Gwireddu'r cwricwlwm: o gyd-destunau cenedlaethol i gyd-destunau lleol
Yma, ystyrir safbwyntiau rhyngwladol ar wireddu'r cwricwlwm gyda ffocws ar bwysigrwydd athrawon fel gwneuthurwyr cwricwlwm, a darperir deunyddiau a ddatblygwyd gan gyfranogwyr yn y gwaith cyd-ddatblygu i fodelu sut i gyd-ddatblygu’r cwricwlwm, a chefnogi sut i gyfathrebu cynnydd i randdeiliaid.
Cyflwyniad
Mae'r adran hon yn ystyried safbwyntiau rhyngwladol ar wireddu'r cwricwlwm, asesu a chynnydd. Mae hyn yn cynnwys sgyrsiau gydag arbenigwyr rhyngwladol sy'n sôn am greu cwricwlwm yng Nghanada, Seland Newydd a Norwy.
Mae hefyd yn cynnwys deunyddiau a ddatblygwyd gan ymarferwyr, arweinwyr ysgolion a phartneriaid addysgol i gefnogi dulliau ymarferol o ymdrin â chynnydd, gan gynnwys:
- ffyrdd o feddwl a gweithio wrth gyd-ddatblygu cwricwlwm
- cyfathrebu cynnydd dysgwyr gyda rhanddeiliaid
Syniadau allweddol
Mae'r fideo hwn yn trafod gwaith ar y cyd o greu cwricwla newydd yn Norwy a'r Ffindir ac yn meddwl am yr hyn y gallwn ei ddysgu o hyn mewn perthynas â gwireddu cwricwlwm yn gyffredinol.
Yna rydym yn cyfrannu lleisiau cyfranogwyr grwpiau cyd-ddatblygu o ran magu hyder wrth wireddu cwricwlwm yn ymarferol.
Gellir lawrlwytho taflen argraffadwy o'r sleidiau a ddefnyddiwyd i greu'r fideo hwn ochr yn ochr â thrawsgrifiad llawn.
- Gwireddu'r cwricwlwm: safbwyntiau rhyngwladol – trawsgrifiad fideo pdf 126 Kb Efallai na fydd y ffeil hon yn hygyrch. Os oes angen fersiwn mwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, anfonwch ebost os gwelwch yn dda. digital@gov.wales. Dywedwch wrthym y fformat sydd ei angen arnoch. Os ydych yn ddefnyddio technoleg gynorthwyol dywedwch wrthym pa fath
- Gwireddu'r cwricwlwm: safbwyntiau rhyngwladol – taflen sleidiau pdf 298 Kb Efallai na fydd y ffeil hon yn hygyrch. Os oes angen fersiwn mwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, anfonwch ebost os gwelwch yn dda. digital@gov.wales. Dywedwch wrthym y fformat sydd ei angen arnoch. Os ydych yn ddefnyddio technoleg gynorthwyol dywedwch wrthym pa fath
Archwilio ymhellach
Dylid ymgysylltu â'r cyfweliadau hyn ar ôl gwrando ar y fideo syniadau allweddol uchod.
Cyfweliad gyda'r Athro Cyswllt Jenny Poskitt
Yn y fideo hwn, mae Jenny Poskitt yn trafod creu cwricwlwm yn Seland Newydd.
Y prif bwyntiau i ysgolion a lleoliadau eu bachu yw:
- y gall ysgolion a lleoliadau ddehongli canllawiau'r cwricwlwm mewn ffyrdd sy'n ymateb i gyd-destunau lleol (5m18e)
- sut mae cynnydd yn cael ei ddeall yng nghwricwlwm Seland Newydd (22m49e)
- trawsgrifiad cyfweliad Jenny Poskitt pdf 206 Kb Efallai na fydd y ffeil hon yn hygyrch. Os oes angen fersiwn mwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, anfonwch ebost os gwelwch yn dda. digital@gov.wales. Dywedwch wrthym y fformat sydd ei angen arnoch. Os ydych yn ddefnyddio technoleg gynorthwyol dywedwch wrthym pa fath
Cyfweliad gyda'r Athro Chris DeLuca
Yn y fideo hwn, mae Chris DeLuca yn trafod cwricwlwm ac asesu yn Ontario, Canada.
