English

Sicrhau diogelwch a lles eich teulu yw'r peth pwysicaf y gallwch ei wneud i'ch plant. Gallwch ddod o hyd i ganllawiau ar sut i amddiffyn eich hun ag eraill rhag y coronafeirws ar wefan Llywodraeth Cymru a cheir awgrymiadau ar sut i helpu i gefnogi lles eich plant yn yr adrannau isod. Hefyd, mae'n bosibl y bydd y wybodaeth ganlynol yn ddefnyddiol i chi os:

  • yw eich plant yn cael prydau ysgol am ddim: cewch wybod am sut y gallwch chi barhau i gael prydau ysgol am ddim yn eich ardal awdurdod lleol pan fydd ysgolion ar gau
  • rydych chi’n credu bod angen gwybodaeth yn gysylltiedig â phlant a phobl ifanc agored i niwed yn ystod pandemig y coronafeirws
  • yw eich plant yn cael gwasanaeth cwnsela drwy eu hysgol ar hyn o bryd er mwyn helpu i gefnogi eu hiechyd meddwl. Dylent allu parhau i gael gafael ar y cymorth hwn. Gall pobl ifanc sy'n cael gwasanaeth cwnsela ar hyn o bryd ddisgwyl rhagor o fanylion yn ystod yr wythnosau nesaf. Gall plant a phobl ifanc nad ydynt yn cael cymorth cwnsela ar hyn o bryd, ond a all elwa ar gymorth o'r fath, gael mynediad at y gwasanaeth. Os oes gennych unrhyw gwestiynau am hyn, cysylltwch â'ch ysgol neu eich gwasanaeth cymunedol yn uniongyrchol
  • rydych yn chwilio am adnoddau i'ch helpu i reoli eich lles eich hun neu les eich plant. Mae llawer o apiau ffôn symudol am ddim all helpu a gallwch ddod o hyd iddynt yn llyfrgell apiau'r GIG
  • rydych chi neu eich plant yn poeni am yr hyn sy'n digwydd ar hyn o bryd: mae digon o gymorth cyfrinachol ar gael am ddim:

Family Lives - gwasanaeth llinell gymorth sy'n cefnogi teuluoedd yng Nghymru

Llinell Gymorth Iechyd Meddwl ar gyfer Cymru (C.A.L.L)0800 132 737 neu anfonwch neges destun i 81066 (24/7)

Carers UK - 0808 808 7777 (Dydd Llun i ddydd Gwener: 9am – 6pm)

Childline 0800 1111  

Byw Heb Ofn0808 80 10 800 (24/7)

Meic Cymru - 0808 80 23 456 (bob dydd 8am - 12pm)

Mind Cymru – 0300 123 3393
Galw Iechyd Cymru111 (ar gael yn ardaloedd y byrddau iechyd canlynol ar hyn o bryd – Hywel Dda, Powys, Aneurin Bevan a Bae Abertawe – gan gynnwys Pen-y-bont ar Ogwr). Os ydych chi'n byw y tu allan i'r ardaloedd hyn, ffoniwch 0845 46 47 (2c y funud).

NSPCC0808 800 5000 (8am 10pm o ddydd Llun i ddydd Gwener/9am 6pm ar benwythnosau)

Y Samariaid - 116 123 (24/7). Llinell Cymraeg: 0808 164 0123 (7pm - 11pm)

Mewn argyfwng, dylech bob amser ffonio 999.

Mae'n bosibl y bydd eich plant yn colli eu harferion dyddiol arferol, eu hysgol, eu ffrindiau, eu teulu a gweithgareddau y tu allan i'ch cartref. Mae'n gyfnod anghyffredin iawn i bawb a gall fod yn anodd i'ch plant ddeall y sefyllfa neu ymdopi â'u teimladau. Ceisiwch achub ar gyfleoedd i siarad am yr hyn sy'n digwydd a sut maent yn teimlo.

Ar gyfer plant bach, ceisiwch ateb eu cwestiynau ar lefel sy'n briodol iddynt. Mae'n iawn os na allwch chi ateb popeth; bod ar gael i'ch plant sy'n bwysig. Mae ymgyrch Llywodraeth Cymru, Magu Plant. Rhowch amser iddo, yn cynnig awgrymiadau ar fagu plant, gwybodaeth a chyngor i deuluoedd sydd â phlant hyd at 7 oed. Hefyd mae rhai llyfrau gwych ar gael i'ch helpu i esbonio'r sefyllfa fel bod plant yn deall pam mae pethau wedi newid.

