MAES DYSGU A PHROFIADIechyd a Lles
Canllawiau i helpu ysgolion a lleoliadau i ddatblygu eu cwricwlwm eu hunain, gan alluogi dysgwyr i ddatblygu o ran y pedwar diben.
5. Cynllunio eich cwricwlwm
Mae hyn yn rhoi arweiniad penodol i’w ddefnyddio wrth ymgorffori dysgu o fewn iechyd a lles yn eich cwricwlwm. Dylai gael ei ddarllen ynghyd ag adran gyffredinol Cynllunio eich cwricwlwm sy’n berthnasol i ddysgu ac addysgu trwy bob maes dysgu a phrofiad (Meysydd).
Sgiliau trawsgwricwlaidd a sgiliau cyfannol
Rhaid i gwricwlwm ymwreiddio’r sgiliau trawsgwricwlaidd mandadol a’r sgiliau cyfannol sy’n sail i bedwar diben y cwricwlwm. Mae’r canlynol yn rhai egwyddorion allweddol y dylai lleoliadau ac ysgolion eu hystyried wrth gynllunio dysgu ac addysgu ym Maes Dysgu a Phrofiad Iechyd a Lles (Maes).
Sgiliau trawsgwricwlaidd
Llythrennedd
Mae llythrennedd yn sylfaenol i hwyluso lles. Mae gan ddysgu am lenyddiaeth a dysgu trwy lenyddiaeth botensial sylweddol i gynnig y modd i ddysgwyr gyfathrebu eu teimladau, datblygu cydberthnasau a chwilio am gymorth a chefnogaeth. Mae gan gyfathrebu rôl sylfaenol ym mynegi’r emosiynau. Mae gan lenyddiaeth botensial sylweddol i gefnogi empathi, iechyd meddwl a lles emosiynol y dysgwyr.
Mae llythrennedd yn cynnig cyfle i ddatblygu gwell sgiliau gwneud penderfyniad. Gall cyfleoedd i ymwneud yn feirniadol gydag ystod o destunau gefnogi gallu dysgwyr i wneud penderfyniadau a’u cefnogi i fynegi eu barn gyda hyder cynyddol gan ddatblygu eu gwerthoedd a’u hunaniaeth ymhellach. Gall hyn yn ei dro ddatblygu hyder ac uchelgais.
Mae datblygu sgiliau llythrennedd, gallu trefnu ysgrifennu ac addasu iaith yn hyderus, yn bwysig i alluogi dysgwyr i ymgeisio am lwybrau dysgu a gyrfa o’u dewis.
Rhifedd
Dylai dysgu yn y Maes hwn gynnig cyfle i ddatblygu sgiliau rhifedd yng nghyd-destun y byd go iawn. Mae rhifedd yn allweddol wrth hwyluso gwneud nifer o benderfyniadau gwybodus, yn arbennig rheoli arian a chefnogi gwneud penderfyniadau ariannol doeth ac ymwneud yn feirniadol gyda normau cymdeithasol ynghylch arian. Mae rhifedd hefyd yn chwarae rôl wrth brynu a pharatoi bwyd i gefnogi maeth.
Cymhwysedd digidol
Mae dysgu yn y Maes hwn yn sylfaenol i ddatblygu ymddygiad diogel mewn perthynas â’r cyfryngau digidol a’r byd ar-lein. Dylid annog dysgwyr i ddatblygu eu dealltwriaeth o ddylanwad cynyddol technoleg ar eu bywydau dyddiol, a’r goblygiadau allai hyn ei gael er eu hiechyd a lles, yn arbennig yr effaith bosib ar iechyd a lles corfforol, meddyliol ac emosiynol. Dylid ystyried gwneud penderfyniad, asesiad risg, sefyllfaoedd a rhyngweithio diogel a pheryglus, oll mewn cyd-destunau digidol. Mae hyn yn cynnwys perthynas ag eraill, diogelwch ar-lein, goblygiadau cyfreithiol a dylanwadau cymdeithasol ar-lein (gan gynnwys cyfryngau cymdeithasol). Wrth i dechnoleg ddatblygu, mae angen i leoliadau ac ysgolion gynnal dealltwriaeth gyfredol o’r hyn sydd gan y dysgwyr fynediad ato neu yn ei ddefnyddio, a sut maen nhw’n cyflawni hyn. Dylai’r ddarpariaeth alluogi dysgwyr i archwilio’r cyfleoedd helaeth mae’r technolegau hyn yn eu cynnig, yn ogystal â datblygu’r ymwybyddiaeth a’r sgiliau sydd eu hangen i fod yn ddinasyddion digidol gyfrifol. Dylai lleoliadau ac ysgolion hefyd ystyried sut maen nhw’n hybu ymwneud yn gadarnhaol â chyfryngau a’r byd ar-lein yn ogystal â sut maen nhw’n paratoi dysgwyr i ddelio â'r heriau y gall rhain eu cyflwyno.
Sgiliau cyfannol
Creadigrwydd ac arloesedd
Mae dysgu yn y Maes hwn yn cynnig y cyfle i ddysgwyr ddatblygu’r hyder a’r meddwl agored i archwilio syniadau, i ystyried barn pobl eraill, a’r dewrder i fynegi eu safbwyntiau eu hunain. Dylid rhoi cyfleoedd i ddysgwyr fynegi eu hunain a datblygu’n greadigol mewn gweithgaredd corfforol, yn cynnwys chwaraeon, ac i gynhyrchu syniadau i greu prydau maethlon ac iach. Anogir dysgwyr i archwilio a mynd ar drywydd meddylfryd arloesol mewn perthynas â llwybrau gyrfa.
Meddwl yn feirniadol a datrys problemau
Mae dysgu ar draws y datganiadau o’r hyn sy’n bwysig yn y Maes hwn yn darparu cyfleoedd i ddatblygu sgiliau dadansoddi beirniadol, gwerthuso ac arfarnu. Mae gwneud penderfyniad yn dibynnu’n drwm ar brosesau beirniadol a rhesymegol megis dadansoddi manteision a risgiau unrhyw weithred. Gan ddefnyddio dysgu yn y Maes hwn, dylid annog dysgwyr i ddatblygu ymatebion a datrysiadau i brofiadau maen nhw’n dod ar eu traws a dadansoddi’n feirniadol y ffactorau sy’n dylanwadu ar wneud penderfyniad, megis dylanwadau cymdeithasol, gwerthoedd, credoau a rhagfarnau.
