English

Hwb

Cwricwlwm i Gymru: crynodeb o’r ddeddfwriaeth arfaethedig

Cynigir i Fil Cwricwlwm ac Asesu (Bil) gael ei gyflwyno yn y Senedd yn 2020. Er mwyn helpu i weithredu'r Bil hwnnw, cynigiwn gyhoeddi cyfres o ganllawiau i gefnogi ymarferwyr. Bydd hyn yn cynnwys crynodeb o'r ddeddfwriaeth a fydd yn sail i'r cwricwlwm y bydd ysgolion yn ei ddatblygu.

Felly, dyma fersiwn gynnar o'r crynodeb hwnnw. Nid yw'n hollgynhwysfawr ac ar hyn o bryd mae’n amlygu'r cynigion allweddol yn unig.

Os caiff y Bil ei basio gan y Senedd, bydd y crynodeb hwn a gweddill y canllawiau yn cael eu hadolygu i adlewyrchu unrhyw newidiadau.

Yr elfennau sy’n rhan o Fframwaith Cwricwlwm i Gymru (Fframwaith) yw gofynion cwricwlwm, a nodir mewn deddfwriaeth, a'r canllawiau ategol yr ydym yn eu cyhoeddi.

Ar hyn o bryd, diben y crynodeb hwn a gweddill y canllawiau yw helpu ysgolion i ddechrau meddwl am gynllunio eu cwricwlwm a'r trefniadau asesu i'w gefnogi. Mae hefyd yn ceisio cynorthwyo lleoliadau meithrin a ariennir nas cynhelir, unedau cyfeirio disgyblion a phersonau sy'n comisiynu addysg heblaw yn yr ysgol (EOTAS) mewn lleoliadau eraill i ddeall mwy am y Fframwaith.

Mae'r canllawiau a’r crynodeb hwn yn crynhoi'r dyletswyddau y cynigiwn y bydd y Bil yn eu gosod ar benaethiaid a chyrff llywodraethu ysgolion.

Bydd nifer o elfennau o'r fframwaith cwricwlwm newydd yn ymwneud â chwricwlwm yn orfodol a bydd yn rhaid cydymffurfio â nhw. Gelwir yr elfennau hyn yn ofynion cwricwlwm. Mae'r crynodeb hwn yn esbonio beth yw’r rhain, a sut y bydd angen eu defnyddio wrth gynllunio cwricwlwm.

Y tu hwnt i ofynion cwricwlwm, bydd gan ysgolion ddisgresiwn o ran sut y maen nhw’n cynllunio eu cwricwlwm. Nod y crynodeb hwn, a'r canllawiau ehangach, yw cynorthwyo ysgolion i baratoi ar gyfer arfer y disgresiwn hwnnw.

Mae’r crynodeb hwn hefyd yn crynhoi'r gofynion a roddir ar ddarparwyr addysg feithrin a ariennir nas cynhelir, ac ar unedau cyfeirio disgyblion ac awdurdodau lleol fel comisiynwyr darpariaeth EOTAS. Ni fydd arnyn nhw yr un gofynion ag sydd ar ysgolion i gynllunio cwricwlwm. Caiff canllawiau penodol, ar wahân, eu darparu ar gyfer y lleoliadau hyn yn 2021.

Mae’r crynodeb hwn hefyd yn tynnu sylw at y gofynion allweddol sydd i gael eu rhoi ar awdurdodau lleol a Gweinidogion Cymru.

Os caiff y Bil ei basio, bydd y crynodeb hwn yn cael ei ddiweddaru a'i ehangu i helpu i gynorthwyo’r broses o gynllunio, mabwysiadu a gweithredu cwricwlwm ysgol neu gwricwlwm perthnasol arall. Caiff canllawiau ychwanegol hefyd eu cyhoeddi ynghylch sut y gall ysgolion, darparwyr addysg feithrin a ariennir nas cynhelir, unedau cyfeirio disgyblion a phersonau sy'n trefnu darpariaeth EOTAS, awdurdodau lleol a Gweinidogion Cymru arfer eu dyletswyddau a'u pwerau mewn perthynas â'r cwricwlwm newydd a'r trefniadau asesu.

