English

Mae’r wybodaeth hon yn BETA ac eto i’w chwblhau’n derfynol. Bydd eich adborth yn ein helpu i’w gwella.

Trefnwyd y daith ddysgu proffesiynol ddigidol (DPLJ) oddeutu pedair thema allweddol a nodwyd isod. Cyfeiriwch at y dudalen Trosolwg am fwy o wybodaeth ynghylch y drefniadaeth gyffredinol a phwrpas y DPLJ.

Cewch hyd i arweiniad ychwanegol a dolenni at adnoddau cefnogi trwy ehangu’r adrannau perthnasol isod.

  • Mae’r elfen hanfodol hon yn y Daith Ddysgu Proffesiynol Ddigidol yn cynnwys:

    • gweledigaeth ar gyfer dysgu digidol, gyda chefnogaeth rhanddeiliaid
    • arwain dysgu digidol yn effeithiol
    • cynllunio strategol, gan gynnwys cynlluniau technoleg addysg, polisïau, ac ati
    • cyllidebu
    • cyfathrebu â rhanddeiliaid a chydweithio yn yr ysgol a thu hwnt
    • monitro, gwerthuso ac adolygu

    Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu dull cenedlaethol o ymdrin â thechnoleg addysg drwy weithredu dull strategol a chynaliadwy o ymgorffori gwasanaethau digidol ym mhob ysgol a gynhelir.

    Nod rhaglen Hwb, ar y cyd â rhaglen newid technoleg addysg (EdTech) pob awdurdod lleol, yw cefnogi ysgolion a gynhelir yng Nghymru i fanteisio ar y buddion trawsnewidiol i addysg sy’n gallu dod yn sgil digidol a thechnoleg, a helpu i wireddu nodau strategol hirdymor y rhaglen.

    Mae awdurdodau lleol yn chwarae rhan allweddol wrth ddarparu cyngor i ysgolion ynghylch datblygu seilwaith, darparu mynediad at fframwaith caffaeliad cenedlaethol a chefnogi ysgolion gyda chynaliadwyedd datblygiadau digidol.

    Mae consortia rhanbarthol yn darparu cefnogaeth ar gyfer dysgu proffesiynol a rhwydweithio rhwng ysgolion.

    Gweledigaeth

    Mae cael gweledigaeth ysgol gyfan glir ar gyfer dysgu digidol yn fan cychwyn hanfodol ar gyfer gweithredu a datblygu’r agenda ddigidol yn llwyddiannus yn yr hirdymor.

    Mae gweledigaeth ar gyfer dysgu digidol yn fwy na datganiad. Mae’n cael effaith glir ar y ffordd y mae’r ysgol yn gweithredu ac mae’n amlwg mewn addysgu o ddydd i ddydd ac mewn deilliannau dysgu.

    Dylai’r weledigaeth ddigidol:

    • gyd-fynd â gweledigaeth yr ysgol gyfan
    • llywio cynllun datblygu’r ysgol
    • cyd-fynd â modelau a datblygiadau cenedlaethol
    • canolbwyntio ar ddysgu digidol
    • cynnwys partneriaid technoleg addysg a rhanddeiliaid wrth ei datblygu a’i monitor
    • arwain at effaith gadarnhaol glir ar profiadau dysgu ac addysgu
    • arwain at welliant mewn cymhwysedd digidol dysgwyr

    Dim ond os oes ymrwymiad i’w llwyddiant gan bob lefel o fewn yr ysgol, yn ogystal â rhanddeiliaid a phartneriaid ehangach, y mae modd gwireddu gweledigaeth ddigidol yr ysgol. Dylai gael ei harwain gan uwch reolwyr a’i chefnogi gan staff arbenigol perthnasol, yn gweithio gyda phartneriaid cymorth perthnasol (e.e. partneriad Technoleg Addysg Awurdodau Lleol a Chonsortia Rhanbarthol) ac sy’n eiddo i’r ysgol gyfan.

    Arweinyddiaeth ddigidol

    Er yr argymhellir bod gan ysgolion arweinydd enwebedig ar gyfer dysgu digidol, dylid ystyried gweithredu arweinyddiaeth dysgu digidol fel swyddogaeth ysgol gyfan, nid cyfrifoldeb unigolyn. Dylai’r arweinydd digidol gael cefnogaeth lawn y pennaeth a’r corff llywodraethu i wneud penderfyniadau perthnasol er mwyn gweithredu gweledigaeth yr ysgol ar gyfer dysgu digidol.

