Ysgol
1. Taith ddysgu broffesiynol unigol
Galluogi unigolion i gymryd cyfrifoldeb am eu gofynion a’u prosesau dysgu dros gyfnod amser realistig.
Mae dysgu proffesiynol yn fwyaf effeithiol pan fydd yn rhan o gynllun hirdymor ar gyfer dysgu a datblygu a luniwyd gan yr ymarferydd. Mae’n amlwg mai ‘taith’ ddysgu broffesiynol a gynllunnir gan yr ymarferydd ac y mae’r ymarferydd yn gyfrifol amdano, sy’n fwyaf tebygol o gael effaith ar arferion. Dylai ymarferwyr ddefnyddio’r amserlen ddiwygio fel canllaw wrth gynllunio, er mwyn iddynt allu gweld ymhell cyn amser beth fydd eu hanghenion wrth i’r cwricwlwm newydd a’r agweddau eraill ar y broses ddiwygio ddod i rym.
Meddyliwch am fideo gan arbenigwr arweiniol ar wella ysgolion yn trafod pwysigrwydd yr elfen hon yng nghyd-destun y dull gweithredu cenedlaethol ehangach.
Ymchwil
Ystyriwch ymchwil a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru fel sail i’r elfen hon o’r dull gweithredu cenedlaethol.