English

Mae’r Rhwydweithiau Ymchwil Cydweithredol yn fforymau ar gyfer datblygu ymarfer ymchwil addysgol ar draws pob un o sefydliadau addysg uwch Cymru. Mae’r rhwydweithiau yn dod ag ymchwilwyr o wahanol gefndiroedd disgyblaethol ynghyd, ochr yn ochr ag ymarferwyr a rhanddeiliaid eraill, ac yn eu galluogi i rannu syniadau a diddordebau ymchwil. Mae gwaith y rhwydweithiau yn canolbwyntio ar ddatblygu a chynyddu capasiti’r sector ymchwil addysgol yng Nghymru, gan gymryd camau pendant i annog ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa a myfyrwyr doethurol (ar draws pob llwybr, gan gynnwys Doethuriaethau Proffesiynol) i gymryd rhan yn eu gweithgareddau. Mae pob rhwydwaith yn cynnwys cynrychiolwyr o bob un o’r sefydliadau addysg uwch, gan gynnwys y Brifysgol Agored yng Nghymru. Mae’r pedwar rhwydwaith yn adlewyrchu blaenoriaethau Llywodraeth Cymru, sef: Cwricwlwm ac Addysgeg; Tegwch a Chynhwysiant; Y Gymraeg a Dwyieithrwydd; ac Arweinyddiaeth a Dysgu Proffesiynol. Dylid nodi, fodd bynnag, fod cryn dipyn o gydweithio rhwng y rhwydweithiau, ac nad ydynt yn gweithio ar wahân, naill ai’n ddamcaniaethol nac yn ymarferol.

Mae’r Rhwydwaith Ymchwil Cydweithredol Tegwch a Chynhwysiant yn un o bedwar rhwydwaith ymchwil cydweithredol a ariennir gan Lywodraeth Cymru ar hyn o bryd fel rhan o’r Strategaeth Genedlaethol ar gyfer Ymchwil ac Ymholiad Addysgol.

Mae gweithgarwch y rhwydwaith yn canolbwyntio ar rannu syniadau a datblygu arferion ymchwil i wella canlyniadau addysgol i blant a phobl ifanc yng Nghymru. Rydym yn cyflwyno sgyrsiau a seminarau ac yn cefnogi ymchwil sy’n canolbwyntio ar ein prif feysydd diddordeb, sef addysg a dysgu, hil a hunaniaeth, ac iechyd a llesiant. Trefnir y rhwydwaith drwy gyfarfodydd rheolaidd y grŵp llywio sydd â chynrychiolaeth o bob un o sefydliadau addysg uwch Cymru.

Rydym yn croesawu ymchwilwyr, yn enwedig ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa, a chydweithwyr mewn ysgolion a cholegau i ymuno â phob digwyddiad rhwydwaith. Os hoffech gael gwybod am ddigwyddiadau yn y dyfodol, cysylltwch â robyn.mcqueen@southwales.ac.uk i gael eich ychwanegu at ein rhestr bostio.

Mae ein rhwydwaith yn bartneriaeth rhwng pob un o sefydliadau addysg uwch Cymru, Llywodraeth Cymru, sefydliadau haen ganol eraill ac ysgolion. Ein ffocws yw cyfathrebu a chynhyrchu gwybodaeth newydd a herio syniadau am arweinyddiaeth addysgol a dysgu proffesiynol staff. Mae hefyd yn fwriad gan y rhwydwaith i gefnogi datblygiad ei aelodau fel ymchwilwyr, gan gynyddu capasiti ym maes ymchwil ledled Cymru. Ein nod yw cyfrannu at ymarfer a pholisi ar draws y system. Rydym yn rhwydwaith agored, ac mae croeso i bawb sydd â diddordeb ddod i’n cyfarfodydd a’n seminarau a gynhelir bob mis. Defnyddiwch y wefan hon i edrych ar adnoddau a’n hamserlen ar gyfer cyfarfodydd yn y dyfodol.

Mae’r ffilm fer ganlynol yn rhoi rhagor o wybodaeth am weithgareddau’r rhwydwaith.

