English

Hwb

Maes dysgu a phrofiad Y Dyniaethau

Dysgu am y Dyniaethau

Bydd angen ichi ddarllen y trosolwg hwn ar y cyd â Canllaw i Gwricwlwm i Gymru 2022

Mae Maes Dysgu a Phrofiad y Dyniaethau yn ymwneud â gofyn cwestiynau am y cyflwr dynol.

Gan hynny, bydd astudio profiadau dynol yn y gorffennol a’r presennol, ar raddfeydd lleol, cenedlaethol a byd-eang, yn helpu dysgwyr i ateb y cwestiynau hynny, gan eu hannog i gyfrannu at eu cymunedau, dychmygu dyfodol posibl ac elwa ar ymdeimlad o berthyn.

Mae’r Dyniaethau yn cwmpasu daearyddiaeth, hanes, addysg grefyddol, astudiaethau busnes ac astudiaethau cymdeithasol. Mae’r disgyblaethau hyn yn rhannu llawer o themâu, cysyniadau a sgiliau trosglwyddadwy cyffredin, ac mae ganddynt eu corff eu hunain o wybodaeth a sgiliau hefyd. Yn yr un modd, gall dysgwyr ac athrawon gyfeirio at ddisgyblaethau ategol eraill, megis y clasuron, economeg, y gyfraith, athroniaeth, gwleidyddiaeth, seicoleg a chymdeithaseg, os a lle y bydd hynny’n briodol.

Bydd y Dyniaethau yn cynnig cyfleoedd i bob dysgwr ddysgu am ei dreftadaeth ac ymdeimlad o le drwy astudio ei gynefin a Chymru. Bydd yn hyrwyddo dealltwriaeth o’r ffordd y mae pobl Cymru, ei chymunedau, ei diwylliant, ei thirwedd, ei hadnoddau a’i diwydiannau yn ymwneud â gweddill y byd. Bydd hyrwyddo dealltwriaeth o’r amrywiaeth ethnig a diwylliannol yng Nghymru hefyd yn helpu dysgwyr i werthfawrogi i ba raddau y mae’n rhan o gymuned ryngwladol ehangach. O ganlyniad, bydd y Dyniaethau yn helpu dysgwyr i weld sut mae eu stori bersonol yn rhan o ddarlun ehangach o’r gorffennol a’r presennol.

Fel rhan o Faes Dysgu a Phrofiad y Dyniaethau, bydd dysgwyr yn ymholi ac yn ymchwilio; yn gwerthuso amrywiol fydolygon ac yn ffurfio eu dehongliadau eu hunain; yn mynd i’r afael â materion, gan gynnwys cynaliadwyedd a newid cymdeithasol; ac yn cael gwahoddiad i weithredu’n gymdeithasol mewn ymateb i’w dysgu. Bydd hyn yn helpu i ddatblygu gwydnwch dysgwyr, yn meithrin annibyniaeth ac yn gwella eu hunanhyder a’u hunanbarch. Bydd profiadau yn y Dyniaethau, yn yr ystafell ddosbarth a’r tu hwnt iddi, yn annog dysgwyr i fod yn uchelgeisiol ac i ddatrys problemau yn hyderus, gan sicrhau eu bod bob amser yn ystyried goblygiadau egwyddorol eu dewisiadau.

Cwricwlwm gweddnewidiol

Mae’r Papur Gwyn Cenhadaeth ein Cenedl: Cwricwlwm Gweddnewidiol yn nodi’r cynigion deddfwriaethol manwl ar gyfer Cwricwlwm i Gymru 2022.

Y cynnig yw y bydd gofyn i leoliadau a ariennir nas cynhelir ac ysgolion ddarparu cwricwlwm eang a chytbwys sy’n bodloni pedwar diben y cwricwlwm ac sy’n cynnwys y chwe maes dysgu a phrofiad. Bydd dysgu Cymraeg, Saesneg, addysg grefyddol, addysg cydberthynas a rhywioldeb, a’r tri chyfrifoldeb trawsgwricwlaidd, sef llythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol, i gyd yn ddyletswyddau statudol. Mae rhagor o wybodaeth ar sut y gall Maes Dysgu a Phrofiad y Dyniaethau gefnogi hyn yn adran ‘Datblygu cwricwlwm eang a chytbwys’ o’r ddogfen hon.

Bydd hawl gan leoliadau a ariennir nas cynhelir ac ysgolion i ddewis sut i gynllunio’u cwricwlwm ar lefel ysgol er mwyn cyflawni eu dyletswyddau cwricwlaidd. Fodd bynnag, wrth arfer yr hawl honno, bydd rhaid iddynt roi sylw i ganllawiau statudol a gaiff eu cyhoeddi gan Weinidogion Cymru. Yn ymarferol, golyga hyn y dylent ddilyn y canllawiau statudol oni bai bod ganddynt reswm da i beidio.

Nod y canllawiau statudol hyn ar gyfer Maes Dysgu a Phrofiad y Dyniaethau, sy’n rhan o’r canllawiau statudol ehangach ar gyfer Cwricwlwm i Gymru 2022, yw rhoi fframwaith cenedlaethol y gall lleoliadau a ariennir nas cynhelir ac ysgolion ei ddefnyddio i ddatblygu eu cwricwlwm eu hunain. Ni fwriedir iddynt fod yn faes llafur hollgynhwysfawr, nac yn ganllaw ar gyfer trefnu amserlenni. Maent yn nodi:

  • yr hyn y dylai lleoliadau a ariennir nas cynhelir ac ysgolion roi ystyriaeth iddo wrth lunio’u cwricwlwm, a sut y gellir ei strwythuro
  • y disgwyliadau eang ar gyfer dysgwyr ar bob cam cynnydd ym Maes Dysgu a Phrofiad y Dyniaethau.

