymerwch eich amser i feddwl am ymateb a gofyn am gyngor.

Gall y Llinell Gymorth i Weithwyr Proffesiynol ar Ddiogelwch Ar-lein (Saesneg yn unig) helpu gyda materion sy’n ymwneud â’ch enw da yn ogystal ag amryw o faterion eraill sy’n ymwneud â diogelwch ar-lein. Maen nhw’n gallu cael mynediad cyflym at ddarparwyr rhwydweithiau cymdeithasol a gallan nhw gyfryngu ar eich rhan pan fo angen. Ffoniwch 0344 381 4772 neu e-bostio helpline@saferinternet.org.uk.