English

Ap negeseuon gwib rhad ac am ddim yw Telegram (Telegram Messenger). Gall defnyddwyr anfon negeseuon, delweddau a fideos at gysylltiadau ar eu cyfrif Telegram naill ai’n unigol neu mewn sgyrsiau grŵp. Rhaid i ddefnyddwyr ddilysu eu cyfrif â rhif ffôn symudol i ddechrau defnyddio’r ap.

Mae Telegram yn canolbwyntio ar y gallu i alluogi negeseuon wedi’u hamgryptio.

Mae’r ap ar gael ar ddyfeisiau Android ac iOS, a gall defnyddwyr gysylltu eu cyfrifon i’w defnyddio ar y we trwy sganio’r cod QR sy’n cael ei ddarparu wrth agor gwefan Telegram.

Oedran isaf gofynnol

Yr oedran isaf gofynnol ar gyfer Telegram yw 16 oed. Fodd bynnag, nid oes gan yr ap unrhyw ddulliau trylwyr i wirio oedran.

Mae Apple App Store yn ei ystyried yn 17+ ac mae Google Play yn nodi bod 'angen arweiniad rhieni'.

  • Mae hyn yn caniatáu i weinyddwyr y grŵp fod yn anhysbys rhag pobl eraill yn y grŵp. Gallan nhw bostio yn y cyfleuster sgwrsio o hyd, dan enw a llun proffil y grŵp.

  • Mae hwn yn offeryn i ddarlledu negeseuon i gynulleidfaoedd mawr. Mae’n anfon negeseuon dan enw’r sianel yn hytrach nag o dan enw cyfrif personol.

  • Mae sgwrsfotiaid yn defnyddio algorithmau sy’n dysgu ac yn dynwared ymddygiad dynol i chwarae gemau a sgwrsio â defnyddwyr.

  • Dyma ddefnyddiwr sy’n creu sgwrs grŵp ac sy’n gallu rheoli’r cyfranogwyr yn y grŵp hwnnw, fel ychwanegu a dileu cyfranogwyr.

  • Mae hyn yn galluogi defnyddwyr i sgwrsio â grwpiau o hyd at 200,000 o gyfranogwyr. Gallwch reoli sgyrsiau grŵp yn eich gosodiadau preifatrwydd. Mae’r cyfleuster ‘Topics’ mewn sgyrsiau grŵp yn caniatáu sgyrsiau grŵp llai yn y fforwm sgwrs grŵp mwy.

  • Nodwedd ar yr ap sy’n dangos i ddefnyddwyr pa bryd roedd defnyddwyr eraill ar yr ap ddiwethaf.

  • Mae’r nodwedd hon yn caniatáu i ddefnyddwyr weld a chysylltu â defnyddwyr Telegram eraill yn eu lleoliad. Nid yw hyn wedi’i alluogi’n ddiofyn.

  • Gall defnyddwyr greu codau QR dros dro i gysylltu â phobl o’u cwmpas. Mae’r codau QR yn cuddio rhif ffôn defnyddiwr, sy’n eu gwneud yn fwy anhysbys ac yn anoddach eu holrhain.

  • Mae pob neges sy’n cael ei hanfon gyda’r nodwedd hon yn defnyddio amgryptio o un pen i’r llall, sy’n golygu mai dim ond y sawl sydd wedi anfon a derbyn y negeseuon sy’n gallu eu darllen.

  • Gall defnyddwyr anfon negeseuon sy’n diflannu ar ôl amser penodol. Gall defnyddwyr ddileu pob sgwrs yn awtomatig hefyd trwy ‘Auto delete’.

  • Gall defnyddwyr bostio storïau ar eu cyfrif y gall eu holl ffrindiau eu gweld a’u hailbostio am 24 awr yn unig.

  • Tanysgrifiad â thâl i Telegram, sy’n darparu nodweddion sgwrsio ychwanegol i ddefnyddwyr fel ‘Real-time translation’, ‘Advanced chat management’ ac ‘Infinite reactions’. Gall defnyddwyr roi ‘Premium’ i ddefnyddwyr eraill hefyd.

  • Gosodiad sydd ar gael ar gyfer negeseuon llais, delwedd a fideo, lle maen nhw’n cael eu dileu’n awtomatig ar ôl cael eu gweld unwaith.

