Deallusrwydd artiffisial cynhyrchiol mewn addysg
Cyfleoedd ac ystyriaethau ar gyfer ysgolion a lleoliadau o ran defnyddio deallusrwydd artiffisial cynhyrchiol.
- Rhan o
Mae angen i ysgolion a lleoliadau fod yn barod i fynd i'r afael â'r newidiadau a gyflwynir gan dechnolegau newydd fel deallusrwydd artiffisial cynhyrchiol (y cyfeirir ato weithiau fel 'AI cynhyrchiol'). Mae hyn yn cynnwys deall a harneisio’r cyfleoedd y mae'r dechnoleg hon yn eu darparu ac ystyried sut i liniaru unrhyw risgiau.
Mae'n allweddol bod ymarferwyr yn datblygu'r sgiliau a'r wybodaeth i ddefnyddio'r dechnoleg hon i gefnogi dysgwyr i ffynnu. Os yw ysgolion a lleoliadau yn dewis defnyddio offer AI cynhyrchiol, mae'n hanfodol sicrhau bod pob defnydd yn ddiogel, yn foesegol ac yn gyfrifol.
Beth yw deallusrwydd artiffisial
Mae deallusrwydd artiffisial (AI) yn disgrifio technolegau sy'n gallu cyflawni tasgau sydd fel arfer yn gofyn am ddeallusrwydd dynol. Gallai hyn gynnwys dysgu, rhesymu, datrys problemau, canfyddiad, gwneud penderfyniadau ac adnabod llais.
Mae AI eisoes yn bodoli mewn technoleg bob dydd fel offer testun i leferydd, apiau cyfieithu a thecstio rhagfynegol. Fodd bynnag, bu cynnydd enfawr yn y mynediad at offer AI cynhyrchiol a’r defnydd ohonynt. Mae hyn wedi arwain at ddiddordeb a phryderon sylweddol ynghylch sut y gellid defnyddio, neu gamddefnyddio, AI cynhyrchiol, mewn addysg a chyda'n dysgwyr.
Beth yw AI cynhyrchiol
Mae offer AI cynhyrchiol yn creu cynnwys gan gynnwys testun, delweddau, cerddoriaeth a fideos mewn ymateb i ysgogiadau gan y defnyddiwr. Gall yr offer hyn:
- ateb cwestiynau
- dadansoddi gwybodaeth
- cofio'r ymatebion y maent wedi’u rhoi o'r blaen
- ymateb i'r defnyddiwr mewn ffordd debyg i berson
Maent yn gwneud hyn trwy ddefnyddio'r ystod enfawr o ffynonellau data y maent wedi'u hyfforddi â nhw. Mae hyn yn caniatáu iddynt ddysgu o'r data i gynhyrchu cynnwys newydd yn seiliedig ar y ffynonellau hynny.
Cyfleoedd AI cynhyrchiol i ysgolion a lleoliadau
Sut y gall AI cynhyrchiol gefnogi addysg
O’i ddefnyddio'n gyfrifol, mae AI cynhyrchiol yn cynnig cyfleoedd a manteision a all gyfoethogi rôl ymarferwyr wrth gefnogi eu dysgwyr. Fodd bynnag, rydym yn glir na all ddisodli rôl sylfaenol ymarferwyr wrth gefnogi ac ysbrydoli dysgwyr i ddysgu a chyrraedd eu potensial.
Dylai'r defnydd o AI gynhyrchiol o ran dysgu fod yn bwrpasol, fel gyda phob offeryn ac adnodd yn yr ystafell ddosbarth. Dylai ei ddefnydd yn y pen draw gefnogi dysgwyr i fod yn ddysgwyr uchelgeisiol, galluog; cyfranwyr mentrus, creadigol; dinasyddion moesegol, cyfrifol; ac unigolion iach, hyderus.
