Canllaw i lywodraethwyr ar ddeall hiliaeth ar-lein
- Rhan o
Mae hiliaeth yn broblem sy’n wynebu pobl mewn nifer o wledydd ym mhedwar ban byd – ac yn aml ar-lein. Mae’n wahaniaethu, er enghraifft ymddygiad cas, yn erbyn rhywun oherwydd ei ethnigrwydd neu oherwydd ei fod yn hanu o wlad arall. Weithiau bydd lliw croen, acen neu ffordd o fyw yn ffactor.
Mae hil yn ‘nodwedd warchodedig’ – agwedd ar hunaniaeth rhywun sy’n cael ei diogelu dan y gyfraith ochr yn ochr ag oedran, crefydd/cred, rhyw, hunaniaeth rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol ac anabledd. Gan ddibynnu ar y cyd-destun, mae modd ystyried bod ymddygiad hiliol (ar-lein ac all-lein) yn drosedd casineb.
Beth yw trosedd casineb?
Mae trosedd casineb yn golygu unrhyw ymddygiad troseddol y mae’n ymddangos ei fod yn cael ei gymell gan elyniaeth neu ragfarn, neu mae’n cynnwys geiriau neu ymddygiad sy’n dangos gelyniaeth, ar sail canfyddiad ynghylch y canlynol:
- hil
- crefydd
- cyfeiriadedd rhywiol
- hunaniaeth drawsrywiol
- anabledd
Mae trosedd casineb yn gallu cynnwys cam-drin geiriol, brawychu, bygwth, aflonyddu, ymosod a bwlio, yn ogystal â difrodi eiddo. Gallai’r cyflawnwr fod yn rhywun anhysbys, neu’n ffrind.
Bydd y canllaw hwn yn eich helpu i ddeall sut gall hiliaeth ar-lein effeithio ar gymuned eich ysgol. Bydd hefyd yn egluro eich cyfrifoldebau fel llywodraethwr i sicrhau bod digon o addysg a diogelu yn y maes hwn.
Yn ôl adroddiad ymchwil Dangoswch inni ei bod o bwys ichi gan Gynghrair Hil Cymru, mae tua 12% o blant ysgol Cymru yn dod o gefndiroedd lleiafrifoedd ethnig ac yn fwy agored i hiliaeth a bwlio hiliol ar-lein ac all-lein.
Sut a ble mae hiliaeth yn digwydd ar-lein?
Mae ymddygiad hiliol yn gallu digwydd unrhyw le ar-lein – o lwyfannau cyfryngau cymdeithasol a sgyrsiau mewn gemau ar-lein i sianeli YouTube, byrddau negeseuon ac adrannau sylwadau. Mae cynnwys hiliol yn aml yn gyhoeddus, wedi cael ei greu a’i bostio gyda’r nod o effeithio ar gynifer o bobl â phosibl. Mae unigolion uchel eu proffil fel pobl o’r byd chwaraeon, enwogion a gwleidyddion yn aml yn cael eu targedu oherwydd eu hil neu liw eu croen.
Mae grwpiau eithafol yn gallu defnyddio’r rhyngrwyd fel ffordd o recriwtio unigolion i’w mudiadau, neu er mwyn trafod casineb sy’n cael ei rannu tuag at y rheini sy’n wahanol iddyn nhw. Maen nhw’n aml yn defnyddio byrddau negeseuon preifat neu apiau negeseuon i wneud hyn. Efallai na fydd cynnwys hiliol ar-lein bob amser yn amlwg yn gas; ond mae hefyd yn gallu bod yn ymhlyg neu’n gynnil.
Beth yw’r risgiau sy’n gysylltiedig â hiliaeth ar-lein?
