Llwybr dysgu cynorthwywyr addysgu
Mae cynorthwywyr addysgu yn rhan werthfawr ac annatod o'r gweithlu addysg, sy'n chwarae rhan hanfodol wrth gefnogi ein plant a'n pobl ifanc.
Mae Llwybr Dysgu Cynorthwywyr Addysgu wedi'i gynllunio i gefnogi dysgu proffesiynol yr holl gynorthwywyr addysgu yn unol â'r safonau proffesiynol ar gyfer cynorthwyo addysgu. Mae pob rhaglen yn adeiladu ar wybodaeth a dealltwriaeth y cynorthwywyr addysgu ar wahanol adegau yn ystod eu gyrfa. Y rhaglenni presennol yw:
- Sefydlu ar gyfer Cynorthwywyr Addysgu Newydd
- Rhaglen Cynorthwywyr Addysgu wrth eu Gwaith
- Darpar Gynorthwywyr Addysgu Lefel Uwch (CALU)
Cynorthwywyr addysgu lefel uwch
Rôl Cynorthwyydd Addysgu Lefel Uwch (CALU) yw ategu gwaith proffesiynol athrawon ar gyfer gweithgareddau dysgu y cytunwyd arnynt o dan system oruchwylio gytunedig. Gall hyn gynnwys cynllunio, paratoi a chyflwyno gweithgareddau dysgu i unigolion/grwpiau neu dymor byr ar gyfer y dosbarth cyfan. Mae dyfarnu statws CALU, er nad yw'n gymhwyster, yn cefnogi cynorthwywyr addysgu i ymgymryd â rôl benodol yn yr ystafell ddosbarth.
Mae'r rhaglen Darpar Gynorthwywyr Addysgu Lefel Uwch yn cefnogi'r cynorthwyydd addysgu i gasglu cyfres o fyfyrdodau dysgu sy'n cyfateb i'r safonau proffesiynol ar gyfer cynorthwyo addysgu. Bydd hyn yn dangos parodrwydd ymgeiswyr ar gyfer asesiad CALU.
Ceir rhagor o wybodaeth am Lwybr Dysgu Cynorthwywyr Addysgu a sut i wneud cais am asesiad CALU ar wefan y consortia rhanbarthol neu drwy gysylltu â'ch consortia neu bartneriaeth leol.