O’u defnyddio'n gyfrifol, yn ddiogel ac yn bwrpasol, mae gan offer AI cynhyrchiol y potensial i leihau llwyth gwaith ac i gefnogi gydag amrywiaeth o dasgau fel:
- cefnogi datblygiad cynnwys i'w ddefnyddio mewn dysgu
- cynorthwyo gyda rhai swyddogaethau gweinyddol arferol
- helpu i ddarparu profiadau dysgu mwy personol
- cefnogi cynllunio gwersi, marcio, adborth ac adrodd
- darparu cyd-destunau i gefnogi datblygiad sgiliau meddwl beirniadol
- cefnogi’r gwaith o gynllunio cwricwlwm ac asesiadau ar lefel ysgol
Gweithio gyda'r sector i ddeall manteision AI
Mae i ba raddau y bydd offer AI cynhyrchiol yn cefnogi addysg yn faes sy’n parhau i gael ei drafod. Mae arfer arloesol yng Nghymru ac yn rhyngwladol yn dangos addewid. Fodd bynnag, mae angen archwilio ymhellach i ddeall beth yw’r defnydd mwyaf effeithiol o AI, a'i effaith. Yn y bôn, mae gallu AI cynhyrchiol i leihau llwyth gwaith yn gysylltiedig â pha mor dda y gellir gwireddu'r cyfleoedd hyn mewn ffordd ddiogel, effeithiol a dibynadwy.
Rydym wedi dechrau sgwrs genedlaethol gyda'r sector addysgu am y ffordd orau o fanteisio ar gyfleoedd AI ar gyfer dysgu ac addysgu, gan liniaru'r risgiau. Mae hyn wedi cynnwys archwiliad ymarferol o gyfleoedd i ddeall potensial offer AI. Bydd sgyrsiau gydag ymarferwyr ac arweinwyr drwy'r Rhwydwaith Cenedlaethol ar gyfer Gweithredu'r Cwricwlwm a Grŵp Polisi Cwricwlwm i Gymru yn parhau i fod yn sail i’n blaenoriaethau.
Rydym yn parhau i weithio gydag ysgolion, partneriaid addysg, rhanddeiliaid ac arbenigwyr i ddeall tystiolaeth sy'n dod i'r amlwg, arfer cadarnhaol a dulliau gweithredu o ran AI mewn addysg. Mae hyn yn allweddol i sicrhau bod y gefnogaeth, yr adnoddau a'r arweiniad a roddwn i ysgolion o ran AI mewn addysg yn ymarferol ac yn berthnasol. Bydd gwaith ehangach sy'n ystyried goblygiadau AI ar draws y sector cyhoeddus hefyd yn parhau i gyfrannu at y meddylfryd am rôl AI o fewn addysg.
Galluogi dysgwyr i ymwneud yn gyfrifol ag AI cynhyrchiol
Wrth i AI cynhyrchiol barhau i ddatblygu a dylanwadu ar y byd rydym yn byw ynddo, mae'n hanfodol rhoi cyfle i bob dysgwr ddatblygu'r sgiliau a'r wybodaeth y bydd eu hangen arnynt i ffynnu yn y dyfodol. Bydd llythrennedd AI, sy'n cynnwys gallu meddwl yn feirniadol, ymgysylltu â thystiolaeth a gwybodaeth, a defnyddio creadigrwydd, yn hanfodol. Mae’r sgiliau sy'n hanfodol i'r pedwar diben, y dylid eu datblygu ar draws pob Maes Dysgu a Phrofiad Cwricwlwm i Gymru, yn canolbwyntio ar feithrin yr ymagweddau hyn.
Dylai ysgolion sicrhau bod pob dysgwr yn cael cyfleoedd i ddatblygu'r sgiliau hanfodol ar draws eu dysgu i'w helpu i baratoi i fyw a gweithio mewn cymdeithas sy'n cael ei galluogi’n gynyddol gan AI. Dylai tegwch o ran mynediad fod wrth wraidd y cyfleoedd hyn, wedi'i ddatblygu mewn ffyrdd sy'n ymgorffori arferion cynhwysol sy'n parchu galluoedd pob dysgwr.
Bydd datblygu'r sgiliau hyn yn cefnogi dysgwyr i ymgysylltu'n gyfrifol ag offer AI cynhyrchiol. Mae hyn yn cynnwys gofyn cwestiynau ystyrlon, gwerthuso gwybodaeth a thystiolaeth i ddeall ei ddibynadwyedd a'i duedd wrth wneud penderfyniadau, a datblygu ymwybyddiaeth a dealltwriaeth dysgwyr o'r byd o'u cwmpas.