Mae cam-drin hiliol yn cynnwys geiriau neu ddelweddau sy’n dad-ddyneiddio er mwyn gwneud i unigolyn neu grwp swnio’n israddol i bobl eraill mewn cymdeithas. Mae bod yn darged neu’n ddioddefwr i’r ymddygiad hwn yn gallu bod yn drawmatig iawn. Mae’n gallu effeithio ar iechyd corfforol neu feddyliol (drwy gynyddu pryderon neu orbryder), ar hyder ac ar hunan-werth. Mae hefyd yn gallu gwneud i bobl deimlo’n ddiymadferth. Gan ddibynnu ar y cyd-destun, mae modd ystyried bod cam-drin hiliol ar-lein yn drosedd casineb.
Mae ymddygiad hiliol sy’n cymell trais all-lein hefyd yn gallu peryglu diogelwch pobl. Mae digwyddiadau hiliol sy’n ymwneud â dysgwyr (naill ai fel dioddefwyr neu gyflawnwyr) yn faterion diogelu difrifol a dylid eu rheoli bob tro yn unol â pholisïau a gweithdrefnau diogelu eich ysgol, gyda chefnogaeth gan asiantaethau allanol yn ôl yr angen. Os oes trosedd casineb wedi cael ei chyflawni, gallai’r heddlu gamu i mewn.
Sut mae grymuso aelodau o gymuned yr ysgol i ymateb yn effeithiol i hiliaeth ar-lein?
Nid yw hiliaeth a mathau eraill o wahaniaethu yn faterion newydd, ond dim ond os yw pawb yng nghymuned eich ysgol yn cymryd rhan ac yn gweithio gyda’i gilydd y bydd modd mynd i’r afael â nhw’n llwyddiannus.
Dyma rai ffyrdd allweddol o helpu aelodau cymuned yr ysgol i ymateb yn effeithiol i hiliaeth (ar-lein ac all-lein).
- Addysg
Mae hi’n hanfodol creu cyfleoedd i gymuned gyfan yr ysgol ddod yn ymwybodol o hiliaeth a’i deall er mwyn herio safbwyntiau a stereoteipiau hiliol, ac er mwyn arfogi dysgwyr â’r sgiliau gydol oes sydd eu hangen i chwarae rôl gadarnhaol yn y maes hwn. Mae ymgyrchoedd ymwybyddiaeth fel Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth yn gallu helpu’r gymuned gyfan i ddeall y materion hyn yn well. Mae Cymorth i Ddioddefwyr yng Nghymru yn gallu cyflwyno sesiynau ar droseddau casineb, troseddau cyfeillio a materion cysylltiedig eraill. - Hyrwyddo hawliau dynol a chydraddoldeb
Gall eich ysgol fodelu a hyrwyddo’r gwerthoedd a’r delfrydau rydych chi am i’ch dysgwyr a’ch cymuned eu mabwysiadu. Dysgwch sut mae dod yn Ysgol sy’n Parchu Hawliau ar wefan UNICEF (Saesneg yn unig). - Dod yn ysgol wrth-hiliol
Mae cymryd camau i ddatblygu eich cynlluniau gweithredu cydraddoldeb hiliol eich hun, gwella cydlyniant cymunedol ac ystyried materion sy’n ymwneud â recriwtio a hyfforddi athrawon yn gallu helpu i ddatblygu diwylliant gwrth-hiliol ymhellach ar draws cymuned yr ysgol. Mae hyn yn gallu lleihau digwyddiadau hiliol (ar-lein ac all-lein) ac yn gallu cryfhau ymateb cymunedol cadarnhaol i unrhyw ddigwyddiadau hiliol sy’n codi. - Riportio cynnwys niweidiol
Mae cynnwys casineb ar-lein yn gallu achosi tramgwydd neu niwed i unigolyn neu i grwp o bobl yn eich lleoliad. Rhowch wybodaeth a chyfleoedd i gymuned eich ysgol ddeall yr offer riportio ar gyfer y gwasanaethau maen nhw’n eu defnyddio. Mae’r safle Riportio Cynnwys Niweidiol yn cynnwys cyngor a gwybodaeth ddiweddar am safonau cymunedol, yn ogystal â dolenni uniongyrchol i’r cyfleusterau riportio cywir ar gyfer gwefannau a phlatfformau gwahanol. - Cynnig cefnogaeth
Cymerwch gamau i sicrhau bod pob aelod o gymuned eich ysgol yn gwybod â phwy gallan nhw siarad neu i ble gallan nhw fynd am gymorth a chefnogaeth os oes unrhyw beth ar-lein yn peri iddyn nhw deimlo'n ddryslyd, poeni, gofidio neu deimlo braw. Mae mudiadau fel Tîm Cymorth Lleiafrifoedd Ethnig ac Ieuenctid Cymru (EYST) hefyd yn gallu cynnig cefnogaeth a chyngor.
