English

Mae fideogynadledda yn galluogi sawl parti mewn gwahanol leoliadau i ymuno ag ystafell rithwir, gan hwyluso cydweithio drwy rannu sain, fideo, testun a chyflwyniadau mewn amser real dros y rhyngrwyd. Mae modd tanio a diffodd camerâu a meicroffonau.

Drwy Hwb, mae gan staff fynediad at Microsoft 365 (M365) a Google Workspace for Education.

Gellir defnyddio Microsoft Teams i gyflwyno fideogynadledda. 

Gellir defnyddio Google Meet i gyflwyno fideogynadledda.

Gall fideogynadledda fod yn effeithiol i ymarferwyr sy'n cyflwyno dysgu cyfunol pan gaiff ei ddefnyddio'n briodol. Mae'n galluogi ymarferwyr i efelychu ymarfer ystafell ddosbarth mewn amgylchedd rhithwir drwy ymgysylltu a rhyngweithio. Gellir defnyddio fideogynadledda i:

  • gyflwyno gwersi i'ch dosbarth a'ch dysgwyr
  • cyflwyno sesiynau bugeiliol neu addysgu i grwpiau bach
  • cynnal sesiwn dal i fyny lles neu gynnal apwyntiad AAA/ADY

Mae fideogynadledda yn cynnig llawer o fanteision i ddysgu cyfunol. Mae manteision defnyddio fideo-gynadledda i gyflwyno gwersi yn cynnwys:

  • cyfle i gyfranogwyr gael cyswllt wyneb yn wyneb mewn amser real
  • hwyluso dysgu rhyngweithiol a chydweithredol
  • effeithiau cadarnhaol ar ymgysylltiad a lles dysgwyr
  • defnyddiol ar gyfer cadw mewn cysylltiad â dysgwyr
  • adborth i ddysgwyr ar unwaith
  • galluogi cymorth unigol
  • gellir ei ddefnyddio i alluogi plant a phobl ifanc i gadw mewn cysylltiad â'u cyd-ddisgyblion a chymryd rhan mewn dysgu grŵp, er enghraifft, trafodaethau
  • Bydd popeth ar eich sgrin neu bopeth y byddwch chi'n ei rannu yn cael ei weld gan bawb.
  • Mae fideogynadledda yn digwydd mewn amser real - ystyriwch yn ofalus yr hyn y gellir ei weld a'i glywed yn eich amgylchedd.
  • Drwy amserlennu gwers fideogynadledda, rydych chi'n ymrwymo i gyflwyno gwers ar ddyddiad a amser penodol.
  • Os yw dysgwyr yn defnyddio fideo a sain, dylai pob dysgwr ddewis lleoliad niwtral sy'n briodol ac yn ddiogel.
  • Os yn bosibl, dylai ymarferwyr a dysgwyr ddefnyddio gosodiadau pylu cefndir yn Microsoft Teams a Google Meet.
  • Os bydd ymarferwyr yn dewis, gall dysgwyr gyflwyno eu sgrin a rhannu cynnwys.