Bydd y Bil yn creu gofynion cwricwlwm newydd ar gyfer pob dysgwr rhwng 3 ac 16 oed mewn addysg feithrin a gynhelir neu a ariennir nas cynhelir. Bydd yn disodli'r cwricwlwm cenedlaethol cyfredol a'r cwricwlwm sylfaenol.

Bydd y ddeddfwriaeth yn gosod dyletswyddau ar, ac yn rhoi pwerau i, benaethiaid a chyrff llywodraethu ysgolion a gynhelir, darparwyr addysg a ariennir nas cynhelir, pobl sy'n trefnu EOTAS, y person sy’n gyfrifol am uned cyfeirio disgyblion, awdurdodau lleol a Gweinidogion Cymru. Rhaid cydymffurfio â’r dyletswyddau hyn. O ran y pwerau, maen nhw’n rhoi disgresiwn o ran a ddylid eu defnyddio, ac os felly, sut y dylid eu defnyddio.

Cynigiwn nodi cysyniadau craidd a fydd yn gymwys mewn perthynas â phob cwricwlwm ac unrhyw ddysgu y mae'r Bil yn gwneud darpariaeth ar ei gyfer. 

Y pedwar diben

Pwrpas cwricwlwm yw galluogi dysgwyr i ddatblygu fel:

  • dysgwyr uchelgeisiol, galluog, sy'n barod i ddysgu gydol eu bywydau
  • cyfranwyr mentrus, creadigol sy'n barod i chwarae rhan lawn mewn bywyd a gwaith
  • dinasyddion egwyddorol, gwybodus yng Nghymru a'r byd
  • unigolion iach, hyderus sy’n barod i fyw bywyd cyflawn fel aelodau gwerthfawr o gymdeithas

Y bwriad yw y bydd galluogi dysgwyr i wneud cynnydd mewn perthynas â'r dibenion hyn yn llywio'r holl benderfyniadau sy'n ymwneud â chynllunio a gweithredu cwricwlwm a threfniadau asesu ysgol. Hyn hefyd fydd y sail ar gyfer llywio'r holl benderfyniadau ar dysgu ac addysgu ar gyfer dysgwyr mewn unedau cyfeirio disgyblion a'r trefniadau a wneir ar gyfer dysgwyr sy'n derbyn EOTAS mewn lleoliadau eraill.

Gofynion cyffredinol

Rhaid i bob ysgol a gynhelir a lleoliadau meithrin a ariennir nas cynhelir fabwysiadu cwricwlwm. Rhaid i gwricwlwm a fabwysiedir fodloni'r gofynion cyffredinol canlynol.

  • Galluogi dysgwyr i wneud cynnydd tuag at y pedwar diben.
  • Bod yn eang a chytbwys.
  • Bod yn addas ar gyfer dysgwyr o wahanol oedrannau, galluoedd a doniau.
  • Darparu ar gyfer dilyniant priodol i ddysgwyr a chynnwys ystod o ddarpariaeth i sicrhau hyn (yn gysylltiedig ag oedrannau, galluoedd a doniau).

Y meysydd dysgu a phrofiad

Rhaid i'r chwe maes dysgu a phrofiad canlynol (Maes/Meysydd) gael eu hadlewyrchu mewn cwricwlwm a fabwysiedir.

  • Y Celfyddydau Mynegiannol.
  • Iechyd a Lles.
  • Y Dyniaethau.
  • Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu.
  • Mathemateg a Rhifedd.
  • Gwyddoniaeth a Thechnoleg.

Bydd gan Weinidogion Cymru bwerau i ychwanegu a dileu Meysydd.

Rhaid i unedau cyfeirio disgyblion ac EOTAS sicrhau dysgu ac addysgu ym Maes Dysgu a Phrofiad Iechyd a Lles ac yn y Meysydd eraill i’r graddau y mae hynny’n briodol i'r dysgwr unigol.

Datganiadau o’r hyn sy’n bwysig

Bydd yn ofynnol i Weinidogion Cymru gyhoeddi cod yn nodi'r datganiadau o’r hyn sy'n bwysig. Mae'n rhaid i gwricwlwm pob ysgol a phob lleoliad a ariennir nas cynhelir gynnwys yr holl elfennau a nodir yng nghod datganiadau o’r hyn sy’n bwysig.

