English

Wedi'i gynnal ar gylch tair blynedd, PISA yw Rhaglen Asesu Myfyrwyr Rhyngwladol yr OECD.

Cynhaliwyd am y tro cyntaf yn 2000, mae'r prif faes astudio yn cylchdroi rhwng darllen, mathemateg a gwyddoniaeth ym mhob cylch, er bod y tri yn cael eu hasesu bob tro. Mae PISA yn pwysleisio sgiliau gweithredol y mae myfyrwyr wedi'u caffael wrth iddynt agosáu at ddiwedd addysg orfodol.

Asesodd PISA 2018 lythrennedd gwyddoniaeth, darllen a mathemateg myfyrwyr mewn tua 80 o wledydd a systemau addysg. Yn 2022, bydd dysgwyr yn cael eu hasesu ar draws bron i 90 o wledydd a systemau addysg.

Gyda datblygiad cyflym technoleg yn yr 21ain Ganrif, mae cymdeithas ac economïau'n newid yn gyflymach nag erioed o'r blaen ac mae'r sgiliau y bydd eu hangen ar bobl ifanc er mwyn ffynnu yn newid yn barhaus.  Yng Nghymru, rydym yn diwygio ein Cwricwlwm i adlewyrchu hyn.  Adlewyrchir y pedwar diben sydd wrth wraidd Cwricwlwm i Gymru yn y gwerthoedd sy'n siapio PISA; mae'r asesiadau yn caniatáu i'n dysgwyr ddangos eu sgiliau mewn amrywiaeth o gyd-destunau.

Bydd PISA 2022 yn cymryd sampl o'n system addysg ac yn ein helpu i nodi'r camau nesaf mwyaf priodol ar gyfer y cwricwlwm newydd i Gymru ar y cyd.   Mae'n rhoi cyfle i ddeall pobl ifanc, mesur eu lles a'u sgiliau, a dysgu o'u profiadau wrth i ni ddod allan o'r pandemig. Bydd yn chwarae rhan bwysig yn ein dull o adfer a gwella, gan ein helpu i ddeall ein sefyllfa bresennol a darpariaeth ysgolion dros y ddwy flynedd ddiwethaf.

Bydd yr adnoddau hyn yn helpu athrawon i greu profiadau dysgu sy'n cefnogi datblygiad medrau dysgwyr.