English

O gydberthnasau i bartneriaethau – effaith pandemig COVID-19 ar ymgysylltiad rhieni/gofalwyr â dysgu plant yng Nghymru a'r goblygiadau ar gyfer addysg gychwynnol i athrawon.

Yr astudiaeth ymchwil

Rhoddodd Llywodraeth Cymru grant ym mis Mehefin 2020 i dîm ymchwil o brifysgolion Bangor ac Abertawe i gynnal yr astudiaeth hon.

Maes ymchwil

Gan ddefnyddio tystiolaeth o sampl fach o ysgolion, mae'r ymchwil yn adrodd ar effaith y pandemig ar ymgysylltiad rhieni mewn addysg a'r goblygiadau ar gyfer addysg gychwynnol i athrawon.

Methodoleg

Gan adeiladu ar adolygiad o dystiolaeth flaenorol yn y maes hwn, cynhaliodd y tîm ymchwil arolwg ar raddfa fach gyda rhieni/gofalwyr a myfyrwyr addysg gychwynnol i athrawon, cyfweliadau lled-strwythuredig mewn sampl fach o ysgolion ac un astudiaeth achos ysgol.

Prif ganfyddiadau

  1. Mae'r pandemig wedi cael effaith sylweddol ar ymgysylltiad rhieni/gofalwyr â dysgu eu plant yn ogystal ag ar gyfathrebu rhwng ysgolion a rhieni/gofalwyr.
  2. Mae hyn wedi arwain at roi mwy o bwys ar y berthynas rhwng yr ysgol a'r cartref a'r cyfrifoldeb a rennir sy'n bodoli ar gyfer dysgu plant.
  3. Mae astudiaeth achos ysgol lle'r oedd cydberthynas o'r fath eisoes yn bodoli yn dangos yr effaith gadarnhaol a gafodd hyn ar leddfu heriau'r pandemig, gan gynnwys cefnogi lles a chynnydd academaidd plant.
  4. Roedd y rhan fwyaf o rieni/gofalwyr yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi'n dda gan ysgolion, er bod profiadau'n amrywio rhwng ysgolion.
  5. Dywedodd rhieni/gofalwyr yn gyffredinol fod ganddynt well dealltwriaeth o'r cwricwlwm a dysgu eu plant.
  6. Mae trin pwysigrwydd ymgysylltu â rhieni yn anghyson mewn rhaglenni addysg gychwynnol i athrawon; mewn rhai achosion mae hyn yn cynnwys diffyg barn yn cael ei gyflwyno gan rieni/gofalwyr, sy'n niweidiol i berthynas rhieni/gofalwyr ag athrawon ac ymgysylltu â rhieni.

Argymhellion

  1. Dylid gwella'r sylw a roddir i ymgysylltiad rhieni mewn rhaglenni addysg gychwynnol i athrawon a chynnwys cysondeb yn ei ddiffiniad a'i ddealltwriaeth.
  2. Dylid trefnu seminar ar gyfer haf 2021 fel ffordd o ddechrau'r gwaith hwn.
  3. Dylid nodi adnoddau defnyddiol a pherthnasol ar gyfer ymgysylltu â rhieni i'w defnyddio mewn cyrsiau addysg gychwynnol athrawon.
  4. Dylai Llywodraeth Cymru gynnull grwp rhanddeiliaid i ystyried sut y gellir hyrwyddo ymwybyddiaeth ehangach o bwysigrwydd ymgysylltu â rhieni o fewn system addysg Cymru, gan ddefnyddio profiadau'r pandemig.

Rhagor o wybodaeth

Cyhoeddir yr adroddiad ymchwil llawn yn haf 2021 yn ardal NSERE Hwb. Am ragor o wybodaeth cysylltwch â j.s.goodall@swansea.ac.uk