COVIBOOK – cefnogi a thawelu meddyliau plant ym mhedwar ban byd – mae llyfr am ddim Mindheart i blant dan 7 oed ar gael mewn sawl iaith, gan gynnwys Cymraeg.

Coronafeirws – Llyfr i blant – llyfr digidol am ddim i blant oed cynradd, gyda lluniau gan ddarlunydd y Gruffalo, Axel Scheffler.

Ti yw fy arwres’ – llyfr i helpu plant i ddeall a brwydro yn erbyn y coronafeirws gan Grŵp Cyfeirio'r Pwyllgor Sefydlog Rhyngasiantaethol, ar gael mewn llawer o ieithoedd.

Ar gyfer plant hŷn, ceisiwch eu hannog i rannu eu teimladau. Mae'n bwysig ceisio deall eu gofidiau, eu hofnau neu eu pryderon, ond cofiwch y gall fod angen llonydd arnynt hefyd. Efallai y byddant am weld eu ffrindiau felly mae'n bwysig eu helpu i ddeall pam mae angen cadw pellter cymdeithasol. Mae gan Meic Cymru wybodaeth ddefnyddiol i'w helpu i ddeall y sefyllfa ac ymdopi â hi, gan gynnwys Coronavirus: Putting things into perspective.

I blant ag anghenion addysgol arbennig, ceisiwch ateb eu cwestiynau ar lefel sy'n briodol iddynt.  Chi fydd yn gwybod y ffordd orau o gyfathrebu â'ch plentyn; gwnewch yr hyn sy'n teimlo'n iawn.

Gall trefn ddyddiol helpu i rannu'r diwrnod a'i gwneud yn haws i ymdopi ag ef. Gall wneud i'r sefyllfa deimlo'n fwy normal a gall greu ymdeimlad o gyflawniad. Bydd cadw at drefn syml yn helpu i dawelu meddwl plant bach a gwneud iddynt deimlo'n ddiogel. Dylech ymddiried yn eich greddf; chi sy'n adnabod eich plant a chi fydd â'r syniad gorau o ran pa fath o drefn fydd yn gweithio i'ch teulu. Dyma rai awgrymiadau.

Ceisiwch osod amseroedd ar gyfer codi, bwyta gyda'ch gilydd, ymarfer corff bob dydd fel teulu a mynd i'r gwely. Bydd hyn yn helpu i roi strwythur a diben i'ch diwrnod.

  • Ceisiwch gynnwys pawb mewn tasgau o gwmpas y tŷ, paratoi prydau, glanhau, golchi dillad a chadw bwydydd.
  • Ar gyfer plant bach, manteisiwch ar eich trefn amser gwely a chofiwch gynnwys hoff straeon amser gwely eich plant. Gall hyn dawelu meddwl eich plant a'u helpu i gysgu.
  • Os ydych chi'n gallu helpu eich plant i ddysgu gartref, gwnewch yn siŵr bod gennych chi drefn realistig sy'n ymarferol i'ch teulu, gan gofio am eich ymrwymiadau eraill.

Efallai eich bod yn awyddus i helpu eich plant i ddysgu gartref ond eich bod yn ei chael hi'n anodd jyglo anghenion plant o oedrannau gwahanol. Yn aml gall tasg sydd wedi cael ei gosod i un grŵp oedran fod yn ddiddorol i grŵp oedran arall.  Ystyriwch ymdrin â thasgau fel teulu. Gall plant hŷn fwynhau ymgymryd â rôl yr ‘athro’ i helpu'r rhai iau, ac mae plant bach yn aml yn dysgu drwy wylio a chopïo eu brodyr a'u chwiorydd hŷn.

Gall plant fod yn colli rhyngweithio â ffrindiau, athrawon a theulu. Ar adegau, a gan ddibynnu ar lefel y cyfyngiadau sydd ar waith, gall fod yn anodd i blant o bob oedran ddeall pam na allant weld teulu a ffrindiau. Bydd eu helpu i ddod o hyd i ffyrdd o gysylltu yn gwella eu lles. Dyma rai awgrymiadau ar gyfer ffyrdd o gadw mewn cysylltiad.

