English

Bob tro y byddwch chi'n postio rhywbeth ar-lein rydych chi'n gadael ôl troed digidol. Mae eich ôl troed digidol yn ffurfio'r farn sydd gan eraill ohonoch chi ar sail eich gweithgarwch ar-lein. Dyma sy'n creu eich enw da ar-lein. Bob tro y byddwch chi'n postio rhywbeth ar-lein, yn rhannu cynnwys neu'n chwarae gêm, rydych chi'n cyfrannu at eich ôl troed digidol. Mae'r hyn y mae pobl eraill yn ei bostio amdanoch chi hefyd yn cyfrannu at eich ôl troed digidol.

Gellir defnyddio offer AI cynhyrchiol i greu cynnwys, a all fod yn rhagfarnllyd, yn gelwyddog neu'n dramgwyddus. Mae'n bwysig gwirio cynnwys cyn ei rannu ac ystyried effaith yr hyn rydych chi'n ei bostio ar-lein arnoch chi'ch hun ac eraill. Mae offer AI yn cael eu defnyddio i drin delweddau neu fideos o unigolion, a hynny weithiau heb eu caniatâd. Gellir rhannu'r rhain i greu embaras, camarwain neu fygwth. Gall y math hwn o gamddefnyddio niweidio enw da a lles emosiynol rhywun ar-lein yn ddifrifol.

Mae'n bwysig deall pa mor barhaol yw'r hyn sy'n cael ei rannu ar-lein, a'r gynulleidfa bosibl heddiw ac yn y dyfodol. Mae'r hyn rydyn ni'n ei bostio yn effeithio ar ein henw da a barn pobl eraill amdanom ni.

Mae bywyd digidol yn gyhoeddus ac yn barhaol. Gellir gwneud sgrinlun o rhywbeth sy'n digwydd ar amrantiad a gallai hyn ymddangos eto flynyddoedd yn ddiweddarach. Er enghraifft, llun doniol neu bostiad blin.

Er bod llawer o fanteision i rannu gwybodaeth ar-lein, gall popeth rydych chi'n ei bostio ar-lein ddod yn gyhoeddus. Gall yr hyn rydych chi'n credu ei fod yn 'breifat' gael ei anfon ymlaen, ei ail-bostio, ei sgrinlunio neu ei basio ymlaen gan ei wneud yn rhywbeth cyhoeddus yn sydyn iawn.

Mae 2 brif fath o ôl troed digidol.

  • Mae ôl troed digidol gweithredol yn cynnwys eich gweithgarwch ar-lein eich hun, er enghraifft lluniau rydych chi'n eu lanlwytho neu sylwadau rydych chi'n eu postio.
  • Mae ôl troed digidol goddefol yn cael ei greu pan fydd pobl eraill yn postio amdanoch chi ar-lein. Gall hyn gynnwys lluniau ohonoch chi y mae eraill wedi'u lanlwytho, neu sylw a wnaed amdanoch chi. Nid oes rhaid i chi gael eich tagio, o reidrwydd, i weithgarwch pobl eraill gyfrannu at eich ôl troed digidol goddefol.

Gallwch ddod o hyd i'ch ôl troed digidol trwy wneud chwiliad am eich hun yn Google neu unrhyw beiriant chwilio arall. Dyma'r wybodaeth y bydd pobl eraill yn ei weld os ydyn nhw'n gwneud yr un peth.

Ar ôl i chi wneud hynny, mae amrywiaeth o offer ar gael i'ch helpu i gadw golwg ar eich enw da ar-lein. Mae'r rhain yn cynnwys Google Alerts, a fydd yn eich hysbysu am unrhyw weithgarwch ar-lein newydd sy'n gysylltiedig â'ch gwybodaeth bersonol (fel eich enw).

  • Gwiriwch eich gosodiadau preifatrwydd ar y cyfryngau cymdeithasol. Mae'r rhan fwyaf o gyfrifon ar y cyfryngau cymdeithasol yn gyhoeddus yn ddiofyn, ond yn aml gallwch newid hyn.
  • Peidiwch ag anghofio am eich llun proffil. Nid yw lluniau proffil ar draws pob rhwydwaith cymdeithasol byth yn breifat. Gwnewch yn siŵr bod eich llun proffil yn eich dangos mewn ffordd gadarnhaol ac nad yw'n cynnwys unrhyw wybodaeth bersonol na chynnwys amhriodol.
  • Diogelu eich cyfrineiriau. Peidiwch byth â rhannu manylion eich cyfrinair, fel mai chi yw'r unig berson sy'n gallu cyrchu a newid eich proffiliau ar y cyfryngau cymdeithasol.
  • Rheolwch eich rhestr o ffrindiau neu ddilynwyr. Ystyriwch adolygu pwy rydych chi'n gysylltiedig â nhw ar-lein. Gwnewch hyn yn rheolaidd fel y gallwch deimlo'n fwy hyderus bod y bobl rydych chi'n rhannu cynnwys gyda nhw yn gefnogol.
  • Siaradwch â ffrindiau a theulu. Rhowch wybod iddyn nhw beth rydych chi'n gyfforddus iddyn nhw ei rannu amdanoch chi ar-lein, a gofynnwch beth maen nhw'n gyfforddus i chi ei rannu amdanyn nhw hefyd. Er enghraifft, ydych chi'n hapus i gael eich tagio mewn llun?
  • Tynnwch cynnwys diangen. Os ydych chi'n darganfod gwybodaeth bersonol sensitif ar-lein na allwch ei thynnu eich hun, gallwch ofyn i Google ei thynnu. Gallwch wirio beth mae Google yn fodlon ei ddileu. Os oes delwedd noeth wedi'i rhannu heb eich caniatâd, gallwch roi gwybod am hyn i Report Remove.

Gellir dod o hyd i ganllawiau ar gyfer diwygio'ch gosodiadau preifatrwydd ar lawer o lwyfannau ar-lein yn ein canllawiau ynghylch apiau.

  • Help a chefnogaeth

    Sut i roi gwybod am gynnwys ar-lein niweidiol a chael mynediad at linellau cymorth a gwasanaethau am ddim a chyfrinachol.