English

Mae’n bwysig gofalu am eich iechyd meddwl a’ch lles. Mae'r cyfryngau cymdeithasol, gemau cyfrifiadurol a gwasanaethau negeseua yn dod â chi i gysylltiad ag ystod eang o gynnwys, a gall rhai ohonyn nhw effeithio'n negyddol ar eich emosiynau.

Gall defnydd gormodol neu broblematig o dechnoleg hefyd effeithio ar eich iechyd meddwl a'ch lles. Gallai hyn gynnwys:

  • treulio gormod o amser ar rai gweithgareddau a rhy ychydig ar eraill
  • defnyddio platfformau nad ydyn nhw’n briodol i'ch oed
  • chwilio am wybodaeth, cyngor neu gyfeillgarwch yn y lleoedd anghywir

Gall gormod o amser sgrin effeithio ar eich ymddygiad, eich cwsg a'ch gallu i ganolbwyntio. Gall hefyd arwain at lai o weithgarwch corfforol ac ymwneud cymdeithasol.

Mae yna gamau y gallwch eu cymryd i ddiogelu eich lles digidol a chadw eich profiadau ar-lein yn gadarnhaol.

Ystyried yn feirniadol y pethau rydych chi'n eu gweld ar-lein

Gall hidlwyr cyfryngau cymdeithasol ac adnoddau deallusrwydd artiffisial (AI) ystumio delweddau. Gall hyn arwain at ddelfrydau afrealistig neu gymharu afiach. Mae'n bwysig meddwl yn feirniadol am gynnwys rydych chi'n ei weld ar-lein i sicrhau nad yw'n effeithio ar eich hunan-werth.

Mae llawer iawn o gamwybodaeth ar-lein. Efallai bod y delweddau neu'r fideos a welwch wedi'u creu neu eu newid gan ddefnyddio AI neu adnoddau eraill. Mae'r ansawdd bellach mor realistig, mae'n anodd gwybod beth sy'n gamwybodaeth ac yn ddelweddau a gynhyrchwyd gan AI, felly ceisiwch wirio'r hyn rydych chi wedi'i weld drwy ffynonellau eraill.

Gweithio tuag at gydbwysedd amser sgrin

Nid dim ond faint o amser rydych chi'n ei dreulio ar-lein sy'n gallu cael effaith negyddol, ond beth rydych chi'n ei wneud. Mae llawer o arbenigwyr a phobl ifanc eu hunain yn credu bod cynnwys dibwys, ffurf fer (a elwir weithiau'n 'bydredd ymennydd') yn broblem. 

Efallai y byddai gosod terfynau amser ar eich defnydd o'r cyfryngau cymdeithasol yn helpu, a diffodd, tewi neu gyfyngu ar hysbysiadau apiau drwy newid gosodiadau eich dyfais.

Ceisiwch sicrhau cydbwysedd o weithgareddau ar-lein ac all-lein. Bydd gweithgareddau corfforol, awyr agored yn cael effaith gadarnhaol ar eich iechyd meddwl. Ceisiwch dreulio mwy o amser yn gwneud pethau rydych chi'n eu mwynhau, a chyfyngu ar eich amser ar blatfformau sy'n effeithio'n negyddol ar eich hwyliau.

Dewis a dethol pa gynnwys rydych chi'n ei ddilyn

Edrychwch drwy'r bobl, y tudalennau neu'r cynnwys rydych chi'n eu dilyn ar-lein yn rheolaidd i weld a ydych yn dal i fod am eu dilyn. Dad-ddilynwch y rhai sy'n effeithio'n negyddol arnoch, a dilynwch fwy o'r hyn rydych chi'n ei fwynhau. Mae hefyd yn help canolbwyntio ar y cyfrifon rydych chi'n dewis eu dilyn, nid y rhai sy'n cael eu hawgrymu neu eu hargymell ichi (nid yw'r rhain yn briodol bob amser).

Dysgu tewi, dad-ddilyn a blocio

Efallai y bydd adegau pan fydd eich iechyd meddwl a'ch lles yn cael eu heffeithio'n negyddol gan rywun rydych chi:

  • yn eu dilyn ar y cyfryngau cymdeithasol
  • yn chwarae gemau gyda nhw
  • wedi bod yn cyfnewid negeseuon â nhw

Os felly, gallwch eu tewi, eu dad-ddilyn neu eu blocio. Os ydych chi'n gweld neu'n clywed rhywbeth sy'n niweidiol, mae yna ffyrdd o roi gwybod am y peth, ac mae llawer o gefnogaeth ar gael ichi.

Cael sgyrsiau agored am eich gweithgareddau ar-lein

Ceisiwch gael sgyrsiau agored am eich gweithgareddau ar-lein gyda phobl rydych chi'n ymddiried ynddyn nhw. Dyma'r ffordd orau o gael cefnogaeth gyda'ch iechyd meddwl a'ch lles.

Cymorth i bobl ifanc

Mae creu strategaethau i gadw profiadau ar-lein plant a phobl ifanc yn gadarnhaol yn hanfodol. Rhowch wybodaeth i blant a phobl ifanc am lle y gallan nhw gael cymorth gyda'u hiechyd meddwl os oes angen. Mae gweithgareddau dosbarth ar gael yn yr adnoddau dysgu ac addysgu. Gallwch hefyd eu cyfeirio at linellau cymorth a gwasanaethau am ddim a chyfrinachol.

Cymorth i deuluoedd

Os yw'ch plentyn yn cael trafferth gyda'i iechyd meddwl, mae cymorth proffesiynol ar gael i'ch cefnogi chi a nhw.

Barn yr arbenigwyr

Help a chefnogaeth

  • Help a chefnogaeth

    Sut i roi gwybod am gynnwys ar-lein niweidiol a chael mynediad at linellau cymorth a gwasanaethau am ddim a chyfrinachol.