Casineb ar-lein
Canllawiau a gwybodaeth i helpu i ddeall casineb ar-lein a sut i gefnogi'r rhai y mae casineb ar-lein yn effeithio arnyn nhw..
- Rhan o
Trosolwg
Ystyr iaith casineb ar-lein yw cynnwys sy'n targedu nodweddion gwarchodedig. Mae 'nodweddion gwarchodedig' yn agweddau ar hunaniaeth person, gan gynnwys:
- hil
- oedran
- rhyw
- anabledd
- crefydd
- hunaniaeth drawsryweddol
- cyfeiriadedd rhywiol
Mae'r nodweddion hyn wedi cael eu diogelu rhag gwahaniaethu. Mae iaith casineb ar-lein yn cynnwys ysgogi, lledaenu neu hyrwyddo casineb neu wahaniaethu oherwydd bod gan yr unigolyn y nodweddion hyn.
Beth i'w wneud os ydych chi'n destun casineb ar-lein neu yn gweld achosion o hynny
Os ydych chi, neu rywun rydych chi'n ei adnabod, wedi bod yn destun casineb ar-lein, gallwch roi gwybod am hyn i'r Ganolfan Genedlaethol Adrodd am Droseddau Casineb a Chymorth. Gallwch wneud hynny ar-lein neu dros y ffôn ar 0300 30 31 982. Mae gan Cymorth i Ddioddefwyr Cymru staff sydd wedi'u hyfforddi'n arbennig i ddarparu cymorth emosiynol i ddioddefwyr. Mae'r gwasanaeth yn rhad ac am ddim, yn gyfrinachol ac yn ddwyieithog.
Gall casineb ar-lein sy'n annog trais all-lein hefyd roi diogelwch pobl mewn perygl. Mae digwyddiadau sy'n ymwneud â phobl ifanc, naill ai fel dioddefwyr neu droseddwyr, yn faterion diogelu difrifol. Dylid rhoi gwybod amdanyn nhw bob amser i berson diogelu dynodedig yr ysgol, yn unol â gweithdrefnau'r ysgol.
Y cymhellion y tu ôl i gasineb ar-lein
Mae casineb ar-lein yn aml yn dod yn sgil ofni pobl sy'n wahanol. Gall hyn fod oherwydd anwybodaeth, neu gred person eu bod yn well neu'n 'normal' a bod unrhyw un sy'n wahanol iddyn nhw yn israddol.
Gall pobl sy'n creu ac yn rhannu cynnwys casineb ar-lein fod yn targedu unigolyn penodol neu'n anelu eu casineb at grŵp cyfan. Mae sawl rheswm pam y gall pobl rannu safbwyntiau dadleuol ar-lein. Efallai y byddan nhw’n gweld hynny fel 'gêm' neu'n awyddus i ddechrau ffrae, gan y gall cynnwys atgas yn aml ennyn emosiynau cryf. Efallai y bydd eraill yn gweld cynnwys casineb yn ddoniol, oherwydd nad ydyn nhw’n gwerthfawrogi'r effaith y gall eu cam-drin ei chael.
Effeithiau casineb ar-lein
Mae casineb ar-lein yn aml yn defnyddio geiriau neu ddelweddau sarhaus, negyddol i wneud i berson neu grŵp swnio yn israddol i eraill mewn cymdeithas. Gall cael eich targedu gan y math hwn o ymddygiad beri gofid mawr.
Gall gael effaith ddifrifol ar:
- iechyd meddwl
- hyder
- ymdeimlad o hunan-werth
Mae'n bwysig cofio bod posibl i gynnwys sy'n cael ei bostio ar-lein gael effaith ar yr unigolyn a'i bostiodd yn y dyfodol. Mae hyn yn wir hyd yn oed os cafodd ei bostio trwy gamgymeriad, neu heb ddealltwriaeth lawn. Bob tro rydych chi'n postio ar-lein rydych chi'n gadael ôl troed digidol.
Dylanwad ar y cyfryngau
Gall cyfryngau cymdeithasol, safleoedd newyddion ar-lein a fforymau eraill weithiau ddod yn fannau lle mae casineb yn cael ei fynegi a'i amlygu. Mae rhywfaint o gynnwys ar y llwyfannau hyn wedi'i greu i fwydo camwybodaeth ac i atgyfnerthu stereoteipiau.
Gall camwybodaeth helpu i feithrin casineb ar-lein. Gall hyn o bosibl ddylanwadu ar unigolion i weithredu mewn ffyrdd atgas neu hyd yn oed dreisgar tuag at bobl neu grwpiau penodol.
Mae safleoedd newyddion ar-lein a llwyfannau cyfryngau cymdeithasol wedi ei gwneud hi'n hawdd i bobl gysylltu â'i gilydd i rannu digwyddiadau cyfredol a barn. Er y gall hyn fod yn beth cadarnhaol, mae rhai pobl yn eu defnyddio i greu a rhannu cynnwys sy'n camarwain y cyhoedd neu sy'n atgyfnerthu stereoteipiau presennol. Gall camwybodaeth fod yn un o'r prif bethau i sbarduno casineb ar-lein.
Effaith deallusrwydd artiffisial (AI) cynhyrchiol
Er y gellir defnyddio AI cynhyrchiol i frwydro yn erbyn iaith casineb ar-lein trwy dynnu sylw at gynnwys niweidiol, gellir ei gamddefnyddio hefyd er mwyn:
- creu cynnwys sy'n gwahaniaethu
- amlygu a chynyddu cyrhaeddiad negeseuon niweidiol
Cymorth i bobl ifanc
-
Cyngor i blant a phobl ifanc: problemau a phryderon ar-lein
Yn cynnwys risgiau ar-lein i fod yn ymwybodol ohonyn nhw a ble i fynd am help.
Cymorth i ysgolion
-
Adnoddau dysgu ac addysgu
Adnoddau i gefnogi gweithgareddau dysgu am gasineb ar-lein.
-
SELMA: Hacking Hate project (Saesneg yn unig)
Yn darparu gweithgareddau i helpu dysgwyr i ddatblygu eu haddysg gymdeithasol ac emosiynol, eu llythrennedd yn y cyfryngau a'u sgiliau dinasyddiaeth mewn perthynas â chasineb ar-lein.
-
Mae casineb yn brifo Cymru: deunyddiau'r ymgyrch
Deunyddiau hyrwyddo a ddefnyddir yn yr ymgyrch Mae casineb yn brifo Cymru.
Cymorth i deuluoedd
-
Canllawiau ynghylch apiau
Canllawiau ynghylch apiau poblogaidd y gall plant a phobl ifanc fod yn eu defnyddio.
Barn yr arbenigwyr
-
Riportio Cynnwys Niweidiol
Gwybodaeth am y ganolfan adrodd Riportio Cynnwys Niweidiol a'i rôl wrth ddarparu cyngor am bob math o niwed ar-lein.
-
Adolygiad o gynnwys niweidiol ar-lein
Sonnir am yr effaith niweidiol y gall rhai dylanwadwyr ar-lein ei chael a sut i gefnogi rhywun sydd wedi cael ei effeithio gan gynnwys o'r fath.
-
Rheoli'ch ôl troed digidol a'ch enw da
Adnodd yn edrych ar sut i reoli eich ôl troed digidol a'ch enw da yn effeithiol.
Help a chefnogaeth
-
Help a chefnogaeth
Sut i roi gwybod am gynnwys ar-lein niweidiol a chael mynediad at linellau cymorth a gwasanaethau am ddim a chyfrinachol.