Rhwydwaith Ymchwil Cydweithredol Arweinyddiaeth a Dysgu Proffesiynol

Mae’r Rhwydwaith Ymchwil Cydweithredol Cwricwlwm ac Addysgeg wedi’i adeiladu ar sylfaen o barch a dealltwriaeth o amrywiaeth, cynhwysiant a gwerth dysgu gan ein gilydd. Mae gennym grŵp o gynrychiolwyr craidd (o leiaf dau o bob un o’r sefydliadau addysg uwch yng Nghymru). Mae’r rhain yn cynnwys cydweithwyr sydd ag ystod eang o brofiad, o ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa hyd at Athrawon profiadol, sy’n cwrdd bob pythefnos i gynllunio ein gweithgareddau. Fodd bynnag, mae’r rhwydwaith yn agored i bawb, ac mae croeso i unrhyw un sydd â diddordeb mewn ymuno – gweler y manylion cyswllt isod.

Mae’r amgylchedd hwn lle mae pawb yn cefnogi ei gilydd yn hanfodol i’n gwaith o feithrin capasiti ym maes ymchwil ledled Cymru, gan gynnwys drwy brosiectau ymchwil a chyhoeddiadau. Wrth i Gymru symud i gyfnod newydd cyffrous, a heriol o bosibl, o ddatblygu’r cwricwlwm, rydym yn cydnabod pwysigrwydd safbwyntiau rhyngwladol. O ganlyniad, rydym wedi datblygu cysylltiadau ag academyddion mewn gwledydd fel Seland Newydd ac America, sydd wedi cyflwyno yn ein seminarau. Mae’r seminarau ar-lein hyn yn ganolog i’n cylch gwaith i gefnogi cydweithwyr mewn ysgolion, ond maent hefyd yn berthnasol i gydweithwyr ym meysydd Addysg Gychwynnol i Athrawon ac addysg uwch. Rydym hefyd yn gweithio’n agos gyda Chonsortia a sefydliadau haen ganol.

Rydym yn eich croesawu’n gynnes i ymuno â’n rhwydwaith, ein seminarau neu ein prosiectau ymchwil. Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am y Rhwydwaith Ymchwil Cydweithredol Cwricwlwm ac Addysgeg, e-bostiwch rellis@cardiffmet.ac.uk

Mae’r Rhwydwaith Ymchwil Cydweithredol Addysg Ddwyieithog a’r Gymraeg yn un o bedwar rhwydwaith ymchwil cydweithredol a ariennir gan Lywodraeth Cymru ar hyn o bryd fel rhan o’r Strategaeth Genedlaethol ar gyfer Ymchwil ac Ymholiad Addysgol.

Trefnir y rhwydwaith drwy gyfarfodydd rheolaidd y grŵp llywio sydd â chynrychiolaeth o bob un o sefydliadau addysg uwch Cymru. Mae gweithgarwch y rhwydwaith yn canolbwyntio ar rannu syniadau a datblygu arferion ymchwil i wella addysg ddwyieithog a’r defnydd o’r Gymraeg ym maes addysg yng Nghymru. Rydym yn meithrin cysylltiadau â gwledydd eraill lle mae ieithoedd lleiafrifol yn bodoli, yn cynnal seminarau ac yn cynhyrchu cynigion ymchwil academaidd cydweithredol a chyhoeddiadau ar addysg ddwyieithog a’r Gymraeg. Chwaraeodd y rhwydwaith ran hefyd yn y Gynhadledd Ryngwladol ar Ieithoedd Lleiafrifol a gynhaliwyd yng Nghymru ym mis Mehefin 2023.

Rydym yn croesawu ymchwilwyr, yn enwedig ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa, a chydweithwyr mewn ysgolion a cholegau i ymuno â phob digwyddiad rhwydwaith. Os hoffech gael gwybod am ddigwyddiadau yn y dyfodol, cysylltwch â elin.jones@uwtsd.ac.uk i gael eich ychwanegu at ein rhestr bostio.