English

Cael mynediad i'r Gymraeg yn ystod pandemig COVID-19 – heriau a chefnogaeth i aelwydydd di-Gymraeg.

Yr astudiaeth ymchwil

Rhoddodd Llywodraeth Cymru grant ym mis Mehefin 2020 i dîm ymchwil o brifysgolion Bangor ac Aberystwyth a Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant i gynnal yr astudiaeth hon.

Maes ymchwil

Gan ddefnyddio tystiolaeth o sampl o ysgolion, mae'r ymchwil yn ystyried effaith y pandemig ar ymgysylltiad dysgwyr â'r Gymraeg a/neu'r defnydd o'r Gymraeg yn y sectorau cyfrwng Cymraeg/dwyieithog a chyfrwng Saesneg, gan ganolbwyntio'n benodol ar blant sy'n mynychu ysgolion cyfrwng Cymraeg sy'n byw ar aelwydydd di-Gymraeg.

Methodoleg

Casglwyd data'r arolwg rhwng mis Tachwedd 2020 a mis Ionawr 2021 gan athrawon a rhieni/gofalwyr mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg, dwyieithog a chyfrwng Saesneg ledled Cymru. Yn ogystal â hyn, cynhaliwyd cyfweliadau a grwpiau ffocws ym mis Mawrth 2021 gyda darlithwyr a myfyrwyr mewn addysg gychwynnol i athrawon.

Prif ganfyddiadau

  1. Creodd yr amgylchedd newydd o ddysgu cyfunol ac o bell heriau o ran sicrhau bod dysgwyr yn defnyddio'r Gymraeg yn rheolaidd oherwydd materion sy'n gysylltiedig â diogelu, cyfyngiadau technolegol, diffyg adnoddau addas a defnydd awtomatig dysgwyr o'r Saesneg yn amgylchedd y cartref.
  2. Er gwaethaf yr heriau hyn, roedd rhai ysgolion yn cefnogi teuluoedd yn effeithiol yn ystod y cyfnod hwn.
  3. Yn achos addysg cyfrwng Cymraeg a dwyieithog, nododd rhieni/gofalwyr fod ysgolion yn cyfathrebu â nhw yn ddwyieithog wrth osod gwaith i ddysgwyr, er nad oeddent mewn rhai achosion yn gallu cynorthwyo eu plant oherwydd bod hyn yn cael ei wneud yn bennaf yn Gymraeg.
  4. Nid oedd rhieni/gofalwyr yn ei chael yn ddefnyddiol pan roeddent yn derbyn cyfieithiad uniongyrchol o dasgau na phan roedd yr adborth a ddarparwyd yn Gymraeg i raddau helaeth. Byddent wedi gwerthfawrogi mwy o arweiniad ar amcanion a phwrpas y tasgau i gynorthwyo eu plentyn i gwblhau'r tasgau yn Gymraeg.
  5. Cafodd gallu ysgolion i ddatblygu sgiliau llafar Cymraeg dysgwyr ei effeithio'n andwyol gan y cyfyngiadau symud.
  6. Roedd anawsterau hefyd o ran gosod gwaith oedd yn gymesur â chymhwysedd dysgwyr yn y Gymraeg, gan arwain at ddysgwyr â lefelau uchel ac isel o gymhwysedd yn cymryd rhan annigonol yn y gwaith.
  7. Er bod rhai plant yn parhau i ffynnu, roedd angen cymorth ychwanegol ar lawer o rai eraill nad oeddent mewn cysylltiad â'r Gymraeg ar ôl iddynt ddychwelyd i'r ysgol.
  8. Fodd bynnag, nododd athrawon, pan gynigiwyd cymorth priodol i blant o'r fath, eu bod yn adennill eu cymwyseddau'n gyflym.
  9. Bu'n rhaid i fyfyrwyr mewn addysg gychwynnol i athrawon wella eu sgiliau technolegol yn gyflym a'u gallu i ddatblygu adnoddau ar gyfer amgylcheddau dysgu cyfunol a dysgu o bell.

Argymhellion

  1. Dylid cynnal adolygiad o ddefnydd effeithiol o strategaethau dysgu cyfunol a dysgu o bell yng nghyd-destun dysgu Cymraeg, gan gynnwys adnoddau i gynorthwyo dysgu y tu allan i'r ysgol.
  2. Dylid darparu canllawiau i ysgolion ar ffyrdd effeithiol o gyfathrebu'n ddwyieithog â rhieni/gofalwyr y tu hwnt i gyfieithu uniongyrchol.
  3. Dylid datblygu canllawiau ar y ffyrdd gorau o annog a chefnogi'r defnydd o'r Gymraeg y tu allan i'r ysgol.
  4. Dylid darparu cyfleoedd dysgu proffesiynol i athrawon ar:
  • ddefnydd effeithiol o dechnoleg i gefnogi dwyieithrwydd
  • adborth effeithiol i rieni/gofalwyr a dysgwyr mewn cyd-destunau cyfrwng Cymraeg/dwyieithog
  • dulliau adalw effeithiol i gasglu'r hyn y mae dysgwyr eisoes yn ei wybod
  • cynorthwyo dysgwyr ADY yn effeithiol
  1. Dylai partneriaethau addysg gychwynnol i athrawon nodi hyrwyddwyr dysgu digidol sy'n gallu cefnogi datblygiadau yn y maes hwn ar draws y bartneriaeth.
  2. Dylai ysgolion:
  • nodi aelod o staff fel pwynt cyswllt allweddol ar gyfer ymholiadau gan rieni/gofalwyr ynghylch y ffyrdd gorau o gynorthwyo plant i ddefnyddio'r Gymraeg
  • adolygu eu polisïau iaith i adlewyrchu profiadau'r pandemig a sicrhau bod y rhain yn cael eu cyfleu i'r staff
  • myfyrio, yn dilyn profiad y pandemig, ar y ffyrdd gorau o wahaniaethu gwaith i ddysgwyr fel ei fod yn addas ar gyfer eu lefelau cymhwysedd ieithyddol
  • ystyried mabwysiadu egwyddorion traws iaith lle mae dysgwyr yn derbyn gwybodaeth mewn un iaith (Saesneg) ac yn ei defnyddio neu ei chymhwyso mewn iaith arall (Cymraeg)
  • ystyried cyflwyno sesiynau adolygu iaith dwys yn dilyn cyfnodau hir o absenoldeb dysgwyr

Rhagor o wybodaeth

Bydd adroddiad ymchwil llawn yn cael ei gyhoeddi yn haf 2021 yn ardal NSERE Hwb. Am ragor o wybodaeth cysylltwch â'r Athro Enlli Thomas: enlli.thomas@bangor.ac.uk