Yr hyn sydd angen i ysgolion ei wybod am we-grafu
Gwe-grafu (neu 'grafu data') yw'r broses o echdynnu cynnwys a data o'r we yn awtomatig.
- Rhan o
Mae awdurdodau'n nodi cynnydd yn nifer y digwyddiadau sy'n ymwneud â gwe-grafu. Mae'r digwyddiadau hyn yn deillio yn enwedig o'r cyfryngau cymdeithasol ac o wefannau eraill sy'n dal data a chynnwys sydd ar gael i'r cyhoedd.
Mae gwe-grafu yn hwyluso casglu cynnwys cyhoeddus ar raddfa.
Risgiau i ysgolion
Gall y delweddau gael eu casglu gan drydydd partïon na fydd ysgolion efallai’n gallu eu gweld, eu hadnabod na'u hatal. Mae gwe-grafu o’r cyfryngau cymdeithasol neu wefannau ysgolion yn creu risgiau preifatrwydd a niwed posibl i blant a phobl ifanc. Gall y delweddau gael eu:
- defnyddio
- camddefnyddio
- eu trin a'u defnyddio at ddibenion nad yw'r bobl ifanc wedi cydsynio iddyn nhw
Ystyriaethau cyn postio delweddau
Cyn postio unrhyw ddelwedd ar-lein, ystyriwch:
- pwy fydd yn gallu gweld y ddelwedd a sut y gellid ei defnyddio
- sut allwch chi gadw rheolaeth dros y ddelwedd
- a oes ffordd fwy addas o rannu'r ddelwedd nag ar wefan gyhoeddus
- a allai postio'r ddelwedd arwain at blentyn neu berson ifanc yn wynebu unrhyw risg neu ei wneud yn agored i niwed
Cofiwch y gall unrhyw un gopïo, lawrlwytho, tynnu sgrin-lun neu rannu unrhyw ddelwedd sy'n cael ei chyhoeddi'n gyhoeddus. Gall y delweddau hyn gael eu haddasu a'u defnyddio'n amhriodol.
Risgiau sy’n gysylltiedig â rhannu delweddau
Mae postio delweddau ar blatfformau’r cyfryngau cymdeithasol a gwefannau eraill yn gallu gwneud plentyn yn fwy agored i niwed. Mae hyn yn arbennig o wir os yw delwedd yn cael ei rannu ochr yn ochr â gwybodaeth fel manylion personol neu dagiau lleoliad.
Gall hefyd effeithio ar ôl troed digidol plentyn neu berson ifanc. Mae risgiau posibl amlygiad digidol yn gallu para am oes. Efallai na fydd pobl ifanc bob amser yn gyfforddus â sut mae eu delweddau'n cael eu portreadu, nawr ac yn y dyfodol.
Arferion ac egwyddorion i ysgolion ar gyfer defnyddio'r cyfryngau cymdeithasol
Nod y canllawiau hyn yw cefnogi ysgolion a lleoliadau addysg yng Nghymru i lunio eu dull o ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol mewn ffordd ddiogel, broffesiynol a chadarnhaol fel rhan o broses gyfathrebu’r ysgol.
Rhagor o wybodaeth
Canllawiau ap
Mae’r casgliad hwn o ganllawiau yn darparu gwybodaeth allweddol ynghylch apiau cyfryngau cymdeithasol poblogaidd, gan gynnwys gosodiadau diogelwch.
Professionals Online Safety Helpline (POSH)
Llinell gymorth sy'n cael ei gweithredu gan yr UK Safer Internet Centre, yn benodol ar gyfer helpu pob aelod o'r gymuned sy'n gweithio gyda phlant ar unrhyw faterion diogelwch ar-lein sy'n eu hwynebu nhw neu'r plant a phobl ifanc yn eu gofal.
Cefnogaeth i ddysgwyr a'u teuluoedd
-
Rhannu lluniau o'ch plant
Canllaw i rieni ar risgiau rhannu gwybodaeth a lluniau o'u plant ar-lein
-
Enw da ac ôl troed digidol
Cyngor i blant a phobl ifanc ar fod yn ddiogel am beth maen nhw'n rhannu ar-lein
-
Cyfryngau cymdeithasol
Cyngor i blant a phobl ifanc ar sut i gadw cyfrifon cyfryngau cymdeithasol yn ddiogel.
-
Taflen i deuluoedd
Canllaw byr ar sut i bostio, rhoi sylwadau a llwytho yn gyfrifol.