Sut ydw i’n gallu cefnogi dysgwyr i ymgysylltu ag amrywiaeth o ddylanwadau cymdeithasol sy’n effeithio ar eu bywydau?
Dylai lleoliadau ac ysgolion ganfod cyfleoedd i ddysgwyr ymgysylltu â dylanwadau cymdeithasol cadarnhaol yn ogystal ag ystyried yn ofalus sut mae lleihau effaith dylanwadau cymdeithasol negyddol. Dylai lleoliadau ac ysgolion ystyried y rôl gall dylanwadau cymdeithasol ei chwarae ar ymddygiad dysgwyr a’r dylanwadau sy’n gallu hyrwyddo a hybu ymddygiadau pro-gymdeithasol iach yn ogystal â’r rhai sy’n arwain at faterion fel gwahaniaethu, hiliaeth neu ragfarn.
Dylai lleoliadau ac ysgolion feddwl sut mae cefnogi dysgwyr pan fydd dylanwadau cymdeithasol negyddol yn creu anawsterau i unigolion ac i grwpiau, a dathlu’r dylanwadau cymdeithasol hynny sy’n cyfrannu at iechyd a lles. Gallai’r rhain fod yn ddylanwadau mwy byd-eang sy’n effeithio ar nifer fawr o ddysgwyr, ond gallen nhw gynnwys pethau sy’n effeithio ar grwpiau llai o ddysgwyr. Drwy ddull ysgol gyfan o ymdrin ag iechyd a lles ynghyd â dylunio cwricwlwm, dylai ymarferwyr ddarparu cyfleoedd i ddysgwyr archwilio a gwerthuso’n feirniadol sut a pham maen nhw’n dewis ymgysylltu â dylanwadau cymdeithasol penodol a sut mae’r rhain yn gallu effeithio ar ymddygiad.
Mae rhagor o gyngor a chanllawiau ar gael ar dudalennau Cwricwlwm i Gymru ar Hwb.
Ble ga’ i gymorth a chefnogaeth?
Mae llawer o gefnogaeth a chanllawiau ar gael i helpu holl aelodau cymuned eich ysgol i ddelio â hiliaeth ar-lein. Efallai byddwch chi eisiau dechrau drwy gysylltu â’ch awdurdod lleol i gael cefnogaeth gychwynnol.
Gallwch chi riportio troseddau casineb drwy True Vision (Saesneg yn unig) i’r heddlu, neu Gymorth i Ddioddefwyr. Mae Cymorth i Ddioddefwyr yn darparu cymorth, cyngor a chefnogaeth annibynnol a chyfrinachol i ddioddefwyr a thystion troseddau casineb yng Nghymru. Ffoniwch 0300 3031 982 neu ewch i wefan Cymorth i Ddioddefwyr. Mae’r gwasanaeth ar gael 24 awr y dydd, 365 diwrnod y flwyddyn.
Gall ymarferwyr addysgol sydd angen cefnogaeth gyda materion ynghylch diogelwch ar-lein gysylltu â’r Professionals Online Safety Helpline (Saesneg yn unig) i gael rhagor o gyngor am sut mae rheoli digwyddiadau ar-lein sy’n ymwneud ag aelodau cymuned eich ysgol.
I gael rhagor o wybodaeth a chyngor am ddatblygu dulliau gwrth-hiliol yn eich ysgol, edrychwch ar ymchwil a chyhoeddiadau gan Gynghrair Hil Cymru.