English

Profiadau dysgu cyfunol ac o bell yn ystod pandemig COVID-19 yng Nghymru - tystiolaeth ysgolion a rhanddeiliaid.

Yr astudiaeth ymchwil

Rhoddodd Llywodraeth Cymru grant ym mis Mehefin 2020 i dîm ymchwil o brifysgolion Wrecsam Glyndwr ac Aberystwyth a Phrifysgol De Cymru i ymgymryd â’r astudiaeth hon.

Maes ymchwil

Gan ddefnyddio tystiolaeth o sampl fach o ysgolion, mae'r ymchwil yn adrodd ar y profiad o ddysgu cyfunol a dysgu o bell i ddysgwyr, athrawon, arweinwyr ysgolion, rhieni/gofalwyr a rhanddeiliaid addysgol yn ystod gwanwyn, haf a hydref 2020.

Methodoleg

Gan ategu adolygiad o dystiolaeth flaenorol yn y maes hwn, cynhaliodd y tîm ymchwil arolwg cychwynnol a gynlluniwyd i nodi cwestiynau allweddol a defnyddiwyd y rhain ar gyfer ail gam casglu data yn cynnwys cyfweliadau, grwpiau ffocws ac arolygon gyda 15 o ysgolion ledled Cymru. Cynhaliwyd cyfweliadau hefyd gyda chonsortia rhanbarthol a grwpiau ffocws gyda myfyrwyr ar gyrsiau addysg gychwynnol athrawon.

Prif ganfyddiadau

Roedd yr angen i symud i ddysgu cyfunol a dysgu o bell o ganlyniad i'r pandemig yn cynnig cyfleoedd a heriau.

Cyfleoedd

  1. Cyflwynwyd mwy o gyfleoedd ar gyfer defnydd creadigol o ddysgu digidol ac mae hyn yn debygol o gael effaith hirdymor ar ddysgu ac addysgu mewn ysgolion.
  2. Darparwyd cyfleoedd gwell i rai dysgwyr i ddod yn ddysgwyr annibynnol gyda mwy o ddewis dros eu gweithgareddau a chyflymder eu gwaith.
  3. Roedd mwy o gydweithio yn gallu digwydd mewn ysgolion a rhyngddynt wrth ddatblygu cymorth i ddysgwyr ac wrth ddarparu cyfleoedd dysgu proffesiynol i athrawon, dysgwyr a rhieni/gofalwyr.
  4. Cynyddodd ymgysylltiad rhieni â dysgu, yn ogystal â'r cymorth a ddarparodd ysgolion ar gyfer hyn.
  5. Am y rhesymau uchod, mae'n ymddangos bod rhai dysgwyr wedi ffynnu yn ystod y cyfnod hwn a bod eu cynnydd dysgu wedi cyflymu.

Heriau

  1. Cafodd yr angen i ysgolion addasu'n gyflym i'r amgylchedd dysgu ac addysgu newydd a chefnogi dysgwyr a'u teuluoedd - yn enwedig y rhai a oedd dan fwy o anfantais ac a oedd yn fwy agored i niwed – effaith fawr ar lwyth gwaith a lles athrawon.
  2. Cafodd llawer o ddysgwyr a theuluoedd broblemau o ran cael gafael ar galedwedd technegol a chysylltedd â'r rhyngrwyd.
  3. Yn enwedig mewn meysydd ymarferol o'r cwricwlwm, collodd dysgwyr fynediad at adnoddau ac offer arbenigol.
  4. Roedd dysgwyr hefyd yn colli rhyngweithio cymdeithasol a dysgu gyda'u cyfoedion.
  5. Roedd angen cynyddol ar athrawon, dysgwyr a rhieni/gofalwyr am ddysgu proffesiynol ar ddysgu cyfunol a dysgu o bell ac anghysondebau mewn ymatebion i hyn gan awdurdodau lleol a chonsortia ranbarthol.
  6. Roedd amrywioldeb o ran graddau ac effeithiolrwydd cymorth rhieni/gofalwyr ar gyfer dysgu.
  7. Daeth ymgysylltu â llawer o ddysgwyr, gan gynnwys dysgwyr a theuluoedd sydd eisoes yn anodd eu cyrraedd, yn anos fyth.
  8. O ganlyniad i amrywiadau o ran graddau'r ymgysylltu ac ansawdd y profiad a gawsant drwy ddysgu cyfunol a dysgu o bell, roedd llawer o ddysgwyr yn ei chael hi'n anodd wneud cynnydd yn eu haddysg.

Argymhellion

Adferiad

  1. Dylid targedu cymorth ychwanegol at y dysgwyr hynny a brofodd y cyfnod pontio yn ystod y cyfyngiadau symud o'r ysgol gynradd i'r ysgol uwchradd, i Gyfnod Allweddol 4, i Flwyddyn 12 ac ymlaen i addysg bellach ac uwch.
  2. Dylid darparu cyfleoedd yn y cwricwlwm ysgol newydd ar gyfer dysgu annibynnol sy'n adeiladu ar brofiadau'r pandemig.
  3. Dylid rhoi mwy o bwyslais ar bwysigrwydd yr amgylchedd dysgu yn y cartref ac ymgysylltu â theuluoedd a chyfathrebu rhwng ysgolion a rhieni/gofalwyr, yn enwedig o ran dysgwyr sydd o dan fwy o anfantais ac mewn cyd-destunau dwyieithog.
  4. Dylid darparu mwy o gyfleoedd ar gyfer dysgu proffesiynol ar ddysgu cyfunol a dysgu o bell, yn seiliedig ar gydweithredu a rhwydweithio rhwng ysgolion ac ysgolion.
  5. Dylid datblygu swyddogaeth ar gyfer 'hyrwyddwyr technoleg' fel safle arweinyddiaeth ganol mewn ysgolion.
  6. Dylid cynnwys mwy o bwyslais ar ddysgu cyfunol a dysgu o bell mewn addysg gychwynnol i athrawon.

Cynllunio'r dyfodol

  1. Mae angen i ddysgwyr, ysgolion a chartrefi gael y caledwedd a'r cysylltedd rhyngrwyd sydd eu hangen i allu ymateb i unrhyw amhariad yn y dyfodol tebyg i effaith y pandemig.
  2. Mae angen ystyried yr effaith ar lwyth gwaith a lles athrawon yn ystod cyfnodau o darfu o'r fath.
  3. Mae angen gwybodaeth ar ddysgwyr, athrawon a rhieni/gofalwyr am y ffordd orau o ymateb i amhariad ar addysg.
  4. Dylai dysgu o bell a dysgu cyfunol gael ei gynrychioli'n gryfach o fewn y cwricwlwm.

Rhagor o wybodaeth

Cyhoeddir yr adroddiad ymchwil llawn yn haf 2021 yn ardal NSERE Hwb. Am ragor o wybodaeth cysylltwch â Dr Susan Chapman, Yr Ysgol Addysg, Prifysgol Aberystwyth scc@aber.ac.uk