Ymhlith prif bwyntiau i ysgolion a lleoliadau eu bachu mae:
- polisi 'Growing Success’ Ontario, a gyflwynodd asesu ar gyfer dysgu ac asesu fel dysgu fel ffyrdd o feddwl am asesu (5m53e)
- y berthynas mewn systemau addysg rhwng asesu ffurfiannol a chrynodol, problem 'glymog' y berthynas rhwng asesu ffurfiannol ac atebolrwydd, a sut mae athrawon yn Ontario yn trafod y rhain (12m46e)
- y gefnogaeth y mae athrawon yn tynnu arni yn Ontario i'w helpu i wireddu arferion cwricwlwm ac asesu newydd (20m26e)
- alinio 'hanfod ac ysbryd' y cwricwlwm (34m25e)
- trawsgrifiad cyfweliad Chris DeLuca pdf 191 Kb Efallai na fydd y ffeil hon yn hygyrch. Os oes angen fersiwn mwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, anfonwch ebost os gwelwch yn dda. digital@gov.wales. Dywedwch wrthym y fformat sydd ei angen arnoch. Os ydych yn ddefnyddio technoleg gynorthwyol dywedwch wrthym pa fath
Cyfweliad gyda'r Athro Kari Smith
Yn y fideo hwn, mae Kari Smith yn gyntaf yn cyflwyno addysg yn Norwy, cyn siarad am natur asesu yn y system.
Ymhlith prif bwyntiau i ysgolion a lleoliadau eu bachu mae:
- elfennau cyffredinol a phynciol o’r cwricwlwm a hawliau dysgwyr i asesu ffurfiannol (16m00e).
- 'dysgu manwl' yn y cwricwlwm diwygiedig yn Norwy (20m22e).
- trafodaeth am y ddadl barhaus am arholiadau yn dilyn y pandemig COVID-19 (25m09e).
- cyflwyno diwygio fel proses tri cham (29m40e).
- trawsgrifiad cyfweliad Kari Smith pdf 244 Kb Efallai na fydd y ffeil hon yn hygyrch. Os oes angen fersiwn mwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, anfonwch ebost os gwelwch yn dda. digital@gov.wales. Dywedwch wrthym y fformat sydd ei angen arnoch. Os ydych yn ddefnyddio technoleg gynorthwyol dywedwch wrthym pa fath
Meddwl ar waith
Mae'r deunyddiau hyn wedi'u cynhyrchu gan ymarferwyr, arweinwyr ysgolion a phartneriaid addysgol yn y grŵp cyd-ddatblygu.
Mae'r set gyntaf o ddeunyddiau wedi'i chynllunio i rannu ffyrdd o feddwl a gweithio yn ystod y gwaith o gyd-ddatblygu’r cwricwlwm mewn ysgolion a lleoliadau, ac fe'i lluniwyd o broses yr aeth cyfranogwyr cyd-ddatblygu drwyddi i fynd i'r afael â mater arbennig o anodd wrth ddylunio cynnydd yn eu cwricwlwm.
Mae'r ail set o ddeunyddiau wedi'i chynllunio i gefnogi ystyriaeth o sut mae cynnydd dysgwyr yn cael ei gyfathrebu i randdeiliaid.
Mae'r drydedd set o ddeunyddiau wedi'i chynllunio i gefnogi ffyrdd newydd o feddwl am gynnydd mewn ysgolion a lleoliadau.
- Cyd-ddatblygu cwricwlwm pdf 130 Kb Efallai na fydd y ffeil hon yn hygyrch. Os oes angen fersiwn mwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, anfonwch ebost os gwelwch yn dda. digital@gov.wales. Dywedwch wrthym y fformat sydd ei angen arnoch. Os ydych yn ddefnyddio technoleg gynorthwyol dywedwch wrthym pa fath
- Cyfathrebu gyda rhanddeiliaid pdf 98 Kb Efallai na fydd y ffeil hon yn hygyrch. Os oes angen fersiwn mwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, anfonwch ebost os gwelwch yn dda. digital@gov.wales. Dywedwch wrthym y fformat sydd ei angen arnoch. Os ydych yn ddefnyddio technoleg gynorthwyol dywedwch wrthym pa fath
- Diwylliant a meddylfryd sy’n cefnogi cynnydd pdf 1.09 Mb Efallai na fydd y ffeil hon yn hygyrch. Os oes angen fersiwn mwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, anfonwch ebost os gwelwch yn dda. digital@gov.wales. Dywedwch wrthym y fformat sydd ei angen arnoch. Os ydych yn ddefnyddio technoleg gynorthwyol dywedwch wrthym pa fath