English

A yw gweledigaeth eich ysgol yn dal yn briodol?

A oes angen adolygu cyfeiriad strategol yr ysgol?

Cyfeiriwch at dudalennau ysgolion fel sefydliadau sy’n dysgu a thaith dysgu proffesiynol i gael mwy o wybodaeth am ddatblygu gweledigaeth ar gyfer eich ysgol. Gellir gweld enghreifftiau ychwanegol o gameos gan ysgolion sydd wedi datblygu eu gweledigaeth ar wefan Estyn.

Nod y cwestiynau trafod canlynol yw helpu ysgolion i benderfynu a yw eu gweledigaeth yn briodol ac yn diwallu anghenion yr ysgol a'i chymuned.

    • A oes gan yr ysgol weledigaeth ar y cyd ar gyfer addysg a lles yr holl ddysgwyr, staff a'r gymuned y mae'n ei gwasanaethu?
    • Pa mor dda y mae'r weledigaeth yn perthyn i gyd-destun yr ysgol?
    • Pa mor llwyddiannus yw gweledigaeth yr ysgol o ran datblygu synnwyr o ddiben ar y cyd a gwerthoedd cyffredin ymhlith cymuned yr ysgol?
    • Pa mor dda y mae'r ysgol yn cynnwys dysgwyr, staff, rhieni/gofalwyr a'r gymuned ehangach mewn creu'i gweledigaeth, a'i rhoi ar waith?
    • Pa mor dda y caiff gweledigaeth yr ysgol ei chyfleu i'r holl randdeiliaid?
    • I ba raddau y mae gan gymuned yr ysgol berchnogaeth o'i gweledigaeth, ei nodau a'i gwerthoedd?
    • Pa mor effeithiol yw prosesau ar gyfer cynnwys cymuned gyfan yr ysgol mewn adolygu’i gweledigaeth, ei nodau a'i gwerthoedd yn barhaus?
    • Pa mor effeithiol yw gweledigaeth yr ysgol o ran sefydlu disgwyliadau uchel i bawb, a diwylliant o welliant parhaus?
    • Pa mor llwyddiannus y mae'r ysgol yn rhoi ei gweledigaeth ar waith?
    • Pa mor dda y mae'r weledigaeth yn hyrwyddo ac yn arwain at ddefnyddio addysgeg addysgu effeithiol?
    • Pa mor dda y mae arweinwyr ysgol yn modelu ac yn atgyfnerthu gweledigaeth yr ysgol trwy eu gweithredoedd o ddydd i ddydd?
    • Pa mor dda y caiff gweledigaeth yr ysgol ei hymgorffori mewn arferion bob dydd?
    • Pa mor dda y mae gweledigaeth yr ysgol yn helpu meithrin gallu i arwain?
    • Pa strategaethau ydyn ni'n eu defnyddio i droi gweledigaeth, gwerthoedd a nodau’r ysgol yn arferion dyddiol? Pa mor effeithiol yw'r rhain?
    • Pa mor dda y mae gweledigaeth yr ysgol yn cefnogi lefelau lles uchel a chynnydd academaidd ar gyfer dysgwyr?
    • Pa mor dda y mae gweledigaeth yr ysgol yn cefnogi parhad a dilyniant mewn dysgu a lles o 3–16 oed?
    • Pa mor dda y mae gweledigaeth yr ysgol yn cefnogi gwelliant a newid?
    • Pa mor dda y mae gweledigaeth yr ysgol yn cefnogi datblygu a gweithredu Cwricwlwm i Gymru?
    • Pa mor dda y mae gweledigaeth yr ysgol yn cefnogi dysgwyr i weithio tuag at bedwar diben y cwricwlwm?
    • Pa mor llwyddiannus y mae'r weledigaeth strategol yn cefnogi'r ysgol i ddatblygu fel sefydliad sy’n dysgu?
    • Pa mor dda y mae gweledigaeth yr ysgol yn datblygu diwylliant o ddysgu cydweithredol?
    • Pa mor dda y mae arweinwyr yr ysgol yn defnyddio'r weledigaeth ar y cyd i amlygu arfer effeithiol neu herio tanberfformio?
    • Pa mor dda y mae prosesau gwella'r ysgol yn cynorthwyo'r ysgol i gyflawni ei gweledigaeth?
    • Pa mor dda ydyn ni'n defnyddio gweledigaeth, nodau a gwerthoedd yr ysgol wrth wneud penderfyniadau am flaenoriaethau gwella ar gyfer y dyfodol?
    • Pa mor dda y mae'r ysgol yn adolygu effeithiolrwydd ei gweledigaeth strategol yn gyson?

Mae’r adnoddau canlynol, a gynhyrchwyd fel rhan o’r daith ddysgu proffesiynol, yn cynnig astudiaethau achos enghreifftiol o ysgolion sydd wedi ailddatblygu’u gweledigaeth yn unol â’r cwricwlwm newydd.