Mae'r Fframwaith Cymhwysedd Digidol eisoes yn mynd y tu hwnt i ddefnyddio technolegau ac offer penodol. Mae'n canolbwyntio ar yr ymagweddau sydd eu hangen ar ddysgwyr i harneisio’r technolegau a'r offer hyn yn y ffordd fwyaf effeithiol. Mae hyn yn cynnwys defnyddio technoleg i gyfoethogi eu creadigrwydd eu hunain, defnyddio meddwl cyfrifiadurol i helpu i ddatrys problemau yn y byd go iawn, bod yn llythrennog o ran data a gwybodaeth, a dod yn ddinesydd digidol cydwybodol.
Mae'r cyfrifoldeb o ddiogelu plant a phobl ifanc rhag niwed posibl ar-lein yn hollbwysig. Wrth i dechnolegau AI barhau i ddatblygu, mae’n rhaid i’n ffordd o feddwl ynghylch diogelu digidol ddatblygu hefyd. Mae gan AI cynhyrchiol y potensial i ddwysáu materion diogelwch ar-lein gyda soffistigedigrwydd a chyflymder cynyddol, gan gynnwys pryderon ynghylch ffugiadau dwfn, camwybodaeth a chamfanteisio ar-lein, sy’n tynnu sylw at bwysigrwydd dysgwyr yn datblygu sgiliau meddwl beirniadol. Mae'r sgiliau hyn yn hanfodol ar gyfer gwerthuso hygrededd gwybodaeth ar-lein, adnabod peryglon posibl, a gwneud penderfyniadau gwybodus am ryngweithio ar-lein.
Mae ein hadran Cadw'n ddiogel ar-lein, yn rhoi mynediad at ystod o gymorth i ysgolion ar faterion cadernid digidol sy'n dod i'r amlwg, gan gynnwys risgiau AI cynhyrchiol.
Cefnogi ymarferwyr i integreiddio AI yn effeithiol
Wrth i AI cynhyrchiol ddatblygu, mae'n bwysig sicrhau bod gan ymarferwyr y sgiliau a'r wybodaeth sydd eu hangen i integreiddio a llywio'r technolegau yn effeithiol. Dylai dysgu proffesiynol helpu ymarferwyr i ddeall gwahanol offer AI a sut i'w defnyddio i gyfoethogi eu harfer.
Dylai ysgolion gefnogi ymarferwyr i feithrin cymhwysedd a hyder mewn perthynas ag AI cynhyrchiol trwy gyfleoedd dysgu proffesiynol parhaus. Dylai'r dysgu hwn barchu lefelau profiad a chefndiroedd amrywiol, gan alluogi pob ymarferydd i feithrin y sgiliau angenrheidiol ar gyfer integreiddio AI.
Mae ein hadran Dysgu proffesiynol ar Hwb yn cynnig deunyddiau i helpu ymarferwyr i ddatblygu eu dealltwriaeth o AI cynhyrchiol. Bydd adnoddau'n parhau i gael eu diweddaru, a bydd cyfleoedd pellach ar gyfer dysgu annibynnol a chydweithredol yn cael eu cynnig ynghylch y defnydd o AI cynhyrchiol.
Dylai ymarferwyr barhau i fod yn ymwybodol o risgiau posibl AI cynhyrchiol. Dylai dysgu proffesiynol bwysleisio strategaethau ar gyfer gwerthuso allbynnau a sicrhau diogelwch digidol mewn ysgolion a chefnogi ymarferwyr i ddefnyddio technolegau AI cynhyrchiol yn ddiogel, yn gyfrifol ac yn foesegol.
Ystyriaethau ar gyfer ysgolion a lleoliadau ynghylch AI cynhyrchiol
Mae'r berthynas rhwng technolegau digidol ac addysg wedi bod yn newid ac yn datblygu ers blynyddoedd lawer. Mae'r newid hwn yn cael ei gyflymu a'i helaethu ymhellach gan ddatblygiad cyflym offer AI cynhyrchiol a mynediad eang at offer o’r fath.
