English

Mae Fframwaith Cwricwlwm i Gymru (Fframwaith) yn ddatganiad clir o'r hyn sydd, yn ein barn ni, yn bwysig mewn addysg eang a chytbwys. Wrth ei wraidd y mae ein dyhead ar gyfer pob plentyn a pherson ifanc yng Nghymru, fel y'i diffinnir gan bedwar diben y cwricwlwm. Er mwyn gwireddu'r weledigaeth hon, mae'n rhaid i ysgolion gynllunio, mabwysiadu a gweithredu cwricwlwm sy'n bodloni gofynion cwricwlwm a nodir mewn deddfwriaeth, a darparu'r dysgu y mae'n ei ddiffinio. Er mwyn cefnogi ysgolion i wneud hyn, mae'r canllawiau yma’n nodi dull gweithredu clir i lywio'r broses o wneud penderfyniadau am y cwricwlwm.

Mae’r Fframwaith yn rhoi cyfle i bob ysgol yng Nghymru gynllunio ei chwricwlwm ei hun o fewn dull cenedlaethol sy’n sicrhau lefel o gysondeb. Mae'n annog ysgolion i ddatblygu eu gweledigaeth eu hunain ar gyfer eu dysgwyr o fewn cyd-destun y pedwar diben a'r dysgu a ddiffinnir ar lefel genedlaethol. Mae'n rhoi lle i ymarferwyr fod yn greadigol a datblygu dysgu ystyrlon drwy ystod o brofiadau a chyd-destunau sy'n diwallu anghenion eu dysgwyr.

Wrth gynllunio a gweithredu eich cwricwlwm, dylech ystyried y cwestiynau allweddol canlynol. Sut y bydd eich cwricwlwm yn:

  • galluogi eich dysgwyr i gyflawni'r pedwar diben ac yn eu paratoi ar gyfer dysgu parhaus, gwaith a bywyd?
  • meithrin disgwyliadau uchel ac yn galluogi pob dysgwr i gyflawni ei lawn botensial?
  • cynnig addysg eang a chytbwys, sy'n galluogi eich dysgwyr i greu cysylltiadau rhwng y gwahanol feysydd dysgu a phrofiad (Meysydd), a chymhwyso'u dysgu mewn sefyllfaoedd newydd ac mewn perthynas â materion mwy cymhleth?
  • cefnogi cynnydd ar hyd continwwm dysgu, a sut rydych yn gweithio gydag eraill i sicrhau cysondeb yn y cyfnodau pontio ar hyd continwwm 3 i 16?
  • cefnogi iechyd a lles eich dysgwyr, gan gynnwys eu hiechyd meddwl a'u lles?
  • cefnogi datblygiad gwybodaeth eich dysgwyr sy’n sylfaen i fod yn ddinesydd gwybodus?
  • cydnabod hunaniaeth eich dysgwyr, eu hiaith/ieithoedd, eu gallu a'u cefndir, a'r cymorth gwahanol y gall fod ei angen arnyn nhw o ystyried eu hamgylchiadau penodol?
  • adlewyrchu amrywiaeth safbwyntiau, gwerthoedd a hunaniaethau sy'n llunio eich ardal leol a Chymru, a meithrin dealltwriaeth o'r byd ehangach?
  • ymgorffori cyd-ddatblygu â dysgwyr, eu teuluoedd a'r gymuned ehangach?
  • galluogi eich dysgwyr i wneud synnwyr o'r profiad o dyfu'n hyn yn y Gymru gyfoes ac o faterion a fydd yn bwysig yn y dyfodol, gan gynnwys lles, datblygu cynaladwy a dinasyddiaeth?
  • cefnogi eich dysgwyr i ymgysylltu’n feirniadol ag ystod o wybodaeth ac asesu ei gwerth a pha mor ddilys ydyw?
  • galluogi eich dysgwyr i feithrin dealltwriaeth o'u hawliau a hawliau eraill?

Lluniwyd ‘Cynllunio eich cwricwlwm’ gyda'r nod o'ch helpu i ymdrin â'r cwestiynau hyn yn eich ysgol. Mae'n trafod yr egwyddorion a'r ystyriaethau pwysig a ddylai lywio'r broses honno ac yn rhoi canllawiau ar:

  • ddatblygu gweledigaeth ar gyfer cwricwlwm mewn ysgol
  • datblygu cwricwlwm sy'n gwireddu'r weledigaeth honno.

Mae hefyd yn cynnwys canllawiau ar sut i fynd ati i ddethol cynnwys cwricwlwm ac asesu dysgwyr er mwyn cefnogi eu cynnydd. Fel gweddill y canllawiau hyn, fe'u lluniwyd ar gyfer ysgolion yn bennaf, ond byddan nhw hefyd yn ddefnyddiol i leoliadau addysgol eraill.

Mae'r datganiadau o’r hyn sy’n bwysig, yr egwyddorion cynnydd a'r disgrifiadau dysgu yn cyfleu hanfod yr hyn a ddylai fod yn sail i dysgu, ac maen nhw’n darparu'r un disgwyliadau uchel ar gyfer pob dysgwr.

Bydd gan ddysgwyr ystod o anghenion a chefndiroedd, ac felly mae’r Fframwaith yn rhoi rhyddid i ysgolion ac ymarferwyr ddewis y profiadau, yr wybodaeth a'r sgiliau penodol, yn ogystal â'r testunau, y gweithgareddau a'r cyd-destunau penodol, a fydd yn cefnogi dysgu orau o fewn y Fframwaith. Mae'r hyblygrwydd hwn hefyd yn galluogi ysgolion i ddarparu gwahanol gymorth i gwahanol ddysgwyr er mwyn bodloni'r disgwyliadau hynny a mynd i'r afael â bylchau o ran cyrhaeddiad. Dylai'r rhyddid hwn i ddewis gael ei ategu gan broses gadarn ar gyfer cynllunio’r cwricwlwm, ar sail tystiolaeth, sydd bob amser yn canolbwyntio ar helpu dysgwyr i gyflawni'r pedwar diben.