Elfennau gorfodol cwricwlwm

Bydd y canlynol yn elfennau gorfodol o gwricwlwm.

  • Crefydd, gwerthoedd a moeseg.
  • Addysg cydberthynas a rhywioldeb.
  • Cymraeg.
  • Saesneg.

Bydd gan Weinidogion Cymru bwerau i ychwanegu a dileu elfennau gorfodol cwricwlwm.

O ran Saesneg, bydd gan benaethiaid a darparwyr addysg feithrin a ariennir nas cynhelir hawl i ddewis a ydyn nhw’n cyflwyno Saesneg i ddysgwyr hyd at 7 oed, ac i ba raddau y maen nhw’n gwneud hynny. Mae hyn er mwyn cynorthwyo dysgwyr i fod yn rhugl yn y Gymraeg.

Sgiliau trawsgwricwlaidd gorfodol

Bydd llythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol yn sgiliau trawsgwricwlaidd gorfodol a rhaid eu hymgorffori mewn unrhyw gwricwlwm a fabwysiedir.

Bydd gan Weinidogion Cymru bwerau i ychwanegu a dileu sgiliau trawsgwricwlaidd gorfodol.

Bydd gofyn i unedau cyfeirio disgyblion sicrhau dysgu ac addysgu yn y sgiliau trawsgwricwlaidd gorfodol. Bydd yn ofynnol i'r personau sy'n gyfrifol am ddarparu EOTAS sicrhau dysgu mewn perthynas â'r sgiliau trawsgwricwlaidd gorfodol i'r graddau y mae hynny'n briodol i'r dysgwr unigol.

Cod cynnydd

Bydd yn ofynnol i Weinidogion Cymru gyhoeddi cod cynnydd yn nodi'r ffordd y mae'n rhaid i ddilyniant gael ei adlewyrchu mewn cwricwlwm a fabwysiedir. Bydd yn rhaid i gwricwlwm ysgol adlewyrchu'r egwyddorion cynnydd a nodir yn y cod. Bydd y cod yn cynnwys yr egwyddorion cynnydd a ddatblygwyd gan brosiect CAMAU drwy ymgysylltu ag ymarferwyr ac, am nawr, gellir dod o hyd i’r cod hwn yn adrannau maes dysgu a phrofiad a ‘Cynllunio eich cwricwlwm’ yn y canllawiau hyn.

Bydd cyhoeddi cod cynnydd gydag elfennau gorfodol yn sicrhau cysondeb o ran yr ymagwedd tuag at cynnydd yng nghwricwla ysgolion.

Bydd hefyd yn cynorthwyo unedau cyfeirio disgyblion a darparwyr EOTAS i ystyried y cwricwlwm priodol ar gyfer pob un o'u dysgwyr.

Rhaid i ysgolion gynllunio, mabwysiadu a gweithredu cwricwlwm fel ei fod yn:

  • galluogi dysgwyr i ddatblygu yn y ffordd a ddisgrifir yn y pedwar diben
  • eang a chytbwys
  • addas ar gyfer dysgwyr o wahanol oedrannau, galluoedd a doniau
  • darparu ar gyfer dilyniant priodol i ddysgwyr ac yn cynnwys ystod o ddarpariaeth i sicrhau hyn

Rhaid i gwricwlwm ysgol:

  • gynnwys y chwe maes dysgu a phrofiad
  • cwmpasu’r datganiadau o’r hyn sy’n bwysig (fel y nodwyd yng nghod datganiadau o’r hyn sy’n bwysig)
  • adlewyrchu'r egwyddorion cynnydd a nodir yn y cod cynnydd
  • cynnwys elfennau gorfodol cwricwlwm
  • cwmpasu'r sgiliau trawsgwricwlaidd gorfodol

Yn ogystal â'r uchod, rydym yn cynnig y gofynion penodol i oedran isod.