Mae Maes Dysgu a Phrofiad y Dyniaethau yn greiddiol o ran sicrhau bod dysgwyr yn dod yn ddinasyddion egwyddorol, gwybodus yng Nghymru a’r byd drwy fynd i’r afael â materion cyfoes a hanesyddol, archwilio profiadau dynol ar garreg eu drws a ledled y byd, ac ystyried gwahanol persbectifau. Gofynnir iddynt ystyried effaith eu gweithredoedd a gweithredoedd pobl eraill, a sut y caiff y gweithredoedd hyn eu llywio gan ddehongliadau o hawliau dynol, gwerthoedd, moeseg, safbwyntiau crefyddol ac anghrefyddol, ac athroniaethau. Drwy hyn, byddant yn dod i ddeall, parchu a herio amrywiaeth o fydolygon, gan wybod sut i arfer eu hawliau democrataidd a gwneud dewisiadau gwybodus, gan ddangos ymwybyddiaeth o bwysigrwydd dyfodol cynaliadwy i bawb.

Wrth iddynt archwilio eu hardal leol, Cymru a’r byd ehangach, yn y gorffennol a’r presennol, bydd dysgwyr yn sefydlu sail gadarn o wybodaeth a dealltwriaeth o gysyniadau daearyddol, hanesyddol, crefyddol, anghrefyddol, busnes, ac astudiaethau cymdeithasol. Yn ystod y broses hon, byddant yn dysgu gwahanol ddulliau ymholi, yn gwerthuso’r dystiolaeth y byddant yn ei chanfod, ac yn cymhwyso a chyfleu eu canfyddiadau yn effeithiol, a bydd hyn oll yn eu helpu i ddod yn ddysgwyr uchelgeisiol, galluog sy’n barod i ddysgu drwy gydol eu hoes.

Bydd dysgwyr yn cael y cyfleoedd i ddod yn gyfranwyr mentrus, creadigol sy’n barod i chwarae eu rhan yn llawn yn eu bywyd a’u gwaith, ynghyd â chyfleoedd i ddod yn ddinasyddion cyfrifol, wrth iddynt ymwneud yn feirniadol â heriau a chyfleoedd lleol, cenedlaethol a byd-eang o’r gorffennol a’r presennol, a cheisio dychmygu dyfodol posibl. Drwy hyn oll, fe’u hanogir i ystyried sut y gallant hwy eu hunain gymryd camau gweithredu cadarnhaol i wella bywydau pobl yn eu cynefin, yng Nghymru ac yn y byd ehangach.

Bydd gan ddysgwyr fan diogel i drafod a myfyrio a fydd yn rhoi amser iddynt ystyried eu persbectifau personol am faterion sy’n ymwneud â bydolygon crefyddol ac anghrefyddol, heriau egwyddorol a materion cynhwysiant cymdeithasol. Gofynnir hefyd iddynt ystyried y byd naturiol, yn lleol, ledled Cymru a thu hwnt, gan feithrin ynddynt ymdeimlad o le ac o les. Bydd y profiadau hyn yn helpu i ddatblygu unigolion iach, hyderus sy’n barod i fyw bywyd gan wireddu eu dyheadau fel aelodau gwerthfawr o gymdeithas yng Nghymru a’r byd ehangach.

Dylai cwricwla ysgolion hyrwyddo dealltwriaeth drylwyr o’r datganiadau o’r hyn sy’n bwysig yn y Dyniaethau. Ni ddylid eu hystyried na’u haddysgu fel eitemau annibynnol: mae’r cynnwys, y cysyniadau a’r sgiliau a amlinellir ynddynt yn rhyng-gysylltiedig, gan roi pwyslais ar ddull gweithredu rhyngddisgyblaethol a safbwynt cyfannol o’r dyniaethau.

Mae’r datganiad cyntaf o’r hyn sy’n bwysig yn annog gweithgareddau ymholi a darganfod yn y Dyniaethau, ac mae’r ail yn annog dysgwyr i archwilio ac ystyried y modd y maent hwy ac eraill yn gweld, yn dehongli ac yn cynrychioli profiadau dynol. Mae’r trydydd a phedwerydd datganiad o’r hyn sy’n bwysig yn canolbwyntio ar agweddau allweddol dealltwriaeth yn y Dyniaethau, sef perthynas pobl â’r byd naturiol â’i gilydd. Mae’r datganiad olaf o’r hyn sy’n bwysig yn rhoi pwyslais newydd ar rôl yr unigolyn a’i ymateb i’r heriau a’r cyfleoedd sy’n wynebu dynoliaeth.

Mae’r datganiadau o’r hyn sy’n bwysig ym Maes Dysgu a Phrofiad y Dyniaethau yn cynnig ymagwedd gyfannol ac integredig. Mae pob datganiad o’r hyn sy’n bwysig yn cyfeirio at ddeunydd a chysyniadau hanfodol o sawl un neu bob un o ddisgyblaethau’r Dyniaethau. Mae cynnydd yn y Dyniaethau wedi’i seilio ar y syniad nad yw cynnwys pwnc, yn y bôn, yn mynd yn fwy cymhleth. Fodd bynnag, mae’n bosibl astudio’r un pwnc neu gynnwys ar oedrannau gwahanol a disgwyl lefelau gwahanol o ddyfnder a chymhlethdod o ran dealltwriaeth ac ymatebion dysgwyr.

Mae deilliannau cyflawniad yn nodi’r cysyniadau disgyblaethol a rhyngddisgyblaethol penodol y gall dysgwyr ddangos cynnydd ynddynt. Mae’r rhain yn feysydd o wybodaeth weithdrefnol lle y gellid disgwyl i ddysgwyr ddatblygu eu meddwl a’u dealltwriaeth eu hunain, a thrwy hynny ddangos cynnydd.