    Yn rhy aml mewn ysgolion, ystyrir bod dysgu digidol yn fater technegol, ac mae’n cael ei ddirprwyo i unigolyn sydd â rhywfaint o arbenigedd technegol ond fawr iawn o awdurdod i wneud penderfyniadau ysgol gyfan o ran y prif agweddau ar ddysgu digidol. Dylai arweinyddiaeth dysgu digidol, drwy weithio gyda rhanddeiliaid perthnasol a phartneriaid cymorth, ystyried yr agweddau canlynol.

    • Gweledigaeth ysgol gyfan.
    • Strwythur a chyfrifoldebau staff.
    • Gofynion o ran technoleg addysg a gwasanaethau digidol.
    • Model y cwricwlwm a chynllunio.
    • Addysgeg, dysgu ac addysgu.
    • Cadernid digidol a seiberddiogelwch.
    • Gweithio gyda rhanddeiliaid tu fewn a thu hwnt i’r ysgol.

    Dylai pob aelod o staff gael profiad o ddysgu proffesiynol parhaus i sicrhau bod y sgiliau perthnasol ganddynt i ddefnyddio technoleg addysg yn effeithiol, yn ogystal â deall y ffordd orau o ddefnyddio technoleg i gefnogi dysgu ac addysgu. Gall hyn ddigwydd drwy gyfuniad o astudio personol gyda chymorth, cymorth oddi mewn i’r ysgol neu raglenni sy’n cael eu cyflwyno ar lefel ranbarthol. Cyfeiriwch at dudalennau perthnasol gwefan eich consortiwm rhanbarthol i gael rhagor o fanylion am yr hyn sydd gan y consortia rhanbarthol i’w gynnig er mwyn cefnogi dysgu digidol.

    Dylai arweinyddiaeth ddigidol effeithiol hefyd gynnwys cydweithio â rhanddeiliaid allweddol, gan gynnwys Arweinwyr Technoleg Addysg awdurdodau lleol, Arweinwyr Diogelu a Swyddogion Diogelu Data, i sicrhau bod elfennau digidol a thechnoleg yr ysgol yn cael eu hintegreiddio’n ddi-dor ac yn cydymffurfio â’r gofynion deddfwriaethol perthnasol, yn benodol cyfraith diogelu data. Mae llais dysgwr, llais staff a barn rhieni a llywodraethwyr hefyd yn bwysig eu cipio er mwyn llywio polisi a datblygiadau.

    Cynllunio strategol

    Mae mwy o wybodaeth am gynllunio strategol, caffael, caledwedd a meddalwedd ar gael yn yr adran Safonau cynllunio a rheoli ar Hwb. Argymhellir bod ysgolion yn ymgynghori â'u partner Technoleg Addysg Awdurdod Lleol i gael cyngor fel rhan o'u cynllunio strategol.

    Mae cynlluniau effeithiol, gyda mewnbwn gan staff, dysgwyr, llywodraethwyr, rhieni/gofalwyr a’r gymuned ehangach, wedi’u cefnogi gan bartner technoleg addysg yr ysgol, yn hanfodol er mwyn sicrhau bod yr agenda ddigidol yn cael ei gweithredu’n effeithiol, yn gydlynol ac yn gynaliadwy mewn ysgolion.

    Mae’n hanfodol bod cynllunio ar gyfer dysgu digidol yn rhan o broses cynllunio datblygu’r ysgol gyfan.

    Cyllidebu

    Mae datblygu capasiti a gallu’r ysgol o ran technoleg addysg yn agwedd bwysig ar y Daith Ddysgu Proffesiynol Ddigidol. Mae angen gwneud penderfyniadau a fydd yn effeithio ar sut mae’r ysgol yn cyflwyno dysgu digidol ac yn galluogi dysgwyr ac athrawon i ddefnyddio technoleg yn effeithiol i ddatblygu eu cymhwysedd digidol a gwella eu dysgu a’u haddysgu.

    Technoleg addysg yw un o’r costau uchaf yng nghyllidebau ysgolion ar ôl staffio. Mae oes ddiffiniedig gan gyfarpar, meddalwedd a gwasanaethau, ac maen nhw angen cynnal a chadw, cymorth ac adnewyddu parhaus.

    Mae datblygiadau technoleg addysg yn gofyn am ystyriaeth ofalus a buddsoddiad parhaus sylweddol, felly mae’n bwysig bod ysgolion yn gwneud penderfyniadau gwybodus i weithredu eu gweledigaeth ddigidol. Dylai ysgolion ofyn am gyngor gan eu partneriaid cymorth technoleg addysg, ac ysgolion eraill yn y clwstwr a thu hwnt, wrth adolygu neu ddiffinio gwasanaethau digidol newydd a sicrhau bod unrhyw ateb yn ystyried rheoli data a diogelu dysgwyr yn briodol.