Mae integreiddio offer AI cynhyrchiol i addysg yn cynnig llawer o gyfleoedd. Fodd bynnag, rhaid i'r defnydd a wneir ohonynt roi blaenoriaeth i ddiogelwch, cyfrifoldeb, moeseg, ymddiriedaeth a chynwysoldeb. Cyn integreiddio AI cynhyrchiol, dylai ysgolion gynnal dadansoddiad risg trylwyr, yn debyg i'r broses a ddefnyddir ar gyfer offer, meddalwedd neu wasanaethau digidol eraill. Mae hyn yn hanfodol er mwyn gwerthuso addasrwydd AI cynhyrchiol, nodi risgiau posibl a sicrhau amgylchedd dysgu diogel.
Dylai ysgolion barhau i flaenoriaethu diogelwch a lles dysgwyr wrth ystyried y ffordd orau o ymateb ac addasu i dechnolegau sy'n dod i'r amlwg ym myd addysg.
Dylai ysgolion ystyried y canlynol wrth gynllunio i ddefnyddio AI cynhyrchiol.
Sgôr oedran
Rhaid ystyried sgôr oedran offer AI cynhyrchiol cyn eu defnyddio. Gall sgôr oedran amrywio ac mae rhai o’r offer wedi'u cynllunio i'w defnyddio gan bobl dros 18 oed yn unig. Nid yw llawer o offer AI cynhyrchiol wedi'u cynllunio ar gyfer addysg.
Rhaid i ymarferwyr fod yn ymwybodol o sgôr oedran, a'r pryderon diogelwch, wrth ystyried defnyddio'r offer hyn gyda'u dysgwyr. Dylid ystyried a yw deunyddiau yn gynhwysol ar gyfer dysgwyr a allai fod ag anghenion dysgu ychwanegol.
Hygyrchedd a chynhwysiant digidol
Dylai ymarferwyr sicrhau, os caiff AI cynhyrchiol ei ddefnyddio mewn gwers, bod gan bob dysgwr yr offer angenrheidiol i gymryd rhan ar sail deg. Wrth i nifer yr offer AI cynhyrchiol y telir amdanynt gynyddu, mae'n bwysig sicrhau nad ydynt yn creu annhegwch i ddysgwyr o ran mynediad at wasanaethau digidol.
Fel gyda phob math o dechnoleg ddigidol, bydd angen i ysgolion fod yn ymwybodol o faterion hygyrchedd ehangach, yn enwedig ar gyfer y rhai ag anghenion dysgu ychwanegol. Dylai ysgolion barhau i ystyried defnyddio technolegau llais a thechnolegau eraill i wella hygyrchedd unrhyw offer digidol a ddefnyddir ar gyfer dysgu ac addysgu ar gyfer pob dysgwr. Dylai ymarferwyr fod yn ystyriol o iaith, gan gofio ei bod yn haws cael offer AI cynhyrchiol ar hyn o bryd yn y Saesneg nag yn y Gymraeg.
Tuedd, gwahaniaethu, stereoteipio a chynnwys niweidiol
Gall offer AI cynhyrchiol adlewyrchu ac ymhelaethu ar y tueddiadau a'r stereoteipiau sy'n bodoli yn y data sydd wedi eu hyfforddi. O ganlyniad, gall rhai systemau AI cynhyrchiol gynhyrchu cynnwys a all fod yn sarhaus ac yn niweidiol.
Gall rhai systemau AI cynhyrchiol gynhyrchu cynnwys sy'n anghyson â gwerthoedd ac ethos ysgolion yng Nghymru, megis hyrwyddo trais, casineb neu gamwybodaeth. Ochr yn ochr â'r risg o duedd amlwg, mae'n bwysig i ymarferwyr ystyried y risg o dueddiadau cynnil o fewn offer AI. Dylai ysgolion fod yn ymwybodol o'r risg hon a monitro allbynnau am unrhyw arwyddion o duedd, gwahaniaethu, stereoteipio neu gynnwys niweidiol.