Ceir cynnydd o ran dealltwriaeth yn y Dyniaethau drwy gyfuniad o:

  • wybodaeth ddyfnach, drwy gysylltu dysgu newydd â gwybodaeth bresennol a datblygu dealltwriaeth fwy soffistigedig a datrys yr anghydfodau a all ddeillio o safbwyntiau gwahanol
  • dealltwriaeth gysyniadol fwy soffistigedig, sy’n helpu dysgwyr i weld y tu hwnt i restr o ffeithiau, a gweld y cysyniadau sy’n sail i’r disgyblaethau sy’n rhan o Faes Dysgu a Phrofiad y Dyniaethau, a’r berthynas rhyngddynt mewn cyd-destunau gwahanol.

Hefyd, dangosir cynnydd yn y Dyniaethau drwy:

  • y gallu i weithio gyda nifer gynyddol a mwy soffistigedig o ffynonellau o wybodaeth
  • defnydd mwy soffistigedig o sgiliau perthnasol
  • cynyddu annibyniaeth a hunanreoli.

Llythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol

Mae cyfrifoldebau trawsgwricwlaidd llythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol yn cefnogi bron yr holl ddysgu ac maent yn hanfodol er mwyn i ddysgwyr allu cymryd rhan yn llwyddiannus ac yn hyderus yn y byd modern.

Llythrennedd

Mae’r Dyniaethau yn cynnig amrywiaeth o gyd-destunau cyfoethog lle y gellir atgyfnerthu, ehangu a chymhwyso sgiliau llythrennedd dysgwyr. Fel conglfaen hollbwysig ar gyfer datblygu sgiliau bywyd a dilyn y cwricwlwm, dylai dysgwyr gael cyfleoedd i gyfleu eu syniadau a’u safbwyntiau ar lafar. Er enghraifft, gall dysgwyr ddatblygu eu llafaredd drwy drafod, chwarae rôl, holi a chyflwyniadau, ac, wrth drafod cwestiynau Eithaf, gallant addasu’r sgiliau hyn yn ôl y gynulleidfa a’r diben wrth iddynt wrando ar safbwyntiau gwahanol a’u trafod.

Dylai sgiliau darllen dysgwyr gael eu datblygu drwy ddarllen amrywiaeth o ddeunyddiau o amrywiaeth o leoedd ac amseroedd er mwyn dadansoddi tystiolaeth, meddwl yn feirniadol, dod i gasgliadau ynglŷn ag ystyr a gwerthuso dehongliadau a safbwyntiau.

Mae’r Dyniaethau yn cynnig cyd-destunau cyfoethog i ddatblygu pob arddull ysgrifennu. Er enghraifft, drwy ddisgrifio, esbonio, trafod, gwerthuso ac ysgrifennu creadigol ynghyd â defnyddio terminoleg sy’n benodol i’r pwnc dan sylw, bydd dysgwyr yn datblygu eu sgiliau ysgrifennu.

Rhifedd

Mae’r Dyniaethau yn rhoi amrywiaeth eang o gyfleoedd i ddysgwyr feithrin eu sgiliau rhifedd mewn cyd-destunau go iawn. Er enghraifft, gall dysgwyr gasglu data rhifyddol, drwy ddulliau ymchwil sylfaenol ac eilaidd a phortreadu data mewn sawl ffordd amrywiol.

Gall dysgwyr roi cyfarwyddiadau cywir wrth ddarllen map, ac, ar ôl mynd ar daith gerdded, gall dysgwyr ddisgrifio’r llwybr, gan gynnwys paragraffau, ffotograffau, diagramau, ac ati.

Gall dysgwyr ddatblygu eu sgiliau dadansoddi a gwerthuso ac ymdrin â data. Gall cysyniadau megis ymwybyddiaeth gronolegol a graddfa gael eu datblygu a’u trafod, wrth edrych ar y ffordd y mae cydberthnasau dynol wedi effeithio ar fyd natur. Gall y sgil o ddatblygu holiaduron syml i ddadansoddi setiau data mawr gael ei ategu a’i ddatblygu ym mhob rhan o’r Dyniaethau wrth i ddysgwyr gasglu a chofnodi data.

Cymhwysedd digidol

Mae’r Dyniaethau yn rhoi’r cyd-destun i ddysgwyr gynllunio a chreu gan ddefnyddio ystod o sgiliau digidol wrth i ddysgwyr weithio’n annibynnol neu gydweithio ar y deunyddiau datblygu.

Gellid defnyddio llawer o ffynonellau digidol o wybodaeth i ystyried themâu amrywiol yn y Dyniaethau. Dylai dysgwyr ddangos dealltwriaeth o bwrpas a chynulleidfa wrth ddefnyddio amrywiaeth o feddalwedd a chyfryngau i gyfleu eu gwybodaeth, eu dealltwriaeth a’u hymatebion personol.

Dylai dysgwyr hefyd ddefnyddio ffynonellau digidol o wybodaeth er mwyn eu galluogi i feddwl am y mathau o ddyfodol yr hoffent eu gweld yn eu hardal leol, yng Nghymru a’r byd ehangach. Er enghraifft, y defnydd o systemau gwybodaeth digidol fel ffordd o ddangos cydberthnasau rhwng pobl a’r amgylchedd, neu’r ffynonellau digidol sy’n dangos ymrwymiad busnes i syniadau o gyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol.

Wrth i ddysgwyr wneud defnydd cynyddol o dechnoleg ddigidol i ymholi ac ymchwilio, mae sicrhau dibynadwyedd y ffynonellau hyn yn hollbwysig wrth iddynt geisio ategu casgliadau.

Y dimensiwn Cymreig a’r persbectif rhyngwladol

Mae’r dimensiwn Cymreig a’r persbectif rhyngwladol yn rhan annatod o bob disgyblaeth ym Maes Dysgu a Phrofiad y Dyniaethau. Dylai ystyriaeth o fusnesau, diwylliannau, hanes, daearyddiaeth, gwleidyddiaeth, crefyddau, cymdeithasau Cymru a bydolygon fod yn rhan ganolog o hawl dysgwyr a chynnwys dealltwriaeth o’r cysylltiadau rhwng y rhain a chyd-destunau ehangach cenedlaethol, Ewropeaidd a rhyngwladol. Drwy’r Dyniaethau, mae dysgwyr yn datblygu ymdeimlad o hunaniaeth, ymdeimlad o’u cynefin eu hunain, a dealltwriaeth o Gymru a’i lle yn y byd ehangach.