    Gyda chostau TGCh ar gyfartaledd tua £15,000 fesul ysgol gynradd a £62,000 fesul ysgol uwchradd (BESA, 2019-20), mae angen i ysgolion roi ystyriaeth strategol wrth fuddsoddi mewn technoleg addysg a dylent ymgysylltu â’u partner technoleg addysg cyn buddsoddi mewn datblygiadau sylweddol neu uwchraddio eu seilwaith TGCh. Dylid ystyried unrhyw ddatblygiadau arfaethedig mewn perthynas â’u gweledigaeth gyffredinol ar gyfer dysgu digidol a sut y bydd hyn yn gwella arferion gwaith yn yr ysgol yn ogystal â deilliannau dysgwyr. Yn ogystal, mae’r pandemig COVID-19 hefyd wedi tynnu sylw at yr angen i sicrhau bod technoleg addysg ac arferion cysylltiedig yr ysgol yn galluogi mynediad cydamserol ac anghydamserol o bell i ddysgwyr, tra dylai staff feddu ar yr hyder a’r gallu i ddefnyddio technolegau perthnasol i alluogi dysgu ac addysgu effeithiol.

    Dylai datblygiadau fod yn gynaliadwy, yn gynhwysol ac wedi’u cynllunio gyda’r nod terfynol o wella profiad dysgwyr wrth ddatblygu eu sgiliau digidol ac wrth ddefnyddio technolegau digidol i wella eu dysgu cyffredinol.

    Dylai cynlluniau ystyried cyfanswm cost perchnogaeth unrhyw gyfarpar neu wasanaethau technoleg addysg a’u cefnogi’n llawn gyda staff dysgu proffesiynol perthnasol er mwyn sicrhau defnydd a budd effeithiol.

    Mae buddsoddiad sylweddol gan Lywodraeth Cymru, drwy raglen Hwb, wedi rhoi cyfle unigryw i ysgolion gefnogi datblygiad dysgu digidol ledled Cymru. Mae angen ystyried buddsoddiadau o’r fath ochr yn ochr â chyllideb yr ysgol ei hun ar gyfer dysgu digidol. Dylai cynlluniau ystyried:

    • blaenoriaeth
    • perthnasedd
    • effaith
    • cynaliadwyedd

    Monitro, gwerthuso ac adolygu

    Mae monitro a gwerthuso parhaus yn hanfodol er mwyn sicrhau bod gweledigaeth ddigidol yr ysgol yn addas i’r diben a’i bod yn cael ei gweithredu’n effeithiol. Dylai hyn fod yn rhan o hunanwerthuso cyffredinol yr ysgol, gan ganolbwyntio ar brosesau a deilliannau.

    Mae'r Adnodd Cenedlaethol: Gwerthuso a Gwella wedi'i ddatblygu i gefnogi ysgolion gyda'u prosesau hunanarfarnu. Dylai ysgolion ymgysylltu â’r adnodd hwn wrth ystyried eu gwerthusiad a’u hadolygiad o ddysgu digidol ochr yn ochr ag agweddau dysgu, addysgu a dysgu cyfunol yr adnodd genedlaethol.

    Cymorth ac adnoddau

    Mae’r consortia rhanbarthol yn bartner allweddol wrth gefnogi ysgolion gyda’u dysgu digidol. Mae gan bob rhanbarth gynnig dysgu digidol a rhaglenni cysylltiedig. Cyfeiriwch at wefannau’r consortia rhanbarthol i gael mwy o fanylion.

    Mae cyfres gynyddol o adnoddau wedi cael eu creu gan ysgolion a chonsortia rhanbarthol, a byddant yn cael eu cyflwyno i’w defnyddio gan bob ysgol yng Nghymru. Darperir yr adnoddau hyn fel enghreifftiau o’r hyn y mae ysgolion yn ei wneud neu i gynnig syniadau ar gyfer sut y gallai ysgolion ddatblygu arweinyddiaeth dysgu digidol. Nid oes disgwyl i ysgolion ddilyn yr holl enghreifftiau sy’n cael eu darparu, a dylai unrhyw ddatblygiadau yn ymwneud â dysgu digidol fod yn benderfyniad gan ysgolion unigol, mewn ymgynghoriad â’u corff llywodraethu a’u partner cymorth technoleg addysg.