Ar gyfer dysgwyr hyd at 7 oed:

  • bydd gan y pennaeth ddisgresiwn i benderfynu nad yw Saesneg yn rhan o gwricwlwm yr ysgol er mwyn galluogi dysgwyr i ddod yn rhugl yn y Gymraeg
  • rhaid i bob ysgol nodi yn eu crynodeb cyhoeddedig o'u cwricwlwm eu dull o addysgu'r Gymraeg a'r Saesneg hyd at 7 oed

Ar gyfer dysgwyr 14 i 16 oed, rhaid i ysgol gynllunio cwricwlwm fel ei fod yn darparu, yn ogystal ag elfennau gorfodol cwricwlwm a sgiliau trawsgwricwlaidd gorfodol:

  • ddewis i ddysgwyr yn y dysgu arall y byddan nhw’n ei wneud, ond mewn ffordd sy'n sicrhau bod pob dysgwr yn dal i ymgymryd â pheth dysgu ym mhob Maes
  • elfennau eraill y mae'r ysgol yn gofyn i bob dysgwr (neu rai grwpiau o ddysgwyr) eu cyflawni

Yn ogystal:

  • caiff Gweinidogion Cymru wneud rheoliadau sy'n pennu gofynion ychwanegol y mae’n rhaid i gwricwlwm eu darparu ar gyfer yr ystod oedran 14 i 16 mewn perthynas â:
    • chyrsiau astudio a/neu ddysgu arall
    • isafswm y cyrsiau astudio y mae gan ddysgwr yr hawl i ymgymryd â nhw

Gofynion ychwanegol

Rhaid i ysgolion gyhoeddi crynodeb o'r cwricwlwm a fabwysiedir ganddyn nhw ac adolygu’r cwricwlwm hwnnw’n barhaus.

Rhaid i'r pennaeth weithredu’r cwricwlwm a fabwysiedir gan yr ysgol mewn ffordd sy'n:

  • galluogi dysgwyr i wneud cynnydd yn y ffordd a ddisgrifir yn y pedwar diben
  • addas ar gyfer dysgwyr o wahanol oedrannau, galluoedd a doniau
  • cynnig cynnydd priodol i'r dysgwyr hynny

Rhaid i'r corff llywodraethu arfer ei swyddogaethau mewn ffordd sy’n sicrhau bod y cwricwlwm yn cael ei weithredu yn y ffordd hon.

Rhaid i ysgolion sicrhau bod eu cwricwlwm yn cael ei gefnogi gan drefniadau asesu sy'n asesu y:

  • cynnydd a wneir gan ddysgwyr mewn perthynas â'r cwricwlwm perthnasol
  • camau nesaf yn nilyniant dysgwyr a'r dysgu a'r addysgu sydd eu hangen i wneud y cynnydd hwnnw

Bydd Gweinidogion Cymru hefyd yn gwneud rheoliadau mewn perthynas â'r prosesau allweddol canlynol sydd eu hangen ar gyfer dilyniant effeithiol i ddysgwyr.

  • Sicrhau dealltwriaeth gyffredin o ddilyniant.
  • Cyfathrebu ac ymgysylltu â rhieni a gofalwyr.
  • Symud ar hyd y continwwm 3 i 16.

Os caiff y Bil ei basio, bydd yn ofynnol i ysgolion roi sylw i’r canllawiau a gyhoeddir fel rhan o Fframwaith newydd wrth gynllunio, mabwysiadu a gweithredu eu cwricwlwm a’u trefniadau asesu.

Bydd angen i leoliadau meithrin a ariennir nas cynhelir fabwysiadu cwricwlwm ar gyfer eu dysgwyr.

Bydd dyletswydd ar Weinidogion Cymru i gynllunio cwricwlwm ar gyfer y lleoliadau hyn. Bydd Gweinidogion Cymru yn sicrhau bod y cwricwlwm hwn ar gael yn 2021 ac yn cynnwys y sector yn y broses o'i ddatblygu. Bydd yn ofynnol i Weinidogion Cymru barhau i adolygu'r cwricwlwm hwn a gwneud unrhyw ddiwygiadau yn y dyfodol. Gall lleoliadau fabwysiadu cwricwlwm a gynlluniwyd gan Weinidogion Cymru, gallan nhw gynllunio un eu hunain, neu gallan nhw weithio gydag eraill i gynllunio cwricwlwm.