Mae Maes Dysgu a Phrofiad y Dyniaethau yn chwarae rhan bwysig yn y broses o alluogi dysgwyr i gael profiadau dysgu cyfoethog mewn cyd-destun Cymreig. Dylai dyluniad y cwricwlwm ysgol roi sylw manwl a rheolaidd i enghreifftiau, pynciau perthnasol ac astudiaethau achos er mwyn galluogi dysgwyr i ystyried y dimensiwn Cymreig a’r persbectif rhyngwladol.

Mae’r Dyniaethau yn helpu dysgwyr i:

  • ddatblygu dealltwriaeth o Gymru a datblygu eu hymdeimlad eu hunain o Gymreictod/yr hyn y mae’n ei olygu i fod yn Gymry
  • astudio hanes, daearyddiaeth, diwylliannau, gwerthoedd, ieithoedd a chredoau Cymru, sy’n eu helpu i wneud synnwyr o’u hunaniaeth
  • ystyried y cysylltiadau rhwng lleoedd gwahanol, pobl a’r amgylchedd
  • deall eu lle a’u rôl eu hunain fel dinesyddion gwybodus ac egwyddorol yng Nghymru a’r byd ehangach
  • deall beth yw ystyr dinasyddiaeth fyd-eang, gan gynnwys eu rolau a’u cyfrifoldebau fel dinasyddion byd-eang sy’n cynllunio ar gyfer dyfodol cynaliadwy
  • meithrin dealltwriaeth o ddigwyddiadau’r byd a’r ffordd y maent wedi dylanwadu ar fywydau a chymdeithasau dynol
  • deall y gallant, mewn byd amrywiol, deinamig sy’n newid, wneud gwahaniaeth cadarnhaol, gan helpu i greu byd tecach a diogelach i bawb
  • datblygu ymrwymiad i gyfiawnder cymdeithasol a gweithredu cymdeithasol, yng Nghymru a’r byd ehangach.

Yn y Dyniaethau, dylai dysgwyr o bob oedran allu cymryd rhan mewn dysgu sy’n ymwneud â dimensiynau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol. Ni ddylid mynnu mai’r dysgwyr ieuengaf ddylai ganolbwyntio ar astudiaethau lleol yn unig ac mai dim ond y dysgwyr hynaf sy’n canolbwyntio ar y persbectif rhyngwladol. Dylai pob dysgwr gael cyfleoedd i seilio ei ddealltwriaeth o fater yn ei ardal leol ac yna ddwyn perthynas rhyngddo a’r cyd-destun rhyngwladol.

Sgiliau ehangach

Bydd Maes Dysgu a Phrofiad y Dyniaethau yn anelu at annog dysgwyr i:

  • feddwl amdanynt hwy eu hunain, a’u proses eu hunain o ddysgu, mewn ffyrdd myfyriol a beirniadol
  • sylweddoli bod dealltwriaeth o eraill ynghyd â dealltwriaeth ohonynt hwy eu hunain yn ganolog i’r datganiadau o’r hyn sy’n bwysig yn y Dyniaethau
  • datblygu effeithiolrwydd personol sy’n cynnwys myfyrio arnynt hwy eu hunain ac eraill, a’u deall.

Meddwl yn feirniadol a datrys problemau

Mae meddwl yn feirniadol yn ganolog i’r Dyniaethau. Mae’r Dyniaethau yn datblygu galluoedd dysgwyr i feddwl yn ddadansoddol a deall y gorffennol a’r presennol, yn ogystal â dychmygu dyfodol posibl. Gellid datblygu’r gallu i ddatrys problemau drwy annog dysgwyr i gasglu ffynonellau o dystiolaeth er mwyn esbonio nodweddion cymdeithas yn ystod cyfnod penodol a myfyrio arnynt, neu ystyried atebion posibl i anghydraddoldebau ymhlith grwpiau cymdeithasol.

Creadigrwydd ac arloesi

Yn y Dyniaethau, mae dysgwyr yn cyfleu gwybodaeth a chanfyddiadau mewn ffyrdd creadigol ac arloesol. Caiff dysgwyr eu hannog i fod yn agored i syniadau a ffyrdd o feddwl gwahanol, gan eu galluogi i fynegi barn resymedig ar y gwahaniaethau hyn.

Cynllunio a threfnu, ac Effeithiolrwydd personol

Yn y Dyniaethau, bydd dysgwyr yn gweithio gydag eraill wrth iddynt gynllunio ymchwiliadau sy’n cynnwys casglu a defnyddio amrywiaeth o dystiolaeth. Byddant yn datblygu eu heffeithiolrwydd personol eu hunain fel aelodau pwysig o dîm y gellir dibynnu arno i gyfrannu drwy drefnu a chynnal ymholiadau. Byddant hefyd yn datblygu’r sgil hwn fel dysgwyr annibynnol y mae gofyn iddynt werthuso, cyfiawnhau a mynegi eu hymatebion ystyriol eu hunain mewn amrywiaeth o ffyrdd.

Gyrfaoedd a phrofiadau sy’n gysylltiedig â gwaith

Dysgu o wybodaeth am yrfaoedd a’r farchnad lafur

Mae’n hanfodol i ddysgwyr gael gafael ar wybodaeth o ansawdd uchel am yrfaoedd a’r farchnad lafur ac iddynt feddu ar ddealltwriaeth o’r hyn y mae hynny’n ei olygu iddynt hwy, er mwyn gwneud penderfyniadau gwybodus a chynaliadwy am eu gyrfa.