    Datblygwyd rhaglen gymorth debyg, Digidol 2030, yn y sectorau addysg bellach ac addysg uwch. Mae nifer o adnoddau ategol Digidol 2030 yn berthnasol i ysgolion, a chyfeirir atynt yn y tudalennau ar bob llinyn o’r Daith Ddysgu Proffesiynol Ddigidol. Gall Sut i lunio eich strategaeth ddigidol yn fframwaith Digidol 2030 fod yn ddefnyddiol wrth ystyried agweddau ar weledigaeth ac arweinyddiaeth y Daith Ddysgu Proffesiynol Ddigidol.

  • Mae Gweinidogion Cymru wedi gwneud ymrwymiad cadarn i wella technoleg addysg ledled Cymru gyda dros £160 miliwn wedi’i fuddsoddi yn y rhaglen Hwb hyd yma.

    Drwy’r buddsoddiad hwn, mae rhaglen Hwb wedi cychwyn a chyflwyno sawl menter yn llwyddiannus ers 2012, gan helpu i drawsnewid y ffordd y caiff technoleg ddigidol ei defnyddio ar gyfer dysgu ac addysgu mewn ysgolion ledled Cymru. Mae’r rhaglen waith ganolog hon yn rhoi mynediad cyson i randdeiliaid at amrywiaeth o seilwaith, offer ac adnoddau digidol safonol, oll yn seiliedig ar egwyddorion cynaliadwy.

    Cydnabyddir yn eang bod y rhaglen yn cael effaith sylweddol ar drawsnewid gwasanaethau addysg, yn ogystal â darparu platfform cenedlaethol sy’n gallu cefnogi a chyflenwi trawsnewid go iawn i’r sector addysg, yn fwyaf nodedig drwy roi mynediad hawdd i ddysgwyr yng Nghymru at offer a gwasanaethau i hwyluso dysgu digidol.

    Mae’r meysydd canlynol yn rhoi cipolwg ar y gweithgareddau sy’n cael eu cynnal drwy raglen Hwb, mewn cydweithrediad â chynrychiolwyr sector amrywiol.

    Gwasanaeth masnachol EdTech

    Mae CBS Caerffili, ar y cyd â Llywodraeth Cymru a phob un o’r 22 awdurdod lleol yng Nghymru, wedi datblygu’r Gwasanaeth EdTech – sy’n eiddo i’r sector ac yn cael ei arwain gan y sector – i sicrhau y gall ysgolion ac awdurdodau lleol sicrhau’r gwerth gorau am arian wrth brynu cyfarpar, meddalwedd a gwasanaethau digidol. Gall y Gwasanaeth EdTech ddarparu’r cyfleoedd hyn oherwydd gofynion safonol; gan gyfuno’r galw ledled Cymru a chynnal trafodaethau cenedlaethol gyda chadwyni cyflenwi byd-eang.

    Hyd yma, mae rhaglen EdTech Hwb wedi darparu dros £92 miliwn i awdurdodau lleol i’w fuddsoddi drwy’r gwasanaeth hwn. Mae’r buddsoddiad hwn wedi golygu bod awdurdodau lleol yn gallu prynu ystod eang o gyfarpar digidol am bris heb ei ail. Mae wedi hwyluso’r gallu i bob ysgol a gynhelir yng Nghymru sicrhau bod eu seilwaith rhwydwaith TGCh yn gallu ateb y galw cynyddol am dechnoleg addysg yn yr ystafell ddosbarth, yn ogystal â phrynu mwy na 185,000 o ddyfeisiau defnyddwyr terfynol newydd.

    Cwmwl Hwb a Safonau Digidol Addysg

    Mae Llywodraeth Cymru wedi datblygu platfform dysgu digidol Hwb sy’n ceisio gwella’r defnydd o dechnoleg ddigidol ar gyfer addysgu a dysgu ym mhob ysgol ledled Cymru. Mae’n darparu un hunaniaeth ddigidol genedlaethol ar gyfer pob dysgwr, athro (gan gynnwys athrawon dan hyfforddiant ac athrawon cyflenwi) a llywodraethwr mewn ysgolion a gynhelir fel y gallant gael mynediad at ystod o seilwaith digidol ac offer ac adnoddau dwyieithog.