Effeithiolrwydd personol
Dylai dysgu yn y Maes hwn gynnig cyfleoedd i ddysgwyr ddatblygu ymwybyddiaeth o’r sgiliau i fynegi eu emosiynau, ynghyd â’r sgiliau i fynegi’r syniadau hyn a rheolaeth drostyn nhw. Dyma’r sgiliau sydd eu hangen i ddatblygu deallusrwydd emosiynol. Trwy gynnig dealltwriaeth o’r ffactorau sy’n effeithio ar iechyd meddwl a lles emosiynol, gellir bod o gymorth i ddysgwyr reoli eu profiadau ac ymddwyn gydag empathi, trugaredd a charedigrwydd ar eu cyfer eu hunain yn ogystal ag eraill. Dylai dysgu alluogi a chefnogi dysgwyr i ddatblygu sgiliau rhyngbersonol da trwy gynnig dealltwriaeth o normau ac agwedd pobl, a’r gallu i wrthod a herio’r rhain; a dealltwriaeth am y gwahaniaethau a sut dylai rhain cael eu parchu.
Dylai dysgwyr ddatblygu dealltwriaeth o’r ffactorau sy’n effeithio ar wneud penderfyniad, gan fod o gymorth iddyn nhw wneud penderfyniadau ystyriol, gwybodus, rhai y maen nhw’n gallu eu cyfiawnhau a’u hesbonio tra hefyd yn deall risgiau a goblygiadau posib eu penderfyniadau iddyn nhw eu hunain ac eraill. Dylai’r dysgu hwn fod o gymorth i gynnig sgiliau i ddysgwyr allu gwerthuso dysgu a chamgymeriadau’n feirniadol a nodi meysydd ar gyfer datblygu ymhellach.
Dylai dysgu a phrofiadau o fewn y Maes hwn gynnig cyfleoedd i ddysgwyr ddatblygu’r sgiliau ac agweddau sy’n galluogi dysgwyr i fod yn annibynnol, i gael cydberthnasau iach, gwybod eu hawliau a hawliau pobl eraill, gwybod sut i reoli gwrthdaro, adnabod unrhyw gydberthnasau sydd ddim yn iach, bod yn ddiogel, a deall pryd a sut i chwilio am gefnogaeth iddyn nhw eu hunain ac i eraill.
Gall wybodaeth a dealltwriaeth o'r ddysgu yn y datganiadau o’r hyn sy’n bwysig gefnogi dysgwyr i ddatblygu hyder ac annibyniaeth.
Cynllunio a threfnu
Mae dysgu yn y Maes hwn yn anelu’n benodol at gynnig cyfleoedd i ddysgwyr adeiladu ymwybyddiaeth o, a datblygu sgiliau mewn, gwneud penderfyniad a gosod targed. Mae defnyddio dysgu yn y Maes hwn yn darparu cyfleoedd i ddysgwyr ddeall ac archwilio sut mae gwneud penderfyniad yn effeithio arnyn nhw ac eraill, deall a datblygu’r sgiliau i wneud penderfyniadau ar y cyd, ac i werthuso’n feirniadol ffactorau a goblygiadau gwneud penderfyniad. Dylai dysgu mewn iechyd a lles rhoi’r cyfleoedd i ddysgwyr gynllunio a gosod targedau tymor byr a hirdymor ac i gymryd camau i gyrraedd y rhain. Dylai dysgu hefyd gefnogi dysgwyr i gynllunio a gwireddu ymddygiadau cynaliadwy, cytbwys a chadarnhaol i gefnogi iechyd a lles corfforol. Dylid annog dysgwyr i ddatblygu dealltwriaeth o emosiynau, ymddygiadau a dylanwadau cymdeithasol: sgiliau sy’n hanfodol i adeiladu perthynas gref ag eraill.
Ystyriaethau penodol ar gyfer y Maes hwn
Dylid edrych ar y pum datganiad am yr hyn sy’n bwysig yn holistaidd. Wrth eu gweld gyda’i gilydd maen nhw’n crisialu‘r elfennau sylfaenol y gellir eu defnyddio i fod yn sail i ddatblygu iechyd a lles. Trwy’r rhain gellir archwilio gwahanol bynciau a materion gan roi hyblygrwydd i athrawon nodi’r rhai sy’n berthnasol i anghenion eu dysgwyr, eu lleoliad neu eu hysgol a’u cymuned. Wrth gynllunio dysgu ac addysgu o fewn y Maes yn y cwricwlwm dylai ymarferwyr sicrhau eu bod yn cwmpasu’r holl ddatganiadau am yr hyn sy’n bwysig gymaint â phosib. Mae cyfleoedd eang i orgyffwrdd gyda’r Meysydd eraill ac mae’n bwysig fod cynllunio ar gyfer y Maes hwn yn digwydd mewn cydweithrediad â nhw.
Mae’r Maes hwn yn elfen gwbl newydd o’r cwricwlwm yng Nghymru. Yn ychwanegol at gynnig cyfleoedd newydd a chyffrous, bydd hefyd yn cynnig rhai heriau newydd i leoliadau ac ysgolion. Bwriad yr adran hon yw bod o gymorth i arwain lleoliadau ac ysgolion o’r adnabyddiaeth gychwynnol o flaenoriaethau tuag at eu gweithredu.
Dylai’r dull gweithredu ysgol gyfan fod yn sail i gynllunio, dysgu ac addysgu’r Maes yn llwyddiannus yn y cwricwlwm, yn ogystal â’u cefnogi, gan eu bod yn mynd law yn llaw. Dylai dull gweithredu ysgol gyfan tuag at iechyd a lles ymdreiddio i bob agwedd o fywyd ysgol a chael ei gefnogi gan arferion a pholisïau’r ysgol. Pe na byddai cydweithio rhwng y ddau, byddai’r dysgu yn y Maes hwn yn gwanhau. Er enghraifft, gall cynnig bwyd maethlon yn ffreutur yr ysgol gefnogi dysgwyr yn eu mwynhad a dealltwriaeth o bwysigrwydd cael deiet iach a chytbwys. Hefyd, byddai dysgu am fuddiannau gweithgaredd corfforol cyson yn cael ei gyfoethogi a’i ymwreiddio pe bai digon o gyfleoedd trwy’r diwrnod ysgol i fod yn actif.
