Taith ddysgu proffesiynol ddigidol
Mae'r Daith Dysgu Proffesiynol Digidol (DPLJ) yn cefnogi ysgolion i ddatblygu a gweithredu eu gweledigaeth ar gyfer dysgu digidol ac i ddatblygu dysgu proffesiynol.
Cafodd y Daith Dysgu Proffesiynol Digidol (DPLJ) ei chreu fel model i helpu ysgolion i ddatblygu a gweithredu eu gweledigaeth ar gyfer dysgu digidol, datblygu dysgu proffesiynol staff a chefnogi'r gwaith o roi'r Fframwaith Cymhwysedd Digidol ar waith yn effeithiol ar gyfer dysgwyr.
Mae gan Lywodraeth Cymru, Consortia Rhanbarthol ac Awdurdodau Lleol rolau allweddol wrth gefnogi ysgolion i ddatblygu dysgu digidol ac mae'r Daith Dysgu Proffesiynol Digidol yn amlinellu cyfraniad y partneriaid allweddol hyn i helpu ysgolion ar hyd eu taith ddatblygu.
Strwythur
Mae'r Daith Dysgu Proffesiynol Digidol wedi'i threfnu i'r meysydd canlynol i gynorthwyo ysgolion i ddatblygu a gwireddu eu gweledigaeth ar gyfer dysgu digidol.
- Arweinyddiaeth.
- Dysgu proffesiynol ac arloesi.
- Cwricwlwm, darpariaeth ac addysgeg.
- Technoleg addysg.
Sut i fynd ati
Mae'r fideo canlynol yn darparu crynodeb defnyddiol o bwrpas y Daith Dysgu Proffesiynol Digidol a sut i'w rhoi ar waith. Bydd Consortia Rhanbarthol yn cynnig cymorth ac arweiniad i ysgolion wrth weithredu'r Daith Dysgu Proffesiynol Digidol, ac anogir ysgolion i ddefnyddio'r Pecyn Cymorth 360DigiCymru i gefnogi eu gwaith cynllunio.
- Strwythur
Trefnwyd y daith ddysgu proffesiynol ddigidol (DPLJ) yn ôl pedair thema allweddol
- Rolau a chyfrifoldebau allweddol
Crynodeb lefel uchel o’r gwahanol gyfrifoldebau DPLJ