English

Mae gemau cyfrifiadurol ar-lein yn cyfeirio at unrhyw gêm sy'n cynnig cyfle i ryngweithio ar-lein â chwaraewyr eraill. Mae gemau ar-lein yn cynnig llawer iawn o hwyl, mwynhad a chyfleoedd ar gyfer gwaith tîm a chydweithio. Mae pob gêm yn wahanol o ran yr wybodaeth y gallwch ei rhannu â chwaraewyr eraill, a'r math o ryngweithio sy'n bosibl.

Gall gemau ar-lein gynnwys:

  • profiadau cydweithredol, lle mae chwaraewyr yn gweithio gyda'i gilydd i gyflawni nodau cyffredin
  • fformatau cystadleuol, lle mae chwaraewyr yn cystadlu yn erbyn ei gilydd

Gallan nhw gynnwys amrywiaeth o genres, gan gynnwys:

  • saethwyr person cyntaf
  • gemau chwarae rôl
  • strategaeth amser real
  • efelychiadau chwaraeon

Mae gwario arian wrth chwarae gemau cyfrifiadurol ar-lein yn faes sy'n peri pryder cynyddol, yn enwedig mewn gemau sydd wedi'u hanelu at blant a phobl ifanc.

Mae llawer o gemau ar-lein bellach yn cynnig cyfleoedd i brynu o fewn y gêm. Yn aml nid yw'r gemau hyn yn costio unrhyw beth i'w lawrlwytho a'u chwarae i ddechrau, a all fod yn apelgar. Fodd bynnag, er mwyn ariannu datblygiad gemau, gall chwaraewyr dalu i ddatgloi cynnwys neu nodweddion yn y gêm.

Mae pryniannau fel arfer yn amrywio o 'ficrodrafodiadau' gwerth isel, fel eitem sy'n rhoi hwb i berfformiad, i werth uchel, fel bwndel o arian cyfred neu fynediad at lefelau ychwanegol.

Gall pryniannau gynnwys:

  • 'microdrafodiadau' gwerth isel, fel eitem sy'n rhoi hwb i berfformiad
  • trafodiadau gwerth uchel, fel bwndel o arian cyfred neu fynediad i lefelau ychwanegol
  • crwyn sy'n newid ymddangosiad y cymeriad rydych chi'n chwarae ag ef
  • cistiau trysor, lle mae cyfle i ennill eitem rithwir o werthoedd amrywiol

Mae lwc ynghlwm â chistiau trysor felly gellir ystyried hyn yn gambl.

Mewn rhai achosion, mae'n amhosibl gorffen gêm heb dalu am rywbeth. Gall pwysau gan ffrindiau, chwaraewyr ar-lein eraill a dylanwadwyr olygu bod chwaraewyr yn awyddus i wario arian ar yr eitemau gorau sydd ar gael.

Gall y ffordd y mae gêm wedi'i chynllunio wneud i blant a phobl ifanc deimlo nad ydyn nhw'n gwario arian 'go iawn'. Gallan nhw fynd i gostau ar ddamwain heb gydsyniad rhiant neu ofalwr, yn enwedig os yw cerdyn debyd neu gredyd wedi'i gysylltu â'r cyfrif.

Sut i osgoi pryniannau o fewn gemau

Ymchwiliwch i'r gêm a deall sut mae'n cylchredeg arian cyn ichi ei lawrlwytho. Bydd gemau gyda phryniannau o fewn yr ap fel arfer yn cael eu labelu felly ar system sgorio'r storfa apiau. Pan fydd pobl ifanc ac oedolion yn gwneud hyn gyda'i gilydd, bydd hynny’n helpu'r ddau barti gyda:

  • deall yn well sut mae pryniannau o fewn gemau yn gweithio
  • osgoi gwneud pryniannau o fewn gemau yn anfwriadol

Dylech gyfarwyddo â'r ddewislen gosodiadau yn y gêm. Efallai y bydd opsiynau i ddiffodd pryniannau o fewn yr ap neu efallai y bydd mesurau rheolaethau rhieni ar gael. Mae ein canllawiau ynghylch apiau yn darparu rhagor o wybodaeth am osodiadau apiau gemau cyfrifiadurol ar-lein penodol. 

Sgwrsiwch yn agored gyda'ch teulu am chwarae gemau ar-lein. Gosodwch derfynau gwario clir a sicrhau bod dealltwriaeth o werth arian yn y byd go iawn.

Mae realiti estynnol (XR) yn derm am grŵp o dechnolegau sy'n cynnig profiadau ymgolli sy'n cyfuno'r byd digidol a'r byd ffisegol.

Realiti rhithwir (virtual reality) 

Mae realiti rhithwir (VR) yn creu amgylchedd digidol ymgolli gan ddefnyddio delweddau, sain ac ysgogiadau eraill. Drwy bensetiau a theclynnau rheoli gall defnyddwyr ryngweithio â byd gwahanol a theimlo eu bod yn bresennol yn gorfforol ynddo. Mae llawer o gemau poblogaidd yn defnyddio realiti rhithwir mewn gwahanol ffyrdd, gan gynnwys ar gyfer:

  • gweithgarwch corfforol
  • storïaeth ddofn
  • archwilio

Realiti estynedig (augmented reality)

Mae realiti estynedig (AR) yn troshaenu cynnwys digidol ar y byd ffisegol drwy ddyfeisiau fel ffonau clyfar a sbectolau AR. Er enghraifft, gall AR:

  • arddangos cyfarwyddiadau llywio ar ffenestr flaen y car
  • taflunio celfi rhithwir i'ch ystafell fyw i weld sut maen nhw’n ffitio

Realiti cymysg (mixed reality)

Mae realiti cymysg (MR) yn cyfuno VR ac AR i greu amgylcheddau ymgolli. Drwy MR gall defnyddwyr ryngweithio â gwrthrychau go iawn a rhai rhithwir ar yr un pryd.