    At hynny, mae Llywodraeth Cymru wedi cydweithio â’r 22 awdurdod lleol i ddatblygu’r Safonau Digidol Addysg. Mae’r safonau hyn yn cynorthwyo ysgolion i ddeall sut i reoli, gweithredu a diogelu eu hamgylchedd digidol yn y dyfodol yn unol â’r Cwricwlwm i Gymru. Bydd y safonau hefyd yn helpu ysgolion i fanteisio’n gyffredinol ar y manteision trawsnewidiol y gall digidol a thechnoleg eu cael ar addysg a gweinyddiaeth ysgolion.

    Gwasanaethau a chynnwys dwyieithog

    Mae’r ystorfa cynnwys digidol genedlaethol ar Hwb yn cynnal casgliad agored o offer ac adnoddau digidol dwyieithog rhad ac am ddim sy’n galluogi dysgwyr ac athrawon i gael gafael ar adnoddau ar-lein unrhyw le, ar unrhyw adeg, o unrhyw ddyfais gyda chysylltiad â’r we i gefnogi dysgu ac addysgu yng Nghymru.

    Ar y cyd ag amrywiaeth o gynrychiolwyr sector, mae Llywodraeth Cymru yn darparu ystod o ganllawiau, adnoddau ac astudiaethau achos dwyieithog y gellir eu rhannu’n hawdd drwy Hwb i helpu athrawon i greu a rhannu adnoddau ac aseiniadau sy’n berthnasol i’r Cwricwlwm i Gymru.

    Yn ystod y pandemig, mae Hwb wedi bod yn ganolog wrth gefnogi ysgolion i gofleidio dysgu cyfunol gydag amrywiaeth o wybodaeth, arweiniad ac adnoddau.

    Cadernid digidol

    Mae’r rhaglen Cadernid Digidol yn adeiladu ar arbenigedd a gweithgareddau sy’n bodoli eisoes i ddatblygu gweithgareddau cynaliadwy ledled Cymru, gan gynnwys:

    • datblygu cynnwys ac adnoddau dwyieithog (yn enwedig cynnwys Cymraeg)
    • darparu offeryn hunanwerthuso
    • rhaglen eang o hyfforddiant i ymarferwyr addysg a llywodraethwyr.

    I gael rhagor o wybodaeth, ewch i Cadw’n ddiogel ar-lein, gan roi sylw arbennig i offeryn hunanwerthuso 360° Safe Cymru a chynllun gweithredu cenedlaethol cadernid digidol mewn addysg.

  • Mae dysgu proffesiynol parhaus am ddefnyddio technoleg yn effeithiol yn hanfodol er mwyn sicrhau datblygiadau sy’n sicrhau bod adnoddau digidol yn cael eu defnyddio yn y ffordd orau bosibl. Mae’r adnoddau dysgu proffesiynol sy’n cael eu darparu drwy’r Daith Ddysgu Proffesiynol Ddigidol yn darparu peth enghreifftio, ond dylai ysgolion gael gafael ar y cymorth sydd ar gael drwy awdurdodau lleol a’r consortia rhanbarthol a dylent cydweithio ag ysgolion eraill i rannu arbenigedd a gwella dysgu proffesiynol.

    Mae’r llinyn hwn o’r Daith Ddysgu Proffesiynol Ddigidol yn cynnwys yr elfennau canlynol.

    • Dysgu proffesiynol.
    • Cydweithredu.
    • Cyfathrebu.
    • Arloesi.

    Mae’r Prosiect Addysgeg Cenedlaethol, yn benodol drwy ‘Trafod Addysgeg’, yn rhoi cyfle i weithwyr proffesiynol drafod a myfyrio ar addysgeg a dysgu digidol, rhannu ymchwil gyfredol ac archwilio syniadau ar gyfer arloesi pellach. Bydd hyn hefyd yn defnyddio ac yn cael ei lywio drwy waith Cynllun Cydweithredol Cymru ar gyfer Cynllunio Dysgu (WCLD) wrth ddatblygu cynllun dysgu anghydamserol o bell.

    Dylai ysgolion ystyried datblygiadau sydd ar y gweill a sut y byddai’r rhain o fudd i’r ysgol wireddu ei gweledigaeth ddigidol. Fodd bynnag, dylai ysgolion ystyried datblygiadau o’r fath yn ofalus ac ni ddylent ddilyn pob tuedd newydd a cheisio croesawu pob datblygiad. Dylai ysgolion ystyried sut mae datblygiadau newydd yn cyd-fynd â gweledigaeth yr ysgol ar gyfer dysgu digidol a chroesawu arferion newydd drwy gynllun datblygu’r ysgol. Dylid ystyried cynaliadwyedd hirdymor a chyfanswm cost perchnogaeth yn ogystal â’r defnydd tymor byr a wneir mewn perthynas ag unrhyw gyfarpar sy’n cael ei brynu. Mae lefel darfodiad uchel gan rai dyfeisiau, fel cyfrifiaduron llechen, a dylai unrhyw fuddsoddiad costus gael effaith gadarnhaol.