  • Mae'n bwysig bod yn ymwybodol o ganllawiau Llywodraeth Cymru a chyfyngiadau cadw pellter cymdeithasol, felly ystyriwch ddefnyddio technoleg fel galwadau fideo neu e-bost i gadw mewn cysylltiad â theulu a ffrindiau.
  • Gall treulio amser yn cysylltu ag eraill fod yn rhan o'ch trefn ddyddiol. Ar gyfer plant bach, bydd cadw mewn cysylltiad mewn ffyrdd gwahanol yn rhoi tawelwch meddwl iddynt a gall eu helpu i gynnal cydberthnasau.
  • Cysylltwch â rhai o'r bobl y byddai eich plant wedi treulio amser gyda nhw yn yr ysgol os ydynt am wneud hynny. Mae ysgolion yn lleoedd cymdeithasol iawn a gall eich plant fod yn colli eu ffrindiau. Mae'n bosibl y bydd ysgol eich plant wedi rhoi trefniadau ar waith i helpu i gadw mewn cysylltiad hyd yn oed.
  • Os ydych chi am gysylltu â'ch ysgol neu eich athro, dylech ddefnyddio'r sianeli cyfathrebu mae eich ysgol wedi'u sefydlu i wneud hyn.
  • Gwnewch gynllun ar gyfer cadw mewn cysylltiad. Gallech ystyried:
    • ysgrifennu llythyrau/cardiau post – ni fydd gan bawb fynediad i'r rhyngrwyd felly mae hwn yn gyfle gwych i annog plant i ysgrifennu a thynnu lluniau wrth iddynt greu eitemau i'w hafon at ffrindiau neu aelod o’r teulu maent yn eu colli
    • defnyddio’r ffôn – mae siarad â phobl yn helpu i ddatblygu sgiliau iaith a chyfathrebu
    • mynd ar-lein – mae llawer o lwyfannau ar gael i gadw mewn cysylltiad. Gallech gynnal sesiynau chwarae rhithwir neu sgyrsiau grŵp gyda theulu neu ffrindiau, gemau rhithwir a chwisiau
    • ysgol – drwy gysylltiadau y gall ysgolion fod wedi'u rhoi ar waith.
  • Lle y bo'n briodol, gadewch i blant dreulio amser ar eu pen eu hunain yn cysylltu â theulu a ffrindiau. Mae'n bwysig bod plant yn cael llonydd, ond cofiwch ystyried eu diogelwch a'u diogelwch ar-lein wrth wneud hyn.

Mae cadw'n heini a chael hwyl yn dda i'n cyrff ac i'n meddyliau. Cofiwch ddilyn canllawiau diweddaraf Llywodraeth Cymru a chyfyngiadau cadw pellter cymdeithasol wrth ddod o hyd i ffyrdd o gadw'n heini. Dyma rai awgrymiadau y gallech roi cynnig arnynt.

  • Ystyriwch osod amser penodol ar gyfer ymarfer corff. Gallai hyn gynnwys chwarae gemau, ymarfer chwaraeon neu ddilyn trefn ymarfer corff.
  • Rhowch gynnig ar weithgareddau neu gampau newydd fel teulu.
  • Os oes gennych chi le yn yr awyr agored, anogwch eich plant i'w ddefnyddio cymaint â phosibl.
  • Er y caniateir ymarfer corff dyddiol y tu allan i'r cartref, manteisiwch yn llawn ar yr amser hwn drwy fynd am dro neu fynd am daith ar eich beiciau fel teulu bob dydd.
  • Mae chwarae yn bwysig ac yn rhan werthfawr o brofiad dysgu plant, yn enwedig plant bach.
  • Achubwch ar bob cyfle i blant bach gadw'n heini. Gallech ganu a dawnsio gyda'ch gilydd neu gellid eu hannog i gydbwyso ar un goes, cropian o dan fyrddau a chadeiriau, hopian, neidio a throi mewn cylch, neu ymarfer gemau pêl syml.
  • Mae'n bwysig bod plant hŷn yn cadw'n heini ac yn cael hwyl. Dylech eu hannog i wneud pethau y gallent eu mwynhau, e.e. cymryd rhan mewn chwaraeon, dawnsio, cerdded, rhedeg a beicio. Mae llawer o weithgareddau y gellir eu gwneud yn annibynnol, gan ddibynnu ar oedran y plentyn, neu fel teulu.

Ni fydd plant yn gallu mynychu'r gweithgareddau neu'r grwpiau y tu allan i'r ysgol lle byddent wedi cadw'n heini mwyach. Ystyriwch a oes modd gwneud y gweithgareddau hyn mewn ffyrdd gwahanol.