Manteision XR

Dysgu gwell

Mae'r profiad ymgolli y mae XR yn ei ddarparu yn gallu:

  • gwneud cynnwys addysgol yn fwy diddorol 
  • darparu efelychiadau realistig heb risgiau go iawn (gwerthfawr ar gyfer hyfforddiant ar draws gwahanol feysydd)

Hygyrchedd

Mae technolegau ymgolli yn gallu:

  • darparu ffyrdd newydd i bobl brofi'r byd a rhyngweithio ag ef, drwy deithiau rhithwir er enghraifft
  • gwella hygyrchedd drwy wella profiadau gweledol a chlywedol i ddefnyddwyr a chanddyn nhw namau ar y golwg neu'r clyw

Gweithgarwch corfforol

Mae rhai gemau yn hyrwyddo gweithgarwch corfforol drwy annog chwaraewyr i symud o gwmpas yn y byd go iawn.

Rhyngweithio cymdeithasol

Mae llawer o gemau XR yn caniatáu i ddefnyddwyr gysylltu a chydweithio ag eraill.

Risgiau XR

Diogelwch corfforol

Gall pensetiau VR beri risg o ddamweiniau os nad oes gan ddefnyddwyr ardal chwarae ddiogel heb rwystrau ynddi.

Amser o flaen y sgrin

Gall gormod o amser o flaen y sgrin:

  • arwain at straen llygaid
  • amharu ar gydbwysedd iach rhwng chwarae gemau cyfrifiadurol ar-lein a gweithgareddau eraill

Pryderon preifatrwydd

Gall rhannu gwybodaeth bersonol a data ar leoliad beryglu eich preifatrwydd a'ch diogelwch os na chaiff hynny ei reoli'n iawn.

Cynnwys amhriodol

Gallai gofodau aml-ddefnyddiwr VR olygu bod defnyddwyr yn agored i gynnwys treisgar, rhywiol neu amhriodol mewn ffordd arall. 

Camfanteisio

Gall yr anhysbysrwydd a gynigir gan rithffurfiau (avatars) olygu bod defnyddwyr yn llai gochelgar. Gall hyn eu hannog i gymryd risgiau. Canfu ymchwil gan yr NSPCC (Saesneg yn unig) y gall plant a phobl ifanc sy'n defnyddio XR fod mewn mwy o berygl o'r canlynol:

  • cael rhywun yn meithrin perthynas amhriodol â nhw
  • cael eu gorfodi i wneud rhywbeth
  • cael rhywun yn camfanteisio arnyn nhw

Mwynhau manteision XR mewn ffyrdd mwy diogel

Gwirio bod gemau'n briodol i oedran

Cofiwch wirio bob amser beth yw statws oedran gemau XR i sicrhau eu bod yn addas ar gyfer grŵp oedran y chwaraewr. Gall gwybodaeth gan sefydliadau fel PEGI (Pan European Game Information) (Saesneg yn unig) eich helpu.

Gwirio disgrifyddion cynnwys

Mae'r rhain yn darparu gwybodaeth ychwanegol ddefnyddiol ynghylch a yw cynnwys gêm yn cynnwys:

  • trais
  • iaith wael
  • themâu awgrymog

Adolygu gosodiadau preifatrwydd

Before using an XR application, check its privacy policy to see what data it collects and how it uses it.

Addasu gosodiadau preifatrwydd

Gallwch reoli pa wybodaeth sy'n cael ei rhannu ar eich dyfais ac o fewn apiau drwy:

  • analluogi olrhain lleoliad
  • cyfyngu ar gasglu data
  • rheoli caniatadau ar gyfer mynediad at gamera a meicroffon

Defnyddio cysylltiadau diogel

Ar gyfer rhaglenni XR lle mae angen mynediad ar-lein dylech:

  • sicrhau bod eich cysylltiad rhyngrwyd yn ddiogel
  • osgoi defnyddio rhwydweithiau Wi-Fi cyhoeddus ar gyfer gweithgareddau sensitif

Gosod mesurau rheolaeth rhieni

Defnyddiwch nodweddion rheolaeth rhieni ar ddyfeisiau XR i reoli mynediad at gynnwys a chyfyngu arno. Gall hyn gynnwys gosod cyfyngiadau oedran, cyfyngu ar amser o flaen y sgrin a monitro defnydd.

Wrth greu cyfrifon ar wahân i blant bydd modd ichi deilwra rheolaethau penodol yn dibynnu ar oedran ac aeddfedrwydd eich plentyn.

Dylai rhieni a gofalwyr gael sgyrsiau rheolaidd gyda'u plant ynghylch:

  • yr hyn maen nhw'n ei gyrchu
  • faint o amser maen nhw'n ei dreulio ar ddyfeisiau XR
  • Help a chefnogaeth

    Sut i roi gwybod am gynnwys ar-lein niweidiol a chael mynediad at linellau cymorth a gwasanaethau am ddim a chyfrinachol.