Cysylltiad â phobl eraill

Gan mai ap negeseua yw Telegram, cysylltiad â phobl eraill yw’r prif ffocws. Er bod y gosodiadau diofyn yn golygu mai dim ond cysylltiadau sy’n gallu gweld defnyddwyr, pan fydd enw defnyddiwr wedi’i greu, gall pobl eraill ar y platfform gysylltu â defnyddwyr.

Mae’r nodwedd ‘People nearby’ hefyd yn annog ac yn ysgogi defnyddwyr i gysylltu â defnyddwyr yn yr un lleoliad ffisegol.

Gall y camau hyn helpu i leihau’r risg o ddod i gysylltiad â phobl eraill.

Addasu’r gosodiadau

Yng ngosodiadau Telegram, gallwch:

  • guddio rhif ffôn eich plentyn
  • diffodd ‘People nearby’
  • cyfyngu ar bwy sy’n gallu anfon negeseuon at eich plentyn 

Offer blocio a riportio

Grymuswch eich plentyn i ddefnyddio’r offer blocio a riportio i ddod â chysylltiad ag unrhyw ddefnyddwyr niweidiol i ben a sicrhau bod yr ap yn fwy diogel i bawb.

Cynnal y sgwrs

Sgwrsiwch â’ch plentyn yn rheolaidd am ei fywyd ar-lein er mwyn bod yn ymwybodol o bwy mae’n rhyngweithio ag ef. Anogwch eich plentyn i beidio ag ychwanegu cysylltiadau neu ymuno â sgyrsiau grŵp â phobl nad yw’n eu hadnabod ac yn ymddiried ynddyn nhw mewn bywyd go iawn. Sicrhewch ei fod yn gwybod y gall ddod atoch chi am gymorth os oes rhywun yn gwneud iddo deimlo’n anghyfforddus.

Siarad am or-rannu

Trafodwch â’ch plentyn beth sy’n iawn iddo ei rannu ar-lein a beth nad yw’n iawn iddo ei rannu ar-lein. Esboniwch iddo, er y gall anfon negeseuon sy’n diflannu, gallai’r sawl sy’n eu derbyn gymryd sgrinlun ohonyn nhw o hyd.

Cysylltu â’r awdurdodau

Os ydych chi’n amau bod rhywun yn anfon negeseuon at eich plentyn i feithrin perthynas amhriodol ag ef, cymerwch sgrinlun o unrhyw dystiolaeth a rhowch wybod i’r heddlu.

Gorddefnydd

Gyda derbynebau darllen a hysbysiadau, gallai pobl ifanc deimlo dan bwysau i ateb negeseuon cyn gynted ag y byddant yn eu derbyn.

Gall y camau hyn helpu’ch plentyn i osgoi gormod o amser o flaen sgrin.

Diffodd hysbysiadau

Bydd diffodd hysbysiadau yn atal eich plentyn rhag cael ei rybuddio am negeseuon newydd. Bydd hyn yn atal hysbysiadau rhag tynnu ar sylw ar adeg benodol, er enghraifft wrth astudio neu gysgu.

Annog terfynau

Esboniwch i’ch plentyn nad oes angen iddo fod ar gael yn gyson ac y bydd ei ffrindiau’n deall os na fydd yn ateb negeseuon ar unwaith.

Nid oes gan Telegram reolaethau rhieni. Gallai’r gosodiadau canlynol helpu’ch plentyn i gael profiad mwy diogel ar yr ap.

    • Agorwch yr ap a dewiswch ‘Settings’.
    • Sgroliwch i ‘Privacy and security’.
    • Ewch drwy’r opsiynau sydd wedi’u rhestru a dewiswch o:
      • Everybody
      • My contacts
      • Nobody
    • Agorwch yr ap a dewiswch eicon y 3 llinell.
    • Dewiswch ‘People nearby’, yna dewiswch ‘Stop showing me’.
  • Blocio defnyddiwr

    • Ewch at y defnyddiwr yr hoffech ei rwystro naill ai trwy chwilio neu sgrolio drwy’r rhestr sgwrsio.
    • Tapiwch ei enw ar frig y dudalen.
    • Tapiwch eicon y 3 smotyn a dewiswch ‘Block user’.

    Riportio defnyddiwr

    • Agorwch y sgwrs â’r defnyddiwr yr hoffech ei riportio.
    • Dewiswch ei enw i agor ei broffil.
    • Dewiswch ‘Report’.
    • Dewiswch y rheswm dros ei riportio.