    Mae dysgu proffesiynol parhaus effeithiol yn allweddol i ddatblygu a gweithredu’r agenda ddigidol mewn ysgolion.

    Gyda thechnoleg yn newid yn gyflym ac atebion technoleg addysg newydd yn ymddangos, mae’n hanfodol bod gan ysgolion ddull wedi’i gynllunio i sicrhau bod staff yn ymwybodol o ddatblygiadau a’u bod wedi’u hyfforddi i’w defnyddio i wella’r profiad dysgu. Mae'r model SAMR (gweler yr adran cwricwlwm, darpariaeth ac addysgeg isod) yn darparu dull defnyddiol o weithredu newid ac arloesi.

    Ni all yr ysgol wneud hyn ar ei phen ei hun. Dylai ysgolion ddarparu cyfleoedd ar gyfer cydweithio o fewn a thu hwnt i’r ysgol i ddatblygu sgiliau staff a rhannu syniadau ar gyfer dysgu digidol a defnyddio technoleg yn effeithiol. Mae platfform Hwb yn cynnal tudalen cymorth cymheiriaid lle gall gweithwyr proffesiynol ledled Cymru rannu syniadau ac ymarfer da. Mae amrywiaeth o offer ar gael drwy Hwb i gefnogi hyn, e.e. rhwydweithiau Hwb, defnyddio offer cydweithredol o fewn Office 365 a Google for Education.

    Dylai ysgolion ystyried y cynnig dysgu proffesiynol gan y consortia rhanbarthol, y datblygiadau technoleg addysg a’r cyfleoedd sydd ar gael drwy eu hawdurdod lleol a sut y caiff hyn ei weithredu i wireddu eu gweledigaeth ar gyfer dysgu digidol a sicrhau bod hyfforddiant ac amser priodol ar gael i staff.

    Mae cymhwysedd digidol yn sgil trawsgwricwlaidd gorfodol a rhaid iddo fod yn rhan annatod o gwricwlwm yr ysgol. O ganlyniad, mae angen i staff allu cefnogi datblygiad cymhwysedd digidol dysgwyr a dyfnhau eu dysgu a’u soffistigeiddrwydd wrth i ddysgwyr symud ymlaen drwy eu haddysg.

    Mae adnoddau enghreifftiol ategol ar deithiau datblygu digidol ysgolion ledled Cymru ar gael i rannu syniadau a dulliau gweithredu. Caiff ‘rhain eu hychwanegu dros y misoedd i ddod.

  • Mae’r llinyn hwn o’r Daith Ddysgu Proffesiynol Ddigidol yn cynnwys yr agweddau canlynol.

    • Darpariaeth ar gyfer datblygu cymhwysedd digidol a defnyddio technoleg.
    • Cynllunio ac ymgorffori cyfleoedd perthnasol ar gyfer datblygu dysgu digidol ar draws y cwricwlwm.
    • Cwricwlwm a chynllunio dysgu.
    • Datblygu cymhwysedd digidol dysgwyr a dysgu effeithiol gan ddefnyddio technoleg.
    • Defnyddio technoleg i gefnogi dysgu ar draws y cwricwlwm a datblygu profiadau dysgu digidol effeithiol.

    Datblygu darpariaeth ac addysgeg mewn perthynas â’r Fframwaith Cymhwysedd Digidol

    Mae ysgolion wedi bod yn datblygu eu darpariaeth mewn perthynas â’r Fframwaith Cymhwysedd Digidol ers ei chyhoeddi yn 2016. Mae angen i’r gwaith hwn gyd-fynd ag agenda ddigidol ehangach yr ysgol, gan arwain at ei gweledigaeth ddigidol, ei thechnoleg addysg a’i datblygiadau cadernid digidol yn cefnogi gweithredu ac ymgorffori cymhwysedd digidol yn effeithiol. Dylai ysgolion ystyried eu darpariaeth gyffredinol ar gyfer dysgu digidol a sut mae'r seilwaith digidol yn cefnogi hyn. Argymhellir bod ysgolion yn ymgysylltu â'u Partner Technoleg Addysg Awdurdod Lleol i ddarparu cyngor ar atebion sy'n cefnogi datblygiad yr amgylcheddau dysgu digidol perthnasol yn yr ysgol er mwyn galluogi pob agwedd ar gymhwysedd digidol i gael ei datblygu'n effeithiol.

