English

Mae ymholi wrth wraidd gweledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer dysgu proffesiynol.

Trosolwg

Lansiwyd y Prosiect Ymholi Proffesiynol Cenedlaethol yn 2018 i gefnogi ymarferwyr i ddatblygu eu sgiliau ymholi ac addysgeg i wella addysgu a dysgu.

Cefnogir y prosiect gan bartneriaid o sefydliadau addysg uwch ledled Cymru, ynghyd â chonsortia a phartneriaethau rhanbarthol ac awdurdodau lleol.

Mae'r prosiect yn cefnogi rhwydwaith cynyddol o ysgolion i ddatblygu ystod o sgiliau ymholi trwy arwain ymholiadau yn eu lleoliadau eu hunain sy'n canolbwyntio ar wella ysgolion yng nghyd-destun diwygio ADY a'r Cwricwlwm i Gymru.

Ers 2018, mae tua 30% o ysgolion wedi cymryd rhan yn y Prosiect, gan gynhyrchu dros 900 o ymholiadau arloesol, yn amrywio o 'gadw gwenyn' i 'ddiwedd cloch yr ysgol'.

Mae ymholiadau ysgolion y prosiect yn edrych ar y themâu canlynol:

  • Y Cwricwlwm i Gymru
  • addysgeg a dysgu
  • asesu
  • ecwiti
  • arweinyddiaeth

Canfyddiadau'r ymholiadau

Archwiliwch ymhellach drwy'r ardal adnoddau dysgu proffesiynol.

Os hoffech gymryd rhan, cysylltwch â'ch consortia neu bartneriaeth ranbarthol.