Dyma’r ystyriaethau allweddol y dylai lleoliadau, ysgolion ac ymarferwyr eu hystyried wrth ddatblygu eu cwricwlwm.
Beth yw anghenion eich dysgwyr?
Nodi anghenion dysgwyr
Bydd gan bob lleoliad ac ysgol ystod o wybodaeth ar gael i fod o gymorth iddyn nhw gynnal dadansoddiad o’r hyn sydd ei angen. I ysgolion bydd hyn yn cynnwys data Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion, Rhwydwaith Ysgolion Iach Cymru a’r Arolwg ar Chwaraeon Ysgol. Mae’n bwysig fod y broses hon hefyd yn ystyried gwybodaeth ar lefel leol, clwstwr, rhanbarthol a chenedlaethol.
Mae angen elfen ddigonol o hyblygrwydd ar agweddau o’r Maes hwn yn y cwricwlwm, ac mae’n bwysig fod hyblygrwydd yn rhan o’r cynllun a bod digon o amser yn cael ei glustnodi i wneud hyn. Bydd anghenion a blaenoriaethau yn newid, a bydd angen i ddysgu ac addysgu yn y Maes ymateb i’r newidiadau hyn. Efallai y byddai’n fanteisiol defnyddio cyrff allanol i gynnig cefnogaeth wrth gynllunio a gweithredu rhai pynciau a materion. Dylid nodi y dylai hyn gyfoethogi yn hytrach na chymryd lle addysgu. Gall cyrff allanol hefyd fod o gymorth i leoliadau ac ysgolion ddatblygu cysylltiadau gyda’r gymuned ehangach a chefnogi ymwneud â rhieni.
Ystyried yr hyn sy’n dylanwadu ar iechyd a lles dysgwyr
Yn ogystal ag ystyried iechyd a lles dysgwyr, gallai’r broses hyn ystyried y canlynol.
- Beth sy’n gyrru a dylanwadu ar iechyd a lles y dysgwyr?
- Sut mae’r gyrru a’r dylanwadu hyn yn effeithio ar wahanol agweddau o iechyd a lles y dysgwyr?
Gallai’r cwestiynau mwy penodol isod fod o gymorth wrth ystyried yr uchod. Dydyn nhw ddim yn rhestr gyflawn, ond gallan nhw fod o gymorth i hyrwyddo trafodaethau gonest ac agored sy’n ffurfio rhan bwysig o’r broses gynllunio’r cwricwlwm.
- Pa gyfleoedd ar gyfer gweithgaredd corfforol y bydd eich dysgwyr yn eu mwynhau a’u gweld yn ystyrlon? Beth sy’n eu hysgogi i ymwneud â gwahanol rolau, cyfrifoldebau ac amgylcheddau (e.e. dan do, y tu allan, mewn ac o amgylch dwr)?
- Pa ffactorau, dylanwadau ac ymddygiadau sy’n llywio iechyd corfforol eich dysgwyr?
- Beth yw dealltwriaeth eich dysgwyr o’r rhyng-gysylltiadau rhwng eu deiet, cwsg, gweithgaredd corfforol a’u hiechyd a lles?
- Pa benderfyniadau mae eich dysgwyr yn eu gwneud sy’n dylanwadu ar eu hiechyd a lles eu hunain ac iechyd a lles eraill? Pa benderfyniadau maen nhw’n debygol o’u gwneud wrth iddyn nhw dyfu?
- Sut mae iechyd a lles eich dysgwyr yn cael eu dylanwadu gan eu cysylltiadau gyda a thrwy dechnoleg ddigidol? Pa gyfleoedd ddylai eich dysgwyr eu cael i ddatblygu defnydd iach, diogel a chyfrifol o dechnoleg ddigidol a’r byd ar-lein?
- Pa brofiadau sy’n effeithio ar iechyd meddwl a lles emosiynol eich dysgwyr?
- Pa sgiliau mae eich dysgwyr eu hangen i ofalu amdanyn nhw eu hunain ac eraill?
- Beth yw’r gwahanol grwpiau a dylanwadau cymdeithasol sy’n effeithio ar eich dysgwyr unigol, eich lleoliad/ysgol a’r gymuned ehangach?
- Pa cydberthnasau sydd gan eich dysgwyr sy’n dylanwadu ar eu hiechyd a lles?
- Pa sgiliau sydd eu hangen ar eich dysgwyr i ddatblygu cydberthnasau iach?
- Sut mae gwahanol anghenion a phrofiadau eich dysgwyr yn rhyng-gysylltiedig?
Pa bynciau, themâu a gweithgareddau sydd o gymorth i ymateb i anghenion dysgwyr?
Gellir ymateb i anghenion dysgwyr gydag ystod eang o ddysgu ac addysgu. Wrth ddewis rhain, dylai lleoliadau, ysgolion ac ymarferwyr ofyn y canlynol:
- Pa weithgareddau, pynciau a themâu sydd fwyaf perthnasol i ddysgwyr, eu hanghenion a chyd-destun?
- Pa brofiadau, gwybodaeth a sgiliau fydd yn cefnogi dysgwyr i adnabod sut y gall gwahanol ysgogyddion a dylanwadau effeithio ar eu hiechyd a lles?
- Pa brofiadau, gwybodaeth a sgiliau fydd yn cefnogi dysgwyr i ddatblygu ymddygiadau cyson, cefnogol i iechyd ac sydd er lles y gymdeithas?
Dylai ystyriaethau mwy penodol gynnwys y canlynol:
Beth yw’r ystod o brofiadau a gweithgareddau all gefnogi dysgwyr i fwynhau gweithgaredd corfforol gydol oes ac i ofalu amdanyn nhw eu hunain ac eraill?