    Mae angen i ddysgu proffesiynol parhaus feithrin hyder a chymhwysedd er mwyn gwneud penderfyniadau gwybodus ynghylch defnyddio technoleg yn effeithiol fel offeryn addysgu. Bydd hyn yn helpu ysgolion i gynllunio profiadau dysgu digidol ystyrlon a dilys ar draws y cwricwlwm a bydd staff yn gallu cefnogi datblygiad sgiliau digidol dysgwyr fwyfwy.

    Mewn maes sy’n esblygu’n gyflym, dylai athrawon dderbyn y wybodaeth ddiweddaraf a bod yn ymwybodol o ddatblygiadau newydd ym maes technoleg addysg sy’n gallu cefnogi gwell dysgu ac addysgu yn yr ystafell ddosbarth a pharhau i wireddu gweledigaeth gyffredinol yr ysgol ar gyfer dysgu digidol.

    Bydd myfyrio ar y defnydd effeithiol o ddysgu digidol yng nghyd-destun y 12 egwyddor addysgegol hefyd yn arwain at ddatblygu strategaethau i gefnogi dysgu, yn enwedig o ran atgyfnerthu’n rheolaidd sgiliau trawsgwricwlaidd cymhwysedd digidol.

    Cwricwlwm a chynllunio dysgu

    Wrth ystyried sut i weithredu cymhwysedd digidol ar draws y cwricwlwm, dylai ysgolion ystyried sut y bydd hyn yn cyd-fynd â chwricwlwm cyffredinol yr ysgol a sicrhau bod dysgwyr yn cael cyfleoedd i ddatblygu eu sgiliau digidol o fewn cyd-destunau ystyrlon a dilys.

    Dylid ystyried canllawiau Llywodraeth Cymru ar gynllunio eich cwricwlwm wrth ymdrin â’r dasg hon. Mae’n bwysig ystyried sut y gellir datblygu cymhwysedd digidol dysgwyr o fewn cwricwlwm yr ysgol a dylid mapio a chynllunio profiadau dysgu digidol yn unol â hynny. Mae adnodd i gefnogi’r gwaith o  fapio fframwaith sgiliau trawsgwricwlaidd y Fframwaith Cymhwysedd Digidol ar gael ar Hwb.

    Er bod gan ysgolion ryddid i gynllunio eu cwricwlwm eu hunain a gweithredu cymhwysedd digidol fel y gwelant yn dda, dylid ystyried yr agweddau canlynol.

    • Beth yw gweledigaeth yr ysgol ar gyfer dysgu digidol a sut caiff hyn ei wireddu drwy’r cwricwlwm?
    • Sut bydd cymhwysedd digidol yn cael ei ddatblygu drwy’r meysydd dysgu a phrofiad?
    • Sut rydyn ni’n sicrhau parhad o ran sgiliau dysgwyr i wireddu’r gofynion o fewn y Fframwaith Cymhwysedd Digidol yn yr ysgol a rhwng lleoliadau cynradd ac uwchradd?
    • Sut rydyn ni’n sicrhau bod dysgwyr yn gallu defnyddio technoleg yn effeithiol i alluogi cynnydd effeithiol ar draws pob agwedd ar eu dysgu?
    • Pa fodelau cynllunio dysgu sy’n gweddu orau o fewn cwricwlwm yr ysgol a thrwy brofiadau dysgu cysylltiedig?

    Nid yw meddu ar y gallu technegol i ddefnyddio offer technoleg addysg i gynllunio a chyflwyno cynnwys dysgu o reidrwydd yn golygu y bydd dysgu o safon yn digwydd. Dylai ysgolion gymhwyso egwyddorion cynllunio dysgu effeithiol ochr yn ochr ag unrhyw ddefnydd o dechnoleg, yn enwedig lle mae unrhyw ddisgwyliadau o ran dysgu annibynnol neu anghydamseredig. Mae Llywodraeth Cymru wedi comisiynu cyfres o adnoddau rhestr chwarae i ysgolion eu hystyried ar gyfer cefnogi gyda chynllunio dysgu anghydamseredig.

    Datblygwyd adnodd defnyddiol gan y consortia rhanbarthol ar ddysgu cyfunol sy’n ategu’r wybodaeth am ddysgu cyfunol sydd ar gael ar Hwb.

