English

Yr hyn sydd angen i chi ei wybod

Mae hawlfraint yn un o’r prif fathau o eiddo deallusol. Mae’n galluogi perchennog yr hawlfraint i ddiogelu ei waith rhag i unrhyw un arall ei gopïo neu ei atgynhyrchu. Mae eiddo deallusol yn rhoi perchnogaeth i unigolyn dros y pethau mae’n eu creu, yn yr un ffordd ag y gellir bod yn berchen ar rywbeth ffisegol.

Mae hawlfraint yn codi’n awtomatig pan fydd gwaith sy’n gymwys i gael ei ddiogelu’n cael ei greu. Mae’n rhaid i’r gwaith fod yn wreiddiol, sy’n golygu mai gyda’r awdur y dechreuodd. Bydd yr awdur wedi defnyddio rhywfaint o grebwyll neu fedr i’w greu.

Mae achos o dorri hawlfraint sylfaenol yn digwydd pan fo unigolyn yn copïo rhan sylweddol o’r gwaith heb ganiatâd neu awdurdod perchennog yr hawlfraint. Gall rhai gweithredoedd sy’n cael eu cyflawni heb ganiatâd perchennog yr hawlfraint fod yn droseddau ac arwain at ddirwyon a/neu garchar.

Adnoddau dysgu ac addysgu