Gall profiadau dysgu cadarnhaol gefnogi dysgwyr i werthfawrogi gweithgaredd corfforol, gan gynnwys chwaraeon, a gall hyn yn ei dro eu symbylu i fyw bywydau corfforol actif. Gall addysgegau sy’n canolbwyntio ar y dysgwr megis chwarae pwrpasol, dull aml-sgil, dull Dysgu Gemau er Mwyn Deall (Teaching Games for Understanding (TGfU)) a’r Model Addysg Chwaraeon (Sport Education Model (SEM)) i gyd gyfrannu tuag at ddiwylliant dysgu lle mae gweithgaredd corfforol yn cael ei fwynhau gan bawb. Dylai dysgwyr gael eu cefnogi hefyd i werthfawrogi manteision hyn, gan gynnwys agweddau cymdeithasol, hamdden a pherfformio, yn ogystal â sut mae’n cefnogi eu hiechyd a lles corfforol. Dylai’r gweithgareddau hyn hefyd gefnogi datblygu gwybodaeth, dealltwriaeth a sgiliau trosglwyddadwy o fewn a thu hwnt i elfen iechyd corfforol y Maes hwn. Dylai lleoliadau ac ysgolion ystyried sut mae cyfleoedd, profiadau ac addysgegau, gan gynnwys cyfranogiad mewn wahanol chwaraeon a gweithgareddau amrywiol, yn cefnogi datblygu a mireinio symudiadau echddygol bras a symudiadau echddygol manwl, sgiliau trosglwyddadwy a’r gallu i gysylltu cynnydd gyda dyfalbarhad a hyder. Mae gwireddu cynnydd mewn gallu corfforol yn cefnogi symbyliad dysgwyr i ddyfalbarhau ac yn cefnogi eu hyder i barhau gyda gweithgareddau corfforol weddill eu bywydau.
Dylid cefnogi dysgwyr i ddatblygu ymddygiadau cadarnhaol yn eu hiechyd a lles ehangach. Gallai hyn berthyn i ystod o ffactorau, gan gynnwys deiet, sylweddau, glendid, haint, yr amgylchedd ffisegol, cwsg a gorffwys. Dylai lleoliadau, ysgolion ac ymarferwyr ystyried pa brofiadau fydd yn cefnogi dysgwyr i ddeall sut y gall y ffactorau hyn ddylanwadu ar eu hiechyd a lles, datblygu’r sgiliau i gefnogi ymddygiadau iach yn perthyn i’r ffactorau hyn a’r hyder ac ysgogiad i gefnogi’r ymddygiadau hyn gydol oes. Er enghraifft, dylai datblygu sgiliau i gefnogi deiet iach a chytbwys ystyried sut mae dysgwyr yn gallu datblygu sgiliau a mwynhad paratoi bwyd sy’n ffurfio rhan o ddeiet iach a chytbwys. Dylai ymarferwyr gefnogi dysgwyr i adnabod sut mae’r ffactorau hyn yn rhyng-gysylltiedig ac yn effeithio ar eu hiechyd a lles yn gyfan, nid yr agwedd gorfforol yn unig. Er enghraifft, bydd mwynhad o weithgareddau y tu allan yn dylanwadu ar iechyd meddwl a lles emosiynol dysgwyr.
Bydd tyfu yn cael effaith allweddol ar iechyd a lles dysgwyr a dylai lleoliadau ac ysgolion ystyried sut y byddan nhw’n cefnogi dysgwyr i ddeall a rheoli’r newidiadau datblygiadol yn ogystal â sut mae’r newidiadau hyn yn effeithio ar ddysgwyr mewn gwahanol ffyrdd. Dylid cynnig cyfleoedd i ddysgwyr asesu a rheoli risg fel y gallan nhw gadw eu hunain ac eraill yn ddiogel. Dylai lleoliadau ac ysgolion hefyd ystyried pa strategaethau y bydd eu hangen ar ei dysgwyr i ymyrryd yn ddiogel i gefnogi eraill a allai fod mewn perygl. Dylai hyn gynnwys sgiliau achub bywyd a chymorth cyntaf.
Sut y gall lleoliadau/ysgolion greu a hybu diwylliant lle mae siarad am iechyd meddwl a lles emosiynol yn cael ei annog?
Pa brofiadau, gwybodaeth a sgiliau fydd yn cefnogi dysgwyr i ymateb i’w profiadau?
Sut y gall dealltwriaeth o’r ymennydd gefnogi hyn?
Mae angen i ddysgwyr ddeall y cysylltiadau rhwng iechyd meddwl a lles emosiynol, sut mae iechyd meddwl a lles emosiynol yn effeithio arnyn nhw a bod ein iechyd meddwl yn gallu newid dros gyfnod o amser. Dylai lleoliadau ac ysgolion sicrhau bod ethos a systemau cefnogi ysgol gyfan yn galluogi dysgwyr i siarad yn agored nid yn unig am eu hiechyd meddwl, teimladau, meddyliau ac emosiynau eu hunain ond am rai pobl eraill yn ogystal. Dylai lleoliadau ac ysgolion sicrhau bod gan ddysgwyr werthfawrogiad dwfn o bwysigrwydd cydberthnasau cadarnhaol a manteision gofyn am gymorth. Dylai lleoliadau ac ysgolion gynnig cyfleoedd i ddysgwyr archwilio’r ffactorau sy’n effeithio ar eu hiechyd meddwl a lles. Gallai’r rhain gynnwys, ond nid yn gyfyngedig i, bwysigrwydd ymarfer cyson, effaith deiet cytbwys, sut i ymateb i bwysau ac effaith amgylcheddau, gan gynnwys y byd ar-lein.
Pa gyfleoedd ddylai dysgwyr eu cael i gymryd rhan mewn gwneud penderfyniadau dilys?
Sut y gall lleoliadau/ysgolion gefnogi dysgwyr i ddatblygu eu sgiliau gwneud penderfyniadau?