Efallai y bydd ysgolion am ganolbwyntio ar ddatblygiad sgiliau meddwl beirniadol a llythrennedd digidol dysgwyr i'w cefnogi i ymgysylltu'n feirniadol ag allbynnau'r offer hyn. Mae'n bwysig bod dysgwyr ac ymarferwyr yn mynd ati’n rhagweithiol i gwestiynu a herio rhagdybiaethau a goblygiadau posibl y cynnwys a gynhyrchir gan systemau AI.
Dylai ysgolion annog dysgwyr ac ymarferwyr i roi gwybod am unrhyw gynnwys a gynhyrchir gan offer AI cynhyrchiol sy'n peri pryder.
Cywirdeb a dibynadwyedd cynnwys
Gall AI cynhyrchiol, sydd wedi'i hyfforddi ar symiau mawr o ddata, gynhyrchu cynnwys sy'n anghywir neu'n annibynadwy. Ar adegau, nid yw'r cynnwys y mae'n ei gynhyrchu yn seiliedig ar ddata go iawn ond yn hytrach mae’n cael ei ffugio neu ei ddyfeisio. Gall hyn fod yn broblemus oherwydd er nad yw'r cynnwys yn seiliedig ar wybodaeth ffeithiol, gall ymddangos yn gredadwy ac yn argyhoeddiadol.
Mae'n bwysig, wrth ddefnyddio AI cynhyrchiol, bod allbynnau'n cael eu harchwilio i weld a ydynt yn gywir ac yn ddibynadwy er mwyn sicrhau ansawdd a chywirdeb cyffredinol y cynnwys.
Diogelu data a phreifatrwydd
Gall offer AI cynhyrchiol gadw a defnyddio'r wybodaeth y mae eu defnyddwyr yn ei darparu, megis yr ysgogiadau mae defnyddwyr yn eu mewnbynnu i’w cynorthwyo neu'r cwestiynau y mae defnyddwyr yn eu gofyn iddynt. Dylai ysgolion wirio ac ystyried sut mae gwasanaethau AI a'u Modelau Iaith Mawr (LLM) yn cael eu hyfforddi a pha ddata y maent yn eu casglu. Yn yr un modd â defnyddio unrhyw offer digidol, rhaid i ysgolion gydymffurfio â deddfau diogelu data.
Rhaid i ysgolion fod yn dryloyw ynghylch sut y caiff data eu defnyddio a chyda phwy y caiff eu rhannu. Rhaid i ysgolion ac ymarferwyr beidio â rhannu unrhyw wybodaeth bersonol adnabyddadwy (PII) neu wybodaeth gyfrinachol neu sensitif arall ag offeryn neu wasanaeth AI cynhyrchiol. Yn hollbwysig, ni ddylai data dysgwyr byth gael eu mewnbynnu i offer AI cynhyrchiol.
Defnydd moesegol o AI
Mae gan AI cynhyrchiol lawer o gymwysiadau. Gan ei fod yn cael ei integreiddio'n gynyddol i offer a gwasanaethau bob dydd, gall cadw i fyny â'r safonau moesegol a'r potensial ar gyfer camddefnydd fod yn her.
Dylai cynnal sgyrsiau agored am bosibiliadau a chyfyngiadau technolegau AI fynd law yn llaw â thrafod pwysigrwydd defnydd moesegol a chyfrifol. Gellir archwilio effeithiau cymdeithasol a moesegol AI trwy ddinasyddiaeth ddigidol. Mae llythrennedd AI yn rhan sylweddol o hyn gan gynnwys y cysyniadau, y sgiliau a'r agweddau craidd sydd eu hangen i ddod yn ddefnyddwyr cyfrifol a moesegol o dechnolegau digidol.
Wrth ddefnyddio AI mewn ysgolion, dylid gwneud hynny’n onest ac yn dryloyw, gyda disgwyliadau clir yn cefnogi uniondeb y dysgu. Dylai dysgwyr ac athrawon wybod pryd mae AI yn cael ei ddefnyddio i greu cynnwys neu gynorthwyo gyda thasgau, gan sicrhau bod pawb yn deall ei rôl. Mae hyn yn helpu i feithrin ymddiriedaeth ac yn sicrhau bod dysgwyr yn ymwybodol o gryfderau a chyfyngiadau AI, gan ganiatáu iddynt ei ddefnyddio'n gyfrifol ac yn effeithiol.
