Mae'r broses gymeradwyo yn ei chyfnod peilot a gall newid yn y dyfodol.
Bydd 4 cam i gymeradwyo darpariaeth dysgu proffesiynol. Yr amserlen fras o gyflwyno cais i dderbyn hysbysiad ynghylch y canlyniad terfynol yw dau fis.
Gall darparwyr sy'n gweithio mewn partneriaethau neu gynghreiriau ar lefel ranbarthol neu genedlaethol gyflwyno cais grŵp am gymeradwyaeth.
Rydym yn croesawu ceisiadau yn Gymraeg neu yn Saesneg.
Cam 1: gwneud cais
Mae'r furfflen gais ar-lein yn cynnwys y manylion llawn am sut i wneud cais.
Mae'r ffurflen gais yn cynnwys 2 adran:
Adran 1
- Trosolwg byr o brofiad a hanes y darparwr.
- Trosolwg o'r ddarpariaeth, ei nodau, ei hamcanion a'i deilliannau dysgu bwriedig.
Adran 2
Datganiad o ddim mwy na 850 o eiriau gan roi tystiolaeth sy'n berthnasol i'r meini prawf cymeradwyo:
- Rhesymeg y cynllun.
- Y model gweithredu a dysgu.
- Gwerthuso, effaith a chynaliadwyedd.
Pwyntiau i'w hystyried:
- Rhaid cyflwyno ceisiadau drwy'r ffurflen ar-lein.
- Mae'r cyfyngiad ar y cyfrif geiriau yn cynnwys y gofod rhwng geiriau.
- Noder y cyfyngiadau ynghylch tystiolaeth atodol.
Asesu ceisiadau
Bydd y ceisiadau yn cael eu hasesu gan banel a gadeirir gan aelod o'r Panel Cymeradwyo Cenedlaethol.
Bydd y ceisiadau sy'n llwyddo yng Ngham 1 yn mynd yn syth ymlaen i Gam 2 (cyfweliad gan y panel).
Os nad yw'r ddarpariaeth yn bodloni'r trothwy gofynnol o ran ansawdd, ni fydd y cais yn mynd ymlaen i Gam 2. Fodd bynnag, bydd y darparwr yn derbyn adborth at ddiben datblygiad er mwyn ailgyflwyno'r cais.
Cam 2: cyfweliad gan y panel
Bydd hwn yn gyfle i'r darparwr gyfarfod â'r Panel Cymeradwyo Cenedlaethol i drafod y ddarpariaeth ymhellach a rhoi cyflwyniad byr.
Bydd y panel cyfweld yn cael ei gadeirio gan aelod o'r Panel Cymeradwyo Cenedlaethol.
Cam 3: canlyniad
Dyfernir statws 'cymeradwy' i geisiadau llwyddiannus am gyfnod o 5 mlynedd.
Bydd ymgeiswyr nad ydynt eto wedi bodloni'r meini prawf cymeradwyo yn cael adborth at ddiben datblygiad er mwyn ailgyflwyno eu cais.
Ni all darparwyr apelio yn erbyn penderfyniad terfynol y Panel Cymeradwyo. Fodd bynnag, bydd cyfle i ailgyflwyno'r cais, yn seiliedig ar argymhellion y panel.
Cam 4: monitro
Bydd y Panel Cymeradwyo yn monitro dros dro y ddarpariaeth a gymeradwywyd i sicrhau bod y safonau ansawdd yn cael eu cynnal. Gall darparwyr ddisgwyl i'r ddarpariaeth a gymeradwywyd gael ei gwirio o ran sicrwydd ansawdd yn rheolaidd, ar ôl cwblhau cylch cyflawni.
Hysbysiad preifatrwydd
- Hysbysiad preifatrwydd pdf 136 Kb Efallai na fydd y ffeil hon yn hygyrch. Os oes angen fersiwn mwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, anfonwch ebost os gwelwch yn dda. digital@gov.wales. Dywedwch wrthym y fformat sydd ei angen arnoch. Os ydych yn ddefnyddio technoleg gynorthwyol dywedwch wrthym pa fath