Mae Maes Dysgu a Phrofiad y Dyniaethau yn cynnwys meysydd hanes, daearyddiaeth, addysg grefyddol, astudiaethau busnes ac astudiaethau cymdeithasol. Er bod llawer o yrfaoedd sy’n cysylltu’n uniongyrchol â’r meysydd hyn, mae’r sgiliau a ddatblygir yn y Dyniaethau, megis datrys problemau, cyfathrebu, meddwl yn feirniadol, a’r gallu i werthuso persbectifau gwahanol a phwyso a mesur goblygiadau, yn cael eu gwerthfawrogi gan amrywiaeth eang o gyflogwyr ac felly’n cynnig amrywiaeth eang o gyfleoedd i ddysgwyr.

Cysylltu’r maes dysgu a phrofiad â gyrfaoedd a phrofiadau sy’n gysylltiedig â gwaith

Dylid annog dysgwyr i ymgymryd â gwaith ymchwil ac ystyried y cysylltiadau rhwng y Dyniaethau a’r llwybrau gyrfa a fyddai ar gael iddynt. Mae’r Dyniaethau yn rhoi’r sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen ar ddysgwyr i ddilyn gyrfa sy’n gysylltiedig â’r disgyblaethau hyn. Mae llawer o yrfaoedd yn cysylltu’n uniongyrchol â’r Dyniaethau, megis curadur amgueddfa, archeolegydd, arweinydd crefyddol, diplomydd, athro, meteorolegwr, daearegwr, rheolwr, cynghorydd ariannol a dadansoddwr busnes. Yn bwysicach na hynny, bydd y sgiliau trosglwyddadwy sydd wrth wraidd y Dyniaethau yn cyfrannu at baratoi gweithlu ar gyfer proffesiynau a swyddi nad ydynt yn bodoli eto, er mwyn diwallu anghenion gyrfaoedd newydd ac sy’n dod i’r amlwg.

Mae’r sgiliau a ddatblygir drwy Maes Dysgu a Phrofiad y Dyniaethau yn drosglwyddadwy, yn werthfawr iawn, ac mae galw mawr amdanynt yn y farchnad gyflogaeth ehangach. Mae’r Dyniaethau yn galluogi dysgwyr i ddod yn ddinasyddion gwybodus ac egwyddorol sy’n barod ar gyfer bywyd a gwaith, yn cyfrannu at barodrwydd dysgwyr ar gyfer bywyd gwaith drwy ddatblygu sgiliau a thechnegau, gan gynnwys defnyddio systemau gwybodaeth ddaearyddol, defnyddio a chreu mapiau, cynnal arolygon, dadansoddi data, cynnal ymchwiliadau, dadansoddi tystiolaeth a dadleuon, canfod tuedd a rhagfarn, a llunio dadl neu ddehongliad o ddigwyddiadau sy’n seiliedig ar dystiolaeth.

Mae’r Dyniaethau yn helpu dysgwyr i ddeall amrywiaeth a herio stereoteipiau er mwyn codi uchelgais dysgwyr a’u cred yn eu dyfodol posibl.

Mae cynnydd dysgwyr o ran gyrfaoedd a phrofiadau sy’n gysylltiedig â gwaith yn rhan o gontinwwm dysgu ar gyfer dysgwyr rhwng 3 ac 16 oed. Gallai llwyddiant i ddysgwr iau ysgol gynradd gynnwys:

  • chwarae rôl ar gyfer amrywiaeth o wahanol swyddi
  • y gred y gallant gyflawni unrhyw swydd – gan fynd i’r afael â stereoteipiau rhywedd
  • cyfathrebu â’r bobl yn eu cymuned am y gwahanol swyddi y maent yn eu gwneud a’r boddhad a all ddeillio ohonynt.

Drwy wneud cynnydd dysgu, gallai llwyddiant i ddysgwyr 16 oed gynnwys:

  • dangos a chymhwyso’r sgiliau a ddysgwyd mewn perthynas â’r byd gwaith
  • nodi diddordebau, cryfderau a sgiliau er mwyn gwneud dewisiadau gwybodus ôl-16
  • deall ac arddangos y mathau o ymddygiad mae cyflogwr yn dymuno eu gweld mewn cyflogai da
  • gwerthuso risg wrth ddatblygu syniad busnes ac ystyried gwahanol ffyrdd o sefydlu a chynnal menter.

Profiadau sy’n gysylltiedig â gwaith

Mae dysgwyr yn datblygu diddordebau, cryfderau, sgiliau a dyheadau drwy brofiadau fel rhan o’r cwricwlwm ac mewn bywyd y tu hwnt i’r ysgol. Mae amrywiaeth o bartneriaid ynghlwm â’r teithiau cyffrous hyn drwy gyd-ddylunio a chyd-gyflwyno a, gyda’i gilydd, maent yn llywio penderfyniadau plant a phobl ifanc am eu dyfodol a’r llwybrau y byddant yn eu dilyn. Gall cyfleoedd, megis ymweliadau, siaradwyr gwadd a gweithgareddau ymarferol, helpu i wella’r dysgu a’i roi mewn cyd-destun.

Mae’r Dyniaethau yn helpu dysgwyr i feithrin dealltwriaeth o hawliau cyflogaeth, entrepreneuriaeth foesegol, moeseg busnes, rhoi/cael benthyg arian, a hyrwyddo prosesau ac arferion diwydiannol gwyrdd cynaliadwy.

Gall cydweithio ag unigolion a chyflogwyr a chyfleoedd i gysylltu â nhw, er enghraifft mewn llywodraeth leol, lletygarwch, ymarferwyr y gyfraith, banciau a chymdeithasau adeiladu, addysgu, iechyd a diogelwch, roi cyfleoedd i ddysgwyr ddysgu am waith, cyflogaeth a’r sgiliau a werthfawrogir yn y gweithle.

Gall dysgwyr ddefnyddio’r wybodaeth a’r sgiliau a feithrinwyd drwy gymryd rhan mewn profiadau sy’n gysylltiedig â gwaith i ddatblygu gweithgareddau menter llwyddiannus. Yn y Dyniaethau, gall y rhain gynnig profiad dysgu dilys sy’n datblygu dysgwyr fel cyfranwyr creadigol a mentrus, ac yn eu galluogi i greu cysylltiadau â’r byd gwaith.

