Ôl-16: pontio i addysg uwch
- Rhan o:
- Adnoddau dysgu o bell
Addysg uwch
Rydym yn sicrhau bod amrywiaeth o adnoddau ar gael i gefnogi'r broses o drosglwyddo i addysg uwch gan weithio mewn partneriaeth â phrifysgolion, colegau a rhanddeiliaid eraill yng Nghymru. Mae'r rhain yn cynnwys darlithoedd ar-lein, dosbarthiadau meistr a thiwtorialau. Maent hefyd yn cynnwys gwybodaeth am fywyd prifysgol.
Mae'r adnoddau, sydd wedi'u datblygu gan amrywiaeth o brifysgolion a cholegau yng Nghymru, ar gael mewn un man hawdd i’w ddefnyddio drwy Barod ar gyfer prifysgol: OpenLearn – Open University. Beth am ddechrau gyda'r pwnc rydych yn bwriadu ei astudio ym mis Medi neu ddefnyddio'r amser hwn i ddysgu am bynciau newydd a diddorol. Chi sy'n penderfynu.
Prentisiaethau
Gall prentisiaethau gynnig cyfle i sbarduno gyrfa newydd neu roi hwb i yrfa sydd eisoes wedi’i sefydlu. Mae prentisiaethau yng Nghymru ar gael i unrhyw un dros 16 oed, ac yn cynnig cyfle i ennill arian a dysgu ar yr un pryd, gan ennill cymhwyster sy’n cael ei gydnabod yn genedlaethol. Boed wedi gadael yr ysgol ag ychydig iawn o gymwysterau, wedi ennill sawl TGAU, newydd orffen yn y coleg neu eisoes wedi graddio, mae prentisiaethau addas ar gael ar gyfer pob unigolyn.
Mae pob prentisiaeth yn sicrhau eich bod yn barod am y swydd rydych wedi hyfforddi ar ei chyfer. Maent ar gael mewn amrywiol sectorau gan gynnwys Busnes a Rheoli, Technoleg Ddigidol a Pheirianneg, ac ar bedair lefel: Prentisiaeth Sylfaen; Prentisiaeth; Prentisiaeth Uwch a Phrentisiaeth Radd.
I gael gwybodaeth am brentisiaethau a mynediad at amrywiol adnoddau, ewch i Prentisiaethau – dewis doeth.
Rhieni a gofalwyr
Deallwn y bydd gan rieni a gofalwyr gwestiynau am gam addysg nesaf eu person ifanc. Mae'r dolenni canlynol yn darparu gwybodaeth ddefnyddiol am ystod o bynciau.
Canllawiau arholiadau ac asesu: 2020 i 2021
Cefnogaeth ariannol i fyfyrwyr