Rhaid i unrhyw gwricwlwm a fabwysiedir ar gyfer lleoliad meithrin a ariennir nas cynhelir, gan gynnwys yr un a gynhyrchir gan Weinidogion Cymru, fodloni'r gofynion canlynol.

Rhaid iddo:

  • alluogi dysgwyr i ddatblygu yn y ffordd a ddisgrifir yn y pedwar diben
  • bod yn eang a chytbwys
  • bod yn addas ar gyfer dysgwyr o wahanol oedrannau, galluoedd a doniau
  • darparu ar gyfer cynnydd priodol i ddysgwyr a chynnwys ystod o ddarpariaeth i sicrhau hyn (yn gysylltiedig ag oedrannau, galluoedd a doniau)

Rhaid i'r cwricwlwm a fabwysiedir hefyd:

  • gynnwys y chwe maes dysgu a phrofiad
  • gwmpasu’r datganiadau o’r hyn sy’n bwysig (fel y nodwyd yng nghod datganiadau o’r hyn sy’n bwysig
  • adlewyrchu'r egwyddorion cynnydd a nodir yn y cod cynnydd
  • cynnwys elfennau gorfodol cwricwlwm
  • cwmpasu'r sgiliau trawsgwricwlaidd gorfodol

Bydd gan ddarparwr addysg feithrin a ariennir nas cynhelir ddisgresiwn i benderfynu nad yw Saesneg yn rhan o’r cwricwlwm er mwyn galluogi dysgwyr i ddod yn rhugl yn y Gymraeg. Rhaid i'r crynodeb o'u cwricwlwm a gyhoeddir nodi eu hymagwedd tuag at addysgu'r Gymraeg a'r Saesneg.

Rhaid i ddarparwr addysg feithrin a ariennir nas cynhelir gyhoeddi crynodeb o'r cwricwlwm a fabwysiedir ganddyn nhw ac adolygu eu cwricwlwm yn barhaus.

Rhaid i ddarparwyr lleoliadau meithrin a ariennir nas cynhelir weithredu’r cwricwlwm a fabwysiedir ganddyn nhw fel ei fod yn:

  • galluogi dysgwyr i wneud cynnydd yn y ffordd a ddisgrifir yn y pedwar diben
  • addas ar gyfer oedrannau, galluoedd a doniau gwahanol ddysgwyr ac fel ei fod yn cynnig cynnydd priodol ar gyfer dysgwyr

Rhaid i ddarparwyr addysg feithrin a ariennir sicrhau bod eu cwricwlwm yn cael ei gefnogi gan drefniadau asesu sy'n asesu y:

  • cynnydd a wneir gan ddysgwyr mewn perthynas â'r cwricwlwm perthnasol
  • camau nesaf yn cynnydd dysgwyr a'r dysgu ac addysgu sydd eu hangen i wneud y cynnydd hwnnw

Os caiff y Bil ei basio, bydd yn ofynnol i leoliadau meithrin a ariennir nas cynhelir roi sylw i'r canllawiau a gyhoeddir fel rhan o’r Fframwaith newydd wrth gynllunio (lle bo'n berthnasol), mabwysiadu, a gweithredu eu cwricwlwm a'u trefniadau asesu.

Ein bwriad yw rhoi fframwaith deddfwriaethol ar waith sy'n gofyn am y canlynol.

Bydd yn ofynnol i unedau cyfeirio disgyblion:

Lle mae awdurdodau lleol yn trefnu EOTAS i ddysgwyr, rhaid iddyn nhw sicrhau bod y trefniadau:

  • yn sicrhau darpariaeth sy'n hybu cynnydd y dysgwr o ran y pedwar diben, sy'n addas ar gyfer oedrannau, galluoedd a doniau'r dysgwyr, ac sy’n eang ac yn gytbwys ac yn cynnig cynnydd priodol
  • yn sicrhau, i’r graddau y mae hynny’n briodol i’r dysgwr unigol, dysgu mewn perthynas â’r sgiliau trawsgwricwlaidd, addysg cydberthynas a rhywioldeb a Maes Dysgu a Phrofiad Iechyd a Lles
  • rhoi sylw i elfennau eraill y cwricwlwm, sy'n cynnwys y meysydd dysgu a phrofiad ac elfennau gorfodol cwricwlwm a sicrhau darpariaeth mewn perthynas â’r rheiny, i'r graddau y byddai hynny'n briodol ar gyfer y dysgwr unigol

Rhaid i unedau cyfeirio disgyblion a darparwyr EOTAS sicrhau eu bod yn rhoi trefniadau asesu ar waith sy'n asesu y:

  • cynnydd a wneir gan ddysgwyr mewn perthynas â'r cwricwlwm sydd wedi’i gynllunio ar gyfer y dysgwr hwnnw
  • camau nesaf yn cynnydd y dysgwyr a'r dysgu ac addysgu sydd eu hangen i wneud y cynnydd hwnnw

Rydym yn cynnig y dylai ysgolion a lleoliadau ddatgymhwyso cwricwlwm o dan rai amgylchiadau, a chaniatáu eithriadau dros dro ar gyfer dysgwyr unigol. Bydd y rhain yn cyd-fynd yn fras â dull y cwricwlwm presennol. Os caiff y Bil ei basio, rhoddir rhagor o fanylion fel rhan o'r dasg o ddiweddaru'r canllawiau yn 2021.

Bydd gan Weinidogion Cymru swyddogaethau i wneud is-ddeddfwriaeth a chodau gorfodol yn y prif feysydd canlynol (nid yw'r rhestr hon yn hollgynhwysfawr).

  • Y datganiadau o’r hyn sy'n bwysig (y nodir ei gynnwys arfaethedig yn y datganiadau o’r hyn sy’n bwysig).
  • Y cod cynnydd (y nodir ei gynnwys arfaethedig yn yr egwyddorion cynnydd).
  • Rheoliadau sy'n pennu gofynion ychwanegol mewn perthynas â'r cwricwlwm ar gyfer plant 14 i 16 oed.
  • Rheoliadau sy'n pennu sut y caiff cwricwlwm ei fabwysiadu, ac erbyn pryd.

Mae Gweinidogion Cymru yn bwriadu cyhoeddi canllawiau i helpu ysgolion a lleoliadau eraill i fodloni gofynion cwricwlwm ac i wneud paratoadau o flaen llaw tra bo’r Bil yn cael ei ystyried gan y Senedd. Bydd hyn yn cynnwys:

  • canllawiau Cwricwlwm i Gymru ar gyfer cynllunio a gweithredu'r cwricwlwm (ysgolion cynradd)
  • canllawiau asesu
  • fframwaith crefydd, gwerthoedd a moeseg
  • canllawiau addysg cydberthynas a rhywioldeb
  • cwricwlwm Gweinidogion Cymru ar gyfer lleoliadau meithrin a ariennir nas cynhelir
  • canllawiau i gynorthwyo unedau cyfeirio disgyblion a darparwyr EOTAS i alluogi eu dysgwyr i wneud cynnydd tuag at y pedwar diben a bodloni'r gofynion newydd a osodir arnyn nhw yn y ddeddfwriaeth

Unwaith y bydd y Bil wedi derbyn Cydsyniad Brenhinol, caiff y rhain eu cyhoeddi fel canllawiau statudol i gefnogi cynllunio a gweithredu cwricwla.

Mae amrywiaeth o ofynion deddfwriaethol y gallai fod angen i ysgolion a lleoliadau eu hystyried neu roi sylw iddyn nhw wrth reoli eu sefydliadau. Nid bwriad yr adran hon yw manylu ar y rhain, ond, yn hytrach, dynnu sylw at y rhai sydd â goblygiadau o ran cwricwlwm ac asesu.

Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015

Nid yw Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn gosod dyletswyddau penodol ar ysgolion. Fodd bynnag, mae'n ei gwneud yn ofynnol i lywodraeth leol a llywodraeth genedlaethol (ynghyd â chyrff cyhoeddus eraill) weithredu datblygu cynaladwy. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid iddyn nhw weithio i wella lles economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Cymru.

