Rhannu lluniau noeth a hanner noeth
Canllawiau a gwybodaeth am rannu lluniau noeth a hanner noeth.
- Rhan o
Mae rhannu lluniau noeth a hanner noeth o bobl o dan 18 oed ag oedolion neu gan oedolion yn gyfystyr â cham-drin plant yn rhywiol. Dylid hysbysu'r heddlu ar frys. Mae'r gyfraith hefyd yn gymwys i ddelweddau sydd wedi'u trin yn ddigidol neu ddelweddau a gynhyrchir gan ddeallusrwydd artiffisial o blant o dan 18 oed.
Trosolwg
Mae rhannu lluniau noeth a hanner noeth (y cyfeirir ato weithiau fel 'secstio') yn cyfeirio at greu ac anfon:
- delweddau
- fideos
- ffrwd fyw o rywun noeth neu hanner noeth
Mae gan lawer o bobl ifanc fynediad at ffonau clyfar, cyfrifiaduron llechen a dyfeisiau cysylltiedig eraill. Gan ddefnyddio'r rhain, gallan nhw greu a rhannu delweddau neu fideos yn hawdd ar gyfryngau cymdeithasol neu apiau negeseuon preifat. Yn aml, nid yw pobl ifanc yn deall yn llawn risgiau neu ganlyniadau hirdymor rhannu delweddau.
Mae AI cynhyrchiol wedi cyfrannu at gynnydd mewn delweddau a fideos o noethni a gynhyrchir gan gyfrifiadur. Gellir creu'r rhain gan ddefnyddio adnoddau fel:
- meddalwedd golygu lluniau neu fideos
- dyfeisiau creu ffugiad dwfn
- apiau ychwanegu noethni
- dyfeisiau creu delwedd AI o destun
Efallai y bydd pobl ifanc yn rhannu delweddau:
- ohonyn nhw eu hunain neu o eraill
- o bobl y maen nhw mewn perthynas ramantus gyda nhw
- o bobl nad ydyn nhw’n eu hadnabod
Gall fod llawer o wahanol gymhellion neu resymau y tu ôl i'r ymddygiad, rhai yn fwy niweidiol nag eraill.
Goblygiadau cyfreithiol rhannu lluniau noeth a hanner noeth
Yng Nghymru a Lloegr, mae Deddf Diogelu Plant 1978 yn ei gwneud yn drosedd cymryd, creu, dangos, meddu ar neu rannu delweddau anweddus o unrhyw un o dan 18 oed.
Gall hyn fod yn ddryslyd i blentyn neu berson ifanc. Os yw wedi cymryd delwedd noeth ohono'i hun a'i storio'n breifat ar ei ddyfais, mae hynny'n drosedd, hyd yn oed os mai dim ond y plentyn neu’r person ifanc ei hun sydd yn y ddelwedd.
Fodd bynnag, yn achos llawer o sefyllfaoedd sy'n ymwneud â phlant a phobl ifanc yn unig, mae'r heddlu bellach yn eu hystyried yn fater diogelu yn hytrach na mater troseddol. Nid yw gwneud plant a phobl ifanc sy'n cymryd ac yn rhannu lluniau noeth a hanner noeth ohonyn nhw eu hunain yn droseddwyr o fudd i'r cyhoedd. Nid yw chwaith o fudd i'r unigolion dan sylw.
Gall hyn greu sefyllfaoedd cymhleth i oedolion sy'n gweithio gyda phlant a phobl ifanc. Os dewch ar draws achos o rannu lluniau noeth neu hanner noeth, dylech:
- weithredu'n ofalus i sicrhau nad ydych yn gwneud unrhyw beth y gellid ei ystyried yn drosedd mewn perthynas â delweddau anweddus o blant
- sicrhau bod unrhyw blentyn neu berson ifanc sy'n meddu ar ddelweddau ohono'i hun neu o eraill o dan 18 oed yn cael ei gefnogi a'i ddiogelu
Bydd digwyddiadau sy'n ymwneud ag unigolion o dan 18 oed yn unig yn cael eu hystyried fesul achos. Bydd rhai yn cael eu trin fel mater diogelu, a rhai fel mater troseddol.
Cymorth i bobl ifanc
-
Problemau a phryderon ar-lein: rhannu lluniau noeth
Yn esbonio rhai risgiau i fod yn ymwybodol ohonyn nhw a ble i fynd am help.
Cymorth i ysgolion
Sicrhewch fod plant a phobl ifanc:
- yn cael cyfleoedd i ddysgu a holi cwestiynau am risgiau creu a rhannu lluniau noeth a hanner noeth
- yn deall y gweithdrefnau diogelu yn eich ysgol
- yn gwybod â phwy y gallan nhw siarad
- yn gwybod y bydd unrhyw beth y maen nhw’n ei ddatgelu yn cael ei drin yn gyfrinachol ac â pharch
Bydd hyn yn rhoi mwy o hyder iddyn nhw i ddatgelu pryderon neu ddigwyddiadau.
Gallwch ddefnyddio'r adnoddau canlynol i helpu i addysgu plant a phobl ifanc am y mater hwn.
-
Adnoddau dysgu ac addysgu
Adnoddau i gefnogi gweithgareddau dysgu am rannu lluniau noeth a hanner noeth.
-
Rhannu delweddau noeth a hanner noeth: ymateb i ddigwyddiadau a diogelu plant a phobl ifanc
Canllawiau i swyddogion diogelu dynodedig, penaethiaid ac uwch dimau arwain ar sut i ymateb i achos o rannu lluniau noeth neu hanner noeth.
-
Ymateb i achosion o rannu delweddau noeth a hanner noeth
Modiwl hyfforddi i gefnogi swyddogion diogelu dynodedig ac uwch reolwyr mewn lleoliadau addysg i ymateb yn effeithiol i achosion o rannu lluniau noeth neu hanner noeth.
-
Rhannu delweddau noeth: fideo hyfforddi
Yn helpu ysgolion i ddeall y canllawiau diweddaraf, y pryderon presennol ynghylch rhannu delweddau, a ble y gallan nhw gael cyngor neu roi gwybod am achosion yn gyfrinachol.
Cymorth i deuluoedd
-
Canllawiau ynghylch apiau
Canllawiau ynghylch apiau poblogaidd y gall plant a phobl ifanc fod yn eu defnyddio.
Barn yr arbenigwyr
-
Blacmel rhywiol
Yn egluro beth yw blacmel rhywiol, a beth i'w wneud os ydych chi, eich plentyn neu rywun rydych yn ei adnabod yn ddioddefwr.
Help a chefnogaeth
-
Help a chefnogaeth
Sut i roi gwybod am gynnwys ar-lein niweidiol a chael mynediad at linellau cymorth a gwasanaethau am ddim a chyfrinachol.