Deall cyfleoedd ôl-16 ac addysg uwch

Mae’n hanfodol bod dysgwyr yn ymwybodol o’r holl gyfleoedd sydd ar gael iddynt ôl-16. Felly, yn ogystal â deall am gyflogaeth, hyfforddiant a phrentisiaethau, dylid rhoi gwybodaeth i ddysgwyr am ddarparwyr dysgu a chynnig y cyfle iddynt ymgysylltu ag amrywiaeth o ddarparwyr o’r fath. Dylai’r cyfleoedd ymgysylltu gynnwys mynychu ffeiriau gyrfaoedd a sgiliau, sgyrsiau gan ddarparwyr addysg bellach ac uwch ac ymweliadau gan y darparwyr hynny, yn ogystal â chyflwyniadau gan fyfyrwyr mewn addysg bellach neu uwch. Dylid hefyd gyfeirio dysgwyr at adnoddau ymchwil ar-lein sy’n cynnig gwybodaeth am gyrsiau a chynnydd a dilyniant, er mwyn eu helpu i ddeall yr amrywiaeth o gyfleoedd dysgu sydd ar gael, ac i helpu i godi eu dyheadau a chynnig sail iddynt allu gwneud penderfyniadau gwybodus.

Addysg cydberthynas a rhywioldeb

Mae Maes Dysgu a Phrofiad y Dyniaethau yn lle naturiol i ymgorffori cynnwys sy’n ymwneud ag addysg cydberthynas a rhywioldeb. Mae ymholi yn y Dyniaethau yn galluogi dysgwyr i gwestiynu’n feirniadol ac mae’n rhoi cyfleoedd i chwilio am ystyr o ran profiadau dynol a’r byd, a dod o hyd i’r ystyr hwnnw. Mae hyn yn cynnwys archwilio cydberthnasau personol, hawliau, gwerthoedd cyffredin, rhywedd a rhywioldeb. Mae’r Dyniaethau yn galluogi dysgwyr i ystyried materion o amrywiol persbectifau. Mae’n amgylchedd diogel i ystyried cydraddoldeb a diffyg gwahaniaethu ac mae’n cynnig cyfleoedd i drafod materion sensitif, e.e. trais ar sail rhyw ac anffurfio/torri organau cenhedlu benywod. Yn y Dyniaethau, bydd cyfleoedd i ddatblygu dealltwriaeth o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP) ac annog dysgwyr i gydnabod eu hawliau eu hunain a hawliau pobl eraill.

Cydberthnasau

Mae’r Dyniaethau yn annog agweddau cadarnhaol tuag at bobl eraill lle mae eraill yn cael eu trin gyda pharch, ni waeth beth fo’u hethnigrwydd; hil; statws cymdeithasol, economaidd neu ymfudo; crefydd; anabledd; cyfeiriadedd rhywiol; hunaniaeth o ran rhywedd neu fynegiant rhywedd; neu nodweddion rhywiol.

Gwerthoedd, hawliau, diwylliant a rhywioldeb

Mae Maes Dysgu a Phrofiad y Dyniaethau yn ystyried agweddau, gwerthoedd a chyfreithiau mewn cymdeithasau, gan gynnwys trafod rhywioldeb ac ymddygiad rhywiol, cydraddoldeb rhywiol, amrywiaeth a hawliau dynol. Bydd cyfleoedd i ystyried hawliau a’u hanes a’r dimensiynau cymdeithasol, seicolegol, ysbrydol, crefyddol, gwleidyddol, cyfreithiol, hanesyddol, moesegol a diwylliannol sy’n dylanwadu ar rywioldeb dros oes. Mae’r Dyniaethau yn mynd i’r afael â gwahaniaethu ar sail cyfeiriadedd rhywiol neu hunaniaeth o ran rhywedd ac yn cynnig cyfleoedd i ddysgwyr ystyried eu diwylliannau eu hunain a diwylliannau eraill.

Deall rhywedd

Mae’r Dyniaethau yn galluogi dysgwyr i godi eu hymwybyddiaeth o natur ganolog ac amrywiol rhywedd ac i ddeall sut mae normau rhywiol wedi cael eu llunio gan gymdeithas, diwylliant a chredoau.

Trais a chadw’n ddiogel

Mae’r Dyniaethau yn rhoi cyfle i ddysgwyr ddeall yr heriau sy’n wynebu pobl yng Nghymru a’r byd ehangach. Yn y Dyniaethau ceir ffocws ar ymrwymiad i weithredu cymdeithasol fel dinasyddion gofalgar, cyfranogol cymunedau lleol, cenedlaethol a byd-eang. Bydd dysgu yn y Dyniaethau yn ystyried ymrwymiad i gyfiawnder ac amrywiaeth, pwysigrwydd ymateb yn briodol i drais, cadw’n ddiogel, a hyrwyddo heddwch a diogelwch i eraill mewn cymunedau a chymdeithasau. Gall dyniaethau digidol ganolbwyntio ar effeithiau cadarnhaol a niweidiol y cyfryngau cymdeithasol, a’r ffordd y gall pobl bortreadu eu hunain yn ddiogel ar-lein.

Sgiliau ar gyfer iechyd a lles

Mae’r Dyniaethau yn cynnwys trafodaethau ynglŷn ag unigolion, cymdeithasau a’r byd sy’n cynnwys yr angen am ddod yn ddinasyddion empathig, moesegol, gwybodus sy’n cyfrannu at gydberthnasau diogel, iach a chadarnhaol. Mae profiadau, gwybodaeth a sgiliau ym maes y Dyniaethau yn hyrwyddo iechyd da a lles da. Mae’r Dyniaethau yn ystyried normau cymdeithasol a rhywiol a’r ffordd y gall dylanwad cyfoedion effeithio ar wneud penderfyniadau ac ymddygiad rhywiol. Mae ymholi yn y Dyniaethau yn rhoi cyfleoedd i ddeall bod gwahanol fathau o gyfryngau sy’n cyflwyno gwybodaeth a dehongliadau a allai fod yn ddilys neu beidio. Bydd hyn yn dangos y gall y cyfryngau gael dylanwad cadarnhaol neu negyddol ar werthoedd, agweddau a normau ynglŷn â rhywioldeb a rhywedd.