Dylai lleoliadau ac ysgolion ystyried sut i gynnig ystod o gyfleoedd i ddysgwyr wneud penderfyniadau, yn unigol ac ar y cyd. Yn gynnar yn eu cynnydd gallai’r rhain gynnwys dewisiadau yn ymwneud â chyfeillgarwch, bwyd a gweithgareddau cyn symud ymlaen at benderfyniadau mwy cymhleth gyda goblygiadau ehangach. Yn ogystal, dylid rhoi cyfle i ddysgwyr wneud penderfyniadau mewn meysydd megis gyrfaoedd, rheolaeth ariannol, cydberthnasau a rhyngweithio gyda a thrwy dechnoleg ddigidol. Gallai’r broses o wneud penderfyniad gynnwys datrys problemau, nodi datrysiadau posib, asesu gwybodaeth yn feirniadol, gwerthuso dadleuon am haeddiant ac ymwneud â safbwyntiau gwahanol ac ymateb yn gadarnhaol iddyn nhw. Anogir lleoliadau ac ysgolion i gynnig cyfleoedd i ddysgwyr fyfyrio ar oblygiadau tymor byr, tymor canolig a hirdymor y penderfyniadau maen nhw’n eu gwneud. Dylai’r broses gydnabod nad oes gan ddysgwyr o angenrheidrwydd gyfrifoldeb dros lawer o’r penderfyniadau sy’n effeithio arnyn nhw a bod y cyfrifoldeb hwn yn tyfu dros gyfnod o amser. Mae’n bwysig myfyrio ar effaith penderfyniadau nid yn unig ar yr hunan ond ar bobl eraill a’r gymdeithas ehangach, yn arbennig mewn perthynas â phenderfyniadau sydd wedi cael eu gwneud gan bobl eraill/grwpiau eraill. Bydd angen i ddysgwyr ddeall goblygiadau a phwysigrwydd datblygu’r gallu i wneud penderfyniadau cadarn mewn meysydd megis gyrfaoedd, cyllid a’r gyfraith. Yn arbennig, bydd angen i ddysgwyr fod yn ymwybodol fod rhain yn benderfyniadau am fywyd gyda goblygiadau hir dymor.
Sut y gellir cefnogi dysgwyr i ymwneud ag ystod o ddylanwadau cymdeithasol sy’n effeithio ar eu bywydau?
Dylai lleoliadau ac ysgolion nodi cyfleoedd i ddysgwyr ymwneud â dylanwadau cymdeithasol cadarnhaol yn ogystal ag ystyried yn ofalus sut i leihau effaith dylanwadau cymdeithasol negyddol. Dylai lleoliadau ac ysgolion ystyried y rôl y gall dylanwadau cymdeithasol ei chael ar ymddygiad dysgwyr, a’r dylanwadau all hyrwyddo ac annog ymddygiadau iach er lles y gymdeithas, yn ogystal â’r rhai sy’n arwain at faterion megis gwahaniaethu, hiliaeth neu ragfarn. Anogir lleoliadau ac ysgolion i feddwl am sut i gynnig cefnogaeth i ddysgwyr pan mae dylanwadau cymdeithasol negyddol yn creu trafferthion i unigolion a grwpiau a dathlu’r dylanwadau cymdeithasol sy’n cyfrannu tuag at iechyd a lles. Gall y rhain fod yn ddylanwadau byd-eang sy’n effeithio ar nifer mawr o ddysgwyr, ond gall hefyd gynnwys elfennau sy’n effeithio ar grwpiau llai o ddysgwyr. Trwy ddull gweithredu ysgol gyfan tuag at iechyd a lles ynghyd â chynllunio’r cwricwlwm, anogir ymarferwyr i gynnig cyfleoedd i ddysgwyr archwilio a gwerthuso’n feirniadol sut a pham maen nhw’n dewis ymwneud â dylanwadau cymdeithasol penodol, a sut mae’r rhain yn gallu effeithio ar ymddygiad.
Pa brofiadau gall lleoliadau/ysgolion eu cynnig er mwyn cynnig gwerthfawrogiad a dealltwriaeth i ddysgwyr o fanteision cydberthnasau iach?
Sut y dylai lleoliadau/ysgolion hyrwyddo a modelu cydberthnasau iach ag eraill yn weithredol?
Dylai lleoliadau ac ysgolion ystyried y cydberthnasau sy’n gyfarwydd i’r dysgwyr megis teulu a chyfeillion, anifeiliaid yn cynnwys rhai anwes, cyfoedion, pobl broffesiynol, rhithiol, rhamantus, rhywiol, crefyddol ac ysbrydol, ac unrhyw cydberthynas nad sydd eto’n gyfarwydd iddyn nhw ond eu bod yn debygol iawn o ddod ar eu traws yn ystod eu bywydau. Dylai hyn gynnwys cyfleoedd i ddatblygu cydberthynas â phobl sydd â chefndiroedd, profiadau a nodweddion gwahanol iddyn nhw. Er mwyn ffurfio, cynnal a datblygu cydberthnasau iach gydol oes, bydd angen i ddysgwyr roi amser i’r cydberthynasau a chaffael ystod o sgiliau a rhinweddau. Dylai lleoliadau ac ysgolion ystyried sut maen nhw’n cefnogi dysgwyr i ddatblygu’r sgiliau sydd eu hangen arnyn nhw i adeiladu cydberthynas iach. Dylai’r rhain gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, cyfathrebiad a trafodaeth agored, derbyniad, dathliad, empathi, ymddiriedaeth, rheoli technoleg symudol, rhoi a derbyn adborth, tosturi, datrys problemau, negyddu, parchu safbwyntiau pobl eraill, gwerthoedd a hawliau, myfyrio, ymateb yn adeiladol a phriodol i wrthdaro, dealltwriaeth y gall cydberthynas newid a datblygu dros gyfnod o amser. Tra dylai’r cysyniadau hyn fod yn rhan annatod o’r ethos ysgol gyfan, dylai ymarferwyr fod yn ymwybodol y bydd angen dysgu llawer o’r rhain yn benodol trwy’r holl gwricwlwm. Dylen nhw fanteisio’n llawn ar y cyfleoedd i ddatblygu’r sgiliau hyn wrth iddyn nhw godi yn naturiol. Dylid rhoi amser i ddysgwyr fyfyrio ar eu profiadau, eu harchwilio a'u gwerthuso'n feirniadol er mwyn defnyddio'r wybodaeth i effeithio ar eu hymddygiad mewn sefyllfaoedd y gallan nhw ddod ar eu traws yn y dyfodol a defnyddio'r wybodaeth hon i hunanreoleiddio.
Sut y gall lleoliadau/ysgolion gefnogi dysgwyr i gydnabod nad yw cydberthynas neu agweddau o’r cydberthnasau o angenrheidrwydd yn ddiogel neu yn iach?