Effeithiau amgylcheddol
Mae integreiddio AI mewn addysg yn cynnig cyfleoedd sylweddol i gyfrannu at nodau amgylcheddol trwy leihau dibyniaeth ar bapur a symleiddio gweithrediadau. Fodd bynnag, gall y cynnydd yn y capasiti rhwydwaith a'r defnydd o ynni sydd ei angen ar gyfer technolegau AI gynyddu ôl troed amgylcheddol seilwaith digidol. Er mwyn mynd i'r afael â hyn, mae'n hanfodol mabwysiadu systemau AI sy'n effeithlon o ran ynni a sicrhau bod eu defnydd yn strategol ac yn gynaliadwy. Drwy gydbwyso buddion posibl AI yn ofalus â'i effaith amgylcheddol, gall ysgolion harneisio ei rym wrth leihau'r galw am adnoddau a chefnogi cynaliadwyedd hirdymor.
Eiddo deallusol (IP)
Bydd llawer o offer AI cynhyrchiol yn defnyddio data a fewnbynnir gan ddefnyddwyr i hyfforddi a mireinio eu modelau ymhellach. Oherwydd hynny, mae'n bwysig bod ysgolion yn gwirio telerau defnyddio cyn cyflwyno atebion gydag AI wedi'i gynnwys.
Mae dysgwyr yn berchen ar yr hawliau eiddo deallusol i gynnwys gwreiddiol y maent hwy eu hunain wedi'i greu. Ni ddylid defnyddio gwaith dysgwyr i hyfforddi modelau AI cynhyrchiol oni bai bod ysgolion wedi cael caniatâd neu eithriad i hawlfraint. Rhaid cael caniatâd rhiant neu warcheidwad cyfreithiol dysgwyr o dan 18 oed, neu ddysgwyr nad oes ganddynt y galluedd i gydsynio.
Cymwysterau ac asesiadau di-arholiad
I gydnabod y pryderon ynghylch defnyddio offer AI cynhyrchiol mewn asesiadau di-arholiad, mae Cymwysterau Cymru yn gweithio gyda chyrff dyfarnu i ystyried goblygiadau AI ar gyfer ein system gymwysterau ac arholiadau. Mae hyn yn cynnwys archwilio cyfleoedd posibl, moeseg, ystyriaethau ymarferol, a risgiau AI yn y cyd-destun hwn.
Rheoleiddio AI
Mae Deddf Diogelwch Ar-lein 2023 yn gosod dyletswyddau a chyfrifoldebau cyfreithiol newydd ar blatfformau i gydnabod eu dyletswydd gofal i'w defnyddwyr. Mae hefyd yn rhoi mwy o gyfrifoldeb ar ddarparwyr gwasanaethau i ddiogelu plant a phobl ifanc.
Er nad yw'r Ddeddf Diogelwch Ar-lein yn cyfeirio'n uniongyrchol at AI, mae'n sôn am offer a botiaid awtomataidd. Mae hyn yn golygu, os yw darparwr rheoleiddiedig yn defnyddio AI o fewn ei wasanaethau, mae'r elfennau AI yn dod o fewn ei gwmpas.
Yn ogystal, mae'n rhaid i ddarparwyr sgwrsfotiaid AI gydymffurfio â rheolau ar atal defnyddwyr rhag cael mynediad at gynnwys niweidiol.
Nid yw wedi’i ddeall yn llawn eto lle y gallai fod bylchau mewn rheoleiddio i ddiogelu plant a phobl ifanc rhag niwed posibl a achosir gan gynnwys a gynhyrchir gan AI, yn y Gymraeg a’r Saesneg. Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio gydag Ofcom wrth iddynt fwrw ymlaen â gwaith ar sut y bydd y Ddeddf Diogelwch Ar-lein yn effeithio ar reoleiddio gwasanaethau sy'n defnyddio technolegau AI. Bydd yn gwneud hyn ochr yn ochr â gweithio gyda Llywodraeth y DU ar ddeddfwriaeth AI ehangach. Disgwylir y bydd y ddeddfwriaeth ehangach hon yn gosod gofynion ar y rhai sy'n gweithio i ddatblygu'r modelau AI mwyaf pwerus.