English

1. Datblygu'r Gymraeg yn eich ysgol

Mae ‘Cymraeg 2050: Miliwn o siaradwyr Cymraeg' yn nodi ein huchelgais o greu miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Mae'n cynnwys targedau i gynyddu nifer yr athrawon sy'n gymwys i addysgu'r Gymraeg fel pwnc ac i addysgu pynciau eraill drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae hefyd yn nodi gweledigaeth ar gyfer datblygu sgiliau Cymraeg pob dysgwr rhwng 3 a 16 oed fel rhan o'r Cwricwlwm i Gymru er mwyn gwneud yn siwr y byddant yn gallu defnyddio'r iaith o ddydd i ddydd.

Bydd yr wybodaeth yn yr adran hon yn helpu ysgolion i ddatblygu'r ffordd y maent yn addysgu'r Gymraeg ac yn ei defnyddio drwy ddarparu gwybodaeth am gyfleoedd dysgu proffesiynol, a thrwy gyfeirio at feysydd allweddol eraill er mwyn i ysgolion  sicrhau bod y Gymraeg yn cael ei ystyried wrth wraidd eu gwaith.

Mae'n hanfodol ein bod yn meithrin sgiliau Cymraeg ein hymarferwyr a datblygu eu gallu i addysgu'r Gymraeg, a thrwy gyfrwng y Gymraeg, er mwyn bodloni amcanion Cymraeg 2050 a darparu'r Cwricwlwm i Gymru.

Mae'r Safonau Proffesiynol ar gyfer Addysgu ac Arweinyddiaeth a Chynorthwyo Addysgu yn nodi'r disgwyliad y bydd ymarferwyr yn datblygu eu gwybodaeth a'u defnydd o'r Gymraeg drwy eu gyrfa, yn ogystal ag estyn sgiliau Cymraeg dysgwyr a'u gallu i siarad yr iaith.

Rydym wedi llunio un Fframwaith cymwyseddau iaith Gymraeg ymarferwyr addysg er mwyn ategu'r gwaith o roi'r safonau proffesiynol ar waith. Mae'r fframwaith yn rhan o'r Pasbort Dysgu Proffesiynol, ac mae'n rhoi cyfle i ymarferwyr gofnodi eu cynnydd o ran datblygu eu sgiliau Cymraeg, o'r cyfnod Addysg Gychwynnol i Athrawon drwy gydol eu gyrfa. Caiff y fframwaith ei gynnwys hefyd yn y Cyfrifiad Blynyddol o'r Gweithlu Ysgolion. Mae pob cyfle dysgu proffesiynol iaith Gymraeg wedi'i fapio i'r fframwaith i sicrhau bod ymarferwyr yn gallu gweld cyfleoedd sy'n addas iddynt yn hawdd.

Y Fwrsariaeth i gadw athrawon Cymraeg mewn addysg: canllawiau i ymgeiswyr.

  • Nesaf

    Ysgolion fel Sefydliadau sy'n Dysgu a'r Daith Dysgu Proffesiynol