Mae’n bwysig fod dysgwyr yn deall beth yw ystyr cydberthynas nad yw’n iach neu gydberthynas dreisiol. Bydd angen iddyn nhw adnabod sylw digroeso a dysgu sut i ymateb yn briodol. Dylai dysgwyr ddeall pwysigrwydd preifatrwydd a chydsynio. Dylen nhw gael cyfleoedd i ddatblygu’r wybodaeth a’r sgiliau sydd eu hangen i chwlio cymorth iddyn nhw eu hunain ac i eraill, a phwy i fynd atyn nhw ar gyfer cymorth mewn ystod o sefyllfaoedd, o ffrindiau, teulu ac athrawon i asiantaethau a chyrff allanol megis Childline, Cymorth i Fenywod, NSPCC, yr heddlu, gwasanaethau cwnsela ac elusennau, gweithwyr iechyd proffesiynol, Child Exploitation and Online Protection (CEOP), ac ati. Gall ymddygiadau diogel gynnwys cyffwrdd priodol, gwagle personol a chyfathrebu geiriol cadarnhaol, yn gynnwys cydsynio. Gall ymddygiadau sydd heb fod yn ddiogel gynnwys camdriniaeth corfforol, emosiynol, rhywiol ac ar-lein. Mae angen i ddysgwyr wybod bod ganddyn nhw hawliau, gan gynnwys hawliau dynol a’r hawliau yng Nghonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP), a bod yr hawliau hyn yn gallu eu diogelu rhag niwed. Dylen nhw ddeall pwysigrwydd tegwch a chydnabod hawliau eu hunain a hawliau pobl eraill wrth ddatblygu cydberthynas ddiogel.
Sut y gall pynciau, themâu a gweithgareddau gael eu hystyried yn holistaidd?
Dylid ystyried pynciau, themâu a gweithgareddau yn holistaidd gan ystyried gwahanol agweddau ar iechyd a lles dysgwyr. Cynlluniwyd y datganiadau o’r hyn sy’n bwysig i’w defnyddio fel ffordd o feddwl ac ystyried yr un cynnwys cwricwlaidd. Dylai cynllunio ddechrau trwy feddwl am bynciau sy’n berthnasol i anghenion dysgwyr ac yna archwilio sut y gellir defnyddio’r pwnc neu’r thema i wireddu dysgu ymhob un o’r datganiadau o’r hyn sy’n bwysig. Gall y disgrifiadau dysgu wedyn gefnogi datblygu dysgu ac addysgu. Er enghraifft, pe bai sylweddau niweidiol yn cael eu nodi fel maes i ganolbwyntio arno, er mwyn cynllunio byddai angen archwilio sut mae’r disgrifiadau dysgu ar gyfer pob un o’r datganiadau o’r hyn sy’n bwysig yn gallu cynnig ffordd benodol o weithredu’r dysgu. Gall yr ystyriaethau dechreuol nodi’r cysylltiadau canlynol i’r datganiadau o’r hyn sy’n bwysig: effaith sylweddau niweidiol a phatrymau cysgu, archwaeth, ysgogiad i ymarfer, lles emosiynol, gwneud penderfyniadau ar y pryd a chymryd risg, grwpiau cyfeillion, a’r gallu i wahaniaethu rhwng cydberthynas iach a niweidiol. Gellir defnyddio’r disgrifiadau dysgu wedyn i gynnig y fframwaith i adeiladu’r dysgu manwl arno. Enghraifft arall o bosib yw bod yr angen i gydweithredu wedi cael ei nodi fel maes i ganolbwyntio arno, gellir datblygu’r dolenni canlynol: defnyddio gweithgaredd corfforol fel cyfrwng i adeiladu cydweithredu, archwilio manteision cefnogi pobl eraill mewn perthynas ag iechyd meddwl a lles emosiynol, gwneud penderfyniadau ar y cyd a dysgu oddi wrth gamgymeriadau, archwilio sut y gall gwahanol grwpiau cymdeithasol o fewn lleoliad neu ysgol nodi elfennau sy’n debyg, rhannu targedau a chydweithredu i adeiladu gwahanol fathau o berthnasau gyda’r gymuned ehangach.
Dylai lleoliadau ac ysgolion ystyried natur y profiadau dysgu a’r addysgeg gefnogol er mwyn sicrhau bod themâu a phynciau yn cyfrannu at gynnydd dysgwyr. Mae hefyd yn bwysig cofio nad yw dylanwadau bob amser yn gyfan gwbl gadarnhaol neu negyddol. Gall ymddygiadau a chydberthnasau fod ag agweddau iach yn ogystal â niweidiol. Dylid cynllunio dysgu ac addysgu i annog ymddygiadau cadarnhaol. Wrth nodi profiadau, mae dulliau gweithredu cadarnhaol yn bwysig. Dylai dull gweithredu’r dysgu sicrhau fod dysgwyr yn datblygu mwynhad a chanfyddiad cadarnhaol o ymddygiadau iach sydd er lles y gymdeithas. Ni ddylai’r dysgu gynnwys codi cywilydd ynghylch ymddygiadau penodol neu greu rhestr hir o dic a chroes. Dylai dysgu ac addysgu gydnabod tra bod deall effaith gwahanol ymddygiadau yn bwysig, mae hyn ar ei ben ei hun yn annhebygol o ddylanwadu ar ymddygiadau dysgwyr.
Enghreifftio ehangder
Gall dysgwyr gymryd rhan mewn amrywiaeth o chwaraeon tîm a chwaraeon unigol i gefnogi eu dealltwriaeth o arferion iechyd positif a’u gweithredu. Mae hyn hefyd yn cefnogi datblygu gweithio mewn tîm, gwydnwch a hyder unigolion. Gall astudio chwaraeon hefyd ddatgloi agweddau ar hanes cymdeithasol, gwleidyddiaeth, daearyddiaeth a gwyddoniaeth Cymru ac ar draws y byd. Gallai dysgu am ymddygiadau, sefyllfaoedd a chyflyrau sy’n effeithio ar iechyd corfforol a lles gynnwys dysgu am gamddefnyddio sylweddau, datblygu sgiliau cymorth cyntaf a deall cyflyrau iechyd. Gellid gwella dealltwriaeth o ddeiet a maeth drwy ddysgu am y cyflenwad bwyd, yng Nghymru ac yn rhyngwladol, a sut mae hyn wedi newid dros amser.