    Modelau gweithredu

    Mae’r strwythurau canlynol yn rhoi amlinelliad o ddulliau posibl o drefnu a datblygu cymhwysedd digidol dysgwyr ac yn dangos y manteision a’r agweddau i’w hystyried mewn perthynas â’r gwahanol ddulliau. Fe’u cyflwynir fel pwyntiau ar gontinwwm a dylai ysgolion fabwysiadu dulliau sy’n briodol i’w hanghenion.

    Ar wahân

    Cyflwynir cymhwysedd digidol drwy wersi TGCh pwrpasol gydag arbenigwr pwnc, fel arfer mewn ystafell sy’n benodol ar gyfer y diben hwn. Mae’r cynnwys yn haniaethol ar y cyfan ac yn canolbwyntio ar ddatblygu sgiliau gyda rhywfaint neu ddim mewnbwn gan bynciau eraill ar draws y cwricwlwm.

    Trawsgwricwlaidd

    Cyflwynir cymhwysedd digidol gan staff drwy gyfrwng cyflwyno cynnwys pwnc. Darperir cyd-destunau dilys ar gyfer y dysgu a’r datblygiad cymhwysedd digidol ochr yn ochr â chynnydd o fewn y pwnc neu’r maes dysgu a phrofiad.

    Mae’r Fframwaith Cymhwysedd Digidol ar gael i gefnogi darpriaeth ac ansawdd profiadau dilys. Mae angen hyfforddiant rheolaidd ar staff i ddarparu cymhwysedd digidol a sicrhau bod dysgu’n cael ei ddyfnhau wrth i ddysgwyr symud ymlaen drwy gydol eu bywyd ysgol.

    Mae ymestyn dysgwyr mwy galluog yn anodd weithiau, ac mae’n gofyn am fewnbwn rheolaidd gan yr arweinydd digidol yn yr ysgol i sicrhau bod lefel briodol o her i’r profiadau.

    Hybrid

    Mae’r dull hwn yn cyfuno nodweddion y ddau fodel uchod mewn continwwm o ddarpariaeth drawsgwricwlaidd bosibl. Cyflwynir cymhwysedd digidol naill ai’n llawn ar draws y cwricwlwm neu canolbwyntir ar gymwyseddau penodol o fewn meysydd dysgu penodol. Darperir gwersi arbenigol gan arbenigwr pwnc ond gan ddefnyddio cyd-destunau dilys o weddill y cwricwlwm, naill ai mewn dull pwnc neu ddull thematig. Cyfeiriwch at y Fframwaith Cymhwysedd Digidol am arweiniad cefnogi.

    Mae rheoli amseriadau yn bwysig, yn enwedig yn yr ysgol uwchradd, er mwyn sicrhau bod cynnwys a sgiliau sy’n cael eu datblygu mewn gwersi ar wahân yn cyd-fynd â’r rhai mewn gwersi gydag athro gwahanol.

    Datblygu profiadau dysgu a defnyddio technoleg

    Agwedd arall i’w hystyried yw defnyddio technoleg yn effeithiol i gefnogi dysgu ac addysgu o fewn agweddau eraill ar y cwricwlwm y tu hwnt i gymhwysedd digidol. Mae amryw o fodelau y mae modd eu defnyddio i ddatblygu technoleg yn effeithiol. Un enghraifft o’r fath y gallai ysgolion ei hystyried yw’r model SAMR. Mae’r model hwn yn cynnwys yr elfennau canlynol:

    • Amnewid.
    • Ychwanegu.
    • Addasu.
    • Ailddiffinio.

    Mae nifer o wefannau sy’n rhoi mwy o fanylion am SAMR. Mae’r safle canlynol, o’r adnodd addysg bellach Digidol 2030, yn fan cychwyn defnyddiol o ran defnyddio SAMR.

    Mae'r dull hwn yn darparu dull graddol i helpu ysgolion i fabwysiadu datrysiadau digidol i weithredu newid ac arloesi a chefnogi dysgu ac addysgu effeithiol.

    Adnoddau ategol

    Mae cymorth ar gyfer gallu a sgiliau digidol hefyd ar gael drwy Hwb. Mae amryw o weminarau ar gael i ymarferwyr ddeall sut i gael gafael ar yr offer a ddarperir drwy Hwb a’u defnyddio i drawsnewid y profiad addysgu a dysgu

    Yn ogystal, mae nifer o ddarparwyr partneriaid allanol y gallai ysgolion fod am eu hystyried wrth gefnogi sgiliau a phrofiadau dysgwyr yn y maes digidol.