English

Cynulleidfa a awgrymir:

  • consortia addysg rhanbarthol a staff yr awdurdodau lleol sydd â chyfrifoldeb dros lythrennydd, rhifedd neu asesu
  • llywodraethwyr ysgolion
  • gweithwyr addysg proffesiynol eraill nad ydynt yn staff ysgol ac felly nad oes ganddynt fynediad i’r wefan Asesiadau Personol

Mae’r holl wybodaeth ac adnoddau ar y tudalennau hyn i’w cael ar y wefan asesiadau, y gall staff ysgolion gael mynediad iddi.

Rhybudd

I gael cymorth gyda’r asesiadau personol, cysylltwch â'r Ddesg Gymorth Asesiadau (ar gyfer ysgolion yn unig) ar 029 2026 5099 neu cymorth@asesiadaupersonol.cymru.

I gael cymorth ar reoli cyfrifon defnyddwyr Hwb yr ysgol, cysylltwch â hwb@llyw.cymru neu 0300 0252525.

Diben ffurfiannol sydd i’r asesiadau personol, sef helpu dysgwyr i wneud cynnydd, drwy ddeall beth maent yn gallu ei wneud, y pethau y mae angen iddynt weithio arnynt, a’u camau nesaf.

Caiff yr asesiadau eu gwneud ar-lein ac maent yn addasol h.y. caiff y cwestiynau eu dewis yn seiliedig ar ymateb y dysgwr i’r cwestiwn blaenorol. Os bydd dysgwr yn ateb cwestiwn yn anghywir, gofynnir cwestiwn haws iddo, os bydd dysgwr yn ateb cwestiwn yn gywir, gofynnir cwestiwn mwy heriol iddo. Mae hyn yn darparu profiad asesu unigol ac yn teilwra lefel y her i bob dysgwr.

Bydd yr wybodaeth o’r asesiadau personol (gan gynnwys adborth ar gynnydd dysgwyr unigol, ac adroddiadau grŵp) yn ychwanegu at yr hyn y mae athrawon yn ei wybod am ddarllen a rhifedd eu dysgwyr o’u gwaith yn y dosbarth ac eu helpu i gynllunio camau nesaf eu dysgwyr.

Gall penaethiaid, athrawon a dysgwyr (mewn ysgolion a gynhelir yng Nghymru) gael mynediad i’r wefan Asesiadau Personol drwy ddefnyddio eu manylion mewngofnodi i Hwb.

Penaethiaid sy’n penderfynu pa rai o’u staff sy’n cael mynediad i’r asesiadau ac adroddiadau, nid yw’r wefan ar gael i unigolion nad ydynt ar system MIS yr ysgol.

Mae’r Llawlyfr Gweinyddu’n nodi’r trefniadau ar gyfer yr Asesiadau Personol Cenedlaethol ar gyfer Darllen a Rhifedd sydd i’w gwneud gan ddysgwr ym Mlynyddoedd 2 i 9 mewn ysgolion a gynhelir yng Nghymru.

Cyfeiriwch at y llawlyfr hwn am wybodaeth ynghylch:

  • amseru’r asesiadau personol
  • mynediad i’r asesiadau personol
  • rheoli defnyddwyr
  • trefnu a gwneud asesiadau
  • adborth ac adroddiadau ar asesiadau
  • addasiadau a datgymhwyso

Mae’r canllaw i ddefnyddwyr yn nodi’r prosesau ar gyfer gweinyddu’r asesiadau personol y bydd pob dysgwr ym Mlynyddoedd 2 i 9 yn eu gwneud mewn ysgolion a gynhelir yng Nghymru.

Cyfeiriwch at y canllaw hwn am wybodaeth ynghylch sut mae’r asesiadau personol yn gweithio, y gofynion a’r gosodiadau TG, amodau gweinyddu’r asesiadau, y personél sydd i weinyddu’r asesiadau, cael mynediad at adroddiadau a’u dehongli, a sut i gael mynediad at fersiynau wedi’u haddasu o’r asesiadau.

Mae’r canllaw yn cynnwys atodiad ar reoli asesiadau dysgwyr sydd wedi’u cofrestru mewn ysgol yn ogystal ag mewn uned cyfeirio disgyblion.

Mae'r canllawiau hyn yn tynnu sylw at rai pwyntiau allweddol a allai fod o gymorth i gefnogi dysgu, addysgu a chynllunio cynnydd. Maent hefyd yn nodi pa adroddiadau y dylid eu rhannu â rhieni a gofalwyr, ac yn ateb cwestiynau a allai fod gan rieni a gofalwyr.

Mae’r fideos hyfforddi canlynol yn rhoi canllawiau cam-wrth-gam i staff yr ysgol ar gyfer pob cam o’r broses o drefnu a chynnal yr asesiadau a chael mynediad i’r adroddiadau.

Gweld yr adroddiadau a rhedeg ymholiad

Yn ogystal â’r Llawlyfr Gweinyddu, y Canllaw i Ddefnyddwyr a’r Canllawiau i Ymarferwyr uchod, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi dogfennau a fideos eraill sydd ar gael o'n tudalen asesiadau personol:

Cyn i ddysgwyr wneud asesiad personol, dylai athrawon sicrhau eu bod nhw eisoes wedi gwneud asesiad ymgyfarwyddo, naill ai yn unigol, fel dosbarth neu mewn grwpiau llai, er mwyn gweld y mathau o gwestiynau a rhoi cynnig arnynt.

Mae’r asesiadau ymgyfarwyddo isod ar gael er mwyn i gydweithwyr sydd heb fanylion mewngofnodi ysgol i Hwb (e.e. staff rhanbarthol â chyfrifoldeb am lythrennedd, rhifedd neu asesu, ac sydd â rôl i gefnogi ysgolion) gael blas ar y gwahanol fathau o gwestiynau y bydd dysgwyr yn dod ar eu traws yn eu hasesiadau byw. Rhestrir y rhain isod fesul grŵp oedran ar gyfer Rhifedd (Gweithdrefnol), a Darllen yn Gymraeg a Saesneg.