Cysylltiadau allweddol gyda Meysydd eraill
Dylid ystyried a thynnu ar gysylltiadau ar draws Meysydd er mwyn ymwreiddio dysgu holistaidd yn llawn. Dylai lleoliadau ac ysgolion ystyried a oes gwahanol elfennau o ddysgu y gellid eu hystyried gyda’i gilydd er mwyn cefnogi dysgu mwy holistaidd. Mae llawer o gysylltiadau rhwng y Maes hwn a Meysydd eraill.
Mae Maes Dysgu a Phrofiad Iechyd a Lles yn cynnig cyfleoedd ar gyfer symud a dawns creadigol fel gweithgaredd corfforol ac yn ffordd o alluogi dysgwyr i ddatblygu symudiadau echddygol bras a symudiadau echddygol manwl er mwyn cefnogi cyfranogiad mewn gwahanol ddisgyblaethau celfyddydol. Gall cyfranogiad yn y celfyddydau mynegiannol alluogi dysgwyr i ddatblygu ymdeimlad o’r hunan, adeiladu hyder, ac archwilio gwahanol ffurfiau o gyfathrebu a chydberthnasau a all gefnogi iechyd meddwl a lles emosiynol
Mae’r ddau Faes yma yn cysylltu i ddyfnhau gwybodaeth a dealltwriaeth dysgwyr o hunaniaeth, cymunedau, cymdeithasau, normau a gwerthoedd cymdeithasol, a dylanwadau cymdeithasol. Maen nhw’n cefnogi dealltwriaeth o ddinasyddiaeth, hawliau, parch a chyfartaledd. Mae’r Maes hwn yn cefnogi dealltwriaeth dysgwyr o sut y gall penderfyniadau gan unigolion a rhai ar y cyd gefnogi ymatebion moesegol a chynaliadwy i gyfleoedd a wynebir gan ddynoliaeth yn gyffredinol ac yng Nghymru yn benodol.
Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu
Mae’r ddau Faes yma yn cyfuno i ddarparu sgiliau fydd yn galluogi dysgwyr i gyfathrebu’n effeithiol. Bydd hyn yn ei dro yn darparu sail ar gyfer datblygu cydberthnasau iach. Bydd datblygiad corfforol a gwybyddol yn effeithio ar gaffael lleferydd ac iaith a datblygu symudiadau echddygol manwl fel llawysgrifen. Mae sgiliau llythrennedd yn galluogi dysgwyr i archwilio testunau sy’n ymwneud ag iechyd a lles. Mae darllen ac ysgrifennu er mwyn pleser hefyd yn darparu cyfleoedd i wella ymdeimlad o les yn y dysgwr.
Un o’r cysylltiadau pwysicaf yw’r cysylltiad â Maes Dysgu a Phrofiad Iechyd a Lles ac mae’r enghreifftiau yn cynnwys ymdrin â llythrennedd ariannol a risg. Ymdrinnir â llythrennedd ariannol yn y datganiad o’r hyn sy’n bwysig sy’n ymdrin â’r system rif. Mae hyn yn cael ei gadarnhau yn iechyd a lles lle y gallai dysgu archwilio llythrennedd ariannol trwy risg a dyled bersonol, a’u canlyniadau. Oherwydd cysylltiadau mor agos anogir yn gryf ddysgu’r ddwy elfen arbennig yma yn gyfochrog.
Mae Maes Dysgu a Phrofiad Iechyd a Lles hefyd yn darparu i’r dysgwyr yr wybodaeth a’r ddealltwriaeth o’r broses o wneud penderfyniadau, gan gynnwys goblygiadau penderfyniadau ac ystyriaethau risg. Mae rhifedd yn cynnig cyd-destun pwysig ar gyfer archwilio a chefnogi gwneud penderfyniadau’n gadarnhaol, yn arbennig mewn perthynas â phenderfyniadau ariannol.
Ar ben hynny, mae Maes Dysgu a Phrofiad Iechyd a Lles yn cynnig cyfle i archwilio rôl rhifedd wrth brynu a pharatoi bwyd i gefnogi maeth, a’i rôl wrth fesur pellter, pwysau ac amser.
Mae cysylltiad cynhenid rhwng y ddau Faes yma. Mae gwybodaeth a dealltwriaeth o fioleg, datblygiad corfforol, cydberthnasau biolegol a rhywiol a’r cyswllt rhwng iechyd corfforol ac emosiynol yn hanfodol i ddysgu yn y Maes hwn. Gall dysgu sut mae’r ymennydd yn gweithio fod o gymorth i ddysgwyr ddeall eu meddyliau, teimladau ac emosiynau. Gellir ystyried sut y gall dewisiadau ffordd o fyw effeithio ar y corff dynol (gan gynnwys deiet, defnyddio cyffuriau ac ymarfer), yn ogystal â’r wyddoniaeth y tu ôl i hormonau, atgenhedlu rhywiol a datblygiad dynol er mwyn cefnogi addysg cydberthynas a rhywioldeb. Mae technoleg yn bwysig i iechyd a lles dysgwyr. Mae dealltwriaeth sut mae’r cyfryngau digidol yn gweithio a sut i ddefnyddio’r byd ar-lein yn ddiogel a chyfrifol, archwilio perthnasau mewn cyd-destun ar-lein, a deall normau a dylanwadau cymdeithasol mewn perthynas â thechnoleg oll yn cyfrannu at wneud gwell penderfyniadau mewn perthynas â diogelwch ar-lein, bwlio ar-lein a hybu ymddygiad cadarnhaol ar-lein.
Themâu trawsgwricwlaidd
Cyd-destunau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol yn y Maes hwn
Gall yr hyn sy’n gyrru a dylanwadu ar iechyd a lles y dysgwyr amrywio gan ddibynnu ar gyd-destun lleol a dylid ystyried rhain wrth gynllunio eich cwricwlwm. Dylai dysgu gael ei lywio gan dueddiadau lleol, cenedlaethol a byd-eang, materion a ffactorau sy’n effeithio ar wahanol agweddau o iechyd a lles dysgwyr.
Dylai’r sgiliau gwneud penderfyniad mae dysgwyr yn eu datblygu eu galluogi i ddeall a gwerthuso’n feirniadol effeithiau eu penderfyniadau yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol mewn ystod o gyd-destunau.