Y peth gorau y gallwch chi ei roi i'ch plant yw eich amser a'ch cwmni. Gall siarad â nhw a gwrando ar yr hyn sydd ganddynt i'w ddweud eu helpu i deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi. Byddwch eisoes yn siarad yn ystod y diwrnod, wrth wneud gweithgareddau dyddiol fel paratoi bwyd, cerdded, glanhau a dysgu. Dyma rai cyfleoedd eraill y gallech eu defnyddio.

  • Cymerwch amser i fwynhau'r foment a'r pethau sydd o'ch cwmpas, sylwch ar y tywydd a'r tymhorau sy'n newid.
  • Pan fyddwch allan yn gwneud eich ymarfer corff am y diwrnod siaradwch am yr hyn y maent yn ei weld a'i glywed, tynnwch luniau, ceisiwch ddod o hyd i ffyrdd o sylwi ar bethau newydd ac, yn bwysicaf oll, cofiwch gael hwyl.
  • Mae'n bwysig clustnodi amser i siarad a gwrando. Weithiau bydd ymddygiad eich plentyn, sefyllfa neu ddigwyddiad yn sbarduno hyn. Helpwch eich plentyn i gofio'r pethau cadarnhaol sydd wedi digwydd yn ystod y dydd, rhannwch feddyliau a theimladau.
  • Os ydych chi'n sylwi bod eich plant yn rhwystredig, beth am gymryd egwyl, cael byrbryd, newid gweithgaredd neu ymarfer corff?
  • Ceisiwch sylwi pan fydd eich plant yn ymddiddori yn rhywbeth a defnyddiwch hyn fel cyfle i archwilio'r pethau maent yn eu mwynhau.
  • Siaradwch am y pethau mae eich plant yn eu colli a gwnewch gynlluniau ar gyfer y dyfodol.

 

Cofiwch y bydd angen amser i ymlacio ar bawb, yn enwedig plant. Cefnogwch eich plant i arafu, llonyddu a sylwi ar yr hyn sy'n gwneud iddynt deimlo'n dawel ac yn ddigynnwrf.

Mae teuluoedd wedi gorfod addasu mewn sawl ffordd oherwydd y coronafeirws ac mae'n bwysig ein bod ni'n garedig i'n gilydd. Dyma rai pethau y gallech eu gwneud i annog pawb i ymddwyn yn garedig gartref.

  • Anogwch bawb i ddefnyddio geiriau cadarnhaol.
  • Rhowch ganmoliaeth i'ch plant pan fyddant yn gwneud rhywbeth caredig neu gymwynasgar a chofiwch ddweud wrthynt yn union beth wnaethant yn dda. Bydd hyn yn rhoi hwb i hunan-barch a hyder eich plant a byddant yn fwy tebygol o ymddwyn felly eto.
  • Siaradwch am sefyllfaoedd a thrafodwch deimladau. Os byddwch yn ffraeo, pan fydd y ddau ohonoch chi'n barod, rhannwch beth ddigwyddodd, sut y gwnaeth i chi deimlo a pham. Bydd y drafodaeth hon yn debygol o lywio beth fydd yn digwydd nesaf neu beth fydd yn digwydd y tro nesaf y bydd sefyllfa debyg yn codi.
  • Anogwch eich plant i feddwl am eraill. Meddyliwch am bobl sydd ar eu pen eu hunain ac a all deimlo'n ynysig. Trafodwch bethau caredig y gallech eu gwneud i helpu i wneud pobl eraill yn hapus. Gallai'r rhain gynnwys:
    • rhoi lluniau i fyny yn eich tŷ ac yn y ffenestr
    • anfon cardiau, darluniau a llythyrau at bobl drwy'r post
    • gwneud tasgau caredig i gymdogion ac aelodau o'r teulu, fel gadael nwyddau o'r siop wrth eu drws
    • cysylltu â nhw gan ddefnyddio llwyfannau ar-lein.

Bydd cyfyngiadau ar waith mewn rhyw ffordd am beth amser i atal y coronafeirws rhag lledaenu, a gall eich plant fod yn poeni am beth fydd yn digwydd iddynt nesaf. Ceisiwch fanteisio ar gyfleoedd i alluogi iddynt rannu eu teimladau a'u cwestiynau â chi a siaradwch â'ch ysgol yn y lle cyntaf os oes angen cyngor a chymorth arnoch. Mae'r ysgol yn adnabod eich plant a nhw sydd yn y sefyllfa orau i helpu.

