Dywedwch wrthym beth rydych chi'n ei wneud ar Ddiwrnod Defnyddio'r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel 2024
Gweithgareddau Ddiwrnod Defnyddio'r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel
Dywedwch wrthym beth rydych chi'n ei wneud ar gyfer Ddiwrnod Defnyddio'r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel 2024
Ledled Cymru mae cyfleoedd i bawb, gan gynnwys ysgolion, grwpiau ieuenctid a theuluoedd, i gymryd rhan yn nathliadau Diwrnod Defnyddio'r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel ddydd Mawrth 6 Chwefror. Dywedwch wrthym beth fyddwch chi'n ei wneud -efallai y byddwch chi'n ysbrydoli eraill!
Y thema eleni yw 'Ysbrydoli newid? Gwneud gwahaniaeth, rheoli dylanwad a llywio newid ar-lein'. Gall pawb gymryd rhan; bwrwch olwg ar ein tudalen Diwrnod Defnyddio'r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel i gael syniadau - mae gwasanaeth byr i helpu i ysgogi trafodaeth a phecynnau addysg sy'n cynnwys gweithgareddau i ddysgwyr o bob oed.
Mae Liz yn aelod o'r grŵp ieuenctid Cadw'n ddiogel ar-lein. Gallwch ddarganfod mwy am y grŵp a'u gweithgareddau diweddar ar eu tudalen newyddion diweddaraf. Ar y diwrnod ei hun, bydd y grŵp yn Stadiwm Principality fel gwesteion URC. Byddant yn cwrdd â rhai o'r staff sy'n gweithio i gadw chwaraewyr ar bob lefel ac o bob oed yn ddiogel ar-lein ac yn trafod y prif heriau. Bydd y grŵp yn rhannu eu profiadau eu hunain o dechnoleg a sut mae'n newid y ffordd rydyn ni’n byw.
Dywedwch wrthym beth rydych chi'n ei wneud
Gwyddom fod llawer o ysgolion yn nodi Diwrnod Defnyddio'r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel mewn ffyrdd hwyliog a chreadigol. Waeth beth sydd gennych chi ar y gweill, waeth pa mor fawr neu fach, dywedwch wrthym ni! Bydd eich syniadau a'ch cynlluniau’n cael eu cyhoeddi ar Hwb fel y gallwn dynnu sylw at yr holl weithgareddau cyffrous sy'n digwydd ledled Cymru ac annog cynifer o ddysgwyr â phosibl i gymryd rhan.
Defnyddiwch y ffurflen isod i gyflwyno delweddau, negeseuon, fideos ac animeiddiadau.