Y corff dynol a’i ddatblygiad

Yn y Dyniaethau mae cyfle i ystyried sut mae pob diwylliant yn deall rhyw, rhywedd, lles, gan gynnwys delwedd gorfforol, atgenhedlu, a phryd y mae’n briodol dod yn weithredol yn rhywiol.

Rhywioldeb ac ymddygiad rhywiol

Gallai’r Dyniaethau ystyried pa mor gymhleth yw rhywioldeb ac mae’n cynnwys dimensiynau biolegol, cymdeithasol, seicolegol, ysbrydol, moesegol a diwylliannol sy’n esblygu dros oes.

Iechyd rhywiol ac atgynhyrchiol

Mae gan bob cymdeithas, diwylliant a chenhadaeth ei gredoau/chredoau ei hun ynglŷn ag ymddygiadau rhywiol ac mae’n bwysig gwybod y ffeithiau.

Addysg grefyddol

Mae addysg grefyddol yn rhan orfodol o’r cwricwlwm sylfaenol cyfredol ar gyfer plant 5 i 16 oed. Rhaid i ysgolion cymunedol, ysgolion sefydledig ac ysgolion gwirfoddol nad oes ganddynt gymeriad crefyddol ddilyn y maes llafur cytûn. Mae cynhadledd maes llafur cytûn yn datblygu cynnwys y cwricwlwm ar gyfer addysg grefyddol ym mhob ardal awdurdod lleol.

Mae rhaid i ysgolion sefydledig ac ysgolion gwirfoddol a reolir â chymeriad crefyddol hefyd ddarparu addysg grefyddol yn unol â’r maes llafur cytûn oni bai bod rhiant/gofalwr yn gofyn bod ei blentyn yn derbyn addysg grefyddol yn unol â gweithred ymddiriedolaeth yr ysgol neu, os nad oes gweithred ymddiriedolaeth, yn unol â daliadau’r grefydd.

Mae rhaid i ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir â chymeriad crefyddol ddarparu addysg grefyddol yn unol â gweithred ymddiriedolaeth yr ysgol neu, os nad oes gweithred ymddiriedolaeth, yn unol â daliadau’r grefydd. Fodd bynnag, os bydd rhieni/gofalwyr yn gwneud cais amdani, ac os nad oes unrhyw ysgol leol arall yn gallu ei darparu, rhaid i gorff llywodraethu'r ysgol, cymaint ag sy'n rhesymol bosib, ddarparu addysg grefyddol yn unol â'r maes llafur cytûn.

Mewn cynigion ar gyfer Cwricwlwm i Gymru 2022, bydd addysg grefyddol yn parhau i fod yn orfodol. Ar hyn o bryd, mae dysgwyr cofrestredig mewn dosbarthiadau Meithrin yn cael eu heithrio rhag addysg grefyddol. Cynigir diddymu’r eithriad. Nid ydym yn cynnig y bydd yn ofynnol i leoliadau a ariennir nas cynhelir addysgu’r maes llafur cytûn, ond bydd angen iddynt roi sylw i ganllawiau ar y ffordd orau o’i addysgu.

Nid ydym yn bwriadu newid y gofyniad i ysgolion gyflwyno’r maes llafur cytûn. Bydd ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir sydd â chymeriad crefyddol yn parhau i allu cyflwyno meysydd llafur eu henwad, a gall rhieni/gofalwyr dysgwyr sy’n mynychu ysgolion gwirfoddol a reolir barhau i ofyn bod eu plentyn yn astudio’r maes llafur enwadol yn hytrach na’r maes llafur cytûn lleol, os ydynt yn dymuno gwneud hynny.

Mae fframwaith newydd yn cael ei ddatblygu er mwyn darparu rhagor o fanylion am y berthynas rhwng addysg grefyddol, y maes llafur cytûn, a’r meysydd dysgu a phrofiad. Caiff y gwaith hwn ei wneud gan grŵp o ymarferwyr addysg grefyddol, arloeswyr y cwricwlwm, academyddion, a chynrychiolwyr o Gynghorau Ymgynghorol Sefydlog Addysg Grefyddol (CYSAGau) a’r Panel Ymgynghorol Cenedlaethol Addysg Grefyddol.

Ein bwriad, hefyd, yw bod addysg grefyddol yn adlewyrchu ein perthynas hanesyddol a chyfoes â safbwyntiau athronyddol a chrefyddol, gan gynnwys credoau anghrefyddol. Felly, caiff y ddeddfwriaeth gyfredol ei diwygio i sicrhau bod y maes llafur cytûn ar gyfer addysg grefyddol yn rhoi ystyriaeth i fydolygon anghrefyddol rhai sy’n cyfateb i grefyddau (e.e. dyneiddiaeth).

Cyfoethogi a phrofiadau

Dylai amrywiaeth eang o brofiadau a chyfleoedd cyfoethogi fod ar gael i ddysgwyr. Dylai Maes Dysgu a Phrofiad y Dyniaethau annog pob dysgwr i ymddiddori yn eu dysgu a chymryd perchenogaeth ohono.

Gall ymwneud yn ystyrlon â chymunedau fod yn rhywbeth pleserus a chofiadwy. Er enghraifft, mae dysgu drwy brofiad yn rhoi cyfle i blant ymwneud â gweithgareddau chwarae rôl neu gymryd rhan mewn gweithgareddau megis dathliadau neu ddigwyddiadau ail-greu. Dylai dysgwyr gael cyfleoedd i ystyried yr hyn sy’n dylanwadu ar bobl wrth iddynt ymateb i gyfyng gyngor moesegol, datrys problemau go iawn a phresennol neu ystyried digwyddiadau yn y gorffennol.