Pan fydd cyfyngiadau yn caniatáu dychwelyd i'r ysgol, gall plant fod yn poeni am:

  • ddychwelyd eto i grwpiau o ffrindiau
  • bod ar ei hôl hi gyda gwaith ysgol o gymharu â'u dosbarth
  • sut y bydd cadw pellter cymdeithasol yn newid bywyd ysgol
  • dechrau yn yr ysgol gynradd neu'r ysgol uwchradd neu symud i ddosbarth newydd
  • dechrau addysg bellach neu addysg uwch neu adael addysg yn gyfan gwbl i rai
  • sut y bydd popeth yn effeithio ar eu canlyniadau.

Bydd ysgolion uwchradd yn gweithio gyda'u hysgolion cynradd lleol i roi cymorth a chefnogaeth i blant sydd i fod i symud i'r ysgol uwchradd yn yr hydref. Mae'n bosibl y bydd rhai ysgolion yn trefnu gweithgareddau pontio i baratoi plant sy'n symud i gam nesaf eu gyrfa ysgol. Dylai hyn helpu i leddfu pryderon y gall fod ganddynt am symud. Efallai y bydd rhai ysgolion yn dal i allu trefnu ymweliadau â'r safle ar amser priodol, a gan ddilyn mesurau cadw pellter cymdeithasol. Os oes gennych unrhyw bryderon am ddechrau yn yr ysgol neu symud ymlaen, cysylltwch â'ch ysgol. 

Os bydd eich plant yn bryderus am yr effaith y gall y sefyllfa hon ei chael ar eu canlyniadau a'u dyfodol, ceisiwch eu sicrhau na fyddant dan anfantais oherwydd y sefyllfa bresennol a bod y gwaith y maent wedi'i wneud, ac yn parhau i'w wneud, yn cael ei werthfawrogi. Os oes angen cyngor a chymorth arnoch, siaradwch ag ysgol eich plant gyntaf. Gellir cael rhagor o wybodaeth am sut y caiff graddau eu dyfarnu'r haf hwn ar wefan Cymwysterau Cymru a gellir dod o hyd i gyngor gyrfaoedd ar opsiynau ôl-16 ar wefan Gyrfa Cymru.

 

Diogelwch ar-lein

Mae'n debyg y bydd plant yn treulio mwy o amser ar-lein. Gall y rhyngrwyd gynnig cyfoeth o wybodaeth a chyfleoedd dysgu i'ch plant ac mae'n bosibl mai dyma lle maent yn cysylltu â ffrindiau a theulu. Mae'n bwysig gwneud yn siŵr eu bod yn cadw'n ddiogel ar-lein. 

Yn ddiweddar mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi Cadw’n Ddiogel. Dal ati i Ddysgu. Canllawiau diogelwch ar-lein i rieni a gofalwyr.

  • pecynnau gweithgareddau i chi gefnogi ac archwilio diogelwch ar-lein gyda'ch plant
  • cyngor ar ffrydio gwersi'n fyw – mae'n bosibl y bydd rhai ysgolion yn ffrydio gwersi'n fyw, mae hyn yn rhywbeth y byddant wedi'i ystyried yn fanwl er mwyn sicrhau diogelwch pob plentyn. Os bydd ysgol eich plant wedi penderfynu ffrydio gwersi'n fyw, dyma rai pethau efallai yr hoffech chi feddwl amdanynt ar gyfer plant oedran ysgol gynradd ac uwchradd.
  • cyngor ar beth i'w wneud os oes gennych bryderon am ble i gael cymorth a chefnogaeth.

Mynediad i'r rhyngrwyd

Os nad oes gennych ddyfais addas â chysylltiad i'r rhyngrwyd y gall eich plant ei defnyddio i wneud gweithgareddau dysgu ar-lein o gartref, mae cymorth ar gael. Os nad yw eich ysgol wedi cysylltu â chi eto a'ch bod yn cael trafferth cael mynediad i weithgareddau ar-lein, cysylltwch ag ysgol eich plant neu eich awdurdod lleol am gymorth.  

Os oes gennych ddyfais â chysylltiad â'r rhyngrwyd ond nad oes gennych y wybodaeth a'r hyder i'w defnyddio, gallwch ddod o hyd i gymorth ar Learn My Way (LMW). Gwefan yw hon sy'n helpu unigolion i ddatblygu sgiliau digidol sylfaenol ar gyflymder sy'n addas iddynt ac mewn lleoliad sy'n gyfleus iddynt, a hynny am ddim. Mae'n cynnwys cyrsiau am hanfodion y we, galwadau fideo, rheoli arian ar-lein a chael gafael ar wybodaeth am iechyd.