Mae hyn yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru ac awdurdodau lleol, ymhlith eraill, osod amcanion i wneud y cyfraniad mwyaf posibl tuag at gyflawni pob un o'r saith nod lles a chymryd pob cam rhesymol wrth arfer eu swyddogaethau i gyflawni'r nodau hynny.

Mae'r Ddeddf hefyd yn ei gwneud yn ofynnol iddyn nhw weithredu'r egwyddor datblygu cynaladwy sy'n cynnwys mabwysiadu ffyrdd o weithio a fydd o gymorth i ddatblygu cynaladwy pellach.

Un o amcanion lles Gweinidogion Cymru yw: ‘helpu pobl ifanc i wneud y mwyaf o’u potensial'. Mae ein dull o ddiwygio'r cwricwlwm yn cyfrannu at gyflawni'r amcan hwnnw a, thrwy hynny, wneud y mwyaf o'n cyfraniad i'r nodau lles. Mae hefyd yn adlewyrchu'r egwyddor datblygu cynaladwy a'r ffyrdd o weithio.

Anogwn ysgolion, lleoliadau meithrin a ariennir nas cynhelir, unedau cyfeirio disgyblion a darparwyr EOTAS i ystyried sut y gallan nhw sefydlu'r ffyrdd o weithio a chyfrannu tuag at y nodau lles yn y ffordd y maen nhw’n mynd ati i gynllunio, mabwysiadu a gweithredu eu cwricwlwm a chynnwys dysgwyr, rhieni/gofalwyr, eu cymunedau ehangach, busnesau a phartneriaid, yn y broses honno.

Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn

Hawliau dynol yw'r rhyddid y mae gan bawb hawl iddo, a’r hyn sy’n gwarchod hynny. Mae gan ddysgwyr hawliau dynol penodol a warentir gan Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn (dolen allanol).

Wrth gynllunio, mabwysiadu neu weithredu cwricwlwm, rydym yn annog ysgolion, lleoliadau meithrin a ariennir nas cynhelir, unedau cyfeirio disgyblion a darparwyr EOTAS i ymgorffori cyfleoedd i ddysgwyr i:

  • ddysgu am hawliau dynol: caffael gwybodaeth a sgiliau mewn perthynas â hawliau dynol, a ffynonellau'r hawliau hynny
  • dysgu drwy hawliau dynol: datblygu gwerthoedd, agweddau ac ymddygiadau sy'n adlewyrchu gwerthoedd hawliau dynol
  • dysgu ar gyfer hawliau dynol: cymhelliant gweithredu cymdeithasol a grymuso dinasyddiaeth weithredol i hybu parch tuag at hawliau pawb

Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018

Mae'r Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 yn creu fframwaith deddfwriaethol i wella'r broses o gynllunio a chyflawni darpariaeth ddysgu ychwanegol, drwy ddull sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn i ganfod anghenion yn gynnar, rhoi cymorth a monitro effeithiol ar waith, ac addasu ymyriadau i sicrhau eu bod yn cyflawni'r deilliannau a ddymunir.

Bydd y fframwaith cyfreithiol a sefydlir gan y Ddeddf hon yn chwarae rhan hanfodol wrth alluogi'r cwricwlwm i ddarparu ysgolion cryf a chynhwysol sydd wedi ymrwymo i ragoriaeth, tegwch a lles.

Mae’r Fframwaith yn ceisio rhoi cyfle i ehangu dysgu, gan sicrhau bod pob dysgwr sydd ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY) (dolen allanol) yn cael cymorth i oresgyn rhwystrau i ddysgu a chyflawni ei botensial llawn.

Mae'r system ADY a'r Fframwaith wedi'u cynllunio i ddarparu system addysg gynhwysol a theg yng Nghymru. Mae darpariaethau'r Ddeddf yn gwireddu'r egwyddor hon drwy osod dyletswydd ar awdurdodau lleol i sicrhau, lle bo hynny'n ymarferol, fod plant a phobl ifanc yn cael eu cefnogi i gymryd rhan lawn mewn addysg brif ffrwd.