Edrych ar ddysgu ac addysgu
Cyflwyniad
Dylai ysgolion ddefnyddio amrywiaeth o weithgareddau i werthuso lles, cynnydd a safonau'r dysgwyr.
Edrych ar ddysgu
Bydd edrych ar ddysgu yn helpu i wneud gwelliannau:
- pan fydd yn broses ddatblygiadol a chefnogol
- pan fydd yn hyrwyddo gweithgarwch dysgu mewn tîm, cydweithio, ymddiriedaeth a chyd-barch
- pan fydd ffocws penodol y cytunwyd arno
- pan fydd ffocws clir ar gynnydd y dysgwyr
- pan fydd yn nodi cryfderau penodol a meysydd penodol i'w datblygu
- pan fydd yn cynnig cyfleoedd i rannu a meithrin sgiliau, arbenigedd ac arferion arloesol
- pan fydd yn hyrwyddo gweithgarwch myfyrio a thrafodaethau proffesiynol
- pan fydd yn llywio gweithgarwch dysgu proffesiynol
Edrych ar ddysgu byw
Pethau y dylid canolbwyntio arnynt yn ystod y gweithgaredd hwn:
- cyfranogiad, diddordeb a sylw'r dysgwyr
- y ffordd y mae'r dysgwyr yn rhyngweithio mewn gweithgareddau i barau neu grwpiau
- ymatebion ac atebion y dysgwyr i gwestiynau
- ymatebion y dysgwyr i adborth un i un a'r ffordd y maent yn rhyngweithio ag oedolion
- cynnydd y dysgwyr yn y wers a dros amser
- safon gwaith y dysgwyr yn ystod y wers a dros amser
Noder: Nid oes angen edrych ar bob un o'r elfennau hyn yn ystod pob ymweliad â gweithgaredd dysgu Mater o farn broffesiynol yw'r ffocws.
Dysgu a chynnydd
I ba raddau y mae'r dysgwyr yn:
- gwneud cynnydd o ran meithrin eu sgiliau, eu gwybodaeth a'u dealltwriaeth
- defnyddio'r sgiliau a'r wybodaeth sydd ganddynt eisoes i adeiladu ar yr hyn y maent yn ei ddysgu
- dangos agweddau cadarnhaol at ddysgu
- dyfalbarhau i oresgyn heriau
- dangos y gallu i weithio'n annibynnol neu ar y cyd
- gwneud cynnydd yn y wers a dros amser
- gweithio i'r safon y mae ganddynt y gallu i'w chyrraedd
- deall a defnyddio'r Gymraeg
Addysgu
I ba raddau y mae'r athrawon yn:
- cynllunio ac yn cynnig cyfleoedd i'r dysgwyr atgyfnerthu ac ymestyn yr hyn y maent wedi'i ddysgu mewn gwersi a dros amser
- gofyn cwestiynau er mwyn atgyfnerthu, meithrin neu ymestyn sgiliau, gwybodaeth a dealltwriaeth y dysgwyr
- defnyddio asesiadau ac adborth.
- defnyddio adnoddau, gan gynnwys yr amgylchedd dysgu a'r staff
- meithrin sgiliau Cymraeg y dysgwyr a'u dealltwriaeth o ddiwylliant a threftadaeth Cymru
Ar y cyfan, dylai ysgolion ystyried sut mae eu darpariaeth, dros amser, yn helpu dysgwyr i wneud cynnydd tuag at wireddu dibenion y cwricwlwm.
Fel arfer, gallai dulliau o edrych ar ddysgu byw gynnwys arsylwi ar wersi a throeon dysgu.
Edrych yn ôl ar ddysgu
Pethau y dylid canolbwyntio arnynt yn ystod y gweithgaredd hwn:
- cynnydd y dysgwyr dros amser (y tymor byr, y tymor canolig a'r tymor hir)
- y safonau y mae'r dysgwyr yn eu cyrraedd (y tymor byr, y tymor canolig a'r tymor hir)
- i ba raddau y mae'r dysgwyr yn cymhwyso eu sgiliau, eu gwybodaeth a'u dealltwriaeth ym mhob rhan o'r cwricwlwm
- effaith agweddau'r dysgwyr at ddysgu ar eu cynnydd
- i ba raddau y mae'r cwricwlwm yn cefnogi parhad a chynnydd yn y dysgu
- i ba raddau y mae'r addysgu, yr asesu a'r adborth yn helpu'r dysgwyr i wneud cynnydd
- cynnydd grwpiau gwahanol o ddysgwyr
- i ba raddau y mae'r addysgu yn meithrin sgiliau Cymraeg y dysgwyr a'u dealltwriaeth o ddiwylliant a threftadaeth Cymru
Dulliau posibl o edrych yn ôl ar ddysgu
- samplu gwaith y dysgwyr yn eu llyfrau neu mewn ffeiliau digidol mewn dosbarth, grwp blwyddyn, pwnc neu faes dysgu penodol
- samplu gwaith y dysgwyr yn eu llyfrau neu mewn ffeiliau digidol drwy gyfnod allweddol neu'r ysgol gyfan, er enghraifft er mwyn gwerthuso safonau a chynnydd mewn pwnc neu faes dysgu neu gymharu cynnydd grwpiau gwahanol o ddysgwyr
- samplu gwaith dysgwyr er mwyn gweld i ba raddau y maent yn dysgu ac yn defnyddio sgiliau llythrennedd, sgiliau rhifedd a sgiliau digidol
- trafod y gwaith y mae'r dysgwyr wedi'i wneud gyda nhw, er enghraifft gyda'r llyfrau neu'r ffeiliau digidol sydd ar gael
- casglu barn y dysgwyr ar ba mor effeithiol yw'r profiadau addysgu a dysgu o ran eu helpu i wneud cynnydd, er enghraifft asesu ac adborth
Ar y cyfan, dylai ysgolion ystyried sut mae eu darpariaeth, dros gyfnod, yn cefnogi cynnydd dysgwyr tuag at wireddu dibenion y cwricwlwm.
Am ragor o fanylion, cyfeiriwch at yr adran cwestiynau trafod dysgu ac addysgu.