Dylai dysgwyr ddatblygu gwahanol fathau o gydberthnasau sy’n eu galluogi i werthfawrogi tebygrwydd a gwahaniaethau o fewn eu cymunedau lleol, a chyda gwahanol unigolion a chymunedau, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol.
Gall y dylanwadau cymdeithasol sy’n cynnig gwybodaeth i ddysgwyr fod yn lleol, yn genedlaethol neu’n rhyngwladol. Gallan nhw amrywio’n lleol yn ogystal. Bydd datblygu dealltwriaeth o normau, gwerthoedd a diwylliannau cymunedau lleol, cymunedau cenedlaethol a chymunedau rhyngwladol o gymorth i lywio hunaniaeth dysgwr.
Trwy ddatblygu a modelu empathi, dylid cefnogi dysgwyr i ddod yn ddinasyddion gweithredol sy’n ymwneud â phob un o’r cyd-destunau hyn, a hynny mewn ffordd sydd er lles y gymdeithas.
Addysg gyrfaoedd a phrofiadau sy'n gysylltiedig â byd gwaith yn y Maes hwn
Er mwyn cael ymdeimlad cryf o les, mae angen i ddysgwyr fynegi eu hoff bethau a'u cas bethau yn seiliedig ar eu diddordebau a'u profiadau. Er mwyn iddyn nhw gymryd cyfrifoldeb am eu lles eu hunain, mae angen i ddysgwyr allu deall a chyfleu eu hemosiynau. Wrth iddyn nhw wneud cynnydd, dylai dysgwyr ddatblygu ymwybyddiaeth o amrywiaeth o brofiadau a rolau gwahanol sy'n gysylltiedig â byd gwaith sy'n berthnasol i'w dysgu, eu sgiliau a'u diddordebau.
Drwy ddatblygu gwydnwch a'r gallu i addasu, bydd dysgwyr yn gallu gwneud penderfyniadau ar sail gwybodaeth ynghylch eu llwybr gyrfa a all ddylanwadu ar eu lles hefyd. Gall dysgwyr feithrin dealltwriaeth o'r angen i archwilio a chasglu profiadau, gwybodaeth a sgiliau sy'n berthnasol i'w huchelgais. Mae cael gafael ar gyngor diduedd a diragfarn yn bwysig er mwyn llywio proses benderfynu'r dysgwr.
Wrth i'r dysgwr aeddfedu, dylid gweld ymddygiadau cadarnhaol mewn perthynas â rheoli amser a phrydlondeb o fewn cyd-destun eu dysgu, ac fel rhinweddau pwysig er mwyn llwyddo o fewn byd gwaith. Gall datblygu ffyrdd proffesiynol o ymddwyn gyfrannu at wella lles drwy gefnogi cydberthnasau gwaith cadarnhaol.
Drwy amrywiaeth eang o brofiadau gwirioneddol, gall dysgwyr feithrin dealltwriaeth o'r pwyslais y mae cyflogwyr yn ei roi ar gael gweithlu amrywiol a chynhwysol. Mae dysgu am stereoteipiau a gallu eu herio yn datblygu ymwybyddiaeth o hawliau'r dysgwr mewn byd gwaith.
Addysg hawliau dynol ac amrywiaeth yn y Maes hwn
Mae deall a gwerthfawrogi amrywiaeth yn greiddiol i wireddu dysgu yn y Maes hwn ac i ddatblygu gwybodaeth a dealltwriaeth o hawliau.
Mae dysgu yn y Maes hwn yn edrych yn benodol ar gynnig cyfleoedd i ddysgwyr ddatblygu gwybodaeth a dealltwriaeth o hawliau; hawliau’r unigolyn, hawliau pobl eraill, effeithiau hawliau ar y dysgwyr eu hunain ac ar bobl eraill, a’r angen i barchu hawliau pobl eraill. Mae hefyd yn argymell rhoi cyfle i ddysgwyr brofi ymarfer eu hawliau eu hunain.
Mae dysgu ar draws y datganiadau o’r hyn sy’n bwysig yn y Maes hwn yn darparu cyfleoedd i ddatblygu dealltwriaeth fanwl o natur amrywiol pobl ac i ddatblygu’r sgil a’r ddealltwriaeth i ryngweithio’n addas gyda phobl o wahanol gefndiroedd a diwylliannau. Mae dysgu’n cynnig cyfleoedd i archwilio amrywiol werthoedd, hunaniaethau, ymddygiadau a nodweddion corfforol, a darparu cyfleoedd i ddysgwyr ddatblygu’r nodweddion i ddeall a pharchu amrywiaeth. Mae hefyd yn darparu cyfleoedd i ddysgwyr ddeall bod gwahanol grwpiau cymdeithasol, sefyllfaoedd a diwylliannau, a bod gan y rhain wahanol reolau, normau cymdeithasol ac agweddau, a chyfleoedd i ddysgwyr deall sut mae’r gwahaniaethau hyn yn dylanwadu ar werthoedd ac ymddygiadau.
Addysg perthnasoedd a rhywioldeb yn y Maes hwn
Mae iechyd a lles, wrth gwrs, yn ganolog i addysg cydberthynas a rhywioldeb. Mae'r Maes yn cynnig llwyfan pwysig i ddysgu am gydberthnasau iach; sut mae normau a dylanwadau cymdeithasol yn llywio ein canfyddiadau o ran cydberthnasau a rhywioldeb; goblygiadau cydberthnasau a rhywioldeb i'n hiechyd corfforol a meddyliol a'n lles emosiynol; yn ogystal â gwneud penderfyniadau yng nghyd-destun cydberthnasau a rhyw. Mae hyn yn cefnogi dysgwyr i ddatblygu sgiliau a strategaethau personol i'w galluogi i fwynhau iechyd a lles da drwy gydol eu bywydau.
Mae'r Maes hwn hefyd yn rhoi cyfleoedd i ddysgwyr ystyried sut mae materion yn ymwneud ag addysg cydberthynas a rhywioldeb yn cysylltu â materion ehangach o ran iechyd a lles: sut mae iechyd a lles ehangach yn dylanwadu ar gydberthnasau a rhywioldeb ac, yn yr un modd, sut mae cydberthnasau a rhywioldeb yn effeithio ar ein hiechyd a'n lles ehangach.