Dylai dysgwyr brofi rhyfeddod a dirgelwch byd natur, lleoliadau hanesyddol, a safleoedd crefyddol a diwylliannol. Dylent gael profiad o chwarae a dysgu mewn amgylchiadau cyfoethog dan do ac yn yr awyr agored a’u harchwilio. Mae’r Dyniaethau yn defnyddio teithiau maes ac ymweliadau yn y gymuned leol a thu hwnt fel man cychwyn i addysgu cysyniadau allweddol neu wella dysgu drwy brofiad uniongyrchol. Mae siarad ag ymwelwyr ac arbenigwyr, gan arsylwi a chymryd rhan mewn dysgu drwy brofiad, megis gweithgareddau diwylliannol, yn helpu pob plentyn a pherson ifanc i ddysgu am brofiadau dynol.

Mae pedwar diben y cwricwlwm yn allweddol fel sbardun i’r broses o ddatblygu cwricwlwm y Dyniaethau. Felly, rhaid i athrawon ystyried ym mha fodd y mae eu haddysgu a’u rhaglenni dysgu yn cyfrannu at ddatblygu’r nodweddion hyn ymhlith dysgwyr yng Nghymru.

Fel mater o egwyddor, dylai ymarferwyr allu penderfynu ar y modd y trefnir y maes dysgu a phrofiad hwn, a dewis y cynnwys fydd angen ei gyflwyno. Mae’r annibyniaeth hon yn golygu y gellir addasu cynnwys er mwyn diwallu gwahanol anghenion dysgwyr. Mae hyn yn rhoi hyblygrwydd a mwy o gyfleoedd i sicrhau bod modd i ddysgwyr lywio eu dysgu. Mae’n werth cofio y gellir addysgu unrhyw gynnwys neu faes pwnc ar unrhyw adeg ar y continwwm.

Dylid dychwelyd yn benodol at gysyniadau a syniadau allweddol, a hynny’n rheolaidd, er mwyn atgyfnerthu a gwella dealltwriaeth. Dylai ysgolion ddethol cynnwys sy’n sicrhau amrywiaeth gynyddol wrth i ddysgwyr symud drwy’r ysgol, er mwyn i gysyniadau allweddol gael eu harchwilio’n fwy trylwyr. Fodd bynnag, ni ddylid dychwelyd at gysyniadau mewn modd ailadroddus. Yn hytrach, dylai’r broses gynnig heriau mwyfwy cymhleth, gan alluogi dysgwyr i fynd i’r afael â phrofiadau, gwybodaeth a sgiliau newydd.

Dylai’r broses o ddylunio cwricwla ysgolion sicrhau y caiff cyd-destunau a phrofiadau dysgwyr o’u hardal leol ac o Gymru eu hystyried fel pethau o bwys, ac yn greiddiol wrth gynllunio.

Dylid hefyd ddethol cynnwys er mwyn sicrhau y gall dysgwyr greu cysylltiadau o fewn a rhwng y datganiadau o’r hyn sy’n bwysig yn y maes dysgu a phrofiad hwn, ac er mwyn sicrhau cynnydd yn y sgiliau a nodwyd yn y camau cynnydd. Dylai ysgolion ac athrawon hefyd sicrhau eu bod yn dethol cynnwys sy’n:

  • caniatáu i ddysgwyr feithrin dealltwriaeth drylwyr o’u hardal leol, o Gymru ac o’r byd ehangach
  • gynhenid ddiddorol, perthnasol ac ysgogol i ddysgwyr
  • diwallu dibenion y cwricwlwm a dibenion ehangach addysg o ran sgiliau bywyd a sgiliau gwaith, a dealltwriaeth gymdeithasol, economaidd, gwleidyddol a diwylliannol hanfodol
  • ymdrin â digwyddiadau, pobl a phrosesau sydd wedi cael effeithiau sylweddol
  • hyrwyddo sgiliau meddwl, datblygu cysyniadol ac ymholi uwch
  • hwyluso profiadau dilys sy’n fodd i ddatblygu’r mathau o wybodaeth a sgiliau y mae’n debygol y bydd eu hangen ar ddysgwyr yn y dyfodol
  • cynnig cyfleoedd ar gyfer meysydd pwnc eang, ac astudiaethau manylach
  • cynnig cyfleoedd i greu cysylltiadau rhwng y datganiadau o’r hyn sy’n bwysig yn y Dyniaethau ac mewn meysydd dysgu a phrofiad eraill.

Rhwng 14 ac 16 oed, bydd y maes dysgu a phrofiad hwn yn caniatáu i ddysgwyr ddilyn eu diddordebau’n fanylach wrth iddynt gamu ymlaen, felly byddant yn gallu arbenigo mewn un ddisgyblaeth neu fwy, ond gan gadw’r hawl i brofiad eang o’r dyniaethau ar yr un pryd. Yn naturiol, bydd disgyblaethau unigol yn dod yn fwy amlwg yng Nghamau cynnydd 4 a 5, a bydd arbenigo yn y fath fodd yn arwain at gynnydd o ran gwybodaeth ddisgyblaethol, sgiliau cymhleth a phrofiadau mwy cyfoethog.

Bydd hyn hefyd yn paratoi dysgwyr i arbenigo ymhellach ym maes addysg bellach ac addysg uwch, ac yn y byd gwaith. Ni ddylai’r arbenigo cynyddol hyn mewn disgyblaethau unigol olygu y caiff y cwricwlwm ei gulhau, fodd bynnag. Mae pob datganiad o’r hyn sy’n bwysig yn parhau’n greiddiol i’r disgyblaethau hynny.

Mae parhau i gynnig rhyw raddau o ehangder rhwng 14 ac 16 oed yn cymryd i ystyriaeth natur statudol addysg grefyddol.

;