English

2. Ysgolion fel Sefydliadau sy'n Dysgu a'r Daith Dysgu Proffesiynol

Mae'r model 'Ysgolion fel Sefydliadau sy'n Dysgu' yn rhoi fframwaith i ysgolion ei ddefnyddio er mwyn sicrhau dysgu proffesiynol i ymarferwyr. Fel Sefydliadau sy'n Dysgu, dylai ysgolion feithrin eu holl staff a gwneud yn siwr eu bod yn datblygu. Dylai'r weledigaeth ar gyfer y Gymraeg a chaffael yr iaith Gymraeg fod yn glir i bawb, a dylid annog cyfleoedd ar gyfer dysgu proffesiynol a datblygu sgiliau iaith ar y cyd. Drwy greu grwpiau datblygu staff iaith Gymraeg, rhoi cynlluniau cyfeillio staff ar waith a hyrwyddo grwpiau cymorth Cymraeg, caiff ymarferwyr gyfleoedd i fagu hyder. Dylai arweinwyr annog y datblygiadau hyn a modelu'r disgwyliadau sy'n deillio ohonynt. Dylai ysgolion gydweithio a rhannu sgiliau yn eu clystyrau ac â'u partneriaid ehangach er mwyn creu ethos sy'n hyrwyddo dysgu Cymraeg ac sy'n cefnogi pob ymarferydd. Dylai ymarferwyr fod yn dysgu gyda'i gilydd ac oddi wrth ei gilydd, gan ddefnyddio'r cymorth a'r rhaglenni sydd ar gael ar gyfer yr amgylchedd allanol, megis Consortia, Sefydliadau Addysg Uwch a Llywodraeth Cymru.

Fel rhan o'u hadolygiadau rheolaidd, dylai ymarferwyr fod yn trafod â'u rheolwyr sut y gallai dysgu proffesiynol fod o fudd iddynt yn y maes hwn, a dylai hyn ategu gweledigaeth yr ysgol ar gyfer y ddarpariaeth iaith Gymraeg a dysgu Cymraeg.

Mae datblygu'r Gymraeg hefyd yn rhan o'r gwaith o Fodelu Arweinyddiaeth Ddysgu sy'n perthyn i'r Daith Dysgu Proffesiynol. Efallai y byddwch am ystyried y Daith Dysgu Proffesiynol a'r adnoddau sy'n ei hategu yn eich gwaith o ddatblygu'r Gymraeg yn strategol a'i hintegreiddio yn eich paratoadau ar gyfer y Cwricwlwm i Gymru.

Gall ysgolion ddefnyddio'r cyllid a dyrennir iddynt drwy'r grant dysgu proffesiynol neu'r grant gwella addysg i helpu ymarferwyr i ddatblygu eu sgiliau Cymraeg.

  • Blaenorol

    Datblygu'r Gymraeg yn eich ysgol

  • Nesaf

